Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Cyswllt: 01824 712589 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIAD Cofnodion: Agorwyd y cyfarfod gan Howard Sutcliffe, Swyddog
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Rheolwr y Gwasanaethau Ceidwaid. Croesawodd
bawb i’r cyfarfod ac awgrymodd wrth y Cadeirydd, y Cynghorydd David Hughes a’r Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Nigel Williams fod Win Mullen-James - a oedd yn bresennol yn Siambr y Cyngor - yn cadeirio’r
cyfarfod oherwydd bod modd iddynt weld rhai a oedd yn bresennol ar-lein ac yn y
Siambr. Cytunodd y Cynghorwyr Hughes a Williams. Cafwyd ymddiheuriadau gan Aelod y Cyd-bwyllgor, y
Cynghorydd Emrys Wynne (Cyngor Sir Ddinbych). Ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiad. |
|
COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y CYDBWYLLGOR BLAENOROL (HS) PDF 305 KB Ystyried cofnodion (copi ynghlwm)
cyfarfod blaenorol Cydbwyllgor AHNE a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2022. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 10
Tachwedd 2022. Cytunwyd bod y cofnodion yn gofnod cywir. Materion yn codi: Eitem 4 – Amrywiad i gytundeb cyfreithiol i gynyddu
aelodaeth y Cyd-bwyllgor i dri fesul Awdurdod. Nodwyd bod Cyfansoddiad Cyngor
Sir Ddinbych yn caniatáu enwebu dirprwy gynrychiolydd pe na bai unrhyw un o’i
aelodau’n gallu mynychu. Nid oedd cadarnhad wedi dod i law o ran sefyllfa
Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Swyddog AHNE i ddilyn
trywydd hyn gyda CBSW. Eitem 6 – Cofnodion Drafft cyfarfod blaenorol
Partneriaeth yr AHNE. Roedd gwobr yn cael ei chyflwyno i’r Grid Cenedlaethol am
eu Menter Gwella Tirwedd. Roedd gwahoddiadau wedi’u dosbarthu i’r seremoni
wobrwyo. PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd
2022 yn cael eu cymeradwyo. |
|
COFNODION DRAFFT PARTNERIAETH AHNE (HS) PDF 338 KB Nodi cofnodion cyfarfod Partneriaeth AHNE a gynhaliwyd ar 14
Hydref 2022. Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 14
Hydref 2022 er gwybodaeth. Roedd nifer o Wasanaethau wedi
bod yn rhan o gynllun gweithredu er mwyn osgoi’r tagfeydd yn Rhaeadr y Bedol yn
ystod y blynyddoedd blaenorol gan gynnwys: ·
Rhwystr uchder ar y maes
parcio a fyddai’n atal cerbydau mawr rhag mynd i mewn i’r maes parcio. ·
Sicrhau llinellau melyn
gweladwy. Cafodd Baddondy Rhufeinig
Prestatyn ei gynnwys mewn arddangosfa yn Llyfrgell Prestatyn, a oedd yn boblogaidd
iawn, yn enwedig gyda grwpiau ysgol. PENDERFYNWYD: Nodi cofnodion cyfarfod Partneriaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2022. |
|
COFNODION DRAFFT EIN PARTNERIAETH TIRLUN DENIADOL (DS) PDF 346 KB Nodi cofnodion drafft ein Partneriaeth Tirlun Deniadol a
gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023. Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ein
Tirlun Darluniadwy a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023 er gwybodaeth. Roedd gwaith wedi’i gwblhau ym Mhorthdy Castell Dinas
Brân. Roedd y rwbel a gafodd ei symud fel rhan o’r gwaith cloddio wedi’i
ddefnyddio i wella’r llwybr mynediad igam-ogam. Byddai’r gwasanaeth Bws Darluniadwy yn rhedeg am y
drydedd flwyddyn o amgylch safleoedd yn ardal Dyffryn Dyfrdwy gan gynnwys maes
parcio Pafiliwn Llangollen, er mwyn helpu i liniaru rhai o’r materion parcio. Roedd gwaith paratoi’n mynd rhagddo gan weithio gydag
artistiaid lleol a chymunedau ar gyfer arddangosfa olaf y flwyddyn yn Oriel
Dory yn Llangollen. Roedd trafodaethau’n cael eu cynnal rhwng y Bartneriaeth
a chyllid y Loteri am bosibilrwydd o ymestyn y prosiect, i wneud iawn am y 2
flynedd a gollwyd i gyfyngiadau Covid. PENDERFYNWYD: nodi cofnodion drafft cyfarfod Partneriaeth Ein Tirlun
Darluniadwy a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023. |
|
ADOLYGIAD 10 MLYNEDD A DIWEDDARIAD LLYWODRAETHU AHNE 2023 Ar lafar (HS) Derbyn diweddariad ar lafar gan Swyddog a Rheolwr Gwasanaeth
Ceidwad AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Cofnodion: Atgoffodd
Swyddog yr AHNE a Rheolwr y Gwasanaethau Ceidwaid, Howard Sutcliffe (HS) y
Pwyllgor fod y cytundeb cyfreithiol ar gyfer y Cyd-bwyllgor wedi’i adolygu a’i
ddiweddaru 18 mis yn ôl. Wrth symud ymlaen, byddai adolygiad yn cael ei gynnal
o’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Bartneriaeth
a chylch gorchwyl newydd ar gyfer y Cefnogwyr, yn ogystal ag adolygu’r gweithgorau, gan eu cysylltu â phenawdau penodau sydd
wedi’u cynnwys yn y Cynllun Rheoli. Roedd
ymgyrch recriwtio ar gyfer Cefnogwyr AHNE o Gynghorau Cymuned i gynorthwyo â
gwaith cadwraeth ymarferol a stiwardio ardaloedd prysur ar benwythnosau yn mynd
rhagddo. Bu cyfarfod yng Ngholeg Llysfasi a groesawyd, roedd adborth yn cynnwys
awydd am gyswllt mwy rheolaidd. Byddai
hyfforddiant ar gyfer Cefnogwyr AHNE / ceidwaid gwirfoddol yn dechrau cyn hir. PENDERFYNWYD: nodi’r
diweddariad ar yr adolygiad 10 mlynedd a llywodraethu’r AHNE. |
|
ADRODDIAD ARIANNOL BLYNYDDOL CYDBWYLLGOR (Eitem Sefydlog)(SG a PO’H) PDF 215 KB Ystyried adroddiad (copi ynghlwm)
gan y Pennaeth Cyllid ac Eiddo ac Uwch Swyddog Cyllid a Sicrwydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Pennaeth Cyllid ac Eiddo, Steve Gadd (SG) nad
y datganiad blynyddol oedd yr adroddiad – roedd hwnnw wedi’i gymeradwyo yn y
cyfarfod blaenorol – ond adroddiad monitro arferol oedd hwn. Roedd yr adroddiad yn dangos nad oedd achos pryderu, er
gwaetha’r cyfnod anodd o chwyddiant uwch. Ni fu unrhyw orwariant ac o ganlyniad
i arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, dim ond ychydig o gyllid a
ddefnyddiwyd o’r cronfeydd wrth gefn, a fyddai’n cael ei gario ymlaen i’r
flwyddyn ariannol nesaf. Diolchodd y Pwyllgor i’r Uwch Swyddog Cyllid a Sicrwydd,
Paula O’Hanlon, am ei chymorth parhaus â cheisiadau grant a chyllidebu ac ati,
gan bwysleisio pwysigrwydd dilyniant ar ddarparu prosiectau’r AHNE. PENDERFYNWYD: nodi Sefyllfa Derfynol a Chyfrifon 2022/23
Cyd-bwyllgor yr AHNE. |
|
DIWEDDARIAD PARC CENEDLAETHOL AR GYFER GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU (CNC) Derbyn diweddariad gan gynrychiolydd o Gyfoeth Naturiol
Cymru. Cofnodion: Rhoddodd HS y wybodaeth ddiweddaraf am roi Statws Parc
Cenedlaethol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru o neges e-bost a ddaeth i law gan
Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Eglurodd ei bod yn broses ddeddfwriaethol araf,
ond gobeithiwyd y byddai modd sefydlu statws Parc Cenedlaethol cyn diwedd tymor
y Senedd (Mai 2026). Roedd tîm cyfan wedi’i benodi i’r prosiect yn 2022 ac
roeddent wedi dechrau gwaith yn yr ardal chwilio. Rhagwelwyd y byddent mewn
sefyllfa cyn hir i rannu’r wybodaeth honno gyda budd-ddeiliaid – Awdurdodau
Lleol a Chyd-bwyllgor yr AHNE ac ati. Byddai cynrychiolydd o CNC, Ash Pierce,
yn cael gwahoddiad i gyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor yr AHNE ar 23 Mehefin. Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor i Gyd-bwyllgor yr AHNE fod
yn rhan o ymgynghoriad ystyrlon dros yr ardal chwilio a gytunwyd yn hytrach
na’i fod yn cael ei ddarparu fel fait accompli. PENDERFYNWYD:
I.
Bod diweddariad e-bost CNC yn cael ei ddosbarthu i
aelodau Cyd-bwyllgor yr AHNE a
II.
bod yr adroddiad diweddaru ar Barc Cenedlaethol ar
gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei nodi. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL (Eitem Sefydlog) PDF 555 KB Ystyried
rhaglen gwaith i’r dyfodol (copi ynghlwm) gan y Swyddog AHNE. Cofnodion: Cyflwynodd HS y rhaglen gwaith i'r dyfodol a rhoddodd
ddiweddariad ar lafar ar gynnydd yr eitemau a restrwyd, gan amlygu: ·
Roedd newidiadau i ddyraniadau grant CNC gan arwain
at golli £20,000 wedi’i gwmpasu gan Gyllid Llenwi Bwlch Llywodraeth Cymru. ·
Roedd y Cynllun Twristiaeth yn datblygu, roedd
Eryri Bywiol wedi’u comisiynu i ddarparu golwg ar y cyd. ·
Roedd gan raglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd
Cynaliadwy ddwy flynedd arall i redeg. ·
Roedd dau Swyddog Ffermio/Ymgysylltu wedi’u penodi. ·
Roedd prosiect Awyr Dywyll Cymru Gyfan yn
datblygu’n dda. Roedd 5 digwyddiad wedi’u cynnal yn AHNE Bryniau Clwyd a
Dyffryn Dyfrdwy fel rhan o’r prosiect Awyr Dywyll. ·
Roedd cais wedi’i gyflwyno i’r Gymdeithas Awyr
Dywyll Ryngwladol – dim ond 8 cais oedd yn cael eu derbyn bob blwyddyn. ·
Roedd Canllawiau Cynllunio Atodol Goleuo Da wedi’u
cymeradwyo ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam –
roedd Cyngor Sir y Fflint yn gweithio ar ei fabwysiadu. PENDERFYNWYD: nodi’r Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL Er gwybodaeth, dyddiadau
cyfarfodydd nesaf Cydbwyllgor AHNE yw: ·
23 Mehefin 2023 (CBC) ac ·
17 Tachwedd 2023 (CSFf) Cofnodion: Cynigiwyd bod y Pwyllgor yn cynnal cyfarfod byr ar 23
Mehefin 2023 ac wedyn taith o amgylch yr AHNE [Karen Weaver i wirio
argaeledd a threfnu] PENDERFYNWYD: nodi dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 10.45 am |