Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT I’W NODI

Yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Hugh Irving, gwnaeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Brian Jones, gadeirio’r cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Hugh Irving (Cadeirydd), Melvyn Mile a Pete Prendergast

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Hugh Irving (Cadeirydd), Melvyn Mile a Pete Prendergast

 

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Huw Williams – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn eitem rhif 7 ar y rhaglen gan fod yr ymgeisydd a/neu ei bartner wedi casglu ei fab o’r ysgol rai blynyddoedd yn ôl.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 435 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir.

 

[Fe wnaeth y Cynghorydd Joan Butterfield ymatal rhag pleidleisio ar yr eitem hon gan nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod y sonnir amdano uchod.]

 

 

5.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD CERBYDAU HACNI pdf eicon PDF 212 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r ffioedd tariff cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod aelodau yn –

 

(a)       awdurdodi swyddogion i fwrw ymlaen â’r ymgynghoriad ynghylch cynnig 2 ym mharagraff 4.2 yr adroddiad, ynghyd â’r ychwanegiad ym mharagraff 4.3 yr adroddiad;

 

(b)       rhoi cyfarwyddyd i swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu rhag ofn y derbynnir unrhyw wrthwynebiad i’r ymgynghoriad;

 

(c)        rhoi cyfarwyddyd i swyddogion gyhoeddi’r hysbysiad cyhoeddus angenrheidiol os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad i’r ymgynghoriad, a rhoi’r ffioedd ar waith ar ôl y cyfnod statudol os na dderbynnir rhagor o wrthwynebiad wedi hynny, a

 

(ch)     rhoi cyfarwyddyd i swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu os derbynnir unrhyw wrthwynebiad ar ôl yr hysbysiad statudol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i aelodau adolygu’r ffioedd presennol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis).   Cafodd y tabl ffioedd ei ddiwygio’r tro diwethaf yn 2018.

 

Yn dilyn cais gan nifer o yrwyr trwyddedig i adolygu’r ffioedd presennol, roedd swyddogion wedi gwerthuso dau gynnig a roddwyd gerbron gan yrwyr trwyddedig, ynghyd ag ychwanegiad i gynnig 2 a amlinellwyd yn yr adroddiad ochr yn ochr â’r ffioedd presennol, er mwyn cymharu a bod yn dryloyw.  Cyfeiriwyd hefyd at sefyllfa bresennol yr awdurdod yn “nhabl y gynghrair” o ffioedd tacsi, o’i gymharu â’r cynnig a oedd yn gyfystyr â chynnydd o 7% yn y costau ar gyfer taith dwy filltir o hyd.  Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi adolygu eu ffioedd yn ddiweddar ac roedden nhw’n cyd-fynd yn fras â’r cynnig a roddwyd gerbron yr awdurdod.  Rhoddwyd manylion am y broses o lunio penderfyniadau, yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ar y ffioedd a ffefrir, a byddai unrhyw wrthwynebiad a geir yn cael ei gyfeirio’n ôl at y Pwyllgor.

 

Cafodd yr Aelodau drafodaeth am yr adroddiad a mynegwyd cefnogaeth gyffredinol i gynnig 2 gyda’r ychwanegiad, gan gofio’r costau cynyddol sy’n wynebu’r diwydiant tacsis o ran tanwydd a chynnal a chadw cerbydau, a sicrhau bod cwmnïau tacsi’n dal i fod yn gost effeithiol ac yn hyfyw yn yr hinsawdd sydd ohoni.  Teimlwyd hefyd y byddai’r ychwanegiad yn denu digon o yrwyr er mwyn cwrdd â’r galw gan gwsmeriaid dros y penwythnos.  Wedi dweud hyn, roedd aelodau hefyd yn cydnabod yr effaith ar ddefnyddwyr tacsi yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni ac roedden nhw’n cefnogi’r ymgynghoriad ynghylch y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd er mwyn canfod barn y cyhoedd a’r diwydiant tacsis yn ehangach cyn y gwneir penderfyniad terfynol.  Nodwyd mai’r tabl ffioedd a osodir gan y Cyngor yw’r ffioedd mwyaf a ganiateir a gellir cytuno ar ffi ratach gyda’r cwsmer.  Yn olaf, soniwyd bod angen edrych ar ddefnyddio cerbydau trydan wrth feddwl am y dyfodol, pan fydd yr isadeiledd yn ei le, ac roedd y Cadeirydd yn hyderus y gwelir datblygiadau gyda’r uchelgais honno yn ystod tymor nesaf y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod aelodau yn –

 

(a)       awdurdodi swyddogion i fwrw ymlaen â’r ymgynghoriad ynghylch cynnig 2 ym mharagraff 4.2 yr adroddiad, ynghyd â’r ychwanegiad ym mharagraff 4.3 yr adroddiad;

 

(b)       rhoi cyfarwyddyd i swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu rhag ofn y derbynnir unrhyw wrthwynebiad i’r ymgynghoriad;

 

(c)        rhoi cyfarwyddyd i swyddogion gyhoeddi’r hysbysiad cyhoeddus angenrheidiol os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad i’r ymgynghoriad, a rhoi’r ffioedd ar waith ar ôl y cyfnod statudol os na dderbynnir rhagor o wrthwynebiad wedi hynny, a

 

(ch)     rhoi cyfarwyddyd i swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu os derbynnir unrhyw wrthwynebiad ar ôl yr hysbysiad statudol.

 

 

6.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2022 pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (copi ynghlwm) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf ar yr eitemau a aildrefnwyd a’r rhaglen gwaith i'r dyfodol ddiwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid –

                        

(a)       nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)       chymeradwyo fersiwn ddiwygiedig y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer 2022 fel y manylir yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) am flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am eitemau a aildrefnwyd a’r rhaglen gwaith i'r dyfodol ddiwygiedig a gynigiwyd ar gyfer 2022.

 

Roedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau ar gyfer y swyddogaeth drwyddedu a dulliau rheoleiddio, rheoli a gorfodi deiliad trwydded mewn ffordd effeithiol, ynghyd ag ymroddiad yr awdurdod i sicrhau cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi.  Yn sgil blaenoriaethau annisgwyl, diwygiwyd y rhaglen gwaith i’r dyfodol a gafodd ei chymeradwyo eisoes, cafodd eitemau eu haildrefnu a chyflwynwyd rhaglen waith ddiwygiedig i’w hystyried.

 

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar yr eitemau hynny a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth, yn ymwneud â’r materion canlynol -

 

·         Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu Cerbyd Hacni/Hurio Preifat

·         Adolygu Datganiad o Egwyddorion - Deddf Gamblo 2005

·         Adolygu’r Polisi Masnachu ar y Stryd

·         Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003

·         Adolygu Ffioedd a Thaliadau

 

Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf a’r newidiadau arfaethedig i’r rhaglen gwaith i’r dyfodol a fydd yn cael ei datblygu yn nhymor newydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

                        

(a)       nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)       chymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig ar gyfer 2022 fel y manylir amdani yn atodiad yr adroddiad.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

[Ar y pwynt hwn (10.05 am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer.]

 

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 557452

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 557452.

10.15 am

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sicrhau bod pob gwiriad angenrheidiol arall sy’n gysylltiedig â chais gyrrwr trwyddedig yn foddhaol, y dylid caniatáu’r cais am drwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  557452.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynghylch –

 

(i)            derbyn cais gan Ymgeisydd Rhif 557452 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          bod swyddogion wedi atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu yn ei gylch oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         cafodd trwydded yr Ymgeisydd i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ei dirymu ym Mai 2021 yn dilyn cyfres o gollfarnau am oryrru (yn y cyfnod rhwng Chwefror 2018 a Medi 2020) ac o ganlyniad cafodd ei wahardd rhag gyrru am gyfnod o chwe mis yn sgil y drefn adio pwyntiau cosb (TT99);

 

(iv)         rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’r achos, yn cynnwys y cais ynghyd â’r adroddiad yn sôn am y gwaharddiad a geirdaon ar sail cymeriad a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd ac a ddosbarthwyd fel ychwanegiad i’r rhaglen;

 

(v)          nad oedd swyddogion wedi cwblhau’r holl wiriadau angenrheidiol sy’n gysylltiedig â chais y gyrrwr trwyddedig;

 

(vi)         polisi’r Cyngor mewn perthynas ag addasrwydd ymgeiswyr, a

 

(vii)        bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau wedi hynny.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Esboniodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn y collfarnau goryrru tra roedd yn gyrru beic modur ac, yn sgil y collfarnau hynny, roedd wedi rhoi’r gorau i’r hobi hwnnw a gwerthu’r beic modur.  Mynegodd yr Ymgeisydd edifeirwch am y troseddau goryrru a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei ymddygiad pan yn gyrru. Ychwanegodd yr Ymgeisydd fod ganddo drwydded cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat am bymtheg mlynedd cyn hynny heb unrhyw broblem a’i fod wedi rhedeg ei fusnes ei hun dros yr wyth mlynedd diwethaf heb unrhyw broblem.  Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, cadarnhaodd yr Ymgeisydd fod pob trosedd goryrru wedi digwydd pan oedd yn gyrru beic modur ac nad oedd unrhyw drosedd goryrru wedi digwydd pan oedd yn gyrru tacsi, gan ychwanegu bod ei ymddygiad wrth yrru tacsi wedi bod yn rhagorol bob amser.  Yn ei ddatganiad terfynol, ymddiheurodd yr Ymgeisydd am ei weithredoedd a diolchodd i’r aelodau am ystyried ei gais.

 

Oedodd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sicrhau bod pob gwiriad angenrheidiol arall sy’n gysylltiedig â chais gyrrwr trwyddedig yn foddhaol, y dylid caniatáu’r cais am drwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  557452.

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd, atebion i gwestiynau, a’r geirdaon ar sail cymeriad a ddarparwyd.  Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded ym myd masnach cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Yn benodol, fe ystyriodd y Pwyllgor adran 4.22 y polisi, lle nodir os bydd gan berson fwy nag un gollfarn, y byddai hynny’n codi cwestiynau difrifol am eu diogelwch a pha mor addas ydyn nhw, ac unwaith y gwelir patrwm neu duedd i aildroseddu, ni chaiff trwydded ei rhoi na’i hadnewyddu.  Yn yr achos hwn, mae’r patrwm o ymddygiad troseddol yn ymwneud â chyfres o gollfarnau goryrru a gafwyd gan yr Ymgeisydd ac a arweiniodd at waharddiad gyrru am chwe mis o dan y drefn adio pwyntiau cosb.  O ran hynny, derbyniodd y Pwyllgor esboniad yr Ymgeisydd ei fod wedi cael y collfarnau goryrru wrth yrru beic modur yn unig, drwy weithgareddau hamdden, ac nid mewn perthynas â busnes yr Ymgeisydd nac mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 554278

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278.

11.00 am

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid gohirio ystyried y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278 tan y cyfarfod nesaf a drefnir gan y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn am benderfyniad ynghylch cais i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278.   Rhoddwyd gwybod i’r swyddogion y bore hwnnw gan gynrychiolydd yr Ymgeisydd fod yr Ymgeisydd wedi gorfod mynd i’r ysbyty ac felly na allai fynychu’r cyfarfod.  Nid oedd yn eglur a oedd yr Ymgeisydd yn dymuno parhau â’i gais neu beidio.  O ganlyniad, gofynnodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd a ellid gohirio’r achos er mwyn canfod bwriad yr Ymgeisydd mewn perthynas â’r cais.

                        

Amlinellodd y Cynghorwr Cyfreithiol y dewisiadau a oedd ar gael i’r Pwyllgor sef naill ai gohirio’r mater at amser arall, neu fwrw ymlaen i benderfynu ynghylch y cais yn absenoldeb yr Ymgeisydd.  Gan gofio’r amgylchiadau yn yr achos hwn, ac er tegwch, rhoddwyd cyngor cyfreithiol y dylai’r aelodau ohirio’r penderfyniad.

 

Ar ôl ystyried y cais i ohirio, ynghyd â’r cyngor cyfreithiol a roddwyd, ac ar ôl cynnal pleidlais, wedi hynny -

 

PENDERFYNWYD y dylid gohirio ystyried y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278 tan y cyfarfod nesaf a drefnir gan y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cyn cloi’r cyfarfod, ac yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, y Cynghorydd Hugh Irving, ac ar ei ran, diolchodd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Brian Jones, i’r aelodau am eu gwaith caled a’u gwasanaeth ar y Pwyllgor.  Diolchwyd hefyd i’r swyddogion trwyddedu a’r swyddogion cymorth.  Cyfeiriwyd yn arbennig at Gynghorwr Cyfreithiol y Pwyllgor a oedd yn mynychu ei gyfarfod olaf o’r Pwyllgor Trwyddedu, gan ddymuno’n dda iawn iddo yn y dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.00 am.