Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1B, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n
rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o
faterion y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: ☻Ni
chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod
fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
Cael cofnodion
cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar: - (a) 28 Tachwedd, 2014 (copi ynghlwm). (b) 13 Mawrth, 2015 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (a)
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2014 i’w cymeradwyo. Cadarnhaodd
Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd na fyddai'r cofnodion yn cael eu cadarnhau
yn y cyfarfod hwn oherwydd y cworwm yn y Pwyllgor. PENDERFYNWYD:- yn amodol ar
eu cadarnhau yn y cyfarfod nesaf, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod
cywir. (b)
Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 13
Mawrth 2015 i’w cymeradwyo. Cadarnhaodd
Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd na fyddai'r cofnodion yn cael eu cadarnhau
yn y cyfarfod hwn oherwydd y cworwm yn y Pwyllgor. PENDERFYNWYD:- yn amodol ar
eu cadarnhau yn y cyfarfod nesaf, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod
cywir. |
|
DATBLYGU ARCHWILIO YN SIR DDINBYCH PDF 95 KB Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd a’r Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) ar y cynnydd
hyd yma wrth ddatblygu a gwella swyddogaeth archwilio'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ☻Roedd
adroddiad ar y cyd gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (RhGD) a Chydlynydd
Archwilio (CA), a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed o ran datblygu
swyddogaeth archwilio’r Cyngor i gefnogi'r gwaith o gyflawni ei flaenoriaethau
corfforaethol a’i wella yn unol â gweledigaeth rheolyddion er mwyn craffu ar
draws Cymru, wedi cael ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y RhGD yr adroddiad ac eglurodd fod y Pwyllgor eisoes wedi
ystyried adroddiad ar sut i ddatblygu archwilio yn Sir Ddinbych er mwyn sicrhau
ei fod yn gweithio’n fwy effeithlon ac effeithiol, oedd yn canolbwyntio ar
gefnogi cyflawni'r Cynllun Corfforaethol ac ychwanegu gwerth at y broses o
wneud penderfyniadau. Fe
ddarparwyd dolen i'r adroddiad. Nod y cynigion a gyflwynwyd oedd mynd i’r afael ag argymhellion a wnaed yn
adroddiad cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ym mis Mai 2014 ar
archwilio yng Nghymru, Craffu Da? Cwestiwn da! Mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru fe luniwyd Cynllun
Gweithredu, Atodiad 1, i fynd i'r afael ag argymhellion y rheoleiddwyr, ac i
symud ymlaen wrth roi’r arferion da a arsylwyd gan Aelodau Archwilio yn ystod
ymweliadau cyfoedion a thrafodaethau a ffurfiodd rhan o broses adolygu SAC, ar
waith. Nododd argymhelliad 7 o'r adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, y dylai
swyddogaeth archwilio pob Awdurdod Lleol "ymgymryd â hunan-arfarniad
rheolaidd o archwilio gan ddefnyddio'r 'canlyniadau a nodweddion trosolwg a
chraffu effeithiol llywodraeth leol' a ddatblygwyd gan Rwydwaith y Swyddogion
Craffu Cymru”. Ym mis Tachwedd 2014, cefnogodd yr Aelodau
mabwysiadu'r 'nodweddion'. Fel rhan o'r broses o baratoi ar gyfer Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio y llynedd, cynhaliwyd hunanwerthusiad ar sail y nodweddion uchod. Serch hynny,
oherwydd y gyfradd ymateb isel i'r holiadur hunan-arfarnu, ni chafodd y
canfyddiadau eu cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol, oherwydd teimlwyd nad oedd
modd i’r casgliadau fod yn rhai ansoddol. Roedd Atodiad 2 yn
cynnwys canlyniadau'r ymarferiad hunan arfarnu, ac er gwaethaf y gyfradd
dychwelyd isel, fe nodwyd rhai themâu cyson ar gyfer gwella yn Atodiad 2. Yn ystod yr hydref
2016, roedd y Cyngor fod yn destun Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio
Cymru. O ganlyniad, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y
cynnydd a wnaed hyd yn hyn wrth ddatblygu archwilio yn Sir Ddinbych, nodi
meysydd i'w gwella ymhellach ac argymell y dylai'r holl Gynghorwyr Sir,
Aelodau'r Pwyllgor a'r swyddogion gymryd rhan yn yr ymarferiad hunan-arfarnu
archwilio nesaf er mwyn i'r swyddogaeth gael ei gwerthuso'n iawn ac o
ganlyniad, ei gryfhau ymhellach. Eglurodd y Cydlynydd Archwilio fod gan
swyddogaeth archwilio aneffeithiol y potensial i achosi i'r Cyngor beidio
cyflawni ei Gynllun Corfforaethol, neu bod y Cabinet neu swyddogion ddim yn
cael eu herio a ddim yn cael eu dwyn i gyfrif am eu penderfyniadau. Gallai hyn arwain at
adroddiadau rheoleiddio anffafriol ac hyd yn oed ymyrraeth gan Lywodraeth
Cymru. Gallai sicrhau bod gan
yr Awdurdod swyddogaeth archwilio effeithiol a allai gael ei ddatblygu i ddiwallu
gofynion a heriau newydd liniau’r risg o adroddiadau anffafriol neu ymyrraeth. Dylai swyddogaeth
archwilio gadarn ac effeithiol hefyd arwain at benderfyniadau gwell yn
seiliedig ar dystiolaeth. Eglurodd y RhGD ei fod yn teimlo bod yr Awdurdod mewn sefyllfa i ddangos
bod newidiadau wedi cael eu rhoi ar waith yn dilyn cyflwyno'r Cynllun
Gweithredu, gan gynnwys:- -
Mewnbwn ac archwilio’r Cabinet. -
Aelod Arweiniol yn bresennol ym Mhwyllgorau Archwilio, pan fo angen. -
Arweinydd yn bresennol yng nghyfarfodydd Grŵp Archwilio Cadeiryddion
ac Is-gadeiryddion pan fo angen. -
Adolygiad o weithdrefnau dethol ar gyfer eitemau i'w cyflwyno i archwilio. -
Amlinelliad o waith y Grwpiau Tasg a Gorffen. -
Cynorthwyo gyda datblygiad y trefniadau ar gyfer GwE - Rhoddwyd ystyriaeth i lefel yr adnoddau sydd ar gael i’w harchwilio. ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
BIL LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) PDF 294 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd (copi ynghlwm) ar y newidiadau a chynigion i ddiwygio fframwaith
deddfwriaethol llywodraeth leol Cymru. Cofnodion: ☻Roedd
copi o adroddiad gan Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd (RhGD), ar y
newidiadau a chynigion i ddiwygio fframwaith deddfwriaethol Llywodraeth Leol
Cymru, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac
esboniodd fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn adolygu sut y dylai'r llywodraeth
leol yng Nghymru weithredu a gwneud cynigion gan gynnwys deddfwriaeth Papur
Gwyn Grym i Bobl Leol, Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 newydd ac
ymgynghoriad drafft Mesur Llywodraeth Leol (Cymru). Eglurodd y RhGD fod yr
adroddiad yn crynhoi rhai o'r materion allweddol o'r diwygiadau. Roedd
darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 newydd, a oedd wedi cael ei gymeradwyo
ar 25 Tachwedd 2015, yn caniatáu ar gyfer gwaith paratoadol i alluogi rhaglen o
uno a diwygio llywodraeth leol a chynnwys darpariaethau ar gyfer uno cynnar
gwirfoddol dau neu fwy o Siroedd neu Gynghorau Bwrdeistref Sirol erbyn Ebrill
2018. Roedd y Ddeddf yn diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 o ran Panel
Taliadau Annibynnol Cymru, a oedd yn gosod taliadau lwfans ar gyfer Aelodau, ac
arolwg o Gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus, yn ogystal â Deddf Llywodraeth
Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 o ran arolygon etholiadol. Mae dolen
i Ddeddf 2015 wedi ei chynnwys yn yr adroddiad. Roedd Llywodraeth
Cymru wrthi’n ymgynghori ar Fesur drafft
Llywodraeth Leol (Cymru), gyda sylwadau i'w dychwelyd erbyn 15 Chwefror,
2016. Amcan y Mesur drafft oedd cwblhau'r rhaglen o uno awdurdodau lleol a nodi
fframwaith ddeddfwriaethol newydd a diwygiedig
ar gyfer democratiaeth, atebolrwydd, perfformiad ac elfennau o gyllid
awdurdodau lleol. Byddai hefyd yn sefydlu Comisiwn Staff
Gwasanaethau Cyhoeddus statudol. Cyfeiriwyd at y
diddordeb yn yr uno arfaethedig Cynghorau Sir a Bwrdeistref Sirol, a oedd wedi
ei nodi yn Rhan 1 o'r Mesur Seneddol.
Hyd yn oed heb y cynigion
hynny, byddai Rhannau 2 i 8 o'r Mesur arwain at y diwygiad mwyaf arwyddocaol o
lywodraeth leol yng Nghymru ers Deddf Llywodraeth Leol 2000, a gyflwynodd y
model gweithredol / craffu ar lywodraethu. Roedd
Atodiad 1 yn rhoi crynodeb o rai o'r prif bwyntiau. Cafodd
dolen i'r dogfennau ymgynghori llawn a chyfarwyddiadau ar sut i ymateb i
gynigion Llywodraeth Cymru ei ddarparu. Darparodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd grynodeb manwl o'r meysydd
canlynol a oedd wedi'u cynnwys yn ei Gyflwyniad PowerPoint:- ·
Ad-drefnu Llywodraeth Leol ·
Dewis Cyngor Sir Ddinbych ·
Llinell Amser ·
Pwyllgor pontio ·
Cyfranogiad y cyhoedd ·
Pwyllgor Ardal Cymuned ·
Mynediad i Gyfarfodydd ·
Cymwysterau etholiadol ·
Y Cabinet a'r Prif Weithredwr a Swyddogaethau ·
Asedau ·
Gwelliannau mewn Llywodraethu ·
Cynghorau Cymuned Darparodd y swyddogion yr ymatebion canlynol i faterion a chwestiynau a
godwyd gan yr Aelodau:- -
Mynegwyd pryderon, er bod Llywodraeth
Cymru wedi argymell cyflwyno a defnyddio mynychu o bell, nid oeddent wedi
mabwysiadu a defnyddio systemau o'r fath. Eglurodd y RhGD fod yna broblemau
technegol gyda defnyddio offer o'r fath. -
Amlygodd y Cyng. W.L. Cowie yr agweddau
negyddol o gyflwyno hyfforddiant gorfodol ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sy'n
ymgymryd â dyletswyddau ar sail wirfoddol. - Gofynnodd y Cyng. W.L. Cowie effaith penderfyniadau a wnaed yn y dyfodol, o ran Ad-drefnu Llywodraeth Leol, o ran gwaith y gwaith sy’n cael ei wneud sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud mewn perthynas â'r cynlluniau at y dyfodol a'r map a fyddai’n cael ei fabwysiadu. Cyfeiriodd at yr heriau sy'n wynebu'r Awdurdod yn y dyfodol, o ran y penderfyniadau sydd i'w gwneud a'r gwaith sydd i'w wneud gan yr Awdurdodau Cysgodol. Cyfeiriodd y Cydlynydd Archwilio at benderfyniad y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau i gymeradwyo'r gwaith sy'n cael ei wneud, rhwng Cynghorau Sir Ddinbych a Chonwy, i fwrw ymlaen â ffurfio Cyd-fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Ystyried eitemau
ar gyfer y dyfodol. Cofnodion: ☻Eglurodd Rheolwr y
Gwasanaethau Democrataidd bod cais wedi dod i law gan yr Aelod Arweiniol ar
gyfer hyfforddiant, y Cynghorydd B.A. Smith, ar gyfer cynnwys eitem fusnes am ddarparu
hyfforddiant yn rhaglen waith i’r dyfodol y Pwyllgor. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cadeirydd ynglŷn â’r cynnydd
gyda gwaith amddiffynfeydd llifogydd yn ardal y Rhyl, a chan y Cynghorydd M.Ll.
Davies ynghylch materion llifogydd a gwaith cynnal a chadw amddiffynfeydd rhag
llifogydd yn ardal Rhuthun, cytunwyd y dylai'r materion a amlygwyd gan eu
hanfon ymlaen at y Rheolwr Ymgysylltu â’r Gymuned, gyda’r bwriad o gyfleu
pryderon a godwyd gyda’r Grwpiau Aelodau Ardal perthnasol. PENDERFYNWYD:- (a)
cynnwys eitem fusnes ar
hyfforddiant yn y rhaglen waith i’r dyfodol i’w ystyried yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor, a (b)
anfon y pryderon a drafodwyd
gan y pwyllgor, o ran materion llifogydd, at y Rheolwr Ymgysylltu â’r Gymuned. Daeth y Cyfarfod i ben am
11.25 a.m. |