Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: 01824 712589  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIADAU

Cofnodion:

Agorwyd y cyfarfod gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Rheolwr y Gwasanaeth Ceidwaid.  Fe wnaeth yr Arweinydd Tîm Lleoedd a’r Cyfreithiwr, Clare Lord, awgrymu i bawb oedd yn y cyfarfod eu cyflwyno eu hunain er mwyn i’r sawl oedd yn cadw cofnodion nodi presenoldeb yn y cyfarfod ar gyfer y cofnodion.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Win Mullen-James (CSDd), y Cynghorydd Hugh Jones (CBSW) ac Andy Worthington (Cadeirydd Partneriaeth yr AHNE).

 

 

2.

ETHOL CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD (CL)

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau i ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Emrys Wynne enwebu David Hughes yn Gadeirydd, ac eiliwyd hyn gan David Healy.

 

Fe wnaeth David Hughes enwebu Nigel Williams yn Is-gadeirydd, ac eiliwyd hyn gan David Healy.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, felly:

 

PENDERFYNWYD: ethol David Hughes yn Gadeirydd a Nigel Williams yn Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

 

3.

COFNODION DRAFFT CYFARFOD CYD-BWYLLGOR YR AHNE A GYNHALIWYD AR 17 TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 431 KB

Ystyried cofnodion (copi ynghlwm) cyfarfod diwethaf Cyd-bwyllgor yr AHNE a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2023 (HS).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2023.

 

Cywirdeb

Tudalen 5 (cofnodion) – Huw Jones i gael ei newid i Hugh Jones.

 

Tudalen 8 (cofnodion) – Moel Fammau i gael ei newid i Moel Famau.

 

Materion yn codi

Ni thrafodwyd unrhyw faterion sy’n codi.

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2023 fel cofnod cywir o’r trafodaethau.

 

 

4.

COFNODION DRAFFT CYFARFOD PARTNERIAETH AHNE A GYNHALIWYD AR 26 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 820 KB

Nodi cofnodion (copïau ynghlwm) cyfarfodydd Partneriaeth yr AHNE a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024 er gwybodaeth.

 

Tynnodd Swyddog yr AHNE sylw at y pwyntiau canlynol o’r cofnodion –

 

Cafwyd cyflwyniad yn y cyfarfod yn mynd i’r afael â Chynhwysiant, Amrywiaeth a Llywodraethu i weithio tuag at gael amrywiaeth yn Aelodaeth Partneriaeth yr AHNE.

 

Roedd gwaith i wella’r bloc toiledau a’r maes parcio bellach wedi’i gwblhau wrth Raeadr y Bedol i wella llif traffig ac ymwelwyr.

 

Gorllewin Clwyd – Cronfa Ffyniant Bro – roedd cynlluniau’n cael eu comisiynu ar gyfer Loggerheads i liniaru llifogydd ar y safle.

 

Roedd penseiri wrthi’n gweithio ar ddyluniadau i greu canolfan ymwelwyr ym Moel Famau i helpu i reoli ymwelwyr.

 

PENDERFYNWYD: nodi cofnodion cyfarfod Partneriaeth yr AHNE a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024.

 

 

5.

COFNODION O GYFARFOD Y GRŴP LLYWIO TIRLUNIAU DARLUNIADWY A GYNHALIWYD AR 23 IONAWR 2024 pdf eicon PDF 633 KB

I ystyried cofnodion (copi ynghlwm) cyfarfod Tirluniau Darluniadwy a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 (DS).

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadwy a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 er gwybodaeth.

 

Tynnodd Rheolwr Ardal yr AHNE sylw at y canlynol o’r cofnodion –

 

Roedd llwybr cysylltu allweddol Wenffrwd at y gamlas yn ddarn o beirianneg heriol ac roedd y gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau.

 

Byddai Amgueddfa Llangollen yn cynnal ei harddangosfa olaf yn dangos gwaith Ein Tirlun Darluniadwy o ddiwedd Ionawr ac roedd Capel Ebenezer yng Nghefn Mawr wedi dangos diddordeb yn yr arddangosfa ar gyfer gwanwyn/haf 2024.

 

PENDERFYNWYD: nodi cofnodion cyfarfod y Grŵp Llywio Tirluniau Darluniadwy a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024.

 

 

6.

CYFLWYNIAD AC ADRODDIAD AR STRATEGAETH DDRAFFT TWRISTIAETH GYNALIADWY 2023–2028 pdf eicon PDF 792 KB

I ystyried adroddiad y Strategaeth Twristiaeth Cynaliadwy drafft 2023-2028 (copi ynghlwm) (CL)

 

Cofnodion:

Arweiniodd Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yr Aelodau drwy’r cyflwyniad ar Strategaeth Ddrafft Twristiaeth Gynaliadwy 2023–2028.

 

Roedd y Strategaeth yn amlinellu’r weledigaeth hirdymor ar gyfer twristiaeth gynaliadwy yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

Roedd y weledigaeth yn cydnabod –

·       y nifer gynyddol o bobl oedd yn cymryd rhan mewn hamdden awyr agored, oedd yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar ecosystemau bregus a gwerthfawr

·       yr heriau rhanbarthol a byd-eang sy’n codi o argyfyngau hinsawdd a natur

·       yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant yn sgil yr argyfwng costau byw a thueddiadau mewn twristiaeth ar ôl Covid-19

·       y statws Parc Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer ardal sy’n cynnwys AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

 

Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy 2023–2028 oedd y trydydd cynllun a ddatblygwyd ers 2015. Yn 2015, roedd yr effaith ar amgylchedd naturiol yr AHNE wedi’i dynodi i fod yn eithaf cyfyngedig, ond roedd rhywfaint o erydu a phwysau ar gynefinoedd wedi bod o ganlyniad i orddefnydd mewn ambell leoliad ar adegau penodol. Yn 2019, cynhaliwyd arfarniad o effaith i gasglu barn personél oedd yn gweithio yn ardaloedd yr AHNE ynglŷn ag effaith twristiaeth ar ardaloedd yr AHNE. Wrth ddwyn yr ymatebion ynghyd, roedd teimlad y gallai twf twristiaeth mewn ardal, heb sicrhau bod cynaliadwyedd yn ganolog i hynny, gael effeithiau difrifol ar ffyrdd pobl o fyw, cynefinoedd naturiol a bywyd gwyllt, safleoedd hanesyddol ac adnoddau hanfodol fel dŵr ac ynni; heb gynllunio gofalus, gallai effeithiau negyddol fod yn drech wrth i dwristiaeth dyfu. Yn y pen draw, gallai hynny ddirywio’r ardal ac arwain at ddinistrio ei hasedau.

 

Roedd y Strategaeth Ddrafft Twristiaeth Gynaliadwy yn cynnwys proses i roi’r Weledigaeth a’r Cynllun Gweithredu Twristiaeth Gynaliadwy ar waith, oedd yn cynnwys y dull, ymgorffori 9 nod y weledigaeth ac ymrwymiad.

 

Y 9 nod yn y Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy oedd –

·       Bioamrywiaeth

·       Cymunedau a Diwylliant

·       Rheoli Ymwelwyr

·       Cefnogi Busnesau

·       Ôl-troed Carbon

·       Gwastraff

·       Lliniaru ac Addasu

·       Cyfathrebu ag ymwelwyr

·       Monitro ac Arfarnu

 

Ym mis Ionawr 2024, cynhaliwyd cyfarfod i flaenoriaethu’r nodau o fewn y Cynllun Gweithredu. Eglurodd Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r AHNE ragor am bob nod o fewn y strategaeth i’r Pwyllgor a’r ymatebion a gafwyd yn ôl gan y personél ynglŷn â phob nod. 

 

Dywedodd Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r AHNE fod Gweledigaeth Twristiaeth Gynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar gyfer 2050 yn cydnabod bod cymunedau/diwylliant, tirwedd ac amgylchedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ganolog i gynnig twristiaeth yr ardal ac yn diffinio sut y gall rheoli a darparu twristiaeth hyrwyddo a darparu profiadau o natur unigryw a harddwch yr ardal wrth warchod a gwella ei rhinweddau arbennig hefyd. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r AHNE am y cyflwyniad manwl a dywedodd bod croeso i’r Aelodau ofyn cwestiynau.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ynglŷn â’r llun o sbwriel yn ardaloedd yr AHNE yn y cyflwyniad gan ddweud bod hon yn broblem i’r Awdurdod Lleol. Awgrymodd yr Aelodau annog y cyhoedd i fynd â’u sbwriel adref gyda nhw a chyfeiriwyd at y dulliau casglu gwastraff mewn gwahanol wledydd yn cynnwys biniau tanddaearol gyda mwy o le.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at yr her o leihau ôl-troed carbon ymwelwyr gan gyfeirio at gludiant cynaliadwy, yn enwedig bysiau, a gofynnwyd pa gynlluniau oedd ar waith os oedd gormod o ymwelwyr yn yr ardal ar ryw adeg. Dywedodd Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r AHNE fod ôl-troed carbon ymwelwyr yn cael ei monitro, a byddai’n casglu’r wybodaeth ac yn dod yn ôl at y Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD: bod y Pwyllgor yn mabwysiadu’r Weledigaeth a’r Cynllun Gweithredu Twristiaeth Gynaliadwy ar gyfer yr AHNE am flynyddoedd 2023–2028.

 

 

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BROSIECT DYNODIAD PARC CENEDLAETHOL GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU

I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Reolwr Rhaglen Cyfoeth Naturiol Cymru, Ash Pierce ar  Brosiect Dynodiad Parc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru).

 

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd Tîm y Rhaglen Tirweddau Dynodedig gyflwyniad oedd yn cynnwys gwybodaeth am y pwyntiau canlynol:-

 

·       Trosolwg ar Gynnydd

·       Asesiadau

·       Ymgysylltu â'r Cyhoedd

·       Camau Nesaf

·       Newidiadau i’r Grŵp Ymgynghorol

Rhoddwyd trosolwg bras i’r Aelodau ar yr elfennau allweddol o’r Adroddiad ar Rinweddau Arbennig, Adroddiad ‘Forces for Change’ a’r Adroddiad Opsiynau Rheoli oedd yn berthnasol i Brosiect Dynodiad Parc Cenedlaethol Gogledd-ddwyrain Cymru.

 

Rhoddwyd manylion am y strategaeth ymgysylltu a oedd wedi’i chynnal yn yr ardaloedd o amgylch y Parciau Cenedlaethol newydd arfaethedig, a chafwyd 949 o ymatebion, yn gyffredinol yn mynegi teimladau cadarnhaol a gobeithiol ynglŷn â’r Parc Cenedlaethol. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion wedi dod gan drigolion lleol. Cyflwynwyd tabl o bryderon cyffredin i’r Pwyllgor, a’r meysydd oedd yn peri’r mwyaf o bryder oedd heddwch a chynaliadwyedd yr ardal a’r effeithiau ar wasanaethau cyhoeddus.

 

Roedd y camau nesaf ar gyfer Prosiect Dynodiad Parc Cenedlaethol Gogledd-ddwyrain Cymru yn cynnwys adroddiad i gael ei lunio ar y cyfnod ymgysylltu ac ar gynnal Asesiad o Effaith a Dadansoddiad o Fanteision, gan ymgynghori’n gyhoeddus yn hydref 2024.

 

Diolchodd yr Cadeirydd i Arweinydd Tîm y Rhaglen Tirweddau Dynodedig am y cyflwyniad manwl gan ddweud bod croeso i’r Aelodau ofyn cwestiynau.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynglŷn â’r Grŵp Ymgynghorol Rheoli gan ofyn a fyddai hwnnw’n cynnwys yr Aelodau. Eglurodd yr Arweinydd Tîm mai grŵp ar lefel weithredol oedd y Grŵp ar hyn o bryd ac nad oedd yn cynnwys yr Aelodau ar y cam hwn.

 

Trafododd yr Aelodau’r dryswch oedd o fewn Cymunedau ac ymysg llawer o’r Aelodau ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng yr AHNE a Pharc Cenedlaethol a dywedwyd bod angen addysgu rhagor ar y cyhoedd a’r Aelodau ynglŷn â’r gwahaniaeth. Eglurodd yr Arweinydd Tîm fod cynlluniau ar y gweill i gynnal gweithdai am y Parc Cenedlaethol i’r holl Aelodau yn y dyfodol a byddai rhagor o ddiweddariadau cyson yn cael eu darparu wrth i’r prosiect barhau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Arweinydd Tîm y Rhaglen Tirweddau Dynodedig am y cyflwyniad ac am ddod i’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD: nodi’r diweddariad ar Brosiect Dynodiad Parc Cenedlaethol Gogledd-ddwyrain Cymru.

 

 

8.

CYFLWYNIAD AC ADRODDIAD AILFRANDIO TIRWEDD CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 410 KB

I ystyried adroddiad (copi ynghlwm) ar Ailfrandio Tirwedd Cenedlaethol (HS).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddog yr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Rheolwr y Gwasanaeth Ceidwaid drosolwg i’r Pwyllgor ar yr adroddiad ar Ailfrandio Tirwedd Cenedlaethol.

 

Dros sawl blwyddyn, roedd dau adroddiad cenedlaethol, Adolygiad Marston (Cymru) ac Adolygiad Glover (Lloegr) wedi edrych ar sut fyddai modd gwella pob agwedd ar AHNE gan gynnwys eu cyfeiriad yn y dyfodol. Un o’r prif gyfleoedd oedd adfywio enw, cyfeiriad a brandio.

 

Roedd y ddau adroddiad yn awgrymu newid yr enw AHNE i Dirwedd Cenedlaethol.  Ar 22 Tachwedd 2023, daeth ardaloedd oedd yn AHNE, yn bennaf yn Lloegr, yn Dirweddau Cenedlaethol. Ers nifer o flynyddoedd, mae’r acronym AHNE wedi’i gam ynganu, ei gamddeall ac wedi parhau i fod yn y cefndir o ran dynodiadau.

 

Roedd timau AHNE/Tirweddau Cenedlaethol wedi bod yn flaenllaw o ran darparu atebion naturiol i’r prif heriau sydd wedi wynebu’r genedl ers nifer o flynyddoedd. Mae’r brand newydd yn tanlinellu eu hymrwymiad i ymdrechu’n galetach ac ymgysylltu â chynulleidfa ehangach. Roedd ailfrandio’n nodi’r cam nesaf i wireddu’r weledigaeth Tirweddau Cenedlaethol yn llwyr, i fod yn enghreifftiau blaengar o sut y gall cymunedau amrywiol, llewyrchus weithio gyda ac er budd natur ym Mhrydain: gan adfer ecosystemau, darparu bwyd, storio carbon i liniaru effeithiau newid hinsawdd, gwarchod rhag sychder a llifogydd, a meithrin iechyd a lles pobl hefyd.

 

Fe wnaeth Rheolwr Ardal a Rheolwr Tîm yr AHNE dywys yr Aelodau trwy gyflwyniad oedd yn rhoi rhagor o wybodaeth, yn cynnwys –

 

·       Rhagarweiniad ac amcanion yr ailfrandio

·       Sut y datblygwyd y brand

·       Rhagarweiniad i hunaniaeth y brand

Roedd pob Tirwedd Cenedlaethol wedi gweithio gyda Nice and Serious i ddatblygu logo newydd a oedd yn adlewyrchu eu tirwedd nhw neu un o’u rhywogaethau eiconig. Bellach, roedd cyfres o 39 o logos (yn cynnwys logo Cymdeithas y Tirweddau Cenedlaethol) a oedd yn creu clytwaith yn cynrychioli’r teulu cyfan. Cafodd y Pwyllgor weld y 39 logo ac eglurwyd y rheswm am eu gwahanol liwiau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Ardal yr AHNE am y cyflwyniad ac i Swyddog yr AHNE a Rheolwr y Gwasanaeth Ceidwaid am ei adroddiad ac dywedwyd bod croeso i’r Pwyllgor wneud sylwadau.

 

Mynegodd yr Aelodau bryder ynglŷn â chost yr ailfrandio a chyfeiriwyd hefyd at y cynlluniau am Barc Cenedlaethol newydd, a fyddai’n golygu ailfrandio eto yn y dyfodol agos.

Sicrhaodd Swyddog AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Rheolwr y Gwasanaeth Ceidwaid yr Aelodau y byddai’r gost yn cael ei rheoli’n ofalus.

 

PENDERFYNWYD: bod y Cyd-bwyllgor yn mabwysiadu ailfrandio ardaloedd yr AHNE yn Dirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac yn troi’n Gyd-bwyllgor y Tirwedd Cenedlaethol.

 

 

9.

ADRODDIAD DIWEDDARU AR DDATGANIAD BLYNYDDOL Y CYD-BWYLLGOR (EITEM SEFYDLOG) pdf eicon PDF 218 KB

I ystyried Adroddiad Diweddaraf Datganiad Blynyddol y Cyd-bwyllgor (copi ynghlwm) (SG a PO)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo, Steve Gadd, ddiweddariad bras ar adroddiad Datganiad Blynyddol y Cyd-bwyllgor i’r Pwyllgor.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar sefyllfa derfynol cyllideb refeniw'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ar gyfer 2023/24. Y sefyllfa gyffredinol, ddisgwyliedig oedd cyfraniad o’r cronfeydd refeniw wrth gefn o tua £20,000 – ychydig yn llai na’r disgwyl pan osodwyd y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i archwilio a’i gymeradwyo a byddai llythyr gan y Tîm Archwilio’n cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD: nodi Sefyllfa Derfynol a Chyfrifon 2023/2024 Cyd-bwyllgor yr AHNE.

 

 

10.

Y RHAGLEN WAITH (EITEM SEFYDLOG) pdf eicon PDF 414 KB

I ystyried y Rhaglen Waith (copi ynghlwm) gan y Swyddog AHNE (HS).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd HS y rhaglen waith a rhoddodd ddiweddariad ar lafar am gynnydd ar yr eitemau a restrwyd, gan amlygu’r canlynol:

·       Roedd cynnig newydd am flwyddyn wedi dod i law gan Gyfoeth Naturiol Cymru am gyllid, ond yn anffodus, roedd hwn wedi gostwng o gynnig am dair blynedd.

·       Bu gwaith ymgynghori ynghlwm â Chynllun Rheoli’r AHNE, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu Land Use Consultants i ailysgrifennu’r canllawiau ar gyfer Cynlluniau Rheoli Tirweddau Cenedlaethol.

·       Roedd Cytundeb Cyfreithiol yr Awdurdod Lleol wedi’i adolygu ym mis Ionawr 2024. Cytunwyd na fyddai angen adolygiadau i Gytundeb Cyfreithiol y Cyd-bwyllgor, fodd bynnag, fe fyddai angen ei anfon at Gynghorau Wrecsam a Sir y Fflint.

·       Roedd Cefnogwyr yr AHNE wedi gofyn am gael eu cynnwys ym mhob agwedd o waith y Pwyllgor ac roedd mwy o gyfarfodydd agored ac eang wedi’u cynnal i hwyluso hyn.

·       Roedd mentrau Awyr Dywyll, yn cynnwys newid goleuadau, wedi cael effaith fawr yn Llangollen ac wedi helpu i leihau costau ynni.

 

Trafododd yr Aelodau effaith gollwng carthion i afonydd a’r môr a gofynnwyd a oedd yn berthnasol i’r mater gael ei gynnwys ar y Rhaglen Waith. Ar ôl trafod, cytunwyd ar gysylltu â chynrychiolwyr Dŵr Cymru a Phrosiect LIFE Afon Dyfrdwy i gynghori a fyddent yn fodlon dod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD: nodi’r Rhaglen Waith.

 

 

11.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL

Er gwybodaeth, dyddiad cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor yr AHNE yw 21 Mehefin 2024.

 

Cofnodion:

Roedd cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor yr AHNE wedi’i drefnu at 21 Mehefin 2024.

 

PENDERFYNWYD: nodi dyddiad y cyfarfod yn y dyfodol.

 

           Daeth y cyfarfod i ben am 11.55am