Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cynghorydd Win Mullen-James

 

Roedd y Cynghorydd Michelle Walker yn methu ymuno â’r cyfarfod dros Zoom oherwydd materion technegol gyda’r system fideo gynadledda.

 

 

Cofnodion:

Cynghorydd Win Mullen-James

 

Roedd y Cynghorydd Michelle Walker yn methu ymuno â’r cyfarfod dros Zoom oherwydd materion technegol gyda’r system fideo gynadledda.

 

 

2.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn i ddod.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2021/22.  Roedd y Cynghorydd Andrea Tomlin yn cynnig, a’r Cynghorydd Hugh Irving yn eilio i’r Cynghorydd Bobby Feeley gael ei phenodi yn Gadeirydd.    Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn i ddod.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2021/22.  Roedd y Cynghorydd Andrea Tomlin yn cynnig, a’r Cynghorydd Paul Keddie yn eilio i’r Cynghorydd Hugh Irving gael ei benodi yn Is-gadeirydd.   Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

4.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Joan Butterfield – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 10 ar y Rhaglen

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Joan Butterfield yn datgan cysylltiad personol yn eitem 10 ar y rhaglen gan ei bod yn defnyddio tacsis ac yn adnabod y rhan fwyaf o’r gyrwyr tacsi. 

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 304 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

7.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD CERBYDAU HACNI pdf eicon PDF 209 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad pellach y Pwyllgor o’r ffioedd tariff cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis) yn dilyn yr ymgynghoriad ar y ffioedd tariff arfaethedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod -

 

(a)       y tariff bwriedig fel y manylwyd yn Atodiad D gyda’r adroddiad i gael ei gymeradwyo gyda dyddiad gweithredu 1 Gorffennaf 2022, yn ddarostyngedig i filltiroedd ychwanegol gael eu mesur mewn degfed rhan o gynyddran milltiroedd, dim newidiadau i’r amser tariff a fyddai’n parhau fel y gosodiad cyfredol yn 2018, a gordal fesul teithiwr o fwy na 4 teithiwr o 20c, ac

 

(b)       adolygiad o’r tariffau, gan gynnwys amser Tariff 2, i gael ei gynnal gydag adroddiad yn ôl i’r aelodau ar gyfer ystyriaeth bellach mewn tua chwe mis.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (RhBGC) adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu’r ffioedd tariff arfaethedig ymhellach ar gyfer cerbydau hacni (tacsis) yn sgil yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad. 

 

Roedd y newidiadau arfaethedig i ffioedd cerbydau hacni a ffioedd wedi eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghori gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mawrth 2022 ac wedi dilyn cais gan yrwyr trwyddedig i adolygu’r ffioedd tariff.    Roedd pedwar gwrthwynebiad wedi eu derbyn mewn ymateb i’r ymgynghoriad ynghyd â nifer o sylwadau a dderbyniwyd i gefnogi’r newidiadau arfaethedig yn y tariff a dwy ddeiseb wedi eu llofnodi gan 38 o yrwyr trwyddedig.    Roedd y newidiadau arfaethedig i’r tariff presennol wedi eu hamlygu a chyfeiriwyd hefyd at sefyllfa bresennol yr awdurdod yn y “tabl cynghrair” o ffioedd tacsis o’u cymharu â’r cynnig.    Gofynnwyd i’r Aelodau adolygu’r ffioedd tariff arfaethedig ac ystyried pa un i addasu’r ffioedd tariff arfaethedig neu wrthod y cynigion, yn sgil y wybodaeth a ddarparwyd ac ymatebion a dderbyniwyd.    Roedd meysydd penodol i’w hystyried yn cynnwys amseru Tariff 2,  y dyddiau ble roedd Tariff 2 yn cael ei weithredu a pha un a oedd y raddfa fesul milltir yn fesur priodol ar gyfer pellter dilynol.

 

Roedd y RhBGC yn arwain yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad a’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad yn amlygu’r materion a godwyd yn y sylwadau hynny.    Yn fyr, roedd yna wrthwynebiadau cymysg i’r ffioedd tariff arfaethedig yn ymwneud ag amrywiol agweddau o’r cynigion gyda rhai yn gwrthwynebu elfennau penodol o’r cynnig ac eraill i unrhyw a holl gynnydd yn y tariff.  Roedd y rhan fwyaf o wrthwynebiadau yn erbyn amseriad Tariff 2 ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn a’r cyflwyniad o Dariff 2 ar ddydd Sul.    Roedd gwrthwynebwyr eraill yn cefnogi cynnydd yn y ffi cychwyn ond nid fesul milltir ac roedd eraill yn cwestiynu’r raddfa fesul milltir fel mesur priodol.   Prif sail y gwrthwynebiad oedd y byddai’r cynnydd arfaethedig yn y ffi yn atal defnydd o dacsi ac yn cael effaith niweidiol ar y gwaith, gyda gwaith gwerthfawr yn cael ei golli o ganlyniad.    Roedd y sawl o blaid y cynnydd yn gweld cynnydd mewn costau byw yn cael effeithiau arwyddocaol ar hyfywedd y fasnach a phrinder gyrwyr i fodloni’r galw gan gwsmeriaid.    Roedd y RhBGC hefyd yn cyfeirio at e-bost a anfonwyd yn uniongyrchol at aelodau gan yrrwr tacsi mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd i gefnogi’r newidiadau tariff arfaethedig. 

 

Nid oedd y Cynghorydd Martyn Hogg yn teimlo bod yna ddigon o wybodaeth wedi’i darparu i ddeall effeithiau llawn y cynnydd yn y raddfa ond roedd yn derbyn yr angen i godi’r tariff oherwydd cynnydd mewn costau gan y busnes tacsis.  Roedd y cynnig presennol yn uwch na chwyddiant ac yn cymryd i ystyriaeth yr ymatebion i’r ymgynghoriad roedd yn cynnig newid (fel cyfaddawd) yn unol â chwyddiant (tua 10%) fel a ganlyn -

 

·         Tariff 1 - ffi cychwyn £4.00 (yn cynnwys y filltir gyntaf), ffi fesul milltir ar ôl hynny £2.20

·         Tariff 2 - ffi cychwyn £5.50 (yn cynnwys y filltir gyntaf), ffi fesul milltir ar ôl hynny £3.30

·         Codi ffi mewn cynyddrannau un rhan o ddeg o filltir

·         Dim newid i amseru Tariff 2

 

Roedd y Cynghorydd Hogg yn egluro ei reswm am y newid a rhoddodd enghreifftiau o’r cynnydd canran yn y gost fesul siwrnai o ganlyniad.    Roedd yn teimlo y dylid gwneud mwy o waith i ddeall y cyfartaledd siwrnai tacsi yn y sir ac adolygu amseroedd tariff gynted â phosibl.    Roedd y newid arfaethedig wedi’i drafod gyda’r RhBGC wnaeth gadarnhau bod y cynnig Tariff 2 angen ei adolygu fel y raddfa fesul milltir.    Roedd ymarferoldeb  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR WAITH YR ADAIN DRWYDDEDU YN 2021/22 pdf eicon PDF 300 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) ar waith yr Adain Drwyddedu yn 2021/22.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Roedd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (RhBGC) wedi cyflwyno adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar waith yr Adain Drwyddedu yn ystod 2021/22 oedd yn canolbwyntio ar faterion gweithredol a rheoli. 

 

Aeth y RhBGC â’r aelodau drwy’r adroddiad oedd yn darparu data ystadegol o’r nifer o drwyddedau a gyhoeddwyd, cwynion a cheisiadau gwasanaeth a dderbyniwyd yn cynnwys y prif swyddogaethau - Alcohol ac Adloniant, Trwyddedu Cerbydau Hacni a Phreifat, Hapchwarae, a Loteri; Masnachu ar y Stryd, Casgliadau Elusen a Metel Sgrap gyda gwaith cysylltiedig â Covid a materion ategol eraill, gan gynnwys canlyniadau a gohebiaeth llwyth gwaith cyffredinol.  Roedd materion rheoli yn cynnwys polisïau, ffioedd, cwynion yn erbyn y gwasanaeth ynghyd ag ystyriaethau llwyth gwaith y dyfodol.

 

Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn amlygu llwyth gwaith trwm y Tîm Trwyddedu fel yr adlewyrchwyd yn yr adroddiad a llongyfarchodd nhw am eu hymdrechion a oedd wedi ei weld wrth gysgodi swyddogion yn ymgymryd â’u dyletswyddau.

 

Roedd swyddogion yn egluro amrywiol agweddau o’r adroddiad mewn ymateb i gwestiynau fel a ganlyn -

 

·         roedd y dair cwyn ynglŷn â materion metel sgrap yn ymwneud â gweithgaredd didrwydded posibl oedd yn cynnwys casglu metel sgrap heb y drwydded angenrheidiol neu â safle didrwydded.

·         roedd y ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth yn nodi ar gyfer y mwyafrif o geisiadau na ellir codi tâl.  Fodd bynnag, roedd yna ddarpariaeth ar gyfer tâl o £25 fesul awr os byddai ymateb i’r cais yn cynnwys mwy na deunaw awr o amser swyddog.  Roedd yna rwymedigaeth i gynorthwyo gyda mireinio’r cais i sicrhau ei bod yn haws ymateb mewn achosion o’r fath.

·         roedd gwerthu alcohol i bobl dan oed yn derbyn sylw yn gymesur ac ymatebir fel bo’n briodol yn seiliedig ar wybodaeth a dderbyniwyd, yn gyffredinol profion prynu yn y lle cyntaf gyda chyngor neu rybudd yn cael ei roi.    Gellir cymryd camau pellach ar gyfer trosedd a ailadroddir gydag erlyniad y cam olaf.

·         nid oedd arwerthiant tybaco a sigarets yn gyffredinol yn fater i’r Pwyllgor Trwyddedu ond byddai unrhyw wybodaeth a dderbyniwyd yn cael ei ddilyn a chymryd camau priodol o fewn y grymoedd sydd ar gael ac anogir pobl i roi gwybod am y materion hynny wrth i’r gwasanaeth ymateb i’r wybodaeth sydd ar gael.    Roedd y Cynghorydd Joan Butterfield yn amlygu achos penodol yn ei ward ac yn cadarnhau y byddai’n anfon y wybodaeth angenrheidiol yn uniongyrchol i’r RhBGC.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2022 pdf eicon PDF 197 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm), ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith i'r dyfodol ddiwygiedig a’r wybodaeth ddiweddaraf ar eitemau a aildrefnwyd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod -

                        

(a)       cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi; a

 

(b)       cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer 2022 fel yr amlinellir yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â diweddariad ar eitemau a aildrefnwyd a’r rhaglen gwaith i’r dyfodol diwygiedig arfaethedig.  

 

Roedd blaenoriaethau'r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau mewn cysylltiad â’i swyddogaeth drwyddedu a’r rheoliad, rheolaeth a gorfodaeth effeithiol Trwyddedai ac ymrwymiad yr Awdurdod i gymunedau mwy diogel a datblygiad yr economi.  Oherwydd blaenoriaethau annisgwyl, roedd y rhaglen gwaith i’r dyfodol a gymeradwywyd yn flaenorol wedi’i diwygio gydag eitemau wedi eu haildrefnu a rhaglen gwaith i’r dyfodol diwygiedig wedi’i chyflwyno i’w hystyried. 

 

Rhoddwyd diweddariad i’r aelodau ar yr eitemau hynny a aildrefnwyd oedd yn ymwneud ag -

 

·         Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu Cerbydau Hacni/Cerbydau Hurio Preifat

·         Adolygu Datganiad o Egwyddorion - Deddf Gamblo 2005

·         Adolygu’r Polisi Masnachu ar y Stryd

·         Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003

 

Roedd Aelodau yn nodi’r diweddariad a diwygiadau arfaethedig i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod -

                        

(a)       cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi; a

 

(b)       cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer 2022 fel yr amlinellir yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 yn Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Dogfennau ychwanegol:

10.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 557452

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278.

10.45 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 557452.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) wedi -

 

(i)            derbyn cais gan Ymgeisydd Rhif 557452 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          yr Ymgeisydd wedi dal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn flaenorol a oedd o ganlyniad wedi’i ddirymu ym mis Mai 2021 yn dilyn croniad o euogfarnau moduro am oryrru ac arwain at wahardd rhag gyrru am gyfnod o chwe mis o dan y gweithdrefnau crynhoi pwyntiau cosb (TT99);

 

(iii)         y cais wedi’i atgyfeirio i’r Pwyllgor Trwyddedu ar 2 Mawrth 2022 i’w benderfynu ac yn dilyn ystyriaeth o holl dystiolaeth a gyflwynwyd, yn cynnwys cais yr Ymgeisydd ac ymateb i gwestiynau, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu caniatau’r cais yn ddarostyngedig i holl wiriadau angenrheidiol eraill cysylltiedig â’r cais yn foddhaol;

 

(iv)         Mae gwiriadau dilynol wedi dangos bod dau o’r troseddau goryrru wedi digwydd mewn tacsi trwyddedig, yn groes i gyfrif yr Ymgeisydd, roedd yr euogfarnau goryrru wedi digwydd tra’n gyrru beic modur yn unig drwy weithgaredd hamdden ac nid mewn capasiti proffesiynol fel gyrrwr trwyddedig. 

 

(v)          roedd y mater wedi’i gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu yn sgil y wybodaeth newydd lle roedd amheuaeth am onestrwydd yr Ymgeisydd. 

 

(vi)         polisi’r Cyngor ynglŷn ag addasrwydd Ymgeisydd a dewisiadau ar gael i’r Pwyllgor wrth ystyried y cais, a

 

(vii)        i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn ymddiheuro am y wybodaeth anghywir a ddarparwyd yn y cyfarfod diwethaf.  Roedd wedi cysylltu â’r DVLA i gael y wybodaeth angenrheidiol ond cafodd wybod nad oedd ar gael mwyach felly roedd wedi ateb hyd eithaf ei allu.    Nid oedd yn ymwybodol y gellir cael y wybodaeth gan Lys yr Ynadon.  Roedd ganddo nifer o gerbydau gwahanol ac roedd yn anodd gwybod ym mha gerbyd yr oedd yr euogfarnau wedi digwydd.    Cyfeiriwyd at effaith y gwaharddiad gyrru ar ei amgylchiadau personol a rhoddodd sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad gyrru yn y dyfodol.   Bu’n yrrwr trwyddedig am bedair blynedd ar ddeg heb broblem ac roedd wedi darparu geirda ynglŷn â’i gymeriad a gwasanaeth da.   Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Ymgeisydd nad oedd wedi derbyn unrhyw euogfarnau goryrru ers adfer ei drwydded DVLA.

 

O ran anonestrwydd yn y broses ymgeisio, gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â pha mor anghywir oedd y wybodaeth ddaeth gerbron y Pwyllgor.    Eglurodd yr Ymgeisydd fod ganddo nifer o gerbydau gwahanol, tri ohonynt wedi eu trwyddedu ac roedd bellach wedi gwerthu’r ddau feic modur - roedd wedi bod yn poeni mwy am yr euogfarnau goryrru yn hytrach na’r cerbyd oedd ganddynt a brynwyd ym mis Mawrth.    Roedd wedi cysylltu â’r DVLA gyda’r bwriad i brofi nad oedd wedi bod yn gyrru llawer mwy na’r terfyn cyflymder ond nid oedd yn gallu derbyn y wybodaeth.    Roedd wedi cael y cwestiwn gan y Pwyllgor heb baratoi ac wedi ateb mor onest ag y gallai heb fod â’r wybodaeth angenrheidiol.  Nid oedd yn siaradwr cyhoeddus ac roedd wedi cynhyrfu wrth ateb y cwestiwn.    Yn ei ddatganiad terfynol roedd yr Ymgeisydd yn ymddiheuro i’r Pwyllgor am ei gamau ac roedd yn gobeithio symud ymlaen. 

 

Cafodd y Pwyllgor egwyl er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 557452.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor ar 2 Mawrth 2022 yn  ...  view the full Cofnodion text for item 10.