Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
Michelle Blakeley-Walker, Ellie Chard, Hugh Evans a Delyth Jones. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol is-gadeirydd y pwyllgor ar gyfer 2024 – 2025. Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Martyn Hogg am enwebiadau ar gyfer penodi Is-Gadeirydd newydd
y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn 2024-2025 y Cyngor. Cynigiodd y
Cynghorydd Cheryl Williams y Cynghorydd Elfed
Williams ac eiliodd y Cynghorydd Martyn Hogg. Ni chafwyd rhagor o
enwebiadau. Cadarnhaodd yr holl
aelodau a oedd yn bresennol eu cytundeb i benodi’r Cynghorydd Elfed Williams. Diolchodd y
Cynghorydd Williams i bawb am bleidleisio iddo fod yn Is-Gadeirydd. PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Elfed Williams yn
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer blwyddyn 2024-2025 y
Cyngor. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn
dechrau’r cyfarfod. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2023
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cywirdeb – Ni chodwyd unrhyw
fater mewn perthynas â chywirdeb y cofnodion. Materion yn codi – Tudalen 11 -
Trefniadau Craffu Rhanbarthol - Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
y bydd Archwilio Mewnol yn adrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr wythnos
nesaf ar drefniadau partneriaeth y Cyngor.
Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd cytundeb wedi bod hyd yma ar ffurfio
pwyllgor craffu rhanbarthol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2024 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol – Pobl (copi
ynghlwm) i drafod y Cynllun Deisebau drafft. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi Corfforaethol
- Pobl yr adroddiad Cynllun Deisebau (dosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn i’r
aelodau drafod y Cynllun Deisebau drafft oedd ynghlwm yn Atodiad A. Mae Adran 42 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
2021 (Deddf 2021) yn gofyn i gynghorau gynhyrchu a chyhoeddi Cynllun Deisebau
sy’n nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu ymdrin â deisebau ac ymateb iddynt, gan
gynnwys deisebau electronig. Pwrpas cyflwyno’r Cynllun Deisebau i’r Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd oedd caniatáu i aelodau roi sylwadau ac awgrymiadau
i’w hargymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu. Pan fydd y Cynllun wedi’i
fabwysiadu, bydd gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod y wybodaeth yn glir ac
yn hygyrch ar y wefan. Bydd angen canllawiau i gynghorwyr a staff hefyd os bydd
deiseb yn cael ei derbyn. Awgrymwyd y dylid ychwanegu cam arall at y canllawiau,
sef y dylid cysylltu â’r Adran berthnasol cyn y cam deiseb fel y gellid edrych
ar y mater cyn iddo ddod yn fater digon difrifol i gael ei roi mewn deiseb.
Cadarnhawyd y byddai’n cael ei gynnwys yn y canllawiau a byddai’n beth
cadarnhaol i breswylwyr ymgysylltu â’r Awdurdod. Cadarnhawyd hefyd, yn y Cynllun roedd yn nodi y byddai
angen o leiaf 100 o bobl i lofnodi deiseb, ond byddai gan y Cyngor y disgresiwn
i ystyried deisebau â llai na 100. Er enghraifft, pe bai grŵp lleiafrifol
â dim ond 25 aelod yn cyflwyno deiseb, gellid ei hystyried. PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod, argymell bod y Cynllun Deisebau yn cael ei fabwysiadu ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych. |
|
BRIFF AR LYWODRAETHU DEMOCRATAIDD LLEOL A DATBLYGIADAU DEDDFWRIAETHOL ETHOLIADOL Ystyried
adroddiad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sy’n darparu
gwybodaeth i’r Pwyllgor am gynnwys y newidiadau deddfwriaethol diweddar ac
arfaethedig. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (RhGD) y Briff ar Lywodraethu Democrataidd Lleol a
Datblygiadau Deddfwriaethol Etholiadol (dosbarthwyd ymlaen llaw) a rhoddodd
grynodeb o’r adroddiad i’r Pwyllgor. Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o’r canlynol:
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried y newidiadau deddfwriaethol a chynigion a
grynhowyd yn yr adroddiad, a’u nodi. |
|
ARCHIF AR GYFER GWEDDARLLEDIADAU Ystyried
adroddiad ar lafar ynglŷn ag archifo a threfniadau cael mynediad at weddarllediadau’r Cyngor sydd wedi dod i ben. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad
ar lafar ar Archif ar gyfer Gweddarllediadau. Dywedodd y RhGD fod gweddarllediadau yn cael eu cadw am
chwe mis ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ond cafwyd ceisiadau o bryd i’w gilydd am
weddarllediadau hŷn na hyn. Dywedodd wrth yr Aelodau y gellid ail gyhoeddi
gweddarllediadau hŷn dros dro ond y byddai hyn yn golygu amser staff a
thâl bychan i’r darparwr gwasanaeth gweddarlledu. Gellid rhannu
gweddarllediadau hŷn yn electronig hefyd, ond eto roedd hyn yn gofyn am
amser staff a threfniadau i drosglwyddo ffeiliau fideo mawr. Roedd yn bosibl
cadw gweddarllediadau’n barhaol, h.y. peidio â dileu mynediad y cyhoedd iddynt
ar ôl 6 mis, ond byddai’n golygu cynnydd parhaus yn ffi’r drwydded gan y Cyngor
i’r darparwr gwasanaeth gweddarlledu. Dywedodd y RhGD fod y Cyngor yn archwilio creu archif o
weddarllediadau’r Cyngor ar ei wefan YouTube, ble byddent ar gael i’w gweld yn
barhaol gan y cyhoedd. PENDERFYNWYD bod y wybodaeth
ddiweddaraf am greu archif o weddarllediadau yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis
Mawrth 2025 y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Ystyried Rhaglen
Waith y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y
Rhaglen Waith i’w hystyried. Eitemau i’w
hychwanegu at raglen waith 14 Mawrth 2025 -
(i)
Archif ar gyfer Gweddarllediadau; (ii)
Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy - Ymgynghoriad
Cyhoeddus (iii)
Arweinwyr Grwpiau - proses ymddygiad aelodau; Cafodd Aelodau eu
hannog i gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd os hoffent i unrhyw
eitem gael eu hystyried ar gyfer y Rhaglen Waith. PENDERFYNWYD
cymeradwyo
Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn amodol ar yr uchod. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 10.55am. |