Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cofnodion: PENDERFYNWYD – penodi’r
Cynghorydd S.A. Davies yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am
y flwyddyn i ddod. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol
mewn unrhyw fusnes sydd wedi
ei nodi i’w
ystyried yn y cyfarfod yma.
Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol na niweidiol mewn
unrhyw fusnes a oedd wedi ei nodi i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS YN ÔL CYTUNDEB Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn
y cyfarfod fel mater o frys yn unol
ag Adran 100B(4)
Deddf llywodraeth Leol, 1972
Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion y dylid eu hystyried, ym marn y
Cadeirydd, fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol,
1972. |
|
DYNODIAD PENNAETH Y GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD PDF 108 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeëdig) am ddynodi ‘pennaeth gwasanaethau democrataidd’ y Cyngor er dibenion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wedi ei
gylchredeg efo’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Esboniodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (PGCaD) bod Mesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn cyfarwyddo’r Awdurdod Lleol i gael Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd (PGD). Cylch
gwaith y PGD fyddai adolygu digonolrwydd yr adnoddau i gefnogi’r swyddogaeth
ddemocratig, gyda phwyslais arbennig ar y broses graffu. Roedd yn ofynnol hefyd yn ôl y Mesur i’r PGD
ddynodi un o swyddogion y Cyngor i ymgymryd ag ystod o wasanaethau
democrataidd. Byddai’r swyddog dynodedig
yn cael ei alw’n Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Roedd y Cyngor Sir wedi penderfynu y byddai aelodaeth y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd (PGD) newydd yn cynnwys un ar ddeg o Gynghorwyr, gyda
chydbwysedd gwleidyddol, na fyddai’n cynnwys Aelod Cabinet. Byddai dynodiad y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd yn swydd statudol, wleidyddol gyfyngedig a’i rôl fyddai ymgymryd
â’r swyddogaethau a fynegir yn adran 9 y Mesur ac roedd manylion y
swyddogaethau wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Roedd Adran 8 (4) y Mesur yn datgan na
châi’r Cyngor ddynodi unrhyw un o’r canlynol fel Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd:- ·
Pennaeth
Gwasanaeth Cyflogedig ·
Swyddog
Monitro ·
Prif Swyddog Cyllid Roedd paragraff 3.18 y Canllawiau Statudol
ar gyfer Mesur 2011 yn datgan ‘mewn llawer o achosion, fe fydd yna berson amlwg
sydd eisoes yn cyflawni rhan helaeth o swyddogaeth y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd. Byddid yn disgwyl i
Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig argymell pwy fyddai’n ymgeisydd addas i’r
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.’ Roedd llawer o Awdurdodau Lleol wedi
dynodi’r swyddog a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am reoli gwasanaethau
democrataidd/pwyllgor. Byddai hyn yn
osgoi dyblygu a gwrthdaro potensial rhwng darpariaeth y gwasanaeth a
swyddogaethau statudol sydd yr un yn eu hanfod.
Yn ogystal byddid yn osgoi unrhyw risg o ddyblygu swyddogaethau, cyngor
a llinellau rheolaeth y gwasanaeth. Er
na allai’r Swyddog Monitro fod yn Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd nid oedd
yna unrhyw gyfyngiad ar i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adrodd yn
uniongyrchol i’r Swyddog Monitro. Hysbyswyd y Pwyllgor fod ymgynghoriadau
wedi eu cynnal yn unol â’r Canllawiau Statudol ar gyfer Mesur 2011. Roedd Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig ac
Aelodau eraill CET wedi eu hymgynghori.
Roedd CET wedi argymell dynodi Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn
Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd amlinelliad byr o swyddogaeth a chylch gwaith y Pennaeth
Gwasanaethau Democrataidd ac, yn dilyn trafodaeth fer:- PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cytuno i ddynodi Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor yn ‘Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd’ y Cyngor
i ddibenion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. |
|
YMGYNGHORIAD AR GYDBWYLLGORAU CRAFFU AC ADRODDIADAU BLYNYDDOL GAN AELODAU PDF 110 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi’n amgaeëdig) am Gydbwyllgorau Craffu ac Adroddiadau Blynyddol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd
copïau o adroddiad gan Reolwr y
Gwasanaethau Democrataidd wedi eu cylchredeg efo’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Craffu ar y Cyd Esboniodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod Adran 58 Mesur Llywodraeth Leol 2011
yn grymuso Gweinidogion Cymreig i wneud rheoliadau i ganiatáu i ddau neu fwy o
Awdurdodau Lleol benodi Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ac i roi canllawiau
statudol y bydd yn rhaid i’r Cydbwyllgorau Trosolwg a Chraffu eu hystyried wrth
ymarfer eu swyddogaethau. Roedd Adran 5
hefyd yn grymuso’r Gweinidogion Cymreig i roi canllawiau statudol y bydd yn
rhaid i’r Awdurdodau Lleol eu hystyried wrth wneud trefniadau ar gyfer
cynhyrchu adroddiadau blynyddol dan Adran 5. Roedd
Llywodraeth Cymru’n cynnal ymarferiad ymgynghori’n gyfredol i gael barn ar y
Cydbwyllgorau Craffu, Atodiad 1, a chynhyrchiad Adroddiadau Blynyddol gan
Aelodau, Atodiad 2. Gellid trosglwyddo
unrhyw farn a fynegir gan y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru. Cadarnhawyd y byddid yn cyflwyno adroddiad
tebyg i Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar Ragfyr 13eg,
2012 er mwyn sylwadau ar y trefniadau Craffu ar y cyd. Rhoddodd
y Mesur rym i ddau neu fwy o Awdurdodau Lleol ffurfio Cydbwyllgorau Craffu i
gryfhau trefniadau craffu drwy hyrwyddo cydweithredu a rhannu arbenigedd
craffu. Byddai Cydbwyllgorau’n ei gwneud
yn haws craffu gwasanaethau neu faterion a oedd yn torri ar draws ffiniau
daearyddol. Roedd y Canllawiau drafft yn
rhoi enghreifftiau o achosion lle gallai Cyd-bwyllgor fod yn briodol ac roedd y
rhain wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L. Holland, rhoddodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd amlinelliad o’r Mesur a oedd yn datgan
y gall Awdurdodau Lleol benodi Cydbwyllgorau Craffu Trosolwg ond ni fyddai yna
unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny.
Cyfeiriodd at ddarpariaeth gwasanaethau rhanbarthol ac isranbarthol, a
allai elwa o drefniadau craffu ar y cyd, ac at fater personau dynodedig. Esboniwyd y byddai yna Orchymyn a fyddai’n
nodi cyrff cyhoeddus eraill a allai fod yn destun craffu ar y cyd. Ni allai Cyd-bwyllgor Craffu ddelio â
materion y gellid eu hystyried gan y ‘Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn’, (Pwyllgor
Craffu Partneriaethau yn Sir Ddinbych), dan Ddeddf Heddlu a Chyfiawnder
2006. Roedd y rhain yn cynnwys gwaith y
Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a gwahanol faterion trosedd ac anhrefn
lleol. Mynegwyd
pryderon gan y Cynghorydd W.L. Cowie ynglŷn ag adnoddau staffio, y
posibilrwydd o ddyblygu gwaith a’r cynnydd mewn costau o ganlyniad. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd at y gefnogaeth ddeddfwriaethol a darpariaeth y
pwerau priodol i sicrhau effeithiolrwydd y broses graffu ar y cyd. Esboniodd y Cynghorydd G.M. Kensler bod lefel
y gefnogaeth graffu a ddarperir gan rai awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd
Cymru’n fwy na’r gefnogaeth yn Sir Ddinbych, gan gyfeirio’n arbennig at lefelau
staffio. Cyfeiriodd at sylwadau diweddar
gan y Prif Weithredwr ynglŷn â’r angen i gymedroli costau drwy leihau
nifer y cyfarfodydd a gynhelir, ac mewn ymateb i awgrym y dylid cyflwyno
fideo-gynadledda i isafu costau teithio.
Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd nad oedd y cyfleuster yma
ar gael ar hyn o bryd ar gyfer cyfarfodydd fel
Cyd-bwyllgorau Craffu ond gellid ei ddefnyddio ar gyfer Gweithgorau neu
Is-bwyllgorau. Esboniodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd bod Gwasanaeth Gwella Effeithiolrwydd
Ysgolion Rhanbarthol Gogledd Cymru’n cael ei redeg gan Gyd-bwyllgor, a theimlai’r
Cynghorydd Kensler y dylai’r Pwyllgor Addysg Rhanbarthol fod yn destun craffu
gan Sir Ddinbych a chraffu ar y cyd, o bosib.
Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai ffurfiant
Pwyllgor felly’n amodol ar ystyriaeth gan y Pwyllgorau Craffu unigol. Mynegodd y
Cynghorydd M.L. |
|
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi’n amgaeëdig) am waith y pwyllgor i’r dyfodol. Cofnodion: Mae
copi o adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, a oedd yn amlinellu
rôl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac yn gofyn am ystyriaeth materion yn
y dyfodol i’w hystyried gan y Pwyllgor, wedi ei ddosbarthu efo’r papurau ar
gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Pennaeth
Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac esboniodd, gan mai dyma gyfarfod
cyntaf y Pwyllgor, y’i hystyrid yn briodol trafod ei gylch gwaith a datblygu
blaenraglen waith. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd at ddyluniad a chynhyrchiad templed i gynorthwyo Aelodau wrth
gwblhau eu hadroddiadau blynyddol a gellid cyflwyno’r templed unwaith y byddai
wedi ei gwblhau, i’r Pwyllgor ar gyfer sylwadau ac awgrymiadau. Cytunwyd hefyd, yn dilyn y cyfnod ymgynghori,
bod manylion sy’n ymwneud â’r canllawiau terfynol ar gyfer craffu ar y cyd ac
adroddiadau blynyddol yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor. Esboniodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod arolwg wedi ei gynnal yn
ystod tymor pob Cyngor i geisio barn a gofynion Aelodau Etholedig o ran
amserlen a hyblygrwydd cyfarfodydd y cyngor o ran amlder, amseriad a lleoliad.
Cadarnhaodd fod tua hanner yr Aelodau wedi ymateb i’r arolwg ac awgrymodd bod y
Pwyllgor yn ystyried yr ymateb pan y’i derbynnir ac yna roi argymhellion i’r
Cyngor llawn. Cytunodd y Pwyllgor i
Arweinwyr Grwpiau gael eu darparu â manylion yr Aelodau nad oedd wedi ymateb
hyd yma. Yn ateb i gwestiynau gan y Cynghorydd M.L.
Holland, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fanylion
Telerau Gorchwyl y Pwyllgor a oedd yn cynnwys adolygu digonolrwydd a
darpariaeth staff, llety ac adnoddau eraill gan yr Awdurdod i gyflawni
swyddogaethau gwasanaethau democrataidd, yn enwedig cymorth craffu, gweinyddiad
pwyllgorau a gwasanaethau aelodau. Ni
wnâi’r Pwyllgor benderfyniadau terfynol o ran y materion hyn ond gallai drafod
â’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, y Prif Swyddog Cyllid ac Aelodau
Arweiniol priodol a chyflwyno adroddiadau ffurfiol ar y materion hyn i’r Cyngor
llawn. Esboniodd
y Cynghorydd C. Hughes, er bod cymorth craffu yn Sir Ddinbych wedi bod yn dda
iawn, roedd lefel cymorth a darpariaeth adnoddau wedi bod gryn lawer yn is na’r
hyn a ddarperir gan Awdurdodau Lleol eraill.
Cytunai Aelodau bod adroddiad i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd yn nodi’r adnoddau a’r cymorth a ddarperir ar gyfer craffu yn Sir
Ddinbych, ynghyd â chymariaethau ag Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru. Yn ateb i
bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd A. Roberts ac M.L. Holland, rhoddodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fanylion y rheolau sy’n
ymwneud â gofynion presenoldeb Aelodau, a oedd yn datgan na ellid diarddel
Cynghorydd am ddiffyg presenoldeb os oedden nhw wedi mynychu un cyfarfod yn
ystod cyfnod o chwe mis. Cadarnhaodd fod
yna broblemau’n ymwneud â chreu diwylliant ynghylch presenoldeb Aelodau yng
nghyfarfodydd y Cyngor a allai olygu ymyriad Grŵp ynglŷn ag Aelodau
ar Bwyllgorau. Yn dilyn trafodaeth fer:- PENDERFYNWYD – (a) Cyflwyno
adroddiad i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn nodi’r adnoddau a’r cymorth
a ddarperir ar gyfer craffu yn Sir Ddinbych, ynghyd â chymariaethau gydag
Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru; (b) Yn
dilyn y cyfnod ymgynghori, bod adroddiad yn nodi’r canllawiau terfynol ar gyfer
caffael ar y cyd ac adroddiadau blynyddol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor; (c) Bod copi o’r templed, o’i gwblhau, yn cael ei gyflwyno
i’r Pwyllgor ar gyfer sylwadau ac awgrymiadau; (d) Cyflwyno
adroddiad yn nodi gofynion Aelodau o ran amserlen a hyblygrwydd cyfarfodydd y
cyngor o ran amlder, amseru a lleoliad, i’r Pwyllgor cyn rhoi argymhelliad i’r
Cyngor llawn o ran y materion hyn; (e) Arweinwyr Grŵp i’w darparu â manylion yr Aelodau
nad oedd eto wedi darparu ymateb i’r arolwg diweddar. Daeth y cyfarfod i ben am
11.10 a.m. |