Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd yr Aelodau unrhyw gysylltiad personol neu sy’n
rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS GYDA CHYTUNDEB Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 149 KB Derbyn a
chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a
gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2013 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 14eg Tachwedd,
2013. Materion yn codi:- Cyfeiriodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd at Eitemau Busnes yn y Rhaglen Waith i’r Dyfodol ac
eglurodd na chafwyd unrhyw awgrym o ran pryd y byddai’r Gorchymyn Personau
Dynodedig yn cael ei wneud. Hysbyswyd
y Pwyllgor, o ganlyniad i adborth gan aelodau, y byddai templedi diwygiedig yn
cael eu cylchredeg a fyddai’n ymgorffori canllawiau mwy eglur ynghyd â manylion
ynghylch y math o wybodaeth i’w chynnwys yn yr adroddiad. Rhoddwyd cadarnhad
nad oedd rhaid i Aelodau ddarparu Adroddiad Blynyddol. 7. Gweddarlledu Cyfarfodydd y Cyngor - Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd W.L. Cowie, darparodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd fanylion am y trefniadau ariannu. Eglurodd nad oedd gweddarlledu
cyfarfodydd y Cyngor yn ofyn cyfreithiol ac y byddai rhaid i’r Cyngor wneud
penderfyniad o ran p’un ai i wneud cytundeb pellach yn dilyn y cyfnod
cychwynnol o ddwy flynedd. 9. Fersiwn Ddrafft Adroddiad Blynyddol Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd y Pwyllgor nad oedd y Fersiwn Ddrafft o Adroddiad Blynyddol Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi’i chyhoeddi eto. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd A. Roberts, cadarnhaodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd, o ran sylwadau a wnaed “y dylai Is-gadeiryddion
Pwyllgorau Archwilio dderbyn taliad ychwanegol am dderbyn swydd Is-gadeirydd”,
eu bod wedi’u cyflwyno i’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol a’u bod
yn disgwyl ymateb. Cadarnhaodd
y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai nodi Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion y gwahanol bwyllgorau yn cael ei gynnwys ar yr agendau yn y
dyfodol. PENDERFYNWYD
– yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 14eg Tachwedd, 2013 fel
cofnod cywir. |
|
GWEDDARLLEDU CYFARFODYDD Y CYNGOR PDF 92 KB Derbyn adroddiad
gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) yn rhoi’r datganiad
sefyllfa diweddaraf ar y cynnydd tuag at we-ddarlledu rhai cyfarfodydd yn 2014. Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (RhGD) oedd yn rhoi’r
datganiad sefyllfa diweddaraf ar y cynnydd tuag at weddarlledu rhai cyfarfodydd
yn 2014 wedi’i gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Adroddodd y RhGD
fod y gwaith o osod yr offer gweddarlledu a’r feddalwedd wedi dechrau ym mis
Rhagfyr a’i fod wedi’i gwblhau ddoe gyda’r disgwyl y byddai’r gwaith terfynol o
sicrhau cysylltiad band eang ar gyfer y ddwy linell ADSL yn cael ei wneud ddydd
Sadwrn. Hysbysodd y RhGD y Pwyllgor y byddai manylion ysgrifenedig am brotocol,
fyddai’n darparu canllawiau mewn perthynas â gweddarlledu, yn cael eu
cylchredeg i bob Aelod. Eglurodd hefyd y rhoddwyd ystyriaeth i roi cyflwyniad
byr i’r Aelodau yng nghyfarfod briffio’r Cyngor ar 19eg Chwefror
2014 a rhoddodd yr Aelodau eu caniatâd i wneud hynny. Roedd y Cyngor yn
bwriadu gweddarlledu tua 60 awr y flwyddyn o gyfarfodydd y Cyngor a’r Pwyllgor
Cynllunio, fyddai’n cael eu gweddarlledu o Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau ynghylch gweddarlledu cyfarfodydd
ychwanegol fel y Cabinet a Phwyllgorau Archwilio, eglurodd y RhGD fod y
gwasanaethau gweddarlledu wedi’u caffael yn defnyddio grant £40,000 LlC am
gyfnod o ddwy flynedd, ac y byddai unrhyw benderfyniad i ymestyn neu
adnewyddu’r cytundeb yn cael ei wneud
gan yr Aelodau. Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar
iawn wedi hysbysu awdurdodau lleol y gellid cario’r arian grant drosodd i 2014
/ 2015, fyddai’n caniatau digon o amser i’r Cyngor roi’r trefniadau ar gyfer
gweddarlledu ar waith. Byddai cyflwyno a gweithredu’r trefniadau yn golygu bod
angen neilltuo amser gan swyddog ychwanegol i fynd i gyfarfodydd sy’n cael eu
gweddarlledu. Nid oedd sicrwydd eto beth fyddai effaith hyn, ond disgwylid y
byddai’r trefniadau gweddarlledu yn cael eu cyflenwi o fewn adnoddau presennol.
Gallai fod rhai goblygiadau o ran adnoddau i’r gwasanaethau TGCh, er y byddai
disgwyl i’r cyflenwr allanol ddarparu cefnogaeth fel rhan o’r cytundeb.
Gyda chymorth
cyflwyniad PowerPoint, darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd (PGCD) fanylion am y system gweddarlledu ac amlinellodd yr hyn y
gallai’r system ei wneud. Darparwyd yr ymatebion a ganlyn i gwestiynau a materion a
godwyd gan yr Aelodau:- -
Ar hyn o bryd nid oedd unrhyw gyllid ar gael i
newid lleoliad botymau coch y meicroffonau ar y desgiau yn Siambr y Cyngor.
Fodd bynnag, gellid ystyried hyn yn y dyfodol pe byddai digon o gyllid ar gael
i ail-gynllunio’r Siambr.
-
Cadarnhaodd
y RhGD y byddai cofnodion ysgrifenedig yn cael eu llunio ar gyfer cyfarfodydd
oedd wedi’u gweddarlledu. -
Hysbysodd
y PGCD yr Aelodau fod y darparwyr gwasanaeth wedi cynhyrchu ystadegau oedd yn
dangos lefel uwch o ymgysylltu ymhlith y cyhoedd yn sgil gweddarlledu cyfarfodydd
Cyngor. -
Darparwyd manylion am swyddogaethau
gweddarlledu, o ran cyfryngau cymdeithasol
a chyfathrebu, y gellid eu defnyddio gan y Cyngor i wella ymgysylltiad â’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth. -
Mewn
ymateb i gwestiwn gan Aelodau, cytunodd y PGCD i ymgynghori â’r darparwr
gwasanaeth ynghylch materion mewn perthynas â hawlfraint. -
Awgrymodd
y Cadeirydd y gellid defnyddio gweddarlledu at ddibenion addysgol o ran
hyrwyddo gwaith y Cyngor Sir ac ennyn diddordeb y genhedlaeth iau. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD – bod
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataid yn cefnogi’r trefniadau a’r cynnydd mewn
perthynas â
gweddarlledu cyfarfodydd yn 2014. |
|
Derbyn adroddiad
gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sy'n rhoi gwybodaeth ac
yn gofyn am benderfyniadau ar faterion yn ymwneud â’r Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd (RhGD) oedd yn rhoi gwybodaeth ac yn gofyn am benderfyniadau ar
faterion yn ymwneud â’r
Pwyllgor wedi’i gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynwyd yr amserlen ddrafft ar
gyfer cyfarfodydd 2014/15, Atodiad 1, i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ei
hystyried a byddid yn gofyn i’r Cyngor llawn ystyried a chymeradwyo’r amserlen.
Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau fod yr amserlen ddrafft wedi’i datblygu trwy
ymgynghori ag amryw swyddogion oedd yn ymwneud â’r amryw bwyllgorau. Cyfeiriodd
y RhGD at yr eglurhad fesul pwyllgor yn yr atodiad ynghylch y ffactorau oedd
wedi effeithio’r dyddiadau a’r cylchoedd oedd yn llunio’r amserlen. Adroddodd y RhGD
fod rhai Aelodau, yn 2013, wedi awgrymu y dylid ymestyn yr amserlen i gwmpasu
cyfnod hirach, a gofynnodd am farnau’r Pwyllgor ar y mater hwn. Eglurodd y RhGD ei
bod yn ofynnol i’r Cyngor ystyried, o leiaf bob blwyddyn, sut mae aelodaeth ei
bwyllgorau’n gysylltiedig â chydbwysedd gwleidyddol y grwpiau. Roedd newidiadau i aelodaeth pwyllgorau a
chryfder y grwpiau gwleidyddol yn golygu nad oedd pob pwyllgor yn wleidyddol
gytbwys, fel y dangosir yn Atodiad 2. Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau y byddai’r
newidiadau i swyddi dinesig cadeirydd ac is-gadeirydd y Cyngor ym mis Mai yn
effeithio aelodaeth a chydbwysedd gwleidyddol rhai pwyllgorau. Roedd manylion mewn
perthynas â phenodi cadeiryddion y pwyllgorau wedi’u hymgorffori yn yr
adroddiad. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, awgrymodd y Cynghorydd M.Ll. Davies y dylid ymestyn yr
amserlen i gwmpasu cyfnod o ddwy flynedd. Cynigiodd y Cynghorydd W.L. Cowie
ddiwygiad i’r argymhelliad yn yr adroddiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd P.W.
Owen, oherwydd pwysigrwydd y mater o amserlennu cyfarfodydd, y dylid cael barn
y Cyngor Sir ynglŷn â’r mater hwn. Ar ôl pleidleisio, derbyniwyd y
diwygiad. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD
- bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd:- (a)
yn derbyn ac yn nodi cynnwys
amserlen ddrafft y pwyllgor, a (b) yn cytuno y byddid yn ceisio barn y Cyngor
Sir mewn perthynas ag ymestyn yr amserlen dros ddwy flynedd neu ragor. |
|
RHAGLEN WAITH I'R DYFODOL Derbyn
diweddariad llafar gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd. Cofnodion: Cyflwynodd
y RhGD yr adroddiad ac eglurodd fod yr eitemau Busnes a ganlyn yn aros ar
Raglen Waith y Pwyllgor i’r Dyfodol:-
(i)
Gorchymyn
Personau Dynodedig - i’w ystyried ar ôl derbyn rhagor
o wybodaeth ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru. (ii)
Adroddiad Terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol - i’w gynnwys yn y Rhaglen Waith i’r Dyfodol. PENDERFYNWYD – i nodi’r sefyllfa. Daeth y cyfarfod i ben am
11.05 a.m. |