Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy gynhadledd fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNTIAU I'W NODI Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol o
ganlyniad i bandemig y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng
fideo gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd. Cafodd pob aelod gyfle i
fynychu fel arsylwyr a chafodd y Gohebydd Democratiaeth Leol wahoddiad i
arsylwi hefyd. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y byddai gan
bob un o’r aelodau a oedd yn bresennol gysylltiad personol ag eitem rhif 8 ar y
rhaglen – Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
2022 / 2023, gan ei fod yn penderfynu ar gyflogau Cynghorwyr. Nid oedd hyn yn
cael ei ystyried fel cysylltiad sy'n rhagfarnu o dan y Cod Ymddygiad. Datganodd yr
holl Gynghorwyr a oedd yn bresennol gysylltiad personol ag Adroddiad Blynyddol
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022/23. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Derbyn
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 12
Mawrth 2021 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a
gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2021. Tudalen 8 – Eitem 7 ar y rhaglen – Canllawiau Diwygiedig Drafft ar y Cod
Ymddygiad – roedd Aelodau’n teimlo fod y term ‘croen mwy trwchus’ yn amhriodol.
Pwysleisiodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol
a Democrataidd, fod yr ymadrodd wedi ei ddefnyddio yn y canllawiau gan yr
Ombwdsmon ac mewn Dyfarniad Uchel Lys ar y Cod Ymddygiad. Penderfynwyd: - derbyn a chymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 12
Mawrth 2021 fel cofnod cywir. |
|
CYNIGION I AELODAU FABWYSIADU FFYRDD NEWYDD O WEITHIO PDF 210 KB Ystyried
adroddiad ar y cynigion a grëwyd drwy waith Grŵp Tasg a Gorffen Ffyrdd Newydd o Weithio Aelodau ac a fwriedir
i fod yn berthnasol i’r Cyngor newydd yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Cynigiodd ei
ymddiheuriadau am y dryswch gyda'r atodiadau sy'n ymwneud â'r eitem ar yr
agenda. Roedd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol yn
bresennol ar gyfer yr eitem. Cadarnhaodd fod gweithgor wedi ei sefydlu i
adolygu a thrafod ffyrdd newydd o weithio. Cadarnhawyd fod y gweithgor wedi
cyfarfod ar 19 Hydref 2021 ac wedi cytuno ar yr argymhellion a gyflwynir i
aelodau yn yr adroddiad. Pwysleisiwyd fod y cynigion a osodir gan y gweithgor wedi
eu cyflwyno i gynorthwyo’r trefniant cyfarfod hybrid a galluogi aelodau i gael
mynediad i gyfarfodydd o bell os oeddent yn dymuno gwneud hynny. Y cynnig oedd
i ddarparu dau ddarn o dechnoleg i bob aelod, gliniadur a ffôn symudol gyda
sgrin fawr. Roedd y gweithgor wedi penderfynu peidio rhoi IPad i aelodau. Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol y byddai’r newidiadau i’r
dechnoleg a ddefnyddir ar ôl yr etholiadau nesaf ac y byddai hyfforddiant TGCh
yn cael ei ddarparu i’r holl aelodau. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol
a Democrataidd i aelodau fod deddfwriaeth bresennol yn gorfodi awdurdodau lleol i gael darpariaeth i’w aelodau i fynychu
cyfarfodydd o bell. Roedd y rhan fwyaf o gyfarfodydd cyhoeddus bellach yn cael
eu cynnal o bell gyda'r cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw drwy we-ddarllediad y
cyngor.Roedd hyn yn caniatáu i'r cyhoedd a'r wasg arsylwi ar y cyfarfod.
Atgoffwyd yr Aelodau y byddai strwythur y cyfarfod safonol yn dal i fod yn
berthnasol, ac mae'n dal yn ofynnol i aelodau ddatgan unrhyw ddatganiadau a
dogfennau rhan 2 sy'n weddill yn gyfrinachol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy'r
egwyddorion a'r protocolau cyffredinol a gynigiwyd. Cadarnhaodd y Pennaeth Busnes, Gwelliant a Moderneiddio y
byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu i aelodau ar y dechnoleg newydd.
Pwysleisiodd bwysigrwydd cael technoleg i alluogi mwy o fynediad i aelodau a
hwylustod wrth fynychu cyfarfodydd yn rhithiol. Byddai staff TGCh ar gael i
gynnig cefnogaeth ac arweiniad i aelodau. Fe longyfarchodd aelodau ar y dysgu
cyflym a wnaed ganddynt yn ystod y pandemig i alluogi cyfarfodydd i barhau. Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y gefnogaeth roedd wedi ei dderbyn
yn gosod ei ddyfeisiau i’w alluogi i weithio o gartref. Diolchodd yr aelodau i’r Aelod Arweiniol a swyddogion am y wybodaeth a
ddarparwyd, yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Anogodd y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol
aelodau i ddefnyddio’r ddarpariaeth ar gyfer hawlio treuliau gan gynnwys y
cyfleuster gofal plant. Os oedd gan aelodau dderbynebau ar gyfer treuliau yna
gellid hawlio i gefnogi aelodau i fynychu cyfarfodydd. ·
Byddai swyddogion a’r gweithgor yn edrych ar ddewisiadau
i aelodau ar sail unigol a chynorthwyo gyda sefydlu’r dechnoleg sydd ei hangen
ar aelodau i fynychu cyfarfodydd o leoliadau pell. ·
Roedd angen lefel o ffurfioldeb a gweddustra o hyd ar
gyfarfodydd o bell. Fe allai cyfleuster y cefndiroedd aneglur gael ei
fabwysiadu gan aelodau i ychwanegu preifatrwydd. Cadarnhawyd y byddai gofod ar
gael yn adeiladau’r cyngor er mwyn i aelodau ei ddefnyddio i fynychu
cyfarfodydd. Ar hyn o bryd dim ond Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir, Rhuthun
oedd wedi ei osod yn dechnegol i gefnogi cyfarfodydd hybrid. ·
Mae’n bosibl na fydd y defnydd o gyfarfodydd hybrid / o
bell yn addas ar gyfer yr holl gyfarfodydd. Ar gyfer rhai cyfarfodydd nad ydynt
yn cael eu gweinyddu gan y Gwasanaethau Democrataidd fel panel mabwysiadu mae’n
bosibl na fyddai’n ymarferol i gynnal cyfarfod o bell. ·
Roedd yr aelodau yn deall yr angen i recordio
cyfarfodydd, gofynnwyd am wneud aelodau yn ymwybodol pan fyddai cyfarfodydd yn
cael eu recordio. · Fe allai’r ddyfais symudol ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
AMRYWIAETH MEWN DEMOCRATIAETH PDF 232 KB Ystyried
adroddiad ar waith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fel rhan o’i
Raglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Arweiniodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd yr aelodau
drwy'r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Cafodd aelodau eu hatgoffa fod
adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 7 Medi 2021 ar ‘Amrywiaeth mewn
Democratiaeth’. Yn y cyfarfod hwnnw fe gymeradwyodd aelodau'r datganiad a
nodwyd yn Atodiad 3 i’r adroddiad a dirprwywyd y broses o baratoi cynllun
gweithredu i gefnogi’r datganiad i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Roedd yr
adroddiad yn sôn am waith Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fel rhan
o’i Raglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Wedi’i gynnwys yng ngwaith CLlLC
roedd Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth uchelgeisiol i geisio sicrhau bod
siambrau cynghorau yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau y maent yn eu
gwasanaethu. Amlygwyd yn yr adroddiad nifer o rwystrau a oedd wedi eu nodi’n
flaenorol gan gynnwys; • Ymrwymiad amser ac amseroedd cyfarfodydd; • Diwylliant gwleidyddol a sefydliadol; • Gofal plant a chyfrifoldebau gofalu eraill; • Beirniadaeth gan y cyhoedd a chamdriniaeth ar-lein; • Tâl ac effaith ar gyflogaeth; a • Diffyg modelau rôl amrywiol a chyfnod mewn swydd. Pwysleisiodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd gyda’r
ffyrdd newydd o weithio a’r system hybrid o ran cyfarfodydd y gobaith oedd y
byddai rhwystr ymrwymiad amser a theithio i gyfarfodydd yn cael ei leddfu ar
gyfer ymgeiswyr posibl. Cadarnhawyd
hefyd fod adroddiad penodol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir yn dilyn pob
etholiad i drafod amseroedd cyfarfodydd ac unrhyw ofynion penodol. Tynnodd
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd Adnoddau Dynol sylw at y
ffaith bod camau a gynhwyswyd yn y cynllun gweithredu yn gamau i wella'r ffyrdd
y cynhaliwyd cyfarfodydd i sicrhau bod pobl a allai fod mewn cyflogaeth amser
llawn, yn rhedeg eu busnes eu hunain, neu sydd ag anabledd neu gyfrifoldebau
gofalu yn gallu cymryd rhan mewn democratiaeth leol. Pwysleisiwyd mai rôl
bwysig Cynghorydd etholedig oedd i gefnogi’r ymrwymiad i ddod yn gyngor
amrywiol. Roedd cynyddu ymgysylltiad gyda’r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o rôl
cynghorydd a’r cyfraniad cadarnhaol mae cynghorwyr yn ei wneud i awdurdodau
lleol yn hanfodol. Clywodd aelodau fod CLlLC wedi lansio gwefan ‘Byddwch yn
Gynghorydd’ a oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â rôl cynghorydd ac yn
cynnig cefnogaeth a chyfleoedd datblygu. Cadarnhawyd y byddai canllawiau
hyfforddi ar gyfer y cyngor newydd yn cael eu darparu gan CLlLC. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd fod y disgrifiad
a ddarparwyd yn yr adroddiad wedi ei ddarparu gan CLlLC gan gynnwys y geiriad a
ddefnyddiwyd ar gyfer y meini prawf ar gyfer ymgeiswyr posibl. Hysbyswyd yr
Aelodau bod agenda genedlaethol wedi dechrau mynd i'r afael â phryderon a
materion yn ymwneud â defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Pwysleisiodd aelodau
fod y gamdriniaeth a’r aflonyddu a dderbyniwyd dros y cyfryngau cymdeithasol
wedi bod yn ofnadwy. Pwysleisiodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd bwysigrwydd cefnogi a chynorthwyo’r rhaglenni hyn. Cadarnhawyd i
aelodau ei bod wedi bod yn ofyniad cyfreithiol i gynnwys manylion cyswllt ar
gyfer Cynghorwyr, ond roedd disgwyl i’r ddeddfwriaeth gael ei newid yn fuan.
Atgoffwyd aelodau hefyd o’r protocol sydd mewn grym ar hyn o bryd os oedd
ganddynt unrhyw bryderon neu os oeddent eisiau codi unrhyw faterion. Nododd
unrhyw bryderon neu sylwadau yn ymwneud â hyfforddiant er mwyn ymdrin â hwy ac
fe fyddai’n hapus i dderbyn adborth aelodau ar yr hyfforddiant a ddarperir. Awgrymodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd i aelodau y
dylid cyflwyno’r cynllun gweithredu i aelodau er mwyn cael sylwadau. Gofynnodd
aelodau am i gyfarfod gael ei gynnal i dderbyn y cynllun gweithredu er mwyn
cael trafodaeth ar y cynnig. Roedd yr holl aelodau yn gytûn. Felly, PENDERFYNWYD fod aelodau yn nodi’r adroddiad a bod ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod roedd rhaid i nifer o aelodau adael.
Disgynnodd lefel presenoldeb y cyfarfod yn is na’r gofyniad ar gyfer cworwm.
Penderfynwyd parhau gyda busnes y cyfarfod. |
|
RÔL CEFNOGWR POBL IFANC PDF 222 KB Ystyried adroddiad ar gynigion i greu rôl Cefnogwr Pobl Ifanc (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Pwysleisiodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd bwysigrwydd rôl newydd arfaethedig y Cefnogwr Pobl Ifanc. Cafodd
aelodau eu harwain drwy’r adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a rhoddwyd
gwybodaeth gefndir iddynt yn ymwneud â’r rôl. Atgoffwyd
aelodau y penderfynwyd, yn dilyn cyflwyno rhybudd o gynnig i’r Cyngor Sir ym
Medi 2021, y byddai adroddiad ar y rôl Cefnogwr Pobl Ifanc yn cael ei gyflwyno
i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i ddiffinio'r rôl ac y byddai adroddiad
pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn. Hysbyswyd aelodau fod yr Aelod
Arweiniol yn cytuno y gellid cynnig y rôl i unrhyw aelod a oedd yn dymuno
ymgymryd â’r swydd. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd fod y disgrifiad drafft o’r rôl wedi ei greu yn unol â
rolau Cefnogwyr presennol o fewn yr awdurdod. Yn dilyn y
drafodaeth, trafododd yr aelodau'r canlynol yn fanylach: ·
Mae’r Cefnogwr Pobl Ifanc yn ymdrin â phob oed hyd at 25
nid 18 fel y nodwyd yn yr adroddiad drafft. ·
Roedd yn hanfodol fod y Cefnogwr a ddewisir yn ymgysylltu
gyda phobl ifanc ac ysgolion. ·
Cytunodd aelodau fod angen y rôl ac y byddai’n darparu
cyswllt cadarnhaol ar gyfer pobl ifanc a'r awdurdod. ·
Pwysleisiodd aelodau bwysigrwydd derbyn adborth gan y
rhai a oedd yn cyflawni Rôl Cefnogwyr yn yr awdurdod i ddysgu a datblygu
dealltwriaeth. ·
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd y byddai’r rôl yn cynnwys rhestr benodol o rinweddau i’r
ymgeisydd eu cyflawni ar gyfer y rôl. Byddai’r unigolyn a ddewisir yn
gweithio’n agos gyda’r Aelod Arweiniol gan hyrwyddo pobl ifanc ar ran y cyngor.
Dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd wrth aelodau
gan nad oedd y pwyllgor bellach â chworwm na allent gywiro’r argymhelliad ond
fe allent gefnogi’r disgrifiad o’r rôl. Felly, NODWYD, fod aelodau yn dangos cefnogaeth eang tuag at y
disgrifiad o’r Cefnogwr Pobl Ifanc ac yn dangos cefnogaeth eang i’r rôl ar
gyfer unigolyn a benodir neu Gynghorydd. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT AR BANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL 2022-2023 PDF 232 KB Ystyried
adroddiad ar adroddiad blynyddol
drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ar gyfer y
flwyddyn ddinesig 2022-2023 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) mewn perthynas ag adroddiad
blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) ar gyfer
blwyddyn ddinesig 2022/2023. Cafodd aelodau
eu hatgoffa fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi ei
sefydlu yn 2008. Cafodd cylch gwaith a swyddogaethau’r Panel eu hymestyn ym
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mae cylch gwaith y Panel yn cynnwys
cynghorwyr, aelodau o awdurdodau parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub Cymru
a chynghorau tref a chymuned yn ogystal â chynghorau sir a bwrdeistref sirol.
Roedd y Panel yn gallu pennu swm gwirioneddol y taliad y gall awdurdod ei wneud
i aelod a’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a all wneud cynghorwyr yn gymwys i
dderbyn taliadau. Pwysleisiodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd fod rhaid
i’r awdurdod gydymffurfio gyda’r argymhellion a bod rhaid iddo dalu’r cyflog
sylfaenol. Roedd pob aelod wedi eu hannog i dderbyn y cyflog yr oedd ganddynt
hawl iddo. Cadarnhawyd y cynigiwyd i'r cyflog sylfaenol gynyddu i £16800 o
£14368, sef cynnydd o 17%. Cafodd aelodau
eu harwain drwy’r adroddiad a oedd yn darlunio’r gwahanol gyflogau a gâi eu
talu ar gyfer swyddi uwch. Hysbyswyd
aelodau mai i’r Cadeirydd yn unig y caiff y cyflog a delir i Gadeirydd pwyllgor
ei roi, os yw’r Is-gadeirydd am unrhyw reswm yn ymgymryd â rôl y Cadeirydd ar
sail hirdymor roedd adran o’r adroddiad drafft yn darparu trefniadau i’r
awdurdod eu dilyn. Pwysleisiwyd i aelodau y byddai argymhellion yr adroddiad terfynol yn
rhwymo ac y byddai’n rhaid i’r holl awdurdodau lleol lynu at yr adroddiad. Felly, NODWYD gan y pwyllgor benderfyniadau Panel Annibynnol
Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022 – 2023 mewn perthynas â thalu cyflogau a thaliadau i
aelodau cyfetholedig. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL PDF 205 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Gwasanaeth Democrataidd i’w
hystyried. Cadarnhaodd y
Cadeirydd y byddai’r cyfarfod nesaf ar 25 Mawrth 2022. Cytunodd aelodau y dylai
cyfarfod ar wahân gael ei drefnu os yn bosibl cyn cyfarfod mis Mawrth i drafod
y Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol unwaith yr oedd
drafft manwl wedi ei lunio. Cytunodd
aelodau i gynnwys eitem yn rhaglen y cyfarfod nesaf ar CLlLC – y Broses
Gyflwyno. NODODD aelodau y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 13.00 p.m. |