Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes
Eitemau
Rhif Eitem

DALIWCH SYLW

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Leol wahoddiad i arsylwi hefyd.

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Joe Welch.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Joe Welch.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n rhaid i bob aelod ddatgan cysylltiad personol yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, gan ei fod yn pennu cyflogau’r Cyflogwyr.

Datganodd bob Cynghorydd oedd yn bresennol gysylltiad personol yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020/21.

 

Cofnodion:

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai gan bob un o’r aelodau gysylltiad personol ag eitem rhif 7 ar y rhaglen – Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Cymru 2020/2021, gan ei fod yn penderfynu ar gyflog Cynghorwyr. Nid oedd hyn yn cael ei ystyried fel cysylltiad sy'n rhagfarnu o dan y cod ymddygiad.

Datganodd bob Cynghorydd oedd yn bresennol gysylltiad personol yn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020/21.

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod

fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

                           

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 357 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 04 Hydref 2018 (copi ynghlwm).

 

Penderfyniad:

Dywedodd y Cynghorydd Rachel Flynn ei bod wedi anfon ei hymddiheuriadau i’r cyfarfod blaenorol ond nad oeddynt wedi cael eu cofnodi. Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal. Felly:

Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 04 Hydref 2019 fel cofnod cywir.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 04 Hydref 2019 i’w cymeradwyo.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rachel Flynn ei bod wedi anfon ei hymddiheuriadau i’r cyfarfod blaenorol ond nad oeddynt wedi cael eu cofnodi. Felly:

 

Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 04 Hydref 2019 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYNLLUN ADFERIAD COVID-19 AR GYFER Y GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 224 KB

I dderbyn adroddiad am Gynllun Adferiad Covid-19 ar gyfer y Gwasanaethau Democrataidd (copi'n amgaeedig).

 

Penderfyniad:

 

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Mynegodd aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad. Y Pwyllgor:

 

PENDERFYNODD:- yn amodol ar yr arsylwadau uchod, cefnogi’r cynllun adfer ar gyfer trefniadau democrataidd, fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) a rhoddodd gefndir cryno ar y gwaith a gyflawnwyd yn ystod pandemig Covid-19. Amlygwyd bod pawb ynghlwm wedi gweithio yn hynod o galed i gynnal gwasanaethau lle bynnag bosibl. Darparwyd eglurdeb ar y penderfyniadau a wnaed gan ddefnyddio’r pwerau argyfwng. Roedd gan yr Arweinydd y pŵer i wneud penderfyniad a fyddai wedi gorfod cael ei wneud mewn cyfarfod Cabinet fel arall. Dim ond dwywaith y mabwysiadwyd y broses penderfyniad dirprwyedig, ac roedd aelodau'r Cabinet wedi gweld yr adroddiadau cyn i'r penderfyniad gael ei wneud.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd, hyd yn hyn yr unig ddull o gynnal cyfarfodydd gyda gwasanaethu cyfieithu ar y pryd oedd trwy’r llwyfan Zoom. Cadarnhawyd bod y gwaith i weithredu Zoom ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus yn mynd rhagddo. Cafodd yr aelodau wybod am faterion technegol a ddigwyddodd i ddiweddaru Siambr y Cyngor er mwyn cynnal cyfarfodydd hybrid, ac i’r cyfarfodydd hynny gael eu gweddarlledu. Cadarnhawyd bod nifer o gyfarfodydd wedi ailddechrau gydag amserlen llawn o gyfarfodydd o fis Medi 2020.

 

Diolchodd yr aelodau i’r Aelod Arweiniol a swyddogion am y wybodaeth a ddarparwyd yn ystod y drafodaeth a chodwyd y pwyntiau canlynol:

 

  • Cyn pandemig Covid-19 roedd y gyfraith yn datgan bod cyfarfodydd hybrid yn caniatáu i 70% o aelodau fynychu o bell cyhyd a bod 30% o aelodau yn mynychu yn yr ystafell gyfarfod a bod pawb yn gallu cael eu gweld a’u clywed. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus erioed i Gynghorau lleol gynnal cyfarfodydd o bell. Mae’r rheoliadau hyn wedi cael eu llacio yn ystod y pandemig gan ddatgan y gall Awdurdodau Lleol gynnal cyfarfodydd yn gyfan gwbl o bell. Roedd disgwyl rheoliadau a chanllawiau pellach.
  • Roedd yr aelodau yn teimlo bod cyfathrebu gydag arweinwyr grŵp yn ystod y pandemig wedi gweithio’n dda. Gydag arweinwyr grŵp yn rhannu gwybodaeth a sylwadau i aelodau mewn cyfarfodydd grŵp wythnosol, ar gyfer unrhyw adborth i’r Cabinet.
  • Roedd yr holiadur yn gofyn am adborth ar gyfarfodydd o bell wedi cau, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n gweld os oedd modd ail-agor yr holiadur i’r rhai nad oedd wedi ei gwblhau. Byddai’r gweithgor yn archwilio’r adborth o holiaduron aelodau.
  • Roedd y Cyngor wedi cytuno cynnal cyfarfodydd Zoom ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus gyda’r angen am gyfieithu ar y pryd yn unig, unwaith bod modd gwneud hynny. Roedd Awdurdodau eraill wedi cynnal cyfarfodydd Zoom heb lawer o broblemau. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataid bod y bwriad i gyfieithu a darlledu cyfarfodydd yn gyhoeddus yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
  • Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n anfon e-bost i’r aelodau gydag aelodaeth lawn y gweithgor. Gofynnwyd am enwebiadau gan grwpiau trwy'r arweinwyr grŵp.
  • Byddai gweithio o bell o fantais i allyriadau carbon ac ôl troed Sir Ddinbych.

 

Diolchodd yr aelodau i swyddogion am yr ymatebion manwl i bryderon a chwestiynau a godwyd gan aelodau. Felly,

 

PENDERFYNWYD, bod yr aelodau yn nodi'r cynllun adfer a'r trefniadau democrataidd a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGORAU CRAFFU'R CYNGOR 2019/2020 pdf eicon PDF 232 KB

Derbyn adroddiad blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar eu gweithgareddau yn ystod 2019/20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn. Felly:

 

PENDERFYNWYD:- Bod y Pwyllgor Gwasanaethu Democrataidd yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2019/20.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu, y Cynghorydd Graham Timms yr adroddiad (rhannwyd yn flaenorol), i geisio sylwadau aelodau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Blynyddol.   

Nodwyd bod yr adroddiadau blynyddol blaenorol wedi amlygu meysydd allweddol o waith craffu. Amlygwyd bod yr adroddiad blynyddol hwn yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar waith bob pwyllgor Craffu.

Cafodd yr aelodau wybod am nodwedd newydd o fewn yr adroddiad. Roedd yr adran hon yn canolbwyntio ar y gwaith Craffu a gwblhawyd yn gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol. Dywedodd Cadeirydd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu bod hyn wedi cael ei dderbyn yn gadarnhaol gyda’r grŵp ac yn dangos y gwaith pwysig a wneir gan Graffu.

Cyfeiriwyd yn benodol i’r diweddar Gynghorydd Huw Jones o fewn yr adroddiad, gan dalu teyrnged i’w ymrwymiad i'w waith Cyngor. Nodwyd diolchiadau i’r Cynghorydd Hugh Irving am gadeirio’r Pwyllgor Craffu Perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd adroddiad ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ei gynnwys a oedd yn pwysleisio'r anawsterau o ran trefnu’r cyfarfodydd hyn. Y gobaith oedd y byddai'r cyfarfodydd hyn yn parhau ac yn datblygu dros y flwyddyn nesaf. Eglurodd Cadeirydd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu bod adroddiadau cryno ar y grwpiau tasg a gorffen a’u canfyddiadau, Adroddiadau Craffu Archwilio Cymru ac ymgysylltu â'r gymuned wedi eu cynnwyd yn yr adroddiad cyffredinol.

Roedd aelodau eisiau diolch i’r Cydlynydd Craffu am yr amser, ymrwymiad a’r gwaith caled wrth gwblhau’r adroddiad a’r trefniadau craffu parhaus.

 

Pwysleisiodd y Cydlynydd Craffu ar yr anhawster o ran trefnu cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu. Cadarnhawyd bod cyfarfod wedi’i drefnu ym mis Tachwedd i’w gynnal o bell. Gobeithiwyd y byddai'r dull hwn yn ei gwneud yn haws i aelodau fynychu.

 

Yn ystod y drafodaeth, atgoffwyd yr aelodau mai rôl Craffu oedd cynorthwyo a herio’r Cabinet a’r penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet a swyddogion. Roedd yr aelodau’n teimlo bod gwaith Craffu yn bwysig iawn. Pwysleisiodd Cydlynydd Craffu bod y Grwpiau Tasg a Gorffen wedi dylanwadu polisïau a gweithdrefnau o fewn y Cyngor.   

Eglurwyd bod gan y cyfarfodydd ffurfiol cyn pandemig Covid-19 rwymedigaeth i gyhoeddi rhaglenni a phapurau cyn y cyfarfod. Roedd rhai i’r cyfarfodydd ffurfiol gael eu gwneud yn hygyrch i’r cyhoedd. Atgoffwyd y pwyllgor bod Safonau’r Gymraeg yn Sir Ddinbych yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarfodydd cyhoeddus hwyluso cyfraniadau dwyieithog gyda chyfieithydd. Hyd nes i’r cyngor fod mewn safle i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus eto, roedd yr adroddwr democratiaeth lleol yn cael ei wahodd i fynychu cyfarfodydd pwyllgor a Chyngor.

Darparwyd cadarnhad gan y Cydlynydd Craffu bod y grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion wedi adolygu'r Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol o adroddiadau. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw adroddiadau wedi cael eu tynnu yn sgil pandemig Covid-19.

Roedd yr aelodau yn falch o glywed wrth i bawb ddod yn fwy cyfarwydd â chyfarfodydd o bell, y byddai'r briffiau rhag-gyfarfod ar gyfer aelodau craffu yn ailddechrau.  

 

PENDERFYNWYD, bod y Pwyllgor Gwasanaethu Democrataidd yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu ar gyfer 2019/20.

Members were pleased to hear that as familiarity with remote meetings grew the pre-meeting briefings for Scrutiny members would recommence. 

 

Ar y pwynt hwn (11.35 a.m.) cafwyd egwyl o 15 munud.

 

 

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.50 a.m.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2020 / 2021 pdf eicon PDF 214 KB

Derbyn adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y ‘Panel’) ar gyfer 2020/21 (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gofynnodd yr aelodau bod rhagor o waith yn cael ei gynnal ar ddyrannu uwch gyflogau a chyflwyno’r gwaith yn ôl i’r pwyllgor yn ddiweddarach. Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn. Felly:

 

PENDERFYNWYD -

 

     I.        Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodi penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21 mewn perthynas â thalu cyflogau sylfaenol, uwch a dinesig a thaliadau i aelodau cyfetholedig.

 

    II.        Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodiadau lefel y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i aelodau i ymgymryd â'u dyletswyddau, o ran 'Penderfyniadau' 9 a 10 yr Adroddiad Blynyddol.

 

  III.        Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn i'r Grŵp 'Ffyrdd Newydd o Weithio' edrych ar ddyrannu uwch gyflogau ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ddiweddarach.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) oedd yn ymwneud ag adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2020/21.

 

Roedd yn ofynnol i'r Panel gynhyrchu adroddiad blynyddol yn nodi lefelau tâl yr aelodau ar gyfer gwahanol ddyletswyddau a chyfrifoldebau ar gyfer blwyddyn y Cyngor. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Chwefror 2020. Cadarnhawyd bod y Panel wedi penderfynu darparu cynyddiad o £350 i bob cynghorydd heb unrhyw gynyddiadau ychwanegol tu hwnt i'r hyn a dalwyd i ddeiliaid cyflogau uwch yn 2020.

Roedd gan Gyngor Sir Ddinbych gap o 17 o gyflogau uwch y gellid eu talu. Roedd y Panel wedi gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i roi sylw penodol i Benderfyniad 9 a 10 o fewn yr adroddiad blynyddol. 

 

Trafododd yr aelodau'r meysydd canlynol yn fanylach:

 

  • Roedd y cyflog uwch a ddarparwyd i arweinydd y grŵp yr wrthblaid fwyaf yn gyflog roedd rhaid i’w awdurdod ei wneud. Cododd rhai aelodau bryderon nad oedd arweinwyr y pleidiau eraill yn derbyn yr un gydnabyddiaeth ariannol ag arweinydd yr wrthblaid fwyaf. Gofynnodd aelodau i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd roi adborth i'r Panel am eu pryderon o ran y gofyniad cyfreithiol i gynnig cyflog i Arweinydd yr wrthblaid fwyaf ac nid i arweinwyr y pleidiau eraill. Gofynnwyd am eglurhad a rhesymeg gan y Panel.
  • Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Ddinbych 2 Gyflog Uwch ar gael. Cafwyd cadarnhad bod y penderfyniad o ran pwy oedd yn derbyn y rolau cyflogau uwch yn benderfyniad y Cyngor Llawn.  
  • Teimlai aelodau bod angen gofal wrth edrych ar ddyraniad Cyflogau Uwch i aelodau. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd sut oedd y dyraniad cyfredol o gyflogau uwch yn cael eu dyrannu.
  • Roedd yr agwedd amrywiaeth yn yr adroddiad yn bwysig.  Darparwyd cadarnhad bod gan Lywodraeth Cymru gynllun gweithredu ar gyfer amrywiaeth o fewn cynrychiolaeth awdurdod lleol.
  • Credai’r aelodau bod cysylltiad band eang da yn hanfodol. Gyda chyflwyniad y cyfarfodydd o bell, roedd yn hanfodol cael cysylltiad rhyngrwyd da er mwyn galluogi aelodau i gael mynediad at gyfarfodydd.  Adroddodd y Panel nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael i gefnogi technoleg, dyfeisiau a chysylltiad band eang ychwanegol. Roedd y problemau hyn angen cael eu datrys gan awdurdodau lleol unigol.
  • Gofynnodd yr aelodau i'r dyraniad o daliadau cyflogau uwch gael eu hadolygu gan ffyrdd newydd y gweithgor. Byddai unrhyw waith a wneir gan y gweithgor yn cael ei gyflwyno yn ôl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Teimlodd y Cynghorydd Timms bod y penderfyniad i adolygu cyflogau’r uwch aelodau yn benderfyniad ar gyfer y Cyngor nesaf nid yr aelodau presennol, nid oedd yn cytuno bod angen i’r gweithgor adolygu’r trefniadau presennol.    

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD,

  1. bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodi penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21 mewn perthynas â thalu cyflogau sylfaenol, uwch a dinesig a thaliadau i aelodau cyfetholedig.
  2. Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried lefel y gefnogaeth a roddir i aelodau i ymgymryd  â’u dyletswyddau, o ran ‘Penderfyniadau’ 9 a 10 yr Adroddiad Blynyddol.
  3. Bod cais yn cael ei wneud i ffyrdd newydd y gweithgor i edrych ar ddyraniad y cyflogau uwch ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor hwn.

 

8.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL A PHENODI CADEIRYDDION Y PWYLLGORAU CRAFFU pdf eicon PDF 213 KB

Derbyn yr adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol a phenodi Cadeiryddion Craffu (copi'n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn. Felly:

 

Penderfynwyd:- Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried safle cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer dyrannu seddi pwyllgor.

 

 

Cofnodion:

Arweiniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr aelodau trwy’r adroddiad (rhannwyd yn flaenorol), gan gyflwyno manylion aelodaeth ar gyfer bob pwyllgor.  Amlygodd bod y pwyllgorau angen cynrychiolaeth o'r grwpiau i gwblhau eu aelodaeth.

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriodd yr aelodau at newidiadau diweddar i aelodaeth craffu oedd eu hangen o’r newidiadau i aelodaeth grwpiau gwleidyddol.  Nodwyd bod y newidiadau i aelodaeth y  grŵp wedi arwain at newid mewn cydbwysedd gwleidyddol a oedd yn effeithio pwyllgorau a grwpiau penodol.

Rhoddwyd pwyslais ar yr anawsterau penodol a brofwyd gan y grwpiau gwleidyddol. Cyfeiriwyd yn benodol at yr anawsterau a wynebwyd o ran aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio yn sgil rheoliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â wardiau aml-aelodau. Cadarnhawyd y byddai’r arweinwyr ac aelodau’r grŵp yn trafod ac yn cytuno ar aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio lle roedd 2 aelod o’r un ward wedi datgan diddordeb i fod yn rhan o’r pwyllgor.

Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod pryderon y pwyllgor yn cael eu codi i'r arweinwyr grŵp er mwyn ystyried aelodaeth y pwyllgorau gyda phwyslais penodol ar aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio. Cytunodd yr aelodau y dylai’r pryderon gael eu codi gyda’r arweinwyr grŵp.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad, a dywedodd ei fod yn gynhwysfawr ac yn ddefnyddiol iawn. Felly,

 

PENDERFYNWYD, bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodi’r adroddiad ar safle cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer dyrannu seddi pwyllgor. Cytunwyd y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd yn gofyn i arweinwyr adolygu aelodaeth gyfredol y Pwyllgor Cynllunio.

 

9.

AMSERLEN BWYLLGORAU 2021 pdf eicon PDF 207 KB

Derbyn adroddiad sy’n cynnwys amserlen ddrafft pwyllgorau ar gyfer 2021 (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws. Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Nododd holl aelodau’r Pwyllgor eu bod o blaid yr argymhelliad, ni nododd unrhyw un eu bod yn erbyn ac ni nododd unrhyw un eu bod yn dymuno ymatal.

 

Penderfynodd y Pwyllgor: - Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn argymell wrth y Cyngor Llawn y dylid cymeradwyo’r amserlen bwyllgorau drafft ar gyfer 2021.

 

Cofnodion:

Arweiniodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr aelodau trwy'r amserlen Bwyllgorau arfaethedig ar gyfer y gylched cyfarfodydd nesaf (rhannwyd yn flaenorol) Diolchodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i’r Clerc Pwyllgor, Kath Jones am gynhyrchu’r amserlen arfaethedig.

 

Cafodd yr aelodau wybod y byddai’r amserlen yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn ar gyfer cymeradwyaeth. Glynwyd at y cytundebau blaenorol ar ddatblygiad yr amserlen lle bynnag bosibl. Roedd y toriad ym mis Awst wedi cael ei gynnwys yn ôl y blynyddoedd blaenorol. Y Cyngor Llawn oedd â’r penderfyniad i newid y gylched o gyfarfodydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd a’r aelodau i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd a’r staff Pwyllgorau am y gwaith oedd wedi ei gyflawni i baratoi’r adroddiad. Felly,

 

PENDERFYNWYD, bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn argymell y dylid cymeradwyo’r amserlen bwyllgorau ar gyfer 2021 i’r Cyngor llawn.

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL

I ystyried adroddiad llafar gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.

 

Penderfyniad:

 

Roedd cytundeb ar yr argymhelliad trwy gonsensws.

Ni chymerwyd pleidlais ffurfiol. Felly:

 

PENDERFYNWYD – nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad llafar ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor.

 

Cafodd yr aelodau wybod bod y rhaglen waith heb ei lenwi eto, ond byddai’n cael ei lenwi ar ôl i'r Cyngor llawn gymeradwyo'r amserlen ar gyfer cyfarfodydd 2021.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad ar lafar.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:45 p.m.