Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Cynghorydd David Simmons

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd David Simmons,

 

Dywedodd y Cynghorwyr Joan Butterfield a Huw Williams y byddent yn gadael yn gynnar i fynychu cyfarfod y Panel Penodiadau.

 

 

2.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016/17.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bill Cowie y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams yn Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Arwel Roberts.  Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving  y dylid penodi'r Cynghorydd Huw Williams yn Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Merfyn Parry.  O'i roi i’r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd Cefyn Williams fel Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd Huw Williams fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf.

 

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016/17.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Hugh Irving  y dylid penodi'r Cynghorydd Huw Williams yn Is-Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Pete Prendergast.  Wedi hynny –

 

PENDERFYNWYD - y dylid penodi'r Cynghorydd Huw Williams fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf.

 

 

4.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 136 KB

Derbyn -

 

(a)  cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016 (copi wedi’i amgáu), a

 

(b)  cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2016 (copi wedi’i amgáu).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016 a 24 Mawrth 2016 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016, a’r Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2016.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016 a 24 Mawrth 2016 fel cofnod cywir.

                                                                                    

[Yn y fan hon, gadawodd y Cynghorydd Huw Williams y cyfarfod.]

 

Yn y fan hon, cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen i ddarparu ar gyfer unigolion a oedd yn bresennol ar gyfer eitemau penodol.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

7.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1124/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1124/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

RESOLVED that consideration of the suitability of Driver No. 15/1124/TXJDR to hold a hackney carriage and private hire vehicle drivers licence be deferred to a special meeting of the Licensing Committee to be convened as soon as practicable.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) i adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1124/TXJDR.

 

Darllenodd y Cyfreithiwr gais ohiriad ar ran y Gyrrwr dan sylw o ganlyniad i dderbyn y dogfennau angenrheidiol yn hwyr, ac o gofio nad oedd ei gynrychiolydd wedi gallu bod yn bresennol.  Er budd cyfiawnder naturiol, penderfynodd aelodau ganiatáu'r cais i ohirio.  Cafwyd peth trafodaeth ynghylch a ddylid gohirio'r mater i gyfarfod nesaf y pwyllgor, neu i alw cyfarfod arbennig i glywed yr achos.  O'i roi i’r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/1124/TXJDR i ddal trwydded gyrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trwyddedu, sydd i'w alw cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

 

[Yn y fan hon, gadawodd y Cynghorydd Joan Butterfield y cyfarfod.]

 

 

8.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 16/0374/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif  16/0374/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  14/0985 / TXJDR yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

16/0374/TXJDR am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r collfarnau a ddatguddiwyd yn dilyn datgeliad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd rhwng 1986 a 2007, gyda’r rhan fwyaf heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd;

 

(iii)         polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, ac

 

(iv)         estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd ei reswm dros beidio â datgelu euogfarnau hanesyddol heb unrhyw fwriad i gamarwain.  Rhoddodd rywfaint o gyd-destun i’r euogfarnau hynny ac roedd yn edifar yn fawr am ei orffennol.  Cyfeiriodd yr Ymgeisydd at ei amgylchiadau a chyfrifoldebau personol cyfredol, a sut mae ei fywyd wedi newid.  Cafwyd tystlythyrau a oedd yn dyst o’i gymeriad da a rhoddodd sicrwydd pellach i'r aelodau ynglŷn a’i ymddygiad cyfredol a'r dyfodol.  Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau'r aelodau ynghylch natur ei euogfarnau, ei ffordd o fyw ar hyn o bryd ac amgylchiadau sydd wedi newid, a’i hanes cyflogaeth.  Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, ategodd faint roedd ei fywyd wedi newid dros y degawd diwethaf, yn destament i'w gymeriad da cyfredol.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  16/0374/TXJDR yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr aelodau wedi cymryd i ystyriaeth fod yr euogfarnau’n hanesyddol yn bennaf, ac fe dderbyniwyd yr eglurhad a roddwyd gan yr Ymgeisydd mewn perthynas â'r euogfarnau hynny.  Roedd yr Aelodau hefyd yn meddwl bod yr Ymgeisydd wir yn edifar am ei orffennol ac wrth ymateb i'w cwestiynau.  Y farn oedd bod yr Ymgeisydd wedi dangos, drwy ei anerchiad i'r pwyllgor a'i dystlythyr ysgrifenedig, ei fod wedi newid ei ffordd o fyw ac roedd ganddo gymeriad da.  O ganlyniad, cafwyd bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Fodd bynnag, o ystyried ei euogfarnau hanesyddol, fe’i hystyriwyd yn briodol hefyd ar ran yr Ymgeisydd i roi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.

 

Yn y fan hon (10.25 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.

 

 

9.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 15/1446/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif  15/1446/TXJDR.

 

Penderfyniad:

RESOLVED that the application for a hackney carriage and private hire vehicle driver’s licence from Applicant No. 15/1446/TXJDR be refused.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 15/1446/TXJDR am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(i)            swyddogion wedi gwrthod y cais o dan bwerau dirprwyedig ar ôl ystyried yr euogfarnau a ddatgelwyd a pholisi euogfarnau’r Cyngor;

 

(ii)          yr Ymgeisydd wedi apelio ar ôl hynny yn erbyn penderfyniad y swyddogion i'r Llys Ynadon, lle daethpwyd i gytundeb wedi hynny y byddai'r apêl yn dod i ben a bod y cais yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfyniad;

 

(iii)         manylion yr euogfarnau a ddatgelwyd yn dilyn y datgeliad manylach i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd â pholisi'r Cyngor o ran perthnasedd euogfarnau, ac

 

(iv)         estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i Gynrychiolwyr Cyfreithiol a gadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

Amlygodd Cynrychiolydd Cyfreithiol yr Ymgeisydd rai gwallau ffeithiol yn yr adroddiad a rhoddwyd rhywfaint o gefndir y cais a sut yr oedd wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer penderfyniad, gan gynnwys cyfeiriad at yr achos yn Llys yr Ynadon ar apêl.  Wrth gyflwyno achos yr Ymgeisydd, cyfeiriodd at ei gofnod di-fai blaenorol fel gyrrwr trwyddedig, a'i gymhwysedd wrth ddelio â'r cyhoedd.  Roedd y mater i'w ystyried yn ymwneud â'r euogfarn mwyaf diweddar ac fe ymhelaethodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol ar amgylchiadau'r drosedd honno a'i chyd-destun ym mholisi trwyddedu'r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau.  Fe ddadlodd hefyd, er ei fod yn ddifrifol, nid oedd yr euogfarn yn yr achos hwn yn cael effaith ar ddiogelwch y cyhoedd, wrth ystyried a oedd yr Ymgeisydd yn addas a phriodol i ddal trwydded.  Ychwanegodd nad oedd y drefn drwyddedu wedi’i chynllunio i gosbi eto, ac roedd yr Ymgeisydd eisoes wedi talu ei gosb i gymdeithas yn hynny o beth.  Tynnwyd sylw'r Aelodau at y tystlythyrau ysgrifenedig a roddwyd (a gylchredwyd yn y cyfarfod), a oedd yn tystio i gymeriad yr Ymgeisydd a’i ddidwylledd.  I gloi, cafodd ei gyflwyno bod yr Ymgeisydd wedi gwneud camgymeriad ofnadwy ac wedi gwneud iawn amdano, ac roedd yn dymuno dychwelyd i’w broffesiwn fel gyrrwr trwyddedig.

 

Ymatebodd yr Ymgeisydd a'i Gynrychiolydd Cyfreithiol i gwestiynau'r aelodau ynghylch amgylchiadau'r achos a’r euogfarn dilynol, ynghyd â chysylltiad yr Ymgeisydd ag eraill a oedd yn ymwneud â gweithgarwch troseddol.  Ymatebodd yr Ymgeisydd hefyd i sicrwydd a geisiwyd gan y pwyllgor ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol o ystyried natur a difrifoldeb y drosedd.  Wrth wneud datganiad terfynol, esboniodd yr Ymgeisydd sut roedd yr euogfarn wedi difetha ei fywyd, a’i awydd i ddychwelyd fel gyrrwr trwyddedig.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  15/1446/TXJDR yn cael ei wrthod.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr aelodau wedi gwrando'n ofalus iawn ar yr holl gyflwyniadau yn yr achos hwn a’r atebion i gwestiynau, ac wedi ystyried y tystlythyrau a roddwyd yn ofalus.   Roedd y pwyllgor yn glir mai diben eu penderfyniad oedd delio â'r mater trwyddedu ac i beidio â rhoi mwy o gosb i’r Ymgeisydd yn sgil y drosedd.  Derbyniwyd nad oedd yr Ymgeisydd wedi bod mewn helynt pellach ac  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1567/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1567/TXJDR

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/1567/TXJDR ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/1567/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn erlyniadau a ddygwyd gan awdurdod lleol cyfagos yn ymwneud â throseddau cerbydau hacni;

 

(ii)          manylion ynghylch amgylchiadau’r achos wedi’u rhoi, yn cynnwys canlyniad yr erlyniad (roedd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig ynghlwm wrth yr adroddiad);

 

(iii)         roedd y Gyrrwr wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu o’r blaen ar 24 Medi 2014, a chanlyniad yr achos hwnnw, a

 

(iv)         bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded, ac i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i Gynrychiolydd Cyfreithiol, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol ffeithiau'r achos.

 

Ymhelaethodd Cynrychiolydd Cyfreithiol y Gyrrwr ar amgylchiadau'r achos a’r canlyniad ar ôl bod yn y Llys Ynadon.  Roedd y Gyrrwr wedi pledio'n euog i'r drosedd heb ei benderfynu, ac wedi cael ei gosbi.  Roedd yn yrrwr tacsi a oedd wedi gwasanaethu’n hir, ac roedd wir yn edifar am y digwyddiad.  Roedd tystlythyrau ysgrifenedig wedi cael eu rhoi (a gylchredwyd yn y cyfarfod) a oedd yn dyst i’w gymeriad da.  O ystyried amgylchiadau'r achos penodol hwn, fe wnaeth y Cynrychiolydd Cyfreithiol ddadlau fod y Gyrrwr yn parhau i fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, ymhelaethodd y Gyrrwr ar amgylchiadau'r digwyddiad.  Wrth wneud datganiad terfynol, ychwanegodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol ei fod yn amlwg nad oedd y Gyrrwr wedi bwriadu cyflawni’r drosedd, gan ddadlau nad oedd yr euogfarn yn warant i atal neu ddirymu.

 

Ar y pwynt hwn, gohiriodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/1567/TXJDR ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad a’r camau lliniaru a gyflwynwyd gan y Gyrrwr, a'i ymateb i gwestiynau.  Derbyniodd y pwyllgor fersiwn y Gyrrwr o ddigwyddiadau ac roeddent yn meddwl ei fod wir yn edifar am y digwyddiad.  Fodd bynnag, o ystyried natur yr euogfarn, fe'i hystyriwyd yn briodol i roi rhybudd ffurfiol.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr a’i Gynrychiolydd Cyfreithiol.

 

Yn y fan hon (1.10pm) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.

 

 

11.

CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer Trwydded Hurio Preifat. 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais a ddaeth i law am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          nid oedd swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais, gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu’n cydymffurfio â'r fanyleb, fel y manylir yn Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y Cyngor, ac

 

(iii)         estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i gyflwyno’r cerbyd i'r aelodau ei archwilio.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad a gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried a fyddai'n briodol i wyro oddi wrth bolisi'r Cyngor ynglŷn â manylebau cerbydau, er mwyn caniatáu'r cais fel y gwnaed cais amdano.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd bod gan y cerbyd dan sylw filltiredd isel iawn o ystyried ei oedran ac roedd mewn cyflwr rhagorol.  Yn dilyn pleidlais, gohiriwyd y cyfarfod er mwyn galluogi'r aelodau i weld y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu.  Wedi ailddechrau'r trafodion, ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau ynghylch rhinweddau trwyddedu'r cerbyd o ystyried ei gyflwr perffaith, a'i fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn.  Nodwyd nad oedd y cerbyd yn addas ar gyfer trwyddedu fel cerbyd hacni o ystyried y mesuriadau clirio rhwng seddi, ond roedd hurio preifat yn opsiwn.  Mewn ymateb i bryderon ynglŷn â chyflwr strwythurol y cerbyd, dywedodd y Peiriannydd Cydymffurfiaeth Fflyd fod cerbydau trwyddedig angen prawf MOT sylfaenol a phrawf Cydymffurfio bob chwe mis, a dylid eu cynnal yn briodol.  Darparodd yr Ymgeisydd sicrwydd ynghylch trefn cynnal a chadw’r cerbydau.  Atgoffwyd yr aelodau bod rhaid i bob cais gael ei drin yn ôl ei rinweddau ei hun.

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD bod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn cael ei ganiatáu.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr Aelodau’n ystyried bod y cerbyd mewn cyflwr eithriadol o dda ac yn briodol i’w drwyddedu, a phenderfynwyd caniatáu'r drwydded.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau'r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

12.

POLISI ARFAETHEDIG CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 82 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn rhoi gwybod i aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad am y Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

 (a)      Newid y polisi arfaethedig i adlewyrchu'r newidiadau fel y trafodwyd ac y cytunwyd yn ystod y cyfarfod, a

 

 (b)      Rhoi cyfarwyddyd i swyddogion i ymgynghori ymhellach gyda phartïon sydd â diddordeb ac i gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a dderbyniwyd yn fersiwn olaf y polisi a geir eu cyflwyno yn un o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn rhoi gwybod i aelodau am ganlyniad ymgynghoriad y Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.

 

Roedd manylion y cyfnod ymgynghori o wyth wythnos wedi’u rhoi ynghyd â sylwadau a ddaeth i law; roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion yn bositif gydag ychydig iawn o feysydd dadleuol.  Gan gymryd i ystyriaeth yr ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd nifer o ddewisiadau wedi eu cynnig i'r aelodau ystyried ymhellach, a oedd yn Atodiad D y prif adroddiad.

 

Trafododd yr Aelodau pob un o'r meysydd hynny o'r polisi fel a ganlyn -

 

(1)  Amodiad Lliw Cerbydau Hacni

 

Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn cefnogi'r cynnig yn llawn i osod amodiad lliw, gan ddweud bod dull o'r fath yn gweithio'n dda mewn gwledydd eraill ac wedi gwella strydlun cyfan.  Gan ystyried yr amheuon a fynegwyd ynghylch amodiad lliw du, awgrymodd bod lliw arall yn cael ei ystyried.  Yn ystod y ddadl nid oedd llawer o gefnogaeth gan aelodau eraill i osod gofyniad lliw, yn enwedig o ystyried y gost o weithredu amod o'r fath ac a ddylai’r gost yna ddisgyn ar yr awdurdod lleol neu'r perchennog cerbyd hacni.  Barnwyd y byddai'n well gwario’r arian ar sicrhau diogelwch teithwyr, gan gynnwys cynnal a chadw cerbydau.  O’i roi i’r bleidlais, cytunwyd y gellid dileu’r amod lliw arfaethedig ar gyfer cerbydau hacni.

 

(2)  Oedran Cerbydau Trwyddedig sy’n newydd i fflyd

 

O ystyried dyfodiad technoleg newydd a gwarantau estynedig ar gyfer cerbydau, cytunwyd i gefnogi'r cynnig i gynyddu'r terfyn oedran ar gyfer cerbydau sy’n newydd i fflyd i bwrpas cerbydau hacni i 5 mlynedd (yn unol â cherbydau hurio preifat).

 

(3)  Uchafswm Oed i Gerbydau Trwyddedig mewn fflyd

 

Ystyriwyd rhinweddau gosod uchafswm terfyn oedran.  Yn sgil trefn MOT rheolaidd a Phrawf Cydymffurfio ar gyfer cerbydau trwyddedig, cytunwyd i gadw’r cynnig o derfyn oedran 10 mlynedd ar gyfer cerbydau hacni, a therfyn oedran 12 mlynedd i gerbydau hurio preifat.

 

(4)  Trelars

 

Cytunodd yr Aelodau bod gwerth caniatáu trelars ar gyfer cerbydau hurio preifat, yn enwedig ar gyfer cludo bagiau yn ystod teithiau maes awyr, pan roedd y pris wedi cael ei archebu ymlaen llaw a'r angen am drelar yn hysbys.  Fodd bynnag, ystyriwyd bod y defnydd o drelars gan gerbydau hacni yn amhriodol ar safle tacsi.  Hefyd trafodwyd y mater o hyfforddi gyrwyr a chytunwyd i ystyried derbyn trelars ar gyfer cerbydau hurio preifat yn unig, a hefyd i ystyried a fyddai angen hyfforddiant perthnasol ar gyfer y gyrwyr hynny wedi’u heithrio ar hyn o bryd rhag angen pasio hawliad trelar gyrrwr y DVLA.

 

(5)  Yn hygyrch i gadeiriau olwyn

 

Nododd yr Aelodau fod y rhan fwyaf o dacsis a oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ac wrth nodi rhinweddau i bennu bod hygyrchedd i gadeiriau olwyn yn amod, teimlai'r aelodau cyffredinol y byddai gofyniad o'r fath yn rhy gyfyngol.  O ganlyniad, cytunwyd i beidio â chefnogi’r cynnig i bob cerbyd hacni fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

 

Tynnodd y Swyddog Trwyddedu sylw'r aelodau at sylwadau hwyr a dderbyniwyd mewn ymateb i'r adolygiad polisi cerbyd a oedd wedi ei gylchredeg i aelodau’r  diwrnod blaenorol.  Cytunodd yr Aelodau y dylid delio â’r sylwadau hwyr hynny fel rhan o'r cam ymgynghori nesaf.  Cyfeiriodd y Rheolwr Trafnidiaeth i Deithwyr at ei sylwadau ysgrifenedig a thynnodd sylw at y ffaith y gallai unrhyw newidiadau i'r polisi presennol effeithio ar y gyllideb cludiant ysgol.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       newid y polisi arfaethedig i adlewyrchu'r newidiadau fel y trafodwyd ac y cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, a

 

(b)       rhoi cyfarwyddyd i swyddogion ymgynghori ymhellach gyda phartïon  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 68 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.45 p.m.