Agenda and draft minutes
Lleoliad: Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy cyfrwng fideo
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
Delyth Jones a Diane King. |
||
PENODI CADEIRYDD I'R CYFARFOD Penodi Cadeirydd o grŵp anweithredol (grŵp
di-Gabinet) ar gyfer cyfarfod heddiw o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.' Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor benodi aelod i gadeirio cyfarfod
heddiw. PENDERFYNWYD – fod y Pwyllgor yn penodi’r Cynghorydd Hugh
Evans fel Cadeirydd ar gyfer cyfarfod heddiw. |
||
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi is-gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar
gyfer blwyddyn ddinesig 2022 – 2023. Cofnodion: PENDERFYNWYD – fod penodi Is-gadeirydd ar gyfer y
Pwyllgor yn cael ei ohirio tan ar ôl i’r Cyngor benodi Cadeirydd ar gyfer y
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
||
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB
Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
||
MATERION BRYS
Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
||
Cofnodion: Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau
Democrataidd a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022 eu cyflwyno. Materion yn codi Eitem 6, Rôl y Cefnogwr Amrywiaeth. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes y byddai adroddiad ar aelodau
sy'n gefnogwyr yn cael ei ystyried gan y Cyngor llawn. PENDERFYNWYD - cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022 fel cofnod cywir. |
||
AROLWG AMSERIAD CYFARFODYDD 2022 PDF 212 KB Ystyried adroddiad sy'n amlinellu'r gofynion statudol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (y 'Mesur') mewn perthynas ag arolygu aelodau etholedig ar amseriad a lleoliad cyfarfodydd y Cyngor (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad
ar arolwg Amseriad Cyfarfodydd 2022 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd y gofynion statudol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i
gynnal arolwg i geisio barn aelodau etholedig ynglŷn ag amser cyfarfodydd
y Cyngor. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai un o nodau’r Mesur yw
hyrwyddo a chefnogi aelodaeth awdurdodau lleol. Gall yr amseroedd pan gaiff
cyfarfodydd eu cynnal fod yn ffactor allweddol o ran galluogi aelodau presennol
y Cyngor i’w mynychu a gallai gael effaith ar p’run ai yw ymgeiswyr posibl yn
sefyll am etholiad. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y dylai
awdurdodau lleol o dan y Mesur gynnal arolwg gyda’u haelodau o leiaf unwaith y
tymor. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd aelodau at
gwestiynau’r arolwg drafft sydd wedi eu hatodi fel atodiad i’r adroddiad. Trafododd yr Aelodau’r pwyntiau canlynol: ·
Y posibilrwydd y gallai amser y cyfarfodydd wella
hygyrchedd y cyfarfodydd a, thrwy fod yn atyniadol i ymgeiswyr cyngor posibl,
gwella amrywiaeth aelodau yn siambr y cyngor. ·
Roedd rhai cynghorwyr yn profi anawsterau gyda
chael amser i ffwrdd o’r gwaith i fynychu cyfarfodydd a gallai cwestiynau’r
arolwg drafft gasglu gwybodaeth werthfawr yn ymwneud â hyn. ·
Roedd rhai o’r aelodau yn teimlo fod cyfarfodydd
hybrid yn ddelfrydol gan gynnig cyfleustra cyfarfodydd rhithiol gyda’r profiad
o gyfarfodydd wyneb yn wyneb, a hynny yn unol ag anghenion y rhai oedd yn
mynychu a’r hyn maent yn ei ffafrio. ·
Yr effaith posibl ar staff yn mynychu cyfarfodydd
gyda’r nos, a pha safbwyntiau allai fod gan y swyddogion hynny. ·
Bwriad y Cyngor i osod mwy o offer cyfarfodydd
hybrid ym mhrif swyddfeydd y Cyngor. Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r arolwg gynnwys cwestiwn yn
ymwneud ag unrhyw anawsterau o ran cael amser o’r gwaith i fynychu cyfarfodydd. PENDERFYNWYD - yn ddibynnol ar gynnwys cwestiwn yn
ymwneud â’r anawsterau a brofir yn cael amser o’r gwaith i fynychu cyfarfodydd,
fod cwestiynau’r arolwg sydd wedi eu hatodi i’r adroddiad yn cael eu cymeradwyo
gan y Pwyllgor. |
||
HYFFORDDIANT AELODAU PDF 226 KB Ystyried adroddiad sy'n darparu diweddariadau a gwybodaeth am yr anwythiad a'r hyfforddiant wedi'r etholiad; ac ar hyfforddiant a datblygiad aelodau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad
ar Hyfforddiant a Datblygu Aelodau (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Diben yr
adroddiad oedd i ddarparu gwybodaeth am y rhaglen hyfforddi a datblygu aelodau
ar ôl yr etholiad a cheisio safbwyntiau’r Pwyllgor ar gynnwys a chyfeiriad y
rhaglen ar gyfer y dyfodol. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod rhaglen
o ymsefydlu, hyfforddiant a datblygu i aelodau wedi dechrau yn syth ar ôl
etholiadau’r Cyngor ym Mai 2022. Mae’r sesiynau a ddarparwyd hyd yma wedi
cynnwys ymsefydliad aelodau newydd ac aelodau sydd wedi dychwelyd drwy fynd
dros y ddarpariaeth TGCh, ymgyfarwyddo â gwasanaethau a gwybodaeth ynglŷn
ag ymgymryd â rolau penodol fel aelodau (er enghraifft hyfforddiant ar y Cod
Ymddygiad, eistedd ar y Pwyllgor Cynllunio neu weithredu fel ‘rhiant
corfforaethol’). Ystyriodd y Pwyllgor y gwaith a wnaed yn ddiweddar i
sicrhau fod e-ddysgu ar gael i aelodau a’r modiwlau e-ddysgu a oedd wedi eu
paratoi. Hefyd adolygodd aelodau bolisi’r Cyngor blaenorol ar hyfforddiant
‘gorfodol’ a’r Adolygiadau Datblygu Personol sydd ar gael o dan Fesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhaodd Rheolwr y
Gwasanaethau Democrataidd y byddai Arweinwyr Grŵp yn cael eu cefnogi pe
gofynnai eu haelodau iddynt i ymgymryd â’u Hadolygiadau Datblygu Personol. Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans fod gan Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru nawr gyllideb hyfforddi i gefnogi aelodau awdurdod
lleol. Roedd y gyllideb hyfforddi wedi ei lleihau’n flaenorol fel rhan o’r
toriadau llymder. Nododd yr Aelod Arweiniol gyda chyfrifoldeb dros
hyfforddiant a datblygu aelodau, y Cynghorydd Julie Matthews, fod yr adroddiad
yn ymdrin â’r materion hyfforddiant a datblygiad perthnasol. PENDERFYNWYD - fod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad ar
Hyfforddiant a Datblygu Aelodau. |
||
RÔL Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD PDF 221 KB I ystyried adroddiad sy'n amlinellu dyletswyddau a phwerau statudol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad
ar Rôl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (a ddosbarthwyd yn flaenorol).
Diben yr adroddiad oedd i amlinellu dyletswyddau a phwerau statudol y pwyllgor
a oedd yn amserol gan mai cyfarfod heddiw oedd cyfarfod cyntaf y pwyllgor ers
yr etholiadau. Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y pwyllgor
fod gan bob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru Bwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yr oedd ei ddyletswyddau statudol yn cynnwys adolygu,
a lle bo hynny’n briodol adrodd ar ddigonolrwydd staff, gofod ac adnoddau
eraill i gyflawni swyddogaethau’r gwasanaethau democrataidd. Nododd yr Aelodau gylch gwaith y pwyllgor. Yn ystod y drafodaeth i ddilyn cododd aelodau fater
penodiadau cynghorwyr i gyrff allanol (h.y. cynghorwyr yn cael eu penodi gan y
Cyngor i eistedd ar grwpiau a sefydliadau allanol) a mecanweithiau adrodd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes, fod y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd yn fforwm priodol i aelodau adrodd ar faterion sy’n
codi o’u haelodaeth o gyrff allanol. Ar hyn o bryd fodd bynnag nid oedd yna
fecanwaith sefydledig na threfniadau cefnogi ar gyfer adborth o gyrff allanol a
rhai paneli mewnol. Dywedwyd wrth
Aelodau fod rhaid i rai o’r cynghorwyr a benodwyd i gyrff allanol weithredu ac
adrodd er budd y corff allanol (er enghraifft fel ymddiriedolwr) ac nid er budd
y Cyngor. Holodd y Pwyllgor ynglŷn â’r effaith yn sgil Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Trafododd Aelodau yn gryno y
newidiadau a wnaed gan y Ddeddf i aelodaeth o Bwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio’r Cyngor, hyrwyddo cyfranogiad cyhoeddus a mynediad i lywodraeth leol
a’r etholiadau llywodraeth leol. Yn nhermau darpariaethau’r Ddeddf yn ymwneud ag ymddygiad
aelodau, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y Ddeddf yn gosod
dyletswyddau newydd ar arweinwyr y grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo a chynnal
safonau uchel o ymddygiad gan aelodau o’r grŵp. Holodd y Cynghorydd Hogg am y diffiniad o grŵp
gwleidyddol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod grŵp gwleidyddol yn
cael ei ffurfio pan fo dau neu fwy o gynghorwyr yn arwyddo ac yn darparu
hysbysiad ysgrifenedig yn datgan eu dymuniad i gael eu hystyried fel grŵp
gwleidyddol (yn unol â Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau
Gwleidyddol) 1990). PENDERFYNWYD – (a) Bod y Pwyllgor yn nodi dyletswyddau a phwerau
statudol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. (b) Cyflwyno adroddiad ar ddarpariaethau Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 o fewn cylch gwaith y Pwyllgor i
gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol; a (c) Dosbarthu rhestr o’r penodiadau i Gyrff Allanol i
aelodau o’r Pwyllgor. |
||
GOFAL PERSONOL A DIOGELWCH I AELODAU PDF 293 KB Ystyried adroddiad ar wybodaeth am ofal personol a diogelwch ar gyfer aelodau etholedig lleol (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julie Matthews, aelod arweiniol
Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, adroddiad ar Ofal Personol a
Diogelwch i Aelodau (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Hysbyswyd y Pwyllgor o ganfyddiadau’r Comisiwn Etholiadol
ar ôl etholiadau llywodraeth leol Mai 2022. Roedd y Comisiwn wedi canfod fod
cyfran nodedig o ymgeiswyr a oedd wedi ymateb i’w harolwg wedi profi rhyw ffurf
o gamdriniaeth neu fygythiad. Dywedwyd wrth Aelodau fod Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru (CLlLC) yn argymell i aelodau fod yn ymwybodol o’r peryglon pan
maent er enghraifft yn: ·
Ymweld â phobl yn eu cartrefi ·
Derbyn pobl sy’n galw i gartref y cynghorydd ·
Cynnal cymorthfeydd ·
Teithio, p’run ai gyda chludiant cyhoeddus neu
breifat, a phan maent ar eu pen eu hunain ·
Cyfathrebu ar-lein Roedd adroddiad y Pwyllgor heddiw’n cynnwys nifer o
ddolenni i adnoddau’n ymwneud â diogelwch personol ar gyfer aelodau y mae CLlLC
yn cyfeirio atynt a hefyd cyfeirio at argaeledd y gefnogaeth a’r cyngor ar
ddiogelwch personol o fewn y Cyngor. Trafododd Aelodau eu profiadau a’u canfyddiadau o’r
gamdriniaeth a’r bygythiadau a anelir at ymgeiswyr ac aelodau etholedig. Un
canlyniad i hyn fu newidiadau yn y gyfraith a oedd yn flaenorol wedi ei gwneud
yn ofynnol i gyfeiriadau cartref ymgeiswyr ac aelodau i gael eu cyhoeddi. Awgrymodd yr aelod arweiniol y gallai sesiwn hyfforddi i
aelodau, yn ymgorffori’r adnoddau a amlygir yn adroddiad y Pwyllgor ac a osodir
o fewn cyd-destun Sir Ddinbych, fod yn ddefnyddiol. Cymeradwyodd y Pwyllgor yr
awgrym. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at Bolisi
Gweithwyr sy’n Gweithio ar eu Pen eu Hunain y Cyngor fel ffynhonnell bosibl o
wybodaeth berthnasol ar gyfer aelodau. PENDERFYNWYD - yn unol â’r materion a godwyd uchod, fod y
Pwyllgor yn argymell fod sesiwn hyfforddi ar gyfer aelodau o’r Cyngor ar Ofal
Personol a Diogelwch yn cael ei gynnal. |
||
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 98 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd Raglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Trafododd Aelodau y broses ar gyfer diwygio’r rhaglen a
chadarnhawyd y gallai aelodau pwyllgor anfon ceisiadau yn uniongyrchol at
Gadeirydd y Pwyllgor neu Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd. Roedd y pwyllgor
yn gallu diwygio ei raglen gwaith i’r dyfodol ym mhob cyfarfod, o dan yr eitem
sefydlog yn y rhaglen sef ‘Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol’. Cytunodd y Pwyllgor y dylai swyddogion cefnogi, y tu
allan i gyfarfodydd y pwyllgor, gydgysylltu gyda Chadeirydd y Pwyllgor ar
eitemau a awgrymir ar gyfer y rhaglen. Yn ogystal â’r eitem gynharach ar y rhaglen ar rôl y
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, cyfeiriodd aelodau at gylch gwaith y
pwyllgor. Y rôl statudol yw i adolygu pa mor ddigonol yw’r ddarpariaeth gan yr
awdurdod o ran staff, gofod ac adnoddau eraill i gyflawni swyddogaethau
gwasanaethau democrataidd, ac i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r
awdurdod mewn perthynas â'r ddarpariaeth honno. Fe allai’r Pwyllgor benderfynu
sut i arfer y swyddogaethau hyn. PENDERFYNWYD – nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Pwyllgor. |