Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT O SYLW

Cytunodd y Cadeirydd i amrywio trefn y rhaglen i ddarparu ar gyfer unigolion sy'n bresennol ar gyfer eitemau penodol.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Joan Butterfield a Stuart Davies

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Joan Butterfield a Stuart Davies

 

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 160 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Medi 2015 (copi wedi’i amgáu).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2015 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Medi 2015.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2015 fel cofnod cywir.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A o’r  Ddeddf.

 

 

5.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 15/1074/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 15/1074/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  15/1074/TXJDR yn cael ei roi.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais a ddaeth i law gan Ymgeisydd Rhif 15/1074/TXJDR am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r collfarnau a ddatguddiwyd yn dilyn datgeliad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd rhwng 1998 a 2014 nad oedd wedi cael eu datgelu gan yr Ymgeisydd;

 

(iii)         manylion a gafwyd o ganlyniad i archwiliad arferol o drwydded DVLA yr Ymgeisydd a oedd wedi eu datgelu gan yr Ymgeisydd;

 

(iv)         polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, ac

 

(v)          estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r  (JT) adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

Esboniodd yr Ymgeisydd amgylchiadau'r troseddau cynharach a gyflawnwyd yn ei ieuenctid, a chyfeiriodd at ei newid mewn cymeriad a chyfrifoldebau rhianta cyfredol.  Eglurodd hefyd yr amgylchiadau ynglŷn â'i rybudd diweddar gan yr heddlu a’i gyswllt â’i alwedigaeth bresennol.  Cyflwynodd yr Ymgeisydd gwahanol fathau o ddogfennau i gefnogi ei gais, gan gynnwys llythyr gan Heddlu Gogledd Cymru yr oedd wedi’i gynhyrchu i ddangos cymeriad da.  Wrth ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Ymgeisydd, am fod y troseddau wedi’u cyflawni mor bell yn ôl, nid oedd yn credu eu bod angen eu datgelu.  Cadarnhaodd y swyddogion bod 'gyrrwr tacsi' yn broffesiwn wedi'i eithrio o dan y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac felly roedd yn ofynnol i ymgeiswyr ddatgelu collfarnau sydd wedi darfod.  Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, mynegodd yr Ymgeisydd edifeirwch dros ei orffennol a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y presennol a'r dyfodol.

 

Ymddeolodd y pwyllgor i ystyried y cais, ond cafodd ei ohirio hyd nes cafwyd cadarnhad o'r llythyr a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd gan Heddlu Gogledd Cymru.  Wedi ailddechrau'r trafodion, rhoddwyd gwybod i’r pwyllgor bod y llythyr yn ddilys a -

 

PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  15/1074/TXJDR yn cael ei roi.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Roedd yr Aelodau'n fodlon ar yr esboniad a roddwyd gan yr Ymgeisydd ynghylch ei gollfarnau blaenorol ac wedi ystyried y wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd, yn dangos ei fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.

 

 

6.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1142/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1142/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  15/1142/TXJDR yn cael ei roi, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/1142/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn croniad o 9 pwynt cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA o fewn cyfnod pedwar mis am oryrru;

 

(ii)          y Gyrrwr wedi datgelu 6 o'r pwyntiau cosb wrth adnewyddu ei drwydded ond wedi methu â datgelu'r gollfarn mwyaf diweddar am oryrru, ac

 

(iii)         estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’i drwydded ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r (JT) adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

Cyflwynodd y Gyrrwr ei achos ac eglurodd amgylchiadau pob un o'r tair trosedd am oryrru a’i amgylchiadau personol a threfniadau byw yn ystod y cyfnod hwnnw.  YYn ei ddatganiad lliniarol, dywedodd fod ei sbidomedr wedi bod yn ddiffygiol ac wedi hynny cafodd un newydd, a thra byddai wedi dadlau yn erbyn un o'r troseddau goryrru, roedd yn rhy hwyr i apelio erbyn hynny.  Wrth ymateb i gwestiynau ynghylch ei fersiwn ef o'r digwyddiadau, ymhelaethodd ynghylch amgylchiadau pob trosedd yn cadarnhau nad oedd yn cludo teithwyr a oedd yn talu ar y pryd; nid oedd wedi cael cynnig cwrs goryrru yn lle pwyntiau cosb, ac nid oedd wedi cael cyfle i ddatgelu'r gollfarn mwyaf diweddar am oryrru oherwydd amgylchiadau personol.  O ran ei sbidomedr, cyfaddefodd y Gyrrwr nad oedd wedi meddwl darparu tystiolaeth o'r diffyg gerbron y pwyllgor.  Wrth wneud datganiad terfynol, cyfeiriodd y Gyrrwr at ei awydd i barhau i yrru cerbydau trwyddedig.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD bod y cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  15/1142/TXJDR yn cael ei roi, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth ofalus i’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn, ynghyd â'r esboniad a roddwyd gan y Gyrrwr yn ei ddatganiad lliniarol.  Roedd safbwyntiau cymysg ynglŷn â hygrededd fersiwn y Gyrrwr o ddigwyddiadau, ond ar y cyfan derbyniwyd nad oedd unrhyw deithwyr a oedd yn talu yn cael eu cludo ar adeg y troseddau, ac y gallai'r sbidomedr fod yn ddiffygiol.  O ganlyniad, ystyriodd yr aelodau’r Gyrrwr i fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded, a theimlasant y byddai rhybudd difrifol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol yn ddigonol yn yr achos hwn.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

Ar y pwynt hwn (10.40 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

7.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0833/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0833/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/0833/TXJDR ynglŷn â’i ymddygiad i’r dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/0833/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd heb drwydded;

 

(ii)          manylion ac amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd wedi’u rhoi (roedd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad), ac

 

(iii)         estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’i drwydded ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol (TWE) yr adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.  Mewn achosion pan fo 20 neu fwy o bwyntiau cosb  wedi eu cronni mewn cyfnod o 24 mis caiff y mater ei gyfeirio at y Pwyllgor i’w adolygu.

 

Esboniodd cynrychiolydd y Gyrrwr ei bod yn arfer anfon nodyn atgoffa i adnewyddu at ddeiliaid trwyddedau, nad oedd wedi digwydd yn yr achos hwn.  Roedd methu adnewyddu yn esgeulustod gwirioneddol ar ran y gyrrwr, yr ymddiheurodd amdano, ac ers hynny roedd wedi cymryd camau i sicrhau na fyddai’r mater yn cael ei ailadrodd drwy fuddsoddi mewn trefnwr i’w osod ar y wal i weithredu fel cymorth cof.

 

Bu'r Aelodau'n holi'r Gyrrwr ar amgylchiadau'r achos a rhoddwyd sicrwydd bod y cerbyd yn cael ei gadw mewn cyflwr perffaith a’i fod yn cael archwiliadau rheolaidd, ond roedd dyddiad dod i ben y drwydded wedi’i esgeuluso.  Roedd llythyr gan gwmni yswiriant y gyrrwr (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) yn rhoi gwybod na fu toriad yn yr yswiriant, a phe bai hawliad wedi codi yn ystod y cyfnod dod i ben, byddai wedi cael ei drin yn ôl ei deilyngdod.  O ran y nodiadau atgoffa i adnewyddu, cadarnhaodd y swyddogion ei fod yn arferol anfon nodiadau atgoffa ond oherwydd y system â llaw a ddefnyddiwyd ar y pryd, nid oedd modd cadarnhau a anfonwyd nodyn atgoffa yn yr achos hwn, neu i ble y byddai wedi cael ei anfon.

 

Wrth wneud datganiad terfynol, ailadroddodd cynrychiolydd y Gyrrwr bod y methiant i adnewyddu'r drwydded wedi bod yn esgeulustod gwirioneddol ac roedd dull bellach ar waith i sicrhau na fyddai'n digwydd eto.  Cyfeiriodd at ymddygiad blaenorol da’r Gyrrwr a'r buddsoddiad a roddodd yn y cerbyd, a’r gwaith cynnal a chadw parhaus arno.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/0833/TXJDR ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad a’r achos a gyflwynwyd gan y Gyrrwr a'i ymateb i gwestiynau.  Roedd yn amhosibl penderfynu a oedd y gyrrwr wedi cael y nodyn atgoffa i adnewyddu oherwydd y broses a oedd ar waith ar y pryd, a’i fod wedi newid cyfeiriad.  Fodd bynnag, cyfrifoldeb y Gyrrwr oedd sicrhau bod ganddo drwydded ddilys ar waith bob amser. Derbyniodd y pwyllgor nad oedd unrhyw ymgais bwriadol i dwyllo a nodwyd y camau a gymerwyd gan y Gyrrwr i liniaru unrhyw ddiffyg yn y dyfodol.  O ganlyniad, ystyriodd yr aelodau’r Gyrrwr i fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded, a theimlasant y byddai rhybudd llym yn addas yn yr achos hwn.  Ymhellach at hynny, atgoffwyd y Gyrrwr i wneud gwiriadau dyddiol ar ei gerbyd, a fyddai'n cynnwys gwirio dyddiad dod i ben plât ei drwydded.  Byddai unrhyw ymddangosiad pellach gerbron y pwyllgor yn cael ei ystyried yn fater difrifol  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau'r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

8.

POLISI ARFAETHEDIG CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ar gyfer ymgynghoriad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD -

 

 (a)      cymeradwyo’r Polisi Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, ac

 

 (b)      yn dilyn ymgynghoriad, adroddiad yn ôl ar y drafft terfynol o’r Polisi Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat ynghyd ag unrhyw sylwadau perthnasol a dderbyniwyd i gael eu cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn ceisio cymeradwyaeth y Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Adroddodd y Swyddogion ar y broses adolygu a oedd yn cynnwys dwy sesiwn weithdy gyda'r fasnach tacsis, aelodau etholedig a’r Gwasanaethau Fflyd, gan ddilyn gyda chyflwyniad yn y Pwyllgor Trwyddedu diwethaf gan y Gwasanaethau Fflyd.  Roedd y broses adolygu wedi arwain at y polisi drafft a oedd yn nodi'r polisïau, manyleb cerbydau, amodau a gweithdrefnau roedd y Cyngor yn dymuno eu cymhwyso wrth ymarfer ei swyddogaeth trwyddedu cerbydau.  Tynnwyd sylw'r Aelodau at y prif newidiadau a oedd wedi'u hamlygu mewn atodiad ar wahân er mwyn eglurder.  Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, byddai unrhyw sylwadau perthnasol yn cael eu dwyn yn ôl gerbron y pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       cymeradwyo’r Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, ac

 

(b)       yn dilyn ymgynghoriad, adroddiad yn ôl ar y drafft terfynol o’r Polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ynghyd ag unrhyw sylwadau perthnasol, i gael eu cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor i'w cymeradwyo'n ffurfiol.

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 72 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016.

 

Byddai adroddiad yn ôl yn dilyn ymgynghori ar y Polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat drafft, fel y cytunwyd arno’n gynharach yn y rhaglen, yn cael ei gynnwys yn y rhaglen waith ar gyfer mis Mehefin.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40am.