Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 1b, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: 01824 712589  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Joan Butterfield a Win Mullen-James.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at Gyfansoddiad y Pwyllgor Safonau ac eglurodd nad oedd gan y Pwyllgor gworwm. Cytunodd yr Aelodau i fwrw ymlaen â'r cyfarfod ar sail anffurfiol a bod unrhyw gamau a gymerir yn cael eu cymeradwyo yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 116 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni fu i unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 131 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar y 7 Chwefror 2014 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2014 i’w cymeradwyo.

 

Materion yn codi:-

 

6. Holodd yr Aelodau a allai’r Cynghorydd Meirick Lloyd-Davies wneud argymhellion i'r Pwyllgor fel sylwedydd. Ymatebodd y Swyddog Monitro gan ddweud na allai, gan egluro wedyn i’r Cadeirydd roi caniatâd i’r Cynghorydd Lloyd-Davies siarad ac iddo gynnig awgrym. Yn dilyn hynny roedd 2 aelod o'r pwyllgor wedi cynnig argymhelliad a’i eilio.

 

PENDERFYNWYD – y dylid, yn amodol ar yr uchod ac ar gadarnhau hynny yn y cyfarfod nesaf, dderbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod fel cofnod cywir.

 

5.

DATBLYGU CRAFFU YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 130 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm). Nod yr adroddiad yw datblygu a gweithredu cynigion ar sut y gellir gwella swyddogaeth Archwilio'r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn egluro bod cynigion i newid y ffordd y dewisir eitemau i graffu arnynt, er mwyn gweithio'n fwy effeithlon a chanolbwyntio ar y Cynllun Corfforaethol ac osgoi eitemau nad ydynt yn flaenoriaeth ac nad ydynt yn ychwanegu gwerth at y broses o graffu.

 

Ychwanegodd y Cydlynydd Archwilio bod pynciau’n aml yn cael eu hawgrymu heb fod gwybodaeth ddigonol ynglŷn â’r materion penodol y mae angen craffu arnynt. Pan ddigwydd hynny, bydd aelodau a swyddogion yn gwastraffu amser gwerthfawr yn llunio ac yn cyflwyno adroddiadau ac yn craffu ar faterion, heb roi sylw, o reidrwydd, i’r mater y bwriadwyd craffu arno.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddefnyddio ffurflenni i gynnig eitem i graffu arni fel modd o ychwanegu pynciau i raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgorau archwilio. Cyflwynid y ffurflenni hyn i'r pwyllgor perthnasol neu i Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Archwilio a fyddai wedyn yn dyrannu'r eitem i’r Pwyllgor Archwilio perthnasol. Cytunodd yr Aelodau mewn egwyddor â'r cynnig gan geisio sicrwydd y byddai canllawiau ar gael ynglŷn â dyrannu eitemau naill ai fel eitemau ar gyfer rhaglenni’r pwyllgorau archwilio neu i’w cynnwys mewn adroddiadau gwybodaeth.

 

Trafododd y Pwyllgor y posibilrwydd o wneud Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn aelodau o Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Archwilio. Teimlwyd gan fod y Grŵp yn trafod eitemau rhaglen ac arferion da ar draws y Pwyllgorau Archwilio y byddai'n fuddiol bod cynrychiolydd ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn aelod o’r grŵp. Byddai angen i’r Cyngor addasu aelodaeth Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Archwilio yn ffurfiol.

 

Cyfeiriodd y Cydlynydd Archwilio at adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac at adroddiad Williams sy'n ymwneud â chanlyniadau’r broses graffu a nodweddion craffu effeithiol, gan esbonio fod disgwyl i bob awdurdod fesur eu hunain yn erbyn y nodweddion hynny a gâi eu defnyddio gan y rheoleiddwyr wrth adolygu'r swyddogaeth craffu. Trafododd yr aelodau nodweddion ymgysylltu cyhoeddus yn fanwl a'r anhawster a geir wrth annog trigolion i fynychu cyfarfodydd neu gymryd rhan mewn adolygiadau craffu.

 

Awgrymwyd y gallai pwyllgorau archwilio wahodd aelodau o'r cyhoedd i siarad mewn pwyllgorau neu i gyfrannu at waith grwpiau tasg a gorffen sy'n llai ffurfiol a chytunwyd y dylid cynnwys cwestiynau ynglŷn â hyn ac ynglŷn â chynnwys tystion arbenigol ar ffurflen gynnig yr Aelodau. Holodd yr aelodau a oedd cronfa ddata o grwpiau cymunedol / lobïo neu bartïon â diddordeb y gellid eu defnyddio i raeadru gwybodaeth er mwyn hysbysu pentrefi a chymunedau’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac ati fod pynciau perthnasol yn cael eu trafod ac i sôn am gyfarfodydd cysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:

 

(i)        Yn cymeradwyo gwneud defnydd o ffurflenni cynigion i’w defnyddio gan aelodau i ychwanegu testunau i raglenni gwaith i’r dyfodol y pwyllgorau archwilio;

 

(ii)       Yn argymell bod y ffurflen gynnig derfynol yn cynnwys y siart llif sy’n cynnig canllawiau, a welir ar gefn y fersiwn gyntaf sydd ynghlwm i'r adroddiad, gyda'r cwestiynau a geir yn yr ail fersiwn;

 

(iii)      Yn cefnogi'r gweithgareddau datblygu ar gyfer gwella craffu yn Sir Ddinbych a all gyfrannu’n effeithiol at y gofynion presennol i wneud arbedion mawr yn y gyllideb a chyflawni targedau’r Cynllun Corfforaethol;

 

(iv)      Yn cymeradwyo mabwysiadu’r canlyniadau a’r nodweddion ar gyfer craffu effeithiol a’r egwyddorion ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd a amlinellwyd yn atodiadau 3, 4 a 5; ac

 

(v)       Yn argymell bod y Cyngor yn diwygio aelodaeth Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Archwilio i gynnwys cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

6.

AMSERLEN PWYLLGOR AR GYFER 2015 / 2016 pdf eicon PDF 88 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm). Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth ac yn gofyn am sylwadau ar amserlennu ac ar faterion sy’n ymwneud â’r pwyllgorau.

 

Cofnodion:

Nododd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod yr Aelodau, wrth gymeradwyo'r amserlen flaenorol, wedi gofyn am ymestyn yr amserlen dros gyfnod hirach. Atgoffodd y Pwyllgor hefyd fod yr aelodau, fel rhan o’r ymarfer Rhyddid a Hyblygrwydd, wedi cytuno i gael gwared ag un cyfarfod y flwyddyn o amserlen pob pwyllgor. I'r perwyl hwnnw roedd amserlen 18 mis newydd yn cael ei pharatoi i’w chyflwyno ger bron y Cyngor llawn.

 

Roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw rhaglennu'r holl gyfarfodydd amrywiol i fod yn gyfleus i’r holl aelodau ond gofynnwyd a ellid rhoi ystyriaeth benodol i:

 

·       geisio osgoi cynnal nifer o gyfarfodydd pwysig yn ystod yr un wythnos pan yn bosibl

·        y gwaith papur / darllen y mae angen ei wneud cyn mynychu cyfarfodydd

·     Cynghorwyr sy’n gweithio a allai ei chael yn anodd trefnu amser o’r gwaith.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodi’r angen i bwyllgorau gynnal un cyfarfod yn llai y flwyddyn ac yn cefnogi amserlen pwyllgor 18 mis

 

 

7.

RHEOLIADAU ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL (CYMRU) 2013 pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) i rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y Rheoliadau a thrafod y diwygiadau i Reolau Sefydlog y Cyngor sy’n ofynnol cyn i’r Cyngor gytuno arnynt.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn nodi'r newidiadau y mae angen eu gwneud i'r Rheolau Sefydlog er mwyn rhagnodi'r amodau pan fo gan aelod hawl i absenoldeb teuluol.

 

O dan ddeddfwriaeth bresennol mae angen i aelodau fynychu un cyfarfod mewn cyfnod o 6 mis oni bai y gwnaed cais am estyniad cyn y daw’r cyfnod hwnnw i ben. Byddai’r rheoliadau newydd yn golygu y byddai’n rhaid i’r Cyngor wneud Rheolau Sefydlog i gynnwys 5 gwahanol fath o absenoldeb teuluol a fyddai’n eithrio cynghorwyr rhag gorfod mynychu cyfarfodydd cyhyd â’u bod yn bodloni’r amodau yn y Rheoliadau.

 

Byddai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am adolygu ceisiadau am absenoldeb teuluol ac am weinyddu'r broses. Pe bai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn gwrthod caniatáu'r absenoldeb teuluol, byddai angen iddo hysbysu Cadeirydd y Cyngor a hwyluso apêl. Argymhellwyd ffurfio’r panel apêl o blith aelodau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Os caniateir cyfnod o absenoldeb byddai hawl gan yr aelod i barhau i gael ei dalu. Gallai aelodau'r cabinet enwebu eilydd yn ystod cyfnod o absenoldeb teuluol. Telir yr eilydd yn ôl disgresiwn yr Awdurdod. Os cytunir talu eilydd yna byddai'n rhaid rhoi gwybod i’r Panel Cydnabyddiaeth Ariannol.

 

Bydd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd yn paratoi adroddiad i’w gyflwyno ger bron y Cyngor er mwyn ychwanegu'r Rheolau Sefydlog i'r Cyfansoddiad gan nodi y dylid ffurfio’r panel apêl o blith aelodau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD - Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cymeradwyo’r argymhellion canlynol i’r Cyngor llawn:

 

(i)         Dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i Gyfansoddiad y Cyngor ac i lunio Rheolau Sefydlog er mwyn rhoi grym i ofynion y Mesur a’r Rheoliadau; a

 

(ii)        Dylid llunio panel gwleidyddol gytbwys o 3 o aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i benderfynu ar unrhyw apeliadau neu gwynion os yw Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn gwrthod rhoi cyfnod o absenoldeb teuluol.