Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Rachel Flynn, Hugh Irving, Alan James, Graham Timms, Gwyneth Kensler, Christine
Marston, Joan Butterfield a Joe Welch gysylltiad personol ag eitem 5 ar y
rhaglen – adroddiad blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
2018/19. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Dim materion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 375 KB Cael cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 31 Mawrth 2017
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 13
Mawrth 2015 i’w cymeradwyo. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a
gynhaliwyd ar 31 Mawrth, 2017 fel cofnod cywir.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2018/19 PDF 276 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ar fersiwn
ddrafft Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar
Gydnabyddiaeth Ariannol 2018/19 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yn ofynnol
i'r Panel gynhyrchu adroddiad blynyddol yn nodi lefelau tâl yr aelodau ar gyfer
gwahanol ddyletswyddau a chyfrifoldebau ar gyfer y flwyddyn ddinesig.
Cyflwynwyd yr adroddiad drafft i’r Pwyllgor am sylwadau. Mae'r Panel wedi penderfynu cynnig cynnydd yn y
lwfans blynyddol sylfaenol ar gyfer aelodau i £13,600 ar gyfer blwyddyn
ddinesig 2018/2019. Gofynnwyd am farn yr Aelodau ar yr adroddiad
blynyddol drafft ac ymateb y pwyllgor i ymarfer ymgynghori Panel Annibynnol
Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: Ø
Cefnogaeth ffôn -
roedd ardaloedd gwledig yn cael anhawster i dderbyn signal symudol felly roedd
yn rhaid iddynt ddibynnu ar linellau ffôn tir. Nododd yr
Aelodau fod amrywiaeth o becynnau ar gael yn eang ar gyfer ffonau symudol a
llinellau tir a oedd yn galluogi galwadau am ddim neu negeseuon testun digonol
i'w defnyddio gan aelodau ar fusnes y Cyngor a’r etholaeth heb unrhyw gostau
ychwanegol i'r aelodau. Felly, teimlai'r Pwyllgor nad oedd angen ffonau
symudol gan Gyngor Sir Ddinbych. Ø
Cynnydd i lwfans
cynghorwyr Tref/ Dinas a Chymuned - Roedd gan lawer o gynghorau cymuned bach
gyllideb fach. Teimlai'r Aelodau y byddai cynnydd i'r lwfans mewn
rhai achosion yn cynrychioli cyfran fawr o braeseptau rhai cynghorau bach ac
ychwanegu pwysau ar gynghorau lleol. Fodd bynnag, cydnabu'r Pwyllgor y
dylai hyn fod yn fater i'r cynghorau tref a chymuned. Ø
Darparwyd
hyfforddiant i'r aelodau - Trafododd yr aelodau hyfforddiant a arweiniwyd gan
swyddogion allanol a mewnol, arsylwyd y manteision o dderbyn y ddau fath o
hyfforddiant. Ystyriwyd bod hyfforddiant yn elfen hanfodol i
Gynghorwyr Sir. Ø
Gwelwyd gwahaniaeth
barn ymysg aelodau o ran y cynnydd arfaethedig y Panel yn y cyflog sylfaenol i
aelodau. Mewn ymateb i drafodaeth y
pwyllgor, hysbysodd y RhGD yr aelodau y byddai ymateb i adroddiad drafft Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac y byddai ymgynghoriad yn cael ei
ffurfio i gynnwys y pwyntiau allweddol a godwyd. Wedi’i
gynnwys yn hyn byddai gwahaniaeth barn y Pwyllgor o'r Panel ynglŷn â
darparu cymorth ffôn gan y Cyngor a'r farn gymysg o fewn y Pwyllgor o ran y
cynnydd yn y cyflogau sylfaenol. Cyhoeddir adroddiad terfynol
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn gynnar yn 2018 gydag
adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor. PENDERFYNWYD bod y
Pwyllgor Gwasanaeth Democrataidd: (a) (a) Yn nodi'r penderfyniadau drafft yn
adroddiad blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru Ar Gydnabyddiaeth
Ariannol ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019; (b) b) Hysbysu'r
Panel fel rhan o'i ymgynghoriad ar benderfyniadau drafft, o farn y Pwyllgor ar
y lefel briodol o ddarpariaeth teleffoni a ddarperir gan y Cyngor ar gyfer
aelodau fel yr amlinellir yn y cofnodion uchod; a (c) (c) Hysbysu'r Panel o'r farn a fynegwyd gan y
Pwyllgor mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn lefel y cyflog sylfaenol.
|
|
ARCHWILIO’R BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS YN Y DYFODOL PDF 383 KB Ystyried
adroddiad oddi wrth y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ar y
gofynion statudol sy’n ymwneud â gwaith archwilio’r awdurdod lleol ar y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (RhGD) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol). Hysbysodd y RhGD wrth y Pwyllgor
fod fersiwn o'r adroddiad hwn wedi'i gyflwyno i'r Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Archwilio ar 12 Hydref. Roedd aelodau'r Grŵp wedi
mynegi ystod o farn ar rinweddau ffurfio Cydbwyllgor Archwilio gyda Chyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy i graffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC). Esboniodd
RhGD bod yr adroddiad i drafod barn yr aelodau cyn datblygu cynigion i sefydlu
pwyllgor archwilio ar y cyd. Dywedodd y byddai sefydlu cydbwyllgor yn benderfyniad
i'r Cyngor llawn. Hysbysodd y Pennaeth Gwasanaethau
Adnoddau Dynol, Cyfreithiol a Democrataidd yr aelodau y byddai'r cydbwyllgor yn
gytundeb rhwng Sir Ddinbych a Chonwy. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau: Ø
Presenoldeb yng
nghyfarfodydd BGC - hysbyswyd yr aelodau y byddai'r cyfarfod BGC nesaf yn
agored i'r cyhoedd yn dilyn penderfyniad gan y BGC ym mis Medi i gynnal
cyfarfodydd agored a chaniatáu mynediad i bob dogfen gyfarfod BGC nad yw'n
gyfrinachol. Anogodd y Cadeirydd yr aelodau i fynychu os oedd ar
gael. Ø
Maint y Pwyllgor -
eglurodd y RhGD y byddai maint pwyllgor archwilio ar y cyd yn fater i'w gytuno
rhwng Sir Ddinbych a Chonwy. Ø
Amserlen - Roedd yr
Aelodau'n bryderus y byddai'n rhaid gwneud penderfyniad yn gyflym. Sicrhaodd y
RhGD yr aelodau nad oedd amserlen ac nid oes dyletswydd i gytuno i gydbwyllgor. Ar hyn o
bryd, roedd y Cyngor yn cydymffurfio â gofynion statudol ar gyfer archwilio’r
BGC. Holodd y RhGC a fyddai aelodau'n
teimlo y byddai mwy o ymchwiliad yn fuddiol. Byddai gwaith
yn cael ei wneud tuag at gynnig i adrodd i'r Cyngor llawn pe bai'r cynnig yn
ymddangos i fod â chefnogaeth yr aelodau etholedig. Byddai
adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Mawrth y
Gwasanaethau Democrataidd. Diolchodd y Cadeirydd i'r RhGD
a’r cydlynydd archwilio am yr adroddiad a’r eglurhad i bryderon yr aelodau. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Gwasanaeth Democrataidd: Yn derbyn yr adroddiad, nodi ei gynnwys ac yn cymeradwyo ymgymryd â gwaith archwilio pellach ar sefydlu pwyllgor archwilio ar y cyd; a (b)Cynnwys
adroddiad diweddaru yn y Rhaglen Waith i'r Dyfodol i'w gyflwyno i'r Pwyllgor
yng nghyfarfod Mawrth 2018.
|
|
YMGYNGHORIAD AR DDIWYGIO ETHOLIADOL PDF 273 KB Cael adroddiad er
gwybodaeth oddi wrth y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) ar
ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd (PGCADD) yr aelodau drwy'r adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol). Eglurodd y PGCADD wrth yr
aelodau am ddarpariaethau Deddf Cymru 2017 ar faterion etholiadol a chofrestru
a ddaeth i rym yn 2018. Yn ystod y
drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: Ø
Dull pleidleisio –
cyflwynwyd syniadau i newid y ffordd y gallai unigolion bleidleisio gan gynnwys
pleidleisio electronig. Trafodwyd pleidleisio electronig gan fod gwaith yn
cael ei wneud i edrych ar hyn yn y dyfodol. Trafododd yr
Aelodau bwysigrwydd cadw gonestrwydd y bleidlais yn flaenoriaeth. Ø
Y gofyniad i
ddangos ID wrth bleidleisio - mynegwyd pryderon y gallai hyn achosi dirywiad yn
nifer yr unigolion sy'n pleidleisio gan nad oes gan rai ohonynt ffurf adnabod
dilys. Hysbysodd y PGCADD y Pwyllgor y byddai gofyn am ID
yn cael ei gyflwyno am gyfnod prawf yn Lloegr yn 2018. Ø
Cofrestriad
awtomatig i bleidleisio yn 16 oed - Teimlwyd pan oedd pobl yn 16 oed ac yn cael
eu rhif Yswiriant Gwladol, byddai cofrestru awtomatig i bleidleisio yn
fanteisiol. Diolchodd y Cadeirydd i'r PGCADD am ddarparu gwybodaeth fanwl ynglŷn â'r
Ymgynghoriad Diwygio Etholiadol. PENDERFYNWYD bod y
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn derbyn yr adroddiad Ymgynghoriad ar
Ddiwygio Etholiadol a nodi ei gynnwys.
|
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 250 KB Ystyried rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Cynllun Gwaith i’r Dyfodol. Hysbysodd yr
Aelodau os oeddent am ychwanegu eitemau at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, dylent
gysylltu ag ef yn uniongyrchol. PENDERFYNWYD fod Aelodau yn gwneud nodyn o'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12:15p.m |