Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Michelle Blakeley-Walker

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Michelle Blakeley-Walker

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni godwyd unrhyw faterion brys.

Cofnodion:

Ni godwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 334 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM ADOLYGIAD TABL FFIOEDD A PHRISIAU CERBYDAU HACNI pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am adolygiad Tabl Ffioedd a Phrisiau Cerbydau Hacni a’r ffordd ymlaen arfaethedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       y tariff cyfredol a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cael ei gadw, a

 

(b)       bod swyddogion yn cael eu cymeradwyo i gynnal ymchwil pellach, gyda mewnbwn angenrheidiol gan drwyddedai lleol, i alluogi’r aelodau benderfynu ar ffioedd tariff priodol yn y dyfodol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru aelodau ar yr adolygiad o’r Tabl Ffioedd a Phrisiau Cerbydau Hacni cyfredol a chynigiodd ffordd ymlaen.

 

Mae’r Pwyllgor Trwyddedu wedi cymeradwyo newidiadau i’r ffioedd cerbydau hacni ym mis Mehefin 2022 ac wedi gwneud cais bod swyddogion yn adolygu’r ffioedd ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor mewn chwe mis.  Bu i ymgynghorydd arwain y broses honno a chynigiwyd ffioedd a gyhoeddwyd i gael ymgynghoriad cyhoeddus.  Y neges gyffredinol gan ymatebwyr oedd nad oedd angen newid yn y tariff.  Roedd manylion y tariff cyfredol (Atodiad 1), adroddiad yr ymgynghorydd (Atodiad 2), a chrynodeb o ymatebion gan y fasnach (Atodiad C) a’r cyhoedd (Atodiad D) wedi’u hatodi i’r prif adroddiad.

 

Tynnwyd sylw’r Aelodau at argymhellion yn adroddiad yr ymgynghorydd a methodoleg gynhwysfawr ar gyfer gosod tabl teg a thryloyw o ffioedd.  Roedd diffyg ymgysylltiad gan y fasnach dacsi yn ystod y broses wedi golygu bod dim digon o wybodaeth wedi’i gael er mwyn gwneud penderfyniad ar sail tystiolaeth ar osod tariff tacsi a fyddai angen gwaith pellach wrth ystyried unrhyw newidiadau tariff yn y dyfodol.  Roedd yr ymgynghorydd wedi argymell y canlynol -

 

·         cyflwyno tri thariff ar gyfer tacsi sydd yn cludo pedwar unigolyn a thariff ar gyfer tacsi sydd yn cludo pump neu fwy o bobl.

·         crynhoi’r gyfradd uned tariff, i ddeg ceiniog agosaf i gael gwared ar yr angen o ddefnyddio arian copr mân.

·         cynnydd/ gostyngiad pris blynyddol, yn unol â Mynegai Pris Manwerthu ar gyfer Moduro

·         mabwysiadu’r fethodoleg arfaethedig.

 

Hefyd cyfeiriodd y Rheolwr at bapur gwyn Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth tacsi ar ddechrau 2023 a allai gael effaith ar osod ffioedd yn y dyfodol.  O ganlyniad, roedd y swyddogion wedi argymell cadw’r tariff presennol a bod ymchwil pellach, gyda mewnbwn gan drwyddedai lleol, i benderfynu ar ffioedd tariff yn y dyfodol.

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i’r adroddiad ynghyd â’r canfyddiadau’ adroddiad yr ymgynghorydd, ac roedd cefnogaeth gyffredinol dros gadw’r tariff cyfredol ar hyn o bryd, yn arbennig gan ystyried y goblygiadau posibl gan bapur gwyn arfaethedig Llywodraeth Cymru ar osod tariff yn y dyfodol, mae’r gwaith pellach sydd ei angen i adeiladau sylfaen y fethodoleg arfaethedig wedi’i nodi yn adroddiad yr ymgynghorydd, a’r diffyg cyffredinol o gefnogaeth dros newid i’r tariff ar hyn o bryd.  Roedd y Pwyllgor yn credu y byddai’n briodol i adolygu’r ffioedd tariff ymhellach ar ôl gwybod am unrhyw effaith ar osod tariff yn y dyfodol yn hysbys yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, ac i ystyried unrhyw ymchwil sy’n briodol gyda mewnbwn gan y fasnach dacsi trwyddedig.

 

Ymatebodd y Rheolwr i’r cwestiynau, gan gadarnhau mai’r bwriad oedd defnyddio’r fframwaith a darparwyr gan yr ymgynghorydd i lunio sail cyfrifo ffioedd a thaliadau cerbydau hacni yn y dyfodol.  Fodd bynnag, cydnabu y byddai’r fframwaith angen craffu pellach gan ystyried mewnbwn gan y fasnach trwyddedu ac ymgysylltiad digonol er mwyn cynhyrchu’r dystiolaeth angenrheidiol i asesu costau gwirioneddol fel rhan o’r broses hwnnw.  O ran y broses ymgysylltu nid oedd un corff yn Sir Ddinbych yn cynrychioli’r fasnach dacsi, ond darparwyd sicrwydd bod yr ymgynghoriad a gyflawnwyd wedi’i ymestyn i gynnwys cyfyngau cymdeithasol a datganiadau i'r wasg ychwanegol ynghyd â chyswllt gyda phob gyrrwr trwyddedig, gan roi digon o gyfle i ymgysylltu a rhoi mewnbwn ar y broses.

 

Ar ôl ystyried cynnwys yr adroddiad ynghyd â’r canfyddiadau yn adroddiad yr ymgynghorydd fel y nodwyd yn Atodiad 2 -

 

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       y tariff cyfredol a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad yn cael ei gadw, a

 

(b)       bod swyddogion yn cael eu cymeradwyo i gynnal ymchwil pellach, gyda mewnbwn angenrheidiol gan drwyddedai lleol, i alluogi’r aelodau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

YSTYRIAETH AR GYFER PROSES DROS DRO AR GYFER CERBYDAU FFLYD NEWYDD pdf eicon PDF 216 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) ar adolygiad y gofynion oedran presennol ar gyfer cerbydau sy’n cael eu trwyddedu am y tro cyntaf gan y Cyngor a’r argymhelliad i gadw’r polisi oedran presennol ar gyfer cerbydau fflyd newydd a cherbydau fflyd presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi, a

 

(b)       polisi oedran cyfredol i fflyd newydd o gerbydau yw dan 5 od, a bydd unrhyw gerbyd ar y fflyd sy’n 12 oed yn cael eu tynnu, oni bai bod hen hawliau yn berthnasol tan 2024, i’w cadw, a

 

(c)        bod Aelodau’n cyfarwyddo’r swyddogion i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Trwyddedu o ran manylion adolygiad Llywodraeth Cymru o safonau tacsis ar amser priodol yn ystod 2023.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar adolygiad o’r gofynion oedran presennol ar gyfer cerbydau sy’n cael eu trwyddedu am y tro cyntaf gan y Cyngor, ac argymhelliad i gadw’r polisi oedran cyfredol ar gyfer cerbydau newydd i’r fflyd a rhai presennol.

 

Cafodd polisi presennol Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2016, a daeth i rym ar 1 Gorffennaf 2017.   Roedd y polisi’n cynnwys cyfyngiad oedran ar gerbydau sef na ddylai unrhyw gerbyd newydd i’r fflyd fod yn hŷn na 5 mlwydd oed ac y dylid gwaredu unrhyw gerbyd sy’n cyrraedd 12 oed.  Roedd y Pwyllgor wedi adolygu’r polisi oedran cerbyd yn eu cyfarfod blaenorol ac yn dilyn materion caffael cerbyd, gan gynnwys cost ac argaeledd, wedi awdurdodi swyddogion i edrych ar broses dros dro o ddyrannu ar gyfer penderfynu ar geisiadau newydd i’r fflyd i gerbydau dros 5 mlwydd oed ac i adrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf.  Yn ogystal roedd y Pwyllgor wedi penderfynu ymestyn y cyfnod gras i ganiatáu cerbydau sydd â thrwydded eisoes yn cyrraedd 12 oed i aros ar y fflyd tan fis Gorffennaf 2024, ac i ymgynghori ymhellach ar ddiwygio’r polisi oedran drwy lacio oedran newydd i fflyd a’r cyfyngiad oedran uchaf.

 

Soniodd y Rheolwr am fanylion yr adroddiad a oedd yn cynnwys dadansoddiad o oedran cerbyd ar draws y fflyd, a buddsoddiad sylweddol gan berchnogion hyd yma, costau gwerthu cerbyd ar y farchnad, safonau’r diwydiant, cyfradd diogelwch, cyflenwad gwarant ac allyriadau.  Tynnwyd sylw’r aelodau at y canlynol -

 

·         ychydig iawn o gerbydau sy’n parhau ar y fflyd os ydynt dros y trothwy 12 oed, ac o’r rheiny mae’r perchnogion yn gallu manteisio ar y rheol cyfnod gras hen hawliau tan 2024.

·         mae nifer sylweddol o gerbydau wedi cael eu cyflwyno i’r fflyd hyd yn hyn o ganlyniad i fuddsoddiad gan y perchnogion.

·         y cynnydd mewn safonau diogelwch wrth i dechnoleg cerbydau ddatblygu

·         adolygiad Llywodraeth Cymru o safonau tacsis yng Nghymru, a’r papur gwyn sydd ar y gweill, sy’n debygol o gynnwys oedran cerbydau.

 

Gan ystyried yr argymhellion hynny, bu i’r swyddogion argymell bod y polisi oedran cyfredol ar gyfer cerbydau fflyd newydd a fflyd gyfredol yn aros a bod diweddariad ar adolygiad Llywodraeth Cymru ar safonau tacsi yn cael ei ddarparu ar adeg briodol.

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i’r adroddiad, eto yn nodi’r effaith bosibl ar safonau cerbydau yn codi o bapur gwyn Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth tacsi.  Nodwyd bod dadansoddiad o oedran cerbydau ar draws fflyd drwyddedig yn dangos buddsoddiad sylweddol gan berchnogion hyd yma, ac nid oedd y polisi oedran cyfredol wedi atal, gyda’r diwydiant tacsi yn prynu cerbydau ar gyfer pwrpas trwyddedu o fewn amodiad oedran cyfredol.  Hefyd nodwyd bod y cyfnod gras ar gyfer cerbydau sydd â thrwydded eisoes wedi’i ymestyn tan fis Gorffennaf 2024.  Yn ogystal, amlygwyd mai bwriad y polisi oedran cerbyd oedd moderneiddio’r fflyd gyfredol o drwyddedau trwyddedig i sicrhau safonau uchel a diogelwch y cyhoedd sy’n teithio.

 

Gan fod safonau cerbyd o fewn cwmpas papur gwyn Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth tacsi, roedd yr aelodau wedi ystyried ei fod yn ddoeth i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad hwn cyn adolygu gofynion oedran cerbyd, gan y byddai unrhyw benderfyniad gan y Pwyllgor ar hyn o bryd yn cael ei ddisodli yn ddiweddarach.  Gofynnodd y Cynghorydd Martyn Hogg a fyddai’n bosibl i gael adolygiad yn y dyfodol o’r polisi oedran cerbyd, i feintoli effeithiau allyriadau carbon ar newidiadau polisi, a chyfeiriodd at gyfrifiad a oedd yn awgrymu bod y swm o garbon sy’n cael ei ryddhau wrth weithgynhyrchu cerbyd trydan newydd sbon  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADOLYGU - DEDDF GAMBLO 2005 DATGANIAD O EGWYDDORION pdf eicon PDF 217 KB

I ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn cyflwyno Datganiad o Egwyddorion drafft y Cyngor (Deddf Gamblo 2005), i'w ystyried a'i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad statudol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad o Egwyddorion drafft y Cyngor (Deddf Gamblo 2005) sydd wedi’i atodi i’r adroddiad ar gyfer ymgynghori statudol.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn cyflwyno drafft y Cyngor o’i Ddatganiad o Egwyddorion (Deddf Gamblo 2005), i’w ystyried a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol.

 

Atgoffwyd yr aelodau o’r gofyniad statudol i adolygu’r Datganiad o Egwyddorion bob tair blynedd.  Roedd ystyriaeth ddyledus wedi'i rhoi o amcanion trwyddedu Deddf Gamblo 2005 a'r Comisiwn Gamblo ‘Canllaw Awdurdodau Trwyddedu' fel rhan o’r adolygiad hwnnw ac roedd y ddogfen ddrafft wedi’i datblygu gan y chwe awdurdod trwyddedu yng Ngogledd Cymru i sicrhau cysondeb mewn materion yn ymwneud â materion a swyddogaethau gamblo.  Doedd dim newidiadau arwyddocaol wedi’u cynnig, ar wahân i newidiadau bach ac ychwanegiadau er mwyn cryfhau’r polisi cyfredol yn unol â chanllaw, a oedd wedi’i grynhoi yn Atodiad A o’r adroddiad, ac amlygwyd drafft Datganiad o Egwyddorion yn Atodiad B. Cadarnhawyd nad oedd y polisi presennol wedi bod yn amodol i unrhyw heriau cyfreithiol.  Hefyd roedd manylion y broses ymgynghori wedi’i ddarparu a oedd yn cynnwys awdurdodau cyfrifol, deiliaid trwydded gyfredol a sefydliadau cefnogi.  Os bydd unrhyw sylwadau yn dod i law o ganlyniad i’r ymgynghoriad, bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.  Os na fydd unrhyw sylwadau yn dod i law bydd y datganiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ei gymeradwyo.

 

Cadarnhaodd Aelodau eu bod yn hapus i gymeradwyo’r drafft ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ac felly -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad o Egwyddorion drafft y Cyngor (Deddf Gamblo 2005) sydd wedi’i atodi i’r adroddiad ar gyfer ymgynghori statudol.

 

 

8.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2023 pdf eicon PDF 194 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm), ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith i'r dyfodol ddiwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

                                    

(a)          cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi, a

 

(b)            yn amodol ar gynnwys diweddariad ar bapur gwyn Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth tacsi ar y cyfle cyntaf sy’n briodol, y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer 2023 fel y nodwyd yn Atodiad A o’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a oedd wedi cael ei ddosbarthu ymlaen llaw) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â diweddariad ar y rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer 2023.

 

Roedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi trwyddedai yn effeithiol, yn ogystal ag ymrwymiad yr awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi.  Fodd bynnag yn sgil cynigion Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar y ddeddfwriaeth tacsi newydd ym mis Ionawr 2023, roedd y rhaglen waith a gymeradwywyd yn flaenorol wedi’i ddiwygio ychydig i oedi adroddiad wedi’i drefnu ar yr adolygiad o Ddatganiad Polisi presennol Cerbydau Hacni a Hurio Preifat, tan y flwyddyn nesaf pan fydd canlyniad yr ymgynghoriad wedi ei gyhoeddi.

 

Nododd Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf a’r diwygiadau arfaethedig i’r rhaglen gwaith i'r dyfodol.  Yng ngoleuni papur gwyn Llywodraeth Cymru yn gynnar flwyddyn nesaf ar ddeddfwriaeth tacsi, a goblygiadau dilynol ar y diwydiant tacsi, gofynnodd y Pwyllgor bod diweddariad ar yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol cyn gynted ag y bydd y wybodaeth yn dod ar gael.

 

PENDERFYNWYD bod –

                        

(a)       cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi, a

 

(b)       yn amodol ar gynnwys diweddariad ar bapur gwyn Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth tacsi ar y cyfle cyntaf sy’n briodol, y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer 2023 fel y nodwyd yn Atodiad A o’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Ar y pwynt hwn (10.15 am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

9.

CAIS AM DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat.

11.30 am

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD  bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael ei roi yn amodol ar amodau ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd i gael trwydded yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor ynghylch y cyfyngiad oedran pum mlynedd i gerbydau a drwyddedir gan gais newydd;

 

(iii)         amodau ychwanegol yn berthnasol i drwyddedu mathau o gerbydau arbenigol megis yr un a gyflwynwyd yn yr achos hwn ynghyd â thystiolaeth gefnogol a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd, a

 

(iv)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Darparodd y Swyddog Gorfodi (KB) grynodeb o adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Cyflwynodd yr Ymgeisydd ei achos yn dweud ei fod yn weithredwr wedi’i hen sefydlu o gerbydau arbenigol gyda chofnod dilychwin a darparodd ychydig o gefndir am natur a gweithred y busnes.  Manylodd ar y cerbyd arfaethedig ar gyfer y drwydded (cofrestrwyd yn 2008) a’i rhinweddau a oedd yn cynnwys safonau uchel a gofynion diogelwch, a gwaith cynnal a chadw ac amserlenni gwasanaeth.  Cyflwynodd bod y polisi oedran yn cael effaith anghymesur ar natur arbenigol o’i fusnes, a bod y cerbyd dan ystyriaeth yn fath o gerbyd moethus na ddefnyddir fel arfer ar gyfer gwaith hurio preifat arferol gyda llai o waith traul. Hefyd cyflwynwyd, mewn cydnabyddiaeth o fathau cerbydau arbenigol o’r fath, nid oedd cynghorau eraill yn gosod polisi oedran i gerbydau o’r natur hwn.

 

Atebodd yr Ymgeisydd y cwestiynau gan yr aelodau ynghylch y defnydd posibl a milltiredd amcangyfrifedig y cerbyd, a darparu sicrwydd o ran amserlenni cynnal a chadw yn y dyfodol a phrofi cydymffurfiaeth, a chydlynu â’r amodau ychwanegol arfaethedig ar gyfer mathau cerbyd arbenigol.  Roedd y Pwyllgor wedi rhoi trwydded yn flaenorol ar gyfer cerbyd tebyg y tu allan i’r cyfyngiad ar sail debyg.  Yn ei ddatganiad terfynol, dywedodd yr Ymgeisydd ei fod yn fodlon cydymffurfio gydag unrhyw amodau trwydded yr oedd y Pwyllgor yn ystyried yn briodol ar y cerbyd perthnasol.

 

Oedwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD  bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael ei roi yn amodol ar amodau ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yn ofalus y cais, adroddiad y swyddog a’r achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn ysgrifenedig cyn y cyfarfod ac yn y cyfarfod ei hun

 

I ddod i benderfyniad, nododd y Pwyllgor natur a math o fusnes a weithredwyd, a bod yr Ymgeisydd yn weithredwr gydag enw da ac wedi hen sefydlu mewn gwasanaethau arbenigol o’r fath.  Ar y sail honno, ac ar ôl ystyried yn arbennig y natur arbenigol y cerbyd arfaethedig i’w drwyddedu, defnydd bwriadedig o’r cerbyd, a gwasanaeth cynnal a chadw caeth dwywaith y flwyddyn gan y Gwasanaethau Fflyd, cytunodd yr aelodau bod achos wedi’i wneud i wyro o’u polisi cyfyngiad oedran yn yr achos hwn, ac i ganiatáu’r cais y gwnaethpwyd cais amdano, yn amodol ar yr amodau ychwanegol sydd yn berthnasol i’r math o gerbyd arbenigol, fel y nodir yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

[Roedd y Pwyllgor yn teimlo y gallai mantais o gyflwyno polisi ar wahân o ran mathau o gerbydau arbenigol, a chytunodd y swyddogion y gallai’r mater fod yn amodol i ystyriaeth arall fel rhan o adolygiad polisi yn y dyfodol i symud ymlaen.]

 

Ar  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

CAIS AM DRWYDDED CERBYD HACNI

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded Cerbyd Hacni.

12.00

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD  gwrthod y cais am Drwydded Cerbyd Hacni.

Cofnodion:

[Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn bresennol ar gyfer yr eitem hon ond ni wnaeth gymryd rhan yn y broses a gadawodd y cyfarfod yn ystod trafodaethau’r Pwyllgor ar y cais.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais a ddaeth i law am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          roedd y cerbyd wedi ei drwyddedu ar gyfer hurio preifat yn flaenorol ond ni adnewyddwyd y drwydded cyn i’r drwydded bresennol ddod i ben, ac felly roedd angen delio â’r cais fel cais trwydded cerbyd newydd.

 

(iii)         swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad yw’r cerbyd a gyflwynwyd i gael trwydded yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor ynghylch y cyfyngiad oedran pum mlynedd i gerbydau a drwyddedir gan gais newydd;

 

(iv)         datganiad cefnogi’r Ymgeisydd, hanes MOT ac allyriadau’r cerbyd ynghyd â gwybodaeth perthnasol bellach yn berthnasol i’r cais, ac

 

(v)          estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol ac roedd mecanig ei gerbyd gydag ef.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu’r adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Cyfeiriodd yr Ymgeisydd at gynnal a chadw’r cerbyd, gan sôn am y garej yr oedd mecanyddion y cerbyd yn cael ei gynnal, ac roedd yn cyflawni gwaith cynnal tu mewn y cerbyd ei hun.  Roedd yn Gerbyd Hygyrch i Gadeiriau Olwyn.  Wrth ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd yr Ymgeisydd ei fod wedi prynu cerbyd yn newydd ac nid oedd ganddo gynlluniau i’w newid/ cael un gwell oherwydd ei amgylchiadau personol a’r costau ynghlwm.  Roedd y cerbyd ar gael i’w archwilio.  Eglurodd amgylchiadau a wnaeth arwain at gais adnewyddu un ar ddeg diwrnod ar ôl y dyddiad terfyn y trwydded cerbyd oherwydd anawsterau yn cael darnau perthnasol oedd eu hangen i atgyweirio’r cerbyd er mwyn pasio’r prawf cydymffurfio, ac i gyflwyno’r dystysgrif cydymffurfio yn y cais adnewyddu.  Roedd yr Ymgeisydd wedi cael ffurflenni adnewyddu gan y Cyngor yr oedd wedi’u cwblhau ac wedi eu rhoi o’r neilltu yn agosach at ddyddiad adnewyddu; roedd camgymeriad a oedd wedi arwain at gyflwyniad hwyr o’r cais adnewyddu.

 

Cadarnhaodd y swyddogion bod nodyn atgoffa o’r adnewyddiad yn cael eu hanfon mis ymlaen llaw a bod y dyddiad terfyn wedi’i nodi ar y plât trwydded y cerbyd.  Hefyd, cyfrifoldeb deiliad y drwydded oedd cyflwyno cais adnewyddu cyn y dyddiad terfyn y drwydded gyfredol.  Petai’r cais adnewyddu wedi’i gyflwyno o fewn yr amserlen, byddai hawliau tad-cu i gerbydau dros 12 oed a oedd gyda thrwydded yn barod, wedi cael cyfnod gras ac wedi’i ymestyn tan fis Gorffennaf 2024.  O ran datganiad terfynol yr Ymgeisydd, cadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu.

 

Oedwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD  gwrthod y cais am Drwydded Cerbyd Hacni.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yn ofalus y cais, adroddiad y swyddog a’r achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu wrthod y cais oherwydd bod y Polisi ac Amodau Trwydded Cerbyd Hacni a Hurio Preifat yn nodi na ddylai cerbydau wedi’u trwyddedu o dan gais newydd fod yn hŷn na phump oed o ddyddiad ei gofrestru cyntaf.  Gan fod y cerbyd mewn cyswllt â’r cais yn yr achos hwn yn dair ar ddeg oed, nid oedd yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor.

 

Wrth ddod i benderfyniad, roedd y Pwyllgor wedi ystyried yr holl dystiolaeth cyn hyn a oedd yn cynnwys sylwadau ysgrifenedig a ddosbarthwyd cyn y gwrandawiad,  ...  view the full Cofnodion text for item 10.