Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Michelle
Blakeley-Walker, Brian Jones, Delyth Jones ac Elfed Williams. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2023
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2023 eu cyflwyno. Cywirdeb – Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chywirdeb y
cofnodion. Materion yn codi – Tudalen 10 - (Cofnodion) Eitem 8 - Adroddiad Blynyddol
drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2024 - 2025. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod yr
adroddiad blynyddol terfynol wedi cael ei dderbyn ym mis Chwefror oedd yn
cadarnhau’r cynigion a wnaed yn yr adroddiad drafft. Felly: PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod,
y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd
2023 fel cofnod cywir o’r trafodaethau. |
|
ARGYMHELLION Y GWEITHGOR ‘SUT CYNHELIR CYFARFODYDD’ PDF 239 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price (copi ynghlwm,
ar Argymhellion y Gweithgor ‘Sut Cynhelir Cyfarfodydd’. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi,
Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad i Aelodau (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad yn sôn am drefniadau’r
Cyngor ar gyfer cynnal ei gyfarfodydd ar lefel Aelodau. Roedd yr adroddiad yn
cynnwys argymhellion o’r Gweithgor. Diolchodd yr Aelod Arweiniol i’r swyddogion
a’r Gweithgor am eu gwaith caled ar yr adroddiad. Arweiniodd Rheolwr y Gwasanaethau
Democrataidd yr aelodau drwy'r adroddiad. Ychydig cyn etholiadau diwethaf y Cyngor,
gwnaeth gweinyddiaeth flaenorol y Cyngor benderfyniadau am sut y byddai
cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal.
Roedd hyn mewn ymateb i newidiadau yn ystod 2020 a 2021, cyfnod o
gyfnodau clo oherwydd y pandemig a arweiniodd at oedi cyfarfodydd wyneb yn
wyneb traddodiadol dros dro, newidiadau i’r gyfraith sy’n llywodraethu
cyfarfodydd penodol y Cyngor a chyfarfodydd pwyllgor, a’r datblygiadau
technegol a wnaed yn ystod y cyfnod hwnnw sydd wedi caniatáu i faterion gael eu
trafod gan ddefnyddio cyfarfodydd ar-lein neu gyfarfodydd hybrid. Ym mis Rhagfyr 2021, ystyriodd y Cyngor llawn
adroddiad ar “Gynigion i Aelodau fabwysiadu Ffyrdd Newydd o Weithio”. Roedd yr
adroddiad hwnnw’n amlinellu argymhellion a gytunwyd mewn grŵp tasg a
gorffen i Aelodau a gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn edrych
ar yr agenda Ffyrdd Newydd o Weithio, gan ganolbwyntio’n bennaf ar sut y dylai
cyfarfodydd Aelodau gael eu cynnal, a’r offer TGCh oedd ei angen ar
Aelodau. Roedd yr adroddiad a’r
drafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor yn ystyried pwyntiau o blaid cyfarfodydd
ar-lein a phwyntiau o blaid cyfarfodydd wyneb yn wyneb. O blaid cyfarfodydd ar-lein · Roedd y Cyngor
wedi datgan Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol. Nid yw cyfarfodydd ar-lein yn
arwain at allyriadau carbon a gynhyrchir pan fydd Aelodau a Swyddogion yn
teithio i leoliadau cyfarfodydd. · Gostyngiad o
ran costau teithio. · Gostyngiad o
ran amser a dreulir yn teithio i gyfarfodydd. · Gallai
cyfarfodydd ar-lein fod yn fwy hygyrch (gallai cyfranogwyr fynychu o le bynnag
maen nhw’n digwydd bod, ac mae’r amser wedi’i gyfyngu i amser y cyfarfod ei
hun) ac maen nhw’n debygol o hyrwyddo cyfranogiad mewn democratiaeth leol. O blaid
cyfarfodydd wyneb yn wyneb · Roedd rhai
Aelodau’n teimlo bod cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn eu galluogi i ymgysylltu’n
well â thrafodaethau a gallu dehongli awyrgylch cyfarfod neu iaith corff y
cyfranogwyr. · Roedd rhai
Aelodau’n gweld colli buddion cymdeithasol rhyngweithio’n uniongyrchol â’u
cyfoedion yn yr un lleoliad. · Gallai
problemau technegol effeithio ar y materion sy’n cael eu trafod neu gyfranogiad
y rhai sy’n cael problem dechnegol. Roedd y
Cyngor yn cydnabod na allai gynnal cyfarfodydd cyhoeddus o’i bwyllgorau
statudol fel cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Roedd newidiadau diweddar i’r gyfraith yng Nghymru yn ei gwneud yn
ofynnol i Awdurdodau Lleol gynnig presenoldeb o bell ar gyfer y cyfarfodydd
hynny, gan adael dewis o gyfarfod ar-lein neu gyfarfod hybrid. Yn ogystal â
phrif gyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor a phwyllgorau, mae Cynghorwyr yn cymryd
rhan mewn amrywiaeth o gyfarfodydd mewnol, i baneli a grwpiau a sefydlwyd gan y
Cyngor i ymgynghori ac ymgysylltu ag Aelodau ar bynciau penodol. Nid oedd y cyfarfodydd hyn dan ofynion
statudol y pwyllgorau cyhoeddus ac felly gallai’r Cyngor ddewis a fyddant yn
cael eu cynnal fel cyfarfodydd wyneb yn wyneb, ar-lein neu hybrid. Yn 2023, galwodd Arweinwyr Grŵp y Cyngor am ffurfio gweithgor aelodau newydd ar gyfer adolygu penderfyniadau 2021 drwy ystyried y fframwaith cyfreithiol a’r dewisiadau sydd ar gael er mwyn cyflwyno unrhyw argymhellion i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyngor llawn. Penderfynodd y gweithgor, sy’n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Julie Matthews, gyhoeddi arolwg (ynghlwm fel Atodiad 1 ac a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Cynghorwyr, aelodau lleyg a’r uwch dîm arweinyddiaeth. Bu i’r gweithgor hefyd ystyried arfer ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
POLISI’R CYNGOR AR HYFFORDDIANT AELODAU PDF 232 KB Ystyried
adroddiad am Bolisi’r Cyngor ar Hyfforddiant Aelodau (copi ynghlwm gan y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi,
Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol yr adroddiad i Aelodau. Croesawyd yr
adroddiad, a dylai hyfforddiant i Aelodau gael ei ystyried yn nodwedd
gadarnhaol o fod yn Gynghorydd. Fe arweiniodd Rheolwr y Gwasanaethau
Democrataidd yr aelodau drwy'r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Dechreuodd rhaglen o ymsefydlu, hyfforddiant
a datblygu i aelodau yn syth ar ôl etholiadau’r Cyngor ym mis Mai 2022. Mae’r
sesiynau a gyflwynwyd fel rhan o’r ymsefydlu cychwynnol i aelodau newydd a’r
rhai oedd yn dychwelyd, yn cynnwys hyfforddiant ar God Ymddygiad y Cyngor,
darpariaeth TGCh aelodau, ymgyfarwyddo â gwasanaethau, cydraddoldeb ac
amrywiaeth, diogelu a chyflwyniad i Graffu. Hyfforddiant Gorfodol a Dewisol Gallai’r Cyngor benderfynu dewis hyfforddiant
penodol i fod yn orfodol i’r holl aelodau, neu i aelodau sy’n gwneud
swyddogaethau penodol. Roedd mynychu o
leiaf un sesiwn hyfforddiant ar God Ymddygiad Aelodau yn ystod bob tymor llawn
yn hanfodol, gan fod y gofyniad wedi ei gynnwys yn y Cod Ymddygiad Aelodau.
Mae’r Cyngor wedi parhau i gynnal hyfforddiant gorfodol i aelodau’r Pwyllgor
Cynllunio, oherwydd y rôl lled farnwrol.
Cafodd hyfforddiant gorfodol a benderfynwyd gan y Cyngor blaenorol ei
amlinellu i aelodau. Ym mis Mehefin 2023, fe argymhellodd y
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd osod gofynion hyfforddiant gorfodol rhesymol
ar gyfer testunau a swyddi priodol.
Credai’r pwyllgor fod defnyddio ‘unwaith y tymor’ fel amserlen ar gyfer
cwblhau hyfforddiant gorfodol yn anaddas. Roedd y pwyllgor yn cefnogi rôl i
grwpiau gwleidyddol ac arweinwyr grwpiau i annog cydymffurfiaeth ag unrhyw
ofynion hyfforddi gorfodol ac yn cefnogi defnyddio cosbau priodol am fethu â
chydymffurfio. Ym mis Gorffennaf 2023 fe ystyriodd y Cyngor
llawn faterion hyfforddiant Aelodau, serch hynny nid oedd yn gallu cytuno ar
Bolisi Cyngor ar hyfforddiant gorfodol a chyfeiriodd hyfforddiant aelodau i
gael ei ystyried gan arweinwyr grwpiau a ofynnodd yn y diwedd bod arolwg yn
cael ei gyhoeddi i ganfod barn yr aelodau.
Cafodd canlyniadau’r arolwg, a agorwyd ym mis
Chwefror 2024 hyd at 8 Mawrth, ac oedd ar agor i Gynghorwyr, Uwch Swyddogion ac
Aelodau Lleyg eu hamlinellu i Aelodau (Atodiad 1 a ddosbarthwyd yn flaenorol). Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Gwasanaethau
Democrataidd am yr adroddiad. Fe awgrymodd y Cadeirydd y dylai
canlyniadau’r arolwg gael eu defnyddio i lywio penderfyniad y Pwyllgor. Cytunwyd y byddai pleidlais yn cael ei
chynnal ar gyfer pob testun o hyfforddiant.
Dyma oedd canlyniadau pleidleisiau’r Pwyllgor
- · Cadeirio
Cyfarfodydd - Gorfodol i Aelodau penodol · Newid
Hinsawdd/Argyfwng Ecolegol - Gorfodol i bawb · Cod Ymddygiad -
Gorfodol i bawb · Llywodraethu
Corfforaethol - Gorfodol i Aelodau penodol · Rhianta
Corfforaethol - Gorfodol i bawb · Diogelu Data -
Gorfodol i bawb · Cydraddoldeb/Amrywiaeth
- Gorfodol i bawb · Sipsiwn a
Theithwyr - Gorfodol i bawb · Iechyd a
Diogelwch - Gorfodol i bawb · Cyllid a Gosod
Cyllideb Llywodraeth Leol - Gorfodol i bawb · Trwyddedu -
Gorfodol i Aelodau penodol · Iechyd Meddwl a
Lles - Gorfodol i bawb · Data
perfformiad - Ddim yn orfodol · Pwyllgor
Cynllunio - Gorfodol i Aelodau penodol · Sgiliau holi -
Ddim yn orfodol · Diogelu -
Gorfodol · Ysgolion ac
Addysg - Ddim yn orfodol · Craffu -
Gorfodol i bawb · Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol - Gorfodol i bawb · Safonau’r
Gymraeg - Ddim yn orfodol Trafododd yr
Aelodau bwysigrwydd hyfforddiant Safonau’r Gymraeg ac fe eglurodd y Swyddog
Monitro fod yr hyfforddiant yma’n ymwneud â chynnwys y Gymraeg yng ngwaith y
Cyngor bob dydd, er enghraifft gohebiaeth yn Gymraeg y mae angen i’r Cyngor
gadw at hynny’n gyfreithiol, ac nid y Gymraeg a Diwylliant Cymru’n ehangach. Yna fe
soniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd am elfen sancsiynau’r
adroddiad. Roedd angen i Aelodau gytuno
ar y sancsiynau yr oeddynt yn dymuno eu cyflwyno i’r Cyngor. Trafododd yr Aelodau yr angen am sancsiynau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
TREFNIADAU CRAFFU RHANBARTHOL PDF 245 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynwyr Craffu ar Drefniadau Craffu Rhanbarthol (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau
Democrataidd, Steve Price, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad hwn yn darparu trosolwg
o’r trefniadau craffu amrywiol sydd ar waith ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu
cynnig, ar gyfer y cyrff gwasanaethau cyhoeddus rhanbarthol/is-ranbarthol sy’n
gysylltiedig yn uniongyrchol gydag Awdurdodau Lleol ar draws rhanbarth gogledd
Cymru. Gydag Awdurdodau Lleol yn ceisio cydbwyso
galw cynyddol am wasanaethau yn erbyn adnoddau sy’n lleihau, a hynny am y
dyfodol rhagweladwy, mae’n bosibl y bydd dulliau rheolaeth ranbarthol ar gyfer
darparu gwasanaethau cyhoeddus yn dod i’r amlwg. Yn ogystal, roedd Llywodraeth
Cymru (LlC) wedi cyfarwyddo y dylai meysydd penodol o ran darparu gwasanaethau
gael eu harwain gan gynlluniau rhanbarthol, a dyna pam y penderfynodd sefydlu
Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae’r ffactorau hyn yn atgyfnerthu’r angen i Awdurdodau
Lleol fod â threfniadau craffu cadarn ar waith i ddiogelu darpariaeth
gwasanaethau o ansawdd uchel, wedi’u cydlynu’n rhanbarthol, yn eu hardaloedd
lleol. Fe amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd y Byrddau a Gwasanaethau oedd yn gweithredu ar ôl-troed
rhanbarthol neu is-ranbarthol. Yn debyg
i awdurdodau eraill, cyfrannodd Sir Ddinbych at waith y cyrff hyn. Roedd gan Bwyllgorau Craffu’r Awdurdod Lleol
rôl bwysig i’w chwarae wrth ymgysylltu ag aelodau a’r cyhoedd o ran darparu
gwasanaethau rhanbarthol ac wrth ddarparu her a mesurau atebolrwydd lle bo
angen. Tynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
sylw at yr esboniadau yn yr adroddiad o drefniadau presennol Sir Ddinbych gyda
phob Bwrdd ynghyd â manylion am bwrpasau bob un. Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd am yr adroddiad a mynegodd y Pwyllgor ei
werthfawrogiad am y wybodaeth a
ddarparwyd yn yr adroddiad. Tynnodd yr Aelodau sylw at ddryswch posibl am
bwrpas bob Bwrdd a’u lefel o ymgysylltu o ran gweithio gyda Sir Ddinbych. Roedd Aelodau’n credu y byddai darparu
Gweithdy Cyngor i bob aelod yn ddefnyddiol. Fe eglurodd y Swyddog Monitro ymhellach beth
oedd y gwahaniaethau rhwng byrddau darparu rhanbarthol ac is-ranbarthol a
dywedodd yn sgil yr hinsawdd ariannol, y byddai gwaith partneriaeth yn hanfodol
yn y dyfodol. Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a
dywedodd y byddai gweithdy i bob Aelod yn fanteisiol er mwyn cynorthwyo â
dealltwriaeth bellach o sgôp y trefniadau craffu oedd ar waith a’r effaith y
gallai hyn ei gael o fewn ardaloedd ward.
PENDERFYNWYD: bod Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yn argymell bod gweithdy i bob Aelod yn cael ei
gynnal ar sut y mae darpariaeth ranbarthol o wasanaethau’n cael eu trefnu a’u
craffu, a sut mae trefniadau rhanbarthol yn effeithio ar Sir Ddinbych. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Steve Price, ar Raglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor a materion cysylltiedig (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd y Rhaglen Waith i’w hystyried. Roedd tair eitem wedi’u rhestru ar gyfer
cyfarfodydd pwyllgor mis Medi · Archif ar gyfer
Gweddarllediadau · Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) · Cynllun
Deisebau Cafodd
Aelodau eu hannog i gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd os hoffent i
unrhyw eitem gael eu hystyried ar gyfer y Rhaglen Waith. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Rhaglen
Waith y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Daeth y
cyfarfod i ben am 12.03PM |