Agenda and draft minutes
Lleoliad: COUNTY HALL, MOLD, FLINTSHIRE
Cyswllt: 01824 712589 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
CYFLWYNIADAU, YMDDIHEURIADAU A DATGAN CYSYLLTIAD Cofnodion: |
|
COFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR PDF 394 KB Ystyried
cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau
Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2018. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2018. Cywirdeb Eitem 7 –
Eglurwyd na phenodwyd i'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy ar gyfer Anifeiliaid Pori
eto. Materion yn
Codi Eitem 3 – O ran y
fenter Awyr Dywyll, adroddwyd bod Swyddog Awyr Dywyll (Dani Robertson) wedi’i
phenodi drwy’r bartneriaeth gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, AHNE Ynys Môn ac
AHNE Llŷn. Mae’r swydd yn cynnwys
cyd-drefnu digwyddiadau ac ymgysylltu â busnesau, yn ogystal â datblygu un
dynodiad Awyr Dywyll posib ar draws ardaloedd gwarchodedig Gogledd Cymru. Eitem 3 – Bydd
adroddiad sy’n ystyried y gwersi a ddysgwyd o dân mynydd Llantysilio yn cael ei
gyflwyno yng nghyfarfod arbennig Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Sir Ddinbych
ar 20 Mawrth 2019 ym Mhafiliwn Llangollen.
Cafwyd manylion fformat y cyfarfod diwrnod llawn, fydd ar agor i’r
cyhoedd, gan Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd CSDd (GW). Er i’r tân hwn
gael ei gynnau y tu allan i’r tymor llosgi a ganiateir (Hydref i Fawrth yng
Nghymru), roedd tîm yr AHNE hefyd wedi ymgysylltu â’r Gwasanaeth Tân mewn
perthynas â thanau diweddar yng Nglyndyfrdwy a Choed Hyrddin yng Nglyn y Groes. Eitem 7 - Cafwyd eglurhad gan
Swyddog Cynorthwyol yr AHNE am rai o’r safleoedd ar draws Gogledd Ddwyrain
Cymru a ddylai elwa ar y Cynllun Rheoli Cynaliadwy ar gyfer Anifeiliaid Pori. Dywedodd y byddai gwybodaeth fwy manwl a
diweddar am gynnydd y cynllun ar gael i’w rhannu mewn cyfarfod yn y dyfodol. PENDERFYNWYD: Yn amodol ar y diwygiad, derbyn cofnodion cyfarfod
y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir. |
|
COFNODION DRAFFT PROSIECT EIN TIRWEDD HARDD PDF 278 KB Nodi cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 (copi ynghlwm). Cofnodion: Derbyniwyd
cofnodion drafft cyfarfod mis Ionawr Grŵp Llywio Prosiect Ein Tirwedd
Hardd. Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd David Kelly, cafodd aelodaeth y Grŵp Llywio ei
egluro gan Swyddog Cynorthwyol yr AHNE (DS). PENDERFYNWYD: Derbyn cofnodion cyfarfod y Grŵp Llywio a
gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019. |
|
CYLLIDEB Y CYD-BWYLLGOR PDF 217 KB Adroddiad Eitem
Sefydlog (copi ynghlwm) a gyflwynwyd gan Paula O'Hanlon, Uwch Swyddog Cyllid a
Sicrwydd / Gareth O Williams, Rheolwr Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr Cyllid CSDd (GOW) yr adroddiad ar sefyllfa derfynol ddisgwyliedig
cyllideb refeniw’r Cyd-bwyllgor ar gyfer 2018/19. Dosbarthwyd gwybodaeth ychwanegol na
chynhwyswyd yn yr adroddiad a argraffwyd. Parhawyd i
reoli’r gyllideb yn dda, gyda thanwariant bychan wedi’i ragamcan ar gyfer
diwedd y flwyddyn. Y prif reswm am hyn
oedd swydd wag sydd bellach wedi’i llenwi.
Croesawodd y Pwyllgor y newyddion bod y tri Awdurdod wedi ymrwymo i’r un
lefel o gyllid ar gyfer 2019/20. PENDERFYNWYD: Nodi'r rhagolwg diweddaraf o’r sefyllfa ariannol
derfynol ar gyfer 2018/19, ynghyd â’r cynnydd yn erbyn y gyllideb y cytunwyd
arni. |
|
ADRODDIAD CYTUNDEB CYFREITHIOL PDF 239 KB Derbyn gan Howard
Sutcliffe, Swyddog AHNE Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd CSDd (GW)
adroddiad oedd yn ystyried y Cytundeb Cyfreithiol ar gyfer y Cyd-bwyllgor, sy’n
nodi diben, Cylch Gorchwyl a threfniadau allweddol rhwng y tri Awdurdod. Roedd y Cytundeb i fod i gael ei adolygu, ei
ddiwygio neu ei addasu cyn iddo gyrraedd diwedd ei 5 mlynedd ar ddiwedd Mawrth
2019. Awgrymodd Swyddog yr AHNE (HS) y gallai ef a’r swyddogion cyfreithiol
ddiweddaru’r ddogfen i adlewyrchu rhai mân newidiadau, a’i chyflwyno eto yng
nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor. PENDERFYNWYD: Y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a
Democrataidd a Swyddog yr AHNE yn diweddaru cytundeb Cyfreithiol y Cyd-bwyllgor
ac yn cyflwyno'r fersiwn derfynol yn y cyfarfod nesaf i gael ei fabwysiadu am y
pum mlynedd nesaf. |
|
CYDWEITHIO GYDA BWRDD SAFLE TREFTADAETH Y BYD - DATGANIAD O FWRIAD AR Y CYD AC YMWELIAD MAES POSIBL DROS YR HAF Ystyried
cyflwyniad ar lafar gan Howard Sutcliffe. Cofnodion: Cynigiodd Swyddog
yr AHNE (HS) y dylid trefnu cyfarfod rhwng Cadeiryddion y Cyd-bwyllgor a Bwrdd
Safle Treftadaeth y Byd, er mwyn cytuno ar ddatganiad o fwriad ar y cyd i
adlewyrchu’r berthynas waith. PENDERFYNWYD: Y byddai Swyddog yr AHNE yn trefnu cyfarfod rhwng
Cadeirydd y Cyd-bwyllgor a Chadeirydd Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd. |
|
DEDDF CEFN GWLAD A HAWLIAU TRAMWY 2000 ADRAN 85 Y WYBODAETH DDIWEDDARAF Derbyn
diweddariad ar lafar gan Howard Sutcliffe. Cofnodion: Bu i Swyddog yr
AHNE (HS) adrodd am gyfarfod cadarnhaol gyda Dŵr Cymru i gytuno ar gynllun
tirlunio ar gyfer gwaith trin dŵr islaw’r draphont ddŵr yn Nhrefor,
sydd bellach yn gofyn iddo ymgysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru. Wrth i Scottish
Power Energy Networks gynnal gwaith diweddaru llinellau trydan tanddaearol,
nodwyd bod nifer o ardaloedd newydd yn cael eu hystyried, gan gynnwys Y
Mwynglawdd. Mae llinell y Grid
Cenedlaethol o Legacy i Nercwys, sydd union y tu allan i ffin yr AHNE, yn aros
am gymeradwyaeth ar hyn o bryd. PENDERFYNWYD: Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
LLYTHYR/CYFARFOD CYFLEOEDD ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL GENERIG O FEWN AWDURDODAU LLEOL Derbyn
diweddariad ar lafar gan Howard Sutcliffe. Cofnodion: Cafwyd esiamplau
gan Swyddog yr AHNE (HS) o broblemau gydag arwyddion ledled yr ardal a allai
fod wedi elwa o ymgynghoriad â'r Cyd-bwyllgor.
Awgrymodd y gellid amlygu rôl y Cyd-bwyllgor drwy i’r Cadeirydd
ysgrifennu at Awdurdodau Lleol neu drwy gynnal cyfarfod rhwng Aelodau a
swyddogion i rannu gwybodaeth am bynciau penodol, fel y gwelwyd gyda’r prosiect
Awyr Dywyll. Cytunodd y Cadeirydd y dylid cymryd
y ddau gam hyn. PENDERFYNWYD: Y byddai Swyddog yr AHNE yn trefnu i anfon llythyr
gan y Cadeirydd i Awdurdodau Lleol a chynnal cyfarfodydd rhwng Aelodau
Arweiniol a swyddogion fel y bo'n briodol. |
|
Y DIWEDDARAF AM EIN PROSIECT TIRWEDD HARDD Derbyn
diweddariad ar lafar gan Kate Thomson, Swyddog Partneriaeth. Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad
gan Kate Thomson, Swyddog Partneriaeth Ein Tirwedd Hardd Cronfa Dreftadaeth y
Loteri, ar y cynnydd a wnaed ar y prosiect pum mlynedd sy’n canolbwyntio ar
Ddyffryn Dyfrdwy. Dyma’r prif bwyntiau: ·
Roedd Kate yn un o dri o swyddogion yn y tîm sydd wedi’i
leoli ym Mhlas Newydd. ·
Roedd y rhaglen waith yn cynnwys prosiectau ar gyfer pob
un o’r pum mlynedd, gyda rhai’n cael eu dwyn ymlaen wrth i gyllid ddod ar gael. ·
Rhannwyd gwybodaeth am waith cadwraeth oedd yn defnyddio
gwirfoddolwyr a thimau Cefn Gwlad i wella golygfeydd a mynediad, gan gyflawni
buddion amgylcheddol ar yr un pryd. ·
Ymgysylltu â grwpiau cymunedol i blannu coed a gwella’r
coetir, gyda chanolbwynt y dyfodol ar reoli’r cynllun coetiroedd. ·
Cydweithio â phobl leol drwy’r fenter ‘Cysylltu pobl â
Thirwedd Hardd’. ·
Gwella mynediad i’r Glyn ym Mhlas Newydd ac adfer y
nodweddion allweddol o’r cyfnod pan oedd Merched Llangollen yn byw yno. ·
Defnyddio gwaith celf a gomisiynwyd o ardal y prosiect er
dibenion hyrwyddo. PENDERFYNWYD - y dylid
nodi’r cyflwyniad. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 377 KB Ystyried rhaglen
gwaith i'r dyfodol diwygiedig (copi ynghlwm) gan Howard Sutcliffe. Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr yr AHNE (HS) y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, gan adrodd ar y prif eitemau
ar y rhaglen. Y prif bwyntiau o
ddiddordeb oedd: ·
O ran cynllun rheoli’r AHNE, rydym yn aros am
gyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru a gallai pwysau ar y gyllideb arwain at fod
angen cyfraniadau ariannol gan Lywodraeth Cymru. ·
Cafwyd
nifer dda o fynychwyr yn Fforwm AHNE Llanrhaeadr Springs. ·
Roedd
y prosiect Newid Hinsawdd wedi’i oedi ar hyn o bryd, ond roedd yn dal i fod yn
ddyhead. ·
Llinellau
rhwydwaith SP – rhoddwyd esiampl o gynlluniau posib ym Mhlas Newydd a llwybr
Clawdd Offa. Tynnwyd sylw at
wybodaeth am brosiectau oedd yn cael eu cynnal gan bob un o’r gweithgorau
partneriaeth, gan ddefnyddio’r cyllid a ddyrannwyd. Bu i Swyddog Cynorthwyol yr AHNE (DS) adrodd
bod y Grŵp Rheoli Tir wedi comisiynu ffilm oedd yn amlygu pwysigrwydd coed
ynn i’r dirwedd, ac arolwg o’r awyr i dynnu lluniau Dyffryn Alyn yn Loggerheads
er mwyn monitro effaith y clefyd coed ynn. Aeth Swyddog yr
AHNE (HS) yn ei flaen i nodi bod prosiect gan y gweithgor Deall a Mwynhau yn
cynnwys gwaith adfer tair camfa garreg ger Cilcain. Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd
David Kelly am gamfeydd carreg hanesyddol ger Y Mwynglawdd nad oeddent yn cael
eu gwarchod gan Cadw, nododd y swyddog bod cynllun rheoli’r AHNE yn ceisio
cydnabod pwysigrwydd cadw nodweddion hanesyddol o’r fath yn y dirwedd. PENDERFYNWYD – Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
DYDDIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL 2019 21 Mehefin Rhuthun a 22
Tachwedd Wrecsam Cofnodion: 21 Mehefin 2019
yn Rhuthun 22 Tachwedd 2019
yn Wrecsam Dywedodd y
Cadeirydd y byddai ef a Swyddog yr AHNE yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor am eu
cyfarfod gyda Chadeirydd AHNE Llŷn. |