Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Cynghorwyr Stuart Davies a Barry Mellor

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Stuart Davies a Barry Mellor

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

4.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 509601

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 509601.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD dirymu trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 509601.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif  509601 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat ar ôl methu mynychu’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a oedd yn orfodol, a gyflwynwyd gan y Cyngor yn 2016;

 

(ii)        y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2017 a benderfynodd cynnull cyfarfod arbennig i glywed sylwadau gan yrwyr presennol nad oedd wedi mynychu’r hyfforddiant;

 

(iii)      manylion y cyfleoedd a roddwyd i Yrrwr Rhif 509601 i fynd i’r hyfforddiant perthnasol (gyda manylion yr ohebiaeth yn amgaeedig fel atodiadau i’r adroddiad) a

 

(iv)      bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded, ac i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Cafodd yr Aelodau wybod nad oedd y Gyrrwr yn bresennol ac ni chyfathrebwyd y rhesymau dros ei absenoldeb.  O ganlyniad, cytunodd yr aelodau i fwrw ymlaen â’r adolygiad yn absenoldeb y Gyrrwr.

 

 Cyflwynodd Rheolwr Busnes a Gwarchod y Cyhoedd (IM) yr adroddiad a’r cyfleoedd a roddwyd i’r Gyrrwr gymryd rhan mewn hyfforddiant gorfodol camfanteisio’n rhywiol ar blant.   Nodwyd bod y Gyrrwr wedi cael lle i fynd i’r hyfforddiant 25 Ionawr 2017 ond nad oedd wedi ymddangos, ac roedd hefyd wedi methu mynd i’r sesiwn hyfforddi ddiweddaraf 29 Mawrth 2017. Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd y Rheolwr Busnes a Gwarchod y Cyhoedd mai ef oedd yr unig Yrrwr presennol gyda thrwydded nad oedd wedi mynd ar yr hyfforddiant perthnasol, gyda'r gyrwyr blaenorol eraill a oedd heb wneud, naill ai wedi mynd ar yr hyfforddiant wedi hynny, neu wedi ildio eu trwyddedau.  Rhoddwyd sicrwydd bod pob ymdrech wedi’i wneud i gysylltu â’r Gyrrwr ynghylch yr hyfforddiant gorfodol, a’r adolygiad trwydded dilynol.

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD dirymu trwydded gyrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 509601.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd yr Aelodau bod y Gyrrwr wedi cael digon o gyfle i fynd i’r hyfforddiant gorfodol, ond wedi methu mynychu neu gysylltu â’r awdurdod ynghylch pam nad oedd yn bresennol, neu i roi esboniad fel mesur lliniaru.  Roedd Aelodau’n ystyried bod y Gyrrwr wedi diystyru gofyniad pwysig o'r drwydded yn llwyr, drwy fethu â mynd ar yr hyfforddiant gorfodol Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant dro ar ôl tro, ac o gofio mai prif ystyriaeth y pwyllgor oedd diogelu'r cyhoedd, nid oedd yr aelodau'n credu bod y Gyrrwr yn berson priodol ac addas i gael trwydded.  Felly penderfynwyd dirymu trwydded gyrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat y gyrrwr.

 

Nodwyd y byddai’r Gyrrwr yn cael gwybod am y penderfyniad a’r rhesymau dros hwnnw yn ysgrifenedig, a byddai’n cael gwybod am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys yr Ynadon o fewn 21 diwrnod.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 9.45am.