Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun
Cyswllt: 01824 712589 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
CYFLWYNIAD, YMDDIHEURIADAU A DATGANIADAU O GYSYLLTIAD Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Derek Butler (CSyFf) a Tony Thomas (Cadeirydd CSDd) a’r Swyddogion Anna Irwen (Uwch Swyddog Cadwraeth a’r Amgylchedd, CBSW), Ceri Lloyd (Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r AHNE, CSDd) ac Andy Worthington Cadeirydd Partneriaeth AHNE. Yn absenoldeb y Cynghorydd Tony Thomas (Cadeirydd), cadeiriodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y cyfarfod. Roedd rhai Cynghorwyr wedi ei chael yn anodd cael mynediad at becyn y rhaglen o’r ddolen rhyngrwyd a gylchredwyd drwy e-bost, roedd copïau caled ar gael yn y cyfarfod. Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 8 MAWRTH 2019 PDF 304 KB Ystyried
cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau
Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a gynhaliwyd 8 Mawrth 2019.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2019. Cywirdeb. Roedd y Cynghorydd David Kelly yn bresennol yn y cyfarfod. Materion yn
Codi: Tudalen 5, eitem 2 – roedd Cydlynydd wedi ei benodi i'r Cynllun Rheoli
Cynaliadwy Anifeiliaid Pori. Tudalen 6, eitem 6 – Bu cyfarfod rhwng Cadeiryddion y Cyd-bwyllgor a
Chadeirydd Bwrdd STB i ddrafftio datganiad o fwriad ar y cyd i adlewyrchi’r
bartneriaeth weithredol. Byddai’r Datganiad yn cael ei gyflwyno yn y
Cyd-bwyllgor AHNE nesaf. Tudalen 7, eitem
8 – Drafftiwyd llythyr gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor, Arweinwyr Cyngor Sir y
Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Sir Ddinbych ar gydweithio
ar bynciau penodol. PENDERFYNWYD: Yn amodol ar y diwygiad,
derbyn cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2019 fel
cofnod cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION DRAFFT PARTNERIAETH AHNE 22 Mawrth 2019 PDF 444 KB Nodi cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2019 (copi ynghlwm).
Cofnodion: Dywedodd y Swyddog
AHNE (HS) wrth y Pwyllgor fod cyfarfod pellach o Bartneriaeth yr AHNE wedi’i
gynnal ers y cyfarfod ar 22 Mawrth, ond nid oedd y cofnodion ar gael hyd yma. Dyma rai o’r
sylwadau ar y cofnodion: Tudalen 12 – Tân Rhostir ar Fynydd Llantysilio. Nid oedd Uwch Swyddog Cefn
Gwlad yr AHNE yn cytuno gyda’r datganiad ynghylch y ffaith fod y gostyngiad yn
nifer y defaid oedd yn pori yn rhannol gyfrifol am ledaeniad y tân ar Fynydd
Llantysilio, a’i resymeg oedd nad oedd defaid yn pori ar rug. Roedd y rheolaeth
wael o’r tyfiant grug eang yn fwy o ystyriaeth. Tudalen 13 -
Flailbot Roedd Cadeirydd y Gweithgor Hamdden, Mwynhad a Dealltwriaeth (JR) wedi
bod i gyfarfod Partneriaeth yr AHNE diweddaraf (yr wythnos diwethaf). Cafwyd
trafodaeth ddiddorol ar y Flailbot a allai weithredu mewn ardaloedd anodd, gan
glirio grug a chynnig rhwystr tân. Tudalen 13 -
Onnen yn Gwywo Holodd y Cynghorydd David Kelly am ddosbarthiad Pecynnau a
rheolaeth o goed oedd wedi marw neu yn marw? Dywedodd y
Rheolwr Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol (TW) fod Cyngor Sir y Fflint yn
ystyried sut i fwrw ymlaen. Byddai seminar yn yr wythnosau nesaf ar gyfer
Swyddogion Coed Sir y Fflint, ac roedd gweithgor yn cael ei ffurfio i nodi
cynllun gweithredu. Roedd coed yn cael eu hystyried fesul un. Roedd torri coed
cyffredinol yn cael ei osgoi rhag ofn bod coed wedi datblygu gwydnwch yn erbyn
yr clefyd Nodwyd nad oedd y clefyd yn lladd y coed ond yn ei gwneud yn fwy
agored i glefydau eraill a fyddai’n eu lladd. Yn dilyn
trafodaeth bellach, cytunwyd y byddai codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn fuddiol,
fel y byddai rhif cyswllt ffôn penodol os oedd achosion newydd yn cael eu nodi. PENDERFYNWYD nodi cofnodion Bwrdd Partneriaeth yr
AHNE ar 22 Mawrth 2019. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION DRAFFT EIN PARTNERIAETH TIRWEDD DDARLUNIADOL 11 Ebrill 2019 PDF 259 KB Nodi cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2019 (copi ynghlwm).
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) er gwybodaeth. Hysbyswyd y
Pwyllgor fod y Llwybrau Digidol (ibeacon) yn cysylltu gydag awdurdodau eraill
Gogledd Cymru ac roedd y Digwyddiadau Dathlu a restrwyd ar dudalen 21 yn cael
eu trafod yn yr adroddiad blynyddol a fyddai’n cael ei gyflwyno’n ddiweddarach
ar y rhaglen. PENDERFYNWYD nodi cofnodion drafft cyfarfod y
Bartneriaeth Ein Tirwedd Ddarluniadol ar 11 Ebrill 2019. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
CYLLIDEB Y CYD-BWYLLGOR PDF 223 KB Adroddiad eitem
sefydlog (copi ynghlwm) wedi’i chyflwyno gan Paula O’Hanlon, Uwcg Swyddog
Cyllid a Sicrwydd/ Gareth Williams, Rheolwr Cyllid.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (SG). Eglurodd SG bod: ·
atodiad
1 yn adolygu’r hyn a wariwyd o’i gymharu â’r hyn oedd yn y gyllideb; ·
roedd
atodiad 2 yn dangos y gyllideb dros y flwyddyn nesaf. Roedd cyllid yn ei le ar yr un lefel (gyda chynnydd bychan ar sail
chwyddiant gan Sir Ddinbych); ·
atodiad
3 oedd y fframwaith cyfreithiol ynghylch y Cydbwyllgor, gan gynnwys y Datganiad
Statudol Blynyddol a oedd angen i Gadeirydd ei lofnodi i’w anfon ymlaen at yr
archwilwyr allanol. Mewn ymateb i
gwestiynau gan y Pwyllgor, dyma oedd ymateb y Prif Gyfrifydd: ·
Roedd
y Grant SDF a dderbyniwyd yn hwyr yn dangos cynnydd yng nghronfeydd wrth gefn
yr AHNE o £119,000 i £259,000 Roedd hynny’n gamarweiniol gan ei fod wedi ei neilltuo’n rhannol ac felly
nid oedd y cyfan ar gael. Ystyriwyd fod lefel y gronfa wrth gefn yn synhwyrol. ·
Yr un
ffynonellau cyllid oedd yr incymau a restrir ar atodiadau 1 a 2 (ond eu bod
wedi cael eu labelu’n wahanol). Cytunwyd i roi'r un enw iddynt mewn adroddiadau yn y dyfodol. ·
Dylai canlyniad ariannol, cyfrifon a chyllideb ddrafft y
Cydbwyllgor ar gael ar wefannau Wrecsam a Sir y Fflint yn ogystal ag un Sir
Ddinbych (SG i wirio). Aeth y Prif
Gyfrifydd drwy’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn gofyn i’r Pwyllgor
gadarnhau pob datganiad a restrwyd. PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:
I.
Dylid nodi canlyniad ariannol 201/19;
II.
Cymeradwyo cyllideb drafft 2019/20.;
III.
Cytuno ar Ddatganiad Blynyddol 2018/19 a IV.
Nodi balansau’r gronfa wrth gefn ar 31
Mawrth 2019. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN RHEOLI AHNE Derbyn diweddariad
ar lafar gan David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE. Cofnodion: Rhoddodd Uwch Swyddog
Cefn Gwlad yr AHNE (DS) y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar Gynllun
Rheoli’r AHNE, yn egluro eu bod ar flwyddyn olaf y Cynllun Rheoli a bod
dyletswydd statudol arnynt i gynhyrchu un newydd. Ar ôl sicrhau cyllid
Llywodraeth Cymru i’w symud ymlaen, roedd angen penderfyniad o ran a ddylid
cynnal adolygiad neu ddiwygiad llawn o’r cynllun. Dywedodd DS yr
hoffai weithio gydag amryw o weithgorau a phartneriaethau i ganfod
blaenoriaethau cyn mynd â’r ymgynghoriad yn ehangach i gymunedau. Rhagwelwyd y
byddai’r cynllun drafft yn cael ei gwblhau a’i gyflwyno i’r Pwyllgor erbyn
gwanwyn 2020. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth ddiweddaraf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA DATBLYGIAD CYNALIADWY Ystyried
diweddariad ar lafar oddi wrth Ceri Lloyd, Swyddog Datblygiad Cynaliadwy AHNE. Cofnodion: Yn anffodus nid
oedd Swyddog Datblygu Cynaliadwy’r AHNE yn gallu bod yn bresennol yn y
cyfarfod. PENDERFYNWYD ailgyflwyno’r eitem ar gyfer
Cydbwyllgor nesaf yr AHNE ar 22 Tachwedd 2019. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD CYTUNDEB CYFREITHIOL Y CYD-BWYLLGOR PDF 244 KB Ystyried
adroddiad oddi wrth Lisa Jones, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffodd Rheolwr
y Gwasanaethau Cyfreithiol (LJ) y Pwyllgor am y Cytundeb Cyfreithiol Awdurdodau
Lleol AHNE 5 mlynedd a fyddai’n cael ei adolygu’n fuan. Roedd y cyfle’n cael ei
gymryd i ddiweddaru’r amserlenni ac ati. I’r perwyl hwnnw, byddai angen i bob
Awdurdod Lleol gydsynio i ddiwygiadau’r Cydbwyllgor cyn llofnodi a selio’r
cytundeb. Roedd y diwygiadau a argymhellwyd yn rhai bychan ac eisoes wedi eu rhannu gyda Phennaeth y Gyfraith yn Wrecsam a Sir y Fflint. Amlygodd LJ y diwygiadau a restrwyd yn adran 4 yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Wrth adolygu’r diagram Strwythur yn Atodlen 3, nododd y Pwyllgor fod: · Angen i fwy o’r saethau llif gwybodaeth fod i’r ddau gyfeiriad o amgylch y blwch Cydbwyllgor – yn arbennig yn ôl i’r Awdurdodau Lleol unigol, · Roedd enw’r Gweithgor Tirlun a Chynllunio yn anghywir ac · Nid oedd unrhyw gyfeiriad at y Grŵp Twristiaeth. Cytunodd y Swyddog AHNE i ddiweddaru’r Siart Strwythur cyn iddo gael ei lofnodi. PENDERFYNWYD yn amodol ar y diwygiadau uchod a chynnwys y Cytundeb Cyfreithiol y dylid ei gymeradwyo a'i fabwysiadu gan y tri Chyngor partner. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD A CHYFLWYNIAD AR ASTUDIAETH GWERTHUSIAD YMWELWYR PDF 314 KB Derbyn adroddiad
(copi ynghlwm) a chyflwyniad gan David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil anhawster
wrth gael mynediad at y pecyn rhaglen cyn y cyfarfod a’r swm sylweddol o wybodaeth
oedd wedi ei chynnwys yn adroddiad yr ymgynghorydd, cytunwyd y byddai’r eitem
yn cael ei hailgyflwyno yng Nghydbwyllgor nesaf yr AHNE. Rhoddodd Uwch
Swyddog Cefn Gwlad yr AHNE (DS) gyflwyniad yn crynhoi canfyddiadau’r adroddiad.
Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar chwe prif safle ar draws yr AHNE a rhoddodd
ddadansoddiad o’r gwerth economaidd fesul safle fel: ·
Traphont Ddŵr y Waun - £3,574,797 ·
Parc Gwledig Loggerheads - £2,290,187 ·
Parc Gwledig Moel Famau - £4,648,031 ·
Panorama - £1,127,811 (gwariwyd yn Llangollen yn bennaf) ·
Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Basn Trefor -
£9,273,469 ·
Rhaeadr y Bedol a Lawnt Llantysilio - £3,156,015
(gwariwyd yn Llangollen yn bennaf). Roedd y chwe
safle’n cefnogi 449 o swyddi cyfwerth ag amser llawn a oedd yn 19% o’r holl swyddi
twristiaeth yn Sir Ddinbych wledig yn 2018 (nid oedd CBSW a CSyFf yn casglu
data ar ardaloedd gwledig. O safbwynt lles
a chyfraniad at lefel bodlonrwydd bywyd, ymatebodd 92% o drigolion a oedd yn
byw mewn/ ger yr AHNE yn gadarnhaol. Roedd ymwelwyr yn ymelwa o tua £8.8 miliwn
(gan ddefnyddio’r fethodoleg prisio lles), 6.5% yn uwch na chyfartaledd
cenedlaethol Cymru. Amcangyfrifwyd
bod y bendithion iechyd (ymarfer cardio a rheoli pwysau) a ddeilliwyd o gerdded
yn gyfystyr ag osgoi £38.1 miliwn o wariant ar iechyd ar faterion yn ymwneud â
chlefydau cardio fasgwlaidd a diabetes math 2. Roedd effaith
cymdeithasol ymwelwyr yn y safleoedd hyn yn cynnwys: ·
Tagfeydd traffig a gorlenwi, nododd y gymuned o amgylch
Rhaeadr y Bedol effaith negyddol. ·
Casglwyd 130 tunnell o ysbwriel. ·
Casglwyd 8.2 tunnell o faw cŵn yn Loggerheads, 4.7
tunnell yn Moel Famau. ·
Cost codi ysbwriel oedd £17,500. ·
Lladdwyd 14 o ddefaid gan gŵn dros y 3 blynedd
diwethaf. ·
Bu cynnydd o 30% mewn digwyddiadau Achub ar Fynydd,
achubwyd 9 yn 2018 yn unig. ·
Erydiad cefn gwlad, yn arbennig mewn ardaloedd cadwraeth
arbennig. Byddai’r
adroddiad yn cael ei ddefnyddio i greu cynllun gweithredu ar gyfer yr AHNE a
oedd yn cynyddu bendithion cymdeithasol ac economaidd ymwelwyr â’r safleoedd
hynny, a hefyd lleihau’r effaith amgylcheddol. Awgrymwyd o
ystyried y dystiolaeth o ran gwerth ariannol a bendithion iechyd ymwelwyr i
gerdded, byddai llythyr yn cael ei lunio ar gyfer Pennaeth Iechyd Cyhoeddus
Cymru, i geisio cymorth ariannol ar gyfer cynnal yr AHNE. Cynigiodd y Pwyllgor
i wneud hynny ar ôl i’r cyfarfod gael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD y dylid ychwanegu’r Adroddiad Astudiaeth Werthuso Ymwelwyr ar raglen cyfarfod Pwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar 22 Tachwedd 2019. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFLWYNIAD ADRODDIAD BLYNYDDOL AHNE Ystyried adroddiad gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE. Cofnodion: Rhoddodd y
Swyddog AHNE (HS) wybod i’r Pwyllgor bod yr AHNE yn rhan o gymdeithas
Genedlaethol a oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 75, roedd cynrychiolwyr wedi bod
yn bresennol yn y Gynhadledd Genedlaethol. Roedd AHNE yng
Nghymru, ac roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i wella eu proffil. Hoffai
Gweinidog Llywodraeth Cymru weld yr AHNE yn cael statws cyfartal â’r Parciau
Cenedlaethol. Roedd yn oes
newydd ar gyfer y Tîm Ein Tirwedd Darluniadol (OPL) ym Mhlas Newydd, gyda
chynllun gwaith newydd gan gynnwys: ·
mynediad
cymunedol i Blas Newydd; ·
Mynediad
i lwybr Trefor / Clincer at y gamlas; ·
gweithio
gyda grwpiau o bobl ifanc i ganfod beth oedd y Safle Treftadaeth y Byd yn ei
olygu iddynt; ·
cysylltu
â Scottish Power i ddisodli llinellau trydan uwch ben gyda cheblau tanddaearol
yn y Ponderosa a thua’r gogledd. ·
sefydlu
Natur er budd Iechyd; prosiect yn creu gerddi, lotments a gerddi cymunedol
cyfeillgar i wenyn. Hefyd
yn awyddus i weithio ar fannau gwyrdd sy’n eiddo i Denbighshire. Dyma rai o’r
meysydd gwaith sylweddol eraill o fewn yr AHNE: ·
archeolegwyr
yn edrych am dŵr hela yng Nghastell y Waun; ·
tirlunio
maes carafanau yng Ngharrog ·
defnyddio
Flailbot i drawslinio a chynnal llethrau serth (posibilrwydd o brynu un ar sail
gwario i arbed); ·
roedd
garej wedi ei adeiladu mewn modd sympathetig yn Nhremeirchion i gyd-fynd â’r
ffermdy; ·
Roedd
gwaith adfer y medrydd llwytho yn Sied Nwyddau Gallt Melyd ar fin dechrau a ·
Roedd
sgwâr Llangollen wedi ei gwblhau drwy ddefnyddio’r Cronfeydd Datblygu
Cynaliadwy, byddai rhagor o waith i fuddsoddi mewn priffyrdd a symudiadau
traffig yn dilyn. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth ddiweddaraf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUNIO A DATBLYGU PDF 298 KB Ystyried adroddiad gan Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog AHNE (HS) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn hysbysu’r
Pwyllgor fod nifer tebyg o geisiadau cynllunio wedi bod o’u cymharu â’r
flwyddyn flaenorol. Roed crynodeb o’r holl geisiadau cynllunio ynghlwm. Wrth drafod yr
adroddiad, nododd y Pwyllgor: ·
gwrthdaro
posibl rhwng twristiaeth a chynnal yr AHNE; ·
cynnydd
yn y ceisiadau am Bodiau Glampio; ·
yr
angen i geisiadau weddu i’r amgylchedd lleol; ·
pryder
y byddai gor-grynhoad o safleoedd campio yn gostwng y pris/ cost ac yn
effeithio ar yr incwm a gynhyrchwyd; ·
dylid
annog yn erbyn safleoedd sy’n derbyn deiliadaeth 100% gan eu bod yn cael
effaith negyddol ar ysgolion a chyfleusterau meddygol ac ati ac ·
roedd
safleoedd newydd a adeiladwyd yn haws i'w rheoli o safbwynt cynllunio na
safleoedd sefydledig. Cododd y
Cynghorydd Bobby Feeley (CSDd) bryderon ynghylch yr unedau cynhyrchu wyau
enfawr a oedd yn cael eu hadeiladu yn yr ardal. Er nad ydynt yn yr AHNE nid
ydynt yn cael effaith negyddol drwy fod o fewn golwg iddo. Awgrymwyd fod y
Cynghorydd Feeley yn codi’r mater gyda’r Cynghorydd Martyn Holland (CSDd) a
fyddai’n bresennol yng nghyfarfod y Gweithgor Tirwedd a Chynllunio (yn agored
i’r cyhoedd) yr wythnos ganlynol. PENDERFYNWYD nodi'r Adroddiad Blynyddol Cynllunio
a Datblygu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 380 KB Ystyried rhaglen gwaith i'r dyfodol diwygiedig (copi ynghlwm) gan Howard
Sutcliffe, Swyddog AHNE. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr yr AHNE (HS) y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a nododd y
prif eitemau ar y rhaglen. Nododd
HS hefyd bod angen iddynt ystyried Cynllun Twristiaeth yr AHNE gyda gweithgorau
partneriaeth Wrecsam a Sir y Fflint - yn
canolbwyntio ar y Cynllun Rheoli. PENDERFYNWYD: I.
y dylid ychwanegu’r adroddiad Astudiaeth
Werthuso Ymwelwyr i raglen cyfarfod y Pwyllgor ar 22 Tachwedd 2019 a II.
cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Y CYFARFOD NESAF
Cofnodion: Dywedodd yr Uwch
Swyddog Cyllid a Sicrwydd (POH) wrth y Pwyllgor fod y cyfarfod oedd wedi ei
drefnu ar gyfer 3 Gorffennaf 2020 yn rhy hwyr i gwblhau’r Datganiad Blynyddol. Cytunodd Swyddog
Cyfathrebu Bryniau Clwyd i ad-drefnu’r cyfarfod i ganiatáu cwblhau’r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad yn amodol ar y
dyddiadau uchod. |