Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O SYLW Cytunodd y Cadeirydd
i amrywio trefn y rhaglen i ddarparu ar gyfer swyddogion ac unigolion sy'n
mynychu ar gyfer eitemau penodol. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cyngorwyr Richard
Davies a Huw Williams. Cofnodion: Cynghorwyr Richard Davies a Huw Williams Byddai'r
Cynghorydd Pete Prendergast yn cyrraedd yn hwyr ar gyfer y cyfarfod. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 136 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2015 (copi ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2015 fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2015. PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2015 fel cofnod
cywir. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
- dan ddarpariaethau
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y
bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym Mharagraff
12, o Ran 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 14/0859/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 14/0859/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu
trwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif 14/0859/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar
unwaith. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 14/0859/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat yn dilyn croniad o 37 pwynt cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y
Cyngor, am barcio cerbyd trwyddedig wrth dorri rheoliadau parcio, gyrru cerbyd
heb ei drwyddedu a gyrru'r cerbyd gyda dau deiar diffygiol; (ii)
mae
manylion am y digwyddiadau’n rhychwantu Mai - Gorffennaf 2015 wedi'u cynnwys yn
yr adroddiad (crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a
dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad), a (iii)
gwahoddwyd
y Gyrrwr i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’i drwydded ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd y Gyrrwr ei
fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi’r adroddiad gan
fanylu ar ffeithiau'r achos. Mewn
achosion pan fo 20 neu fwy o bwyntiau cosb
wedi eu cronni mewn cyfnod o 24 mis caiff y mater ei gyfeirio at y
Pwyllgor i’w adolygu. Cyflwynodd y Gyrrwr ei
achos ac eglurodd nad oedd wedi ceisio’n fwriadol i dwyllo ond wedi esgeuluso’r
ffaith bod trwydded ei gerbyd wedi dod i ben ac nid oedd modd gweld diffygion y
teiars yn glir am eu bod wedi gwisgo ar y tu mewn. O ran y tocyn parcio eglurodd ei fod wedi
aros yn hwyrach na’r amser a ganiatawyd.
Cyfeiriodd at ei gofnod di-fai blaenorol ac ymddiheurodd am ei
gamymddygiad. Pan gafodd ei holi, dywedodd y
Gyrrwr ei fod yn berchennog / gyrrwr y cerbyd trwyddedig ond yn gweithredu drwy
gyfrwng cwmni tacsi. Wrth wneud ei
ddatganiad terfynol, dywedodd y Gyrrwr mai gyrru tacsi oedd ei fywoliaeth ac ni
allai fforddio atal neu ddiddymu’r drwydded hon. Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD diddymu
trwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif 14/0859/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar
unwaith. Roedd y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Rhoddodd yr Aelodau
ystyriaeth ofalus i’r dystiolaeth a gyflwynwyd a'r sylwadau a wnaed gan y
Gyrrwr i gefnogi ei achos. Canfuwyd bod
y Gyrrwr wedi methu cyflwyno'r cerbyd ar gyfer gwiriad cydymffurfio, wedi
gyrru’r cerbyd rhyw dri mis ar ôl i’r drwydded ddod i ben ac felly heb
yswiriant, a bod y cerbyd mewn cyflwr diffygiol a pheryglus pan gafodd ei
archwilio. Cyfrannodd y ffactorau hyn at
ganfyddiad y dylid diddymu’r drwydded ar unwaith er lles diogelwch y
cyhoedd. O ganlyniad i ymddygiad y Gyrrwr, ystyriodd yr Aelodau iddo
fod yn risg i ddiogelwch y cyhoedd ac nid yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrrwr cerbydau hacni / cerbydau hurio preifat. Cafodd penderfyniad y
pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu felly i'r Gyrrwr a chafodd wybod am ei hawl i
apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys yr Ynadon. [Ni chymerodd y
Cynghorydd Pete Prendergast unrhyw ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar y
mater gan nad oedd wedi bod yn bresennol am yr eitem gyfan] |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 14/0123/TXJDR Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeeig) yn gofyn i’r aelodau benderfynu ar gais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 14/0123/TXJDR am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 14/0123/TXJDR
yn cael ei roi. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 14/0123/TXJDR am drwydded i yrru cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat; (ii)
swyddogion
heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais o ystyried y collfarnau a ddatgelwyd yn
ymwneud â thair trosedd rhwng 1989 a 2014; (iii)
yr
Ymgeisydd wedi cael trwydded yn flaenorol ac wedi bod gerbron y Pwyllgor
Trwyddedu ar achlysur ar wahân i ateb ar gyfer y gollfarn ddiweddaraf yn 2014 –
roedd rhybudd terfynol wedi'i gyhoeddi ar yr achlysur hwnnw; (iv)
polisi
cyfredol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (v)
gwahoddwyd
y Gyrrwr i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau
ar hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol ynghyd â'i gynrychiolydd a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr
adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ)
yr adroddiad ac eglurodd fod yr Ymgeisydd wedi bod gerbron y pwyllgor yn
flaenorol ynghylch ei gollfarn fwyaf diweddar ac wedi'i ganfod i fod yn addas a
phriodol i ddal trwydded. Fodd bynnag,
oherwydd bod y drwydded wedi dod i ben, ac yn sgil y collfarnau, roedd y cais
newydd angen cymeradwyaeth y pwyllgor. Esboniodd cynrychiolydd
y Gyrrwr fod aelodau eisoes wedi dyfarnu ar yr achos hwn ac wedi caniatáu i'r
Gyrrwr gadw ei drwydded. Fe dystiodd hefyd i gymeriad da'r
Gyrrwr a dywedodd ei fod yn aelod gwerthfawr o'r gweithlu. Derbyniodd y Gyrrwr gyfrifoldeb am ei
fethiant i adnewyddu'r drwydded ac ymddiheurodd am yr esgeulustod. Yn ei ddatganiad lliniaru, nid oedd wedi cael
nodyn atgoffa i adnewyddu gan yr awdurdod trwyddedu. Cadarnhaodd y swyddogion efallai y bu
anghysondeb dros ohebiaeth, ond deiliad y drwydded oedd yn gyfrifol am sicrhau
bod cyflwyniad amserol o gais adnewyddu.
Wrth wneud datganiad terfynol siaradodd y Gyrrwr am ei ofid bod yn rhaid
i'r mater gael ei ddwyn gerbron y pwyllgor a chadarnhaodd nad oedd unrhyw
ddigwyddiadau wedi digwydd ers ei gollfarn yn 2014. Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried
yr achos a - PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 14/0123/TXJDR yn cael ei roi. Roedd y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Wrth ystyried y cais,
roedd aelodau wedi cymryd i ystyriaeth ganfyddiad blaenorol y Pwyllgor
Trwyddedu bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded. Nid oedd yr Aelodau ag unrhyw faterion ers
hynny i newid y farn honno ac fe wnaethant benderfynu caniatáu'r cais ar y sail
bod y rhybudd blaenorol a roddwyd i'r Ymgeisydd ynghylch ei ymddygiad yn y
dyfodol yn aros. Cynghorwyd yr Ymgeisydd
hefyd, waeth bynnag a oedd nodyn atgoffa i adnewyddu’n cael ei anfon ai peidio
gan yr awdurdod trwyddedu, ei gyfrifoldeb ef oedd sicrhau adnewyddu ei drwydded
yn amserol. Cafodd penderfyniad y
pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0896/TXJDR Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0896/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 15/0896/TXJDR
yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad
yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 15/0896/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat yn dilyn croniad o 9 pwynt cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA; (ii)
manylion
y collfarnau moduro a ddarparwyd yn
rhychwantu cyfnod 2013 - 2015 yn cynnwys goryrru a thorri gofynion
ynghylch rheoli'r cerbyd; (iii)
polisi
cyfredol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (iv)
gwahoddwyd
y Gyrrwr i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’i drwydded ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd y Gyrrwr ei
bod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi’r (JT) adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r
achos. FFe wnaeth y Gyrrwr annerch y pwyllgor a derbyniodd
gyfrifoldeb am y collfarnau moduro.
Rhoddodd esboniad manwl o'r amgylchiadau o gwmpas pob trosedd foduro,
mynegodd edifeirwch dros y digwyddiadau, a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei
hymddygiad yn y dyfodol. Fe ymatebodd i
gwestiynau aelodau ynglŷn â'i hanes gyrru ac eglurodd agweddau penodol ar
y troseddau moduro. Pan roddwyd y cyfle
i wneud datganiad terfynol, cadarnhaodd y Gyrrwr nad oedd ganddi unrhyw beth
i’w ychwanegu. Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD bod y cais wedi’i adnewyddu am drwydded i yrru
cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan yrrwr rhif 15/0896/TXJDR yn cael
ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol ynghylch ymddygiad yn y dyfodol. Roedd y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Ystyriodd yr Aelodau'r
adroddiad a'r esboniad a roddwyd gan y Gyrrwr yn yr achos hwn. Roedd y pwyllgor o'r farn bod y Gyrrwr yn
agored ac yn onest gyda’r esboniadau ac wrth ateb cwestiynau ac wedi cael
sicrwydd o ran hymddygiad yn y dyfodol. O ganlyniad, ystyriodd yr aelodau bod y
Gyrrwr yn berson addas a phriodol i ddal trwydded a chytunwyd i roi rhybudd
ffurfiol yn yr achos hwn yn sgil y collfarnau moduro a dderbyniwyd. Cafodd penderfyniad y
pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr. Ar y pwynt hwn (10.50
am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau'r
busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
CYFLWYNIAD GAN Y GWASANAETHAU FFLYD AR DDIOGELWCH A THRWYDDEDU CERBYDAU Cael cyflwyniad
ar ddiogelwch a thrwyddedu cerbydau. Penderfyniad: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cludiant (RhC) gyflwyniad PowerPoint ar ei rôl a'i
gyfrifoldebau yn ogystal â’r Gwasanaethau Fflyd, cyn egluro’r perthnasedd i
drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Er bod
rhai gweithredwyr trwyddedig da yn Sir Ddinbych, roedd angen gwella'r ffordd
roedd gweithredwyr yn rheoli ac yn cynnal eu cerbydau yn gyffredinol. O ganlyniad, argymhellodd y RhC fabwysiadu
safon ofynnol ar gyfer gweithredwyr fel rhan o amodau polisi, gan ddefnyddio
system goleuadau traffig yn debyg i'r system sgorio gweithredwyr Asiantaeth
Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) neu'r system fwyd. Byddai
system o'r fath yn galluogi gweithgareddau gorfodi i dargedu perfformwyr gwael. Yn ystod trafodaeth fanwl, cododd yr aelodau
gwestiynau gyda’r RhC ynghylch agweddau amrywiol ar reoli fflyd a'r dull a
ddefnyddir gan Sir Ddinbych gyda’i gyfrifoldebau fflyd cludiant a rheoli eu
hunain. Wrth ystyried materion yn
ymwneud yn benodol â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat, myfyriodd yr
aelodau ynghylch mesurau a gyflwynwyd er mwyn codi safonau megis y system
pwyntiau cosb. Croesawyd cynllun i
ddarparu dull cyson ynghylch gosod safonau cerbydau gofynnol trwy reoli a
chynnal cerbydau, i godi safonau tacsis a cherbydau hurio preifat a drwyddedir
gan Sir Ddinbych ymhellach. Canolbwyntiodd y prif faterion trafod ar y
canlynol - ·
a
oedd gwrthdaro buddiannau mewn achosion lle'r oedd cwmnïau tacsi â’u garejis eu
hunain ar gyfer profi MOT, ac yn yr un modd, ar gyfer y Cyngor wrth roi profion
MOT ar ei gerbydau ei hun – roedd y RhC yn ffafrio’r Cyngor yn profi pob cerbyd
trwyddedig i sicrhau dull cyson ond derbyniodd y gallai achosi anawsterau o
ystyried maint y sir. Cafodd y drefn MOT
ei gweinyddu'n annibynnol gan arholwr DVSA ym mhob achos, ond plât trwydded
cyngor Sir Ddinbych oedd ar y cerbyd a yn adlewyrchu ar yr awdurdod, ac roedd
profion yn fwy goddrychol os ydynt yn cael eu gwneud mewn nifer o wahanol
garejis ·
roedd
achosion a ddaeth gerbron y pwyllgor ynghylch safonau cerbydau gwael yn tueddu
i ymwneud â pherchennog / gyrwyr gyda chwmnïau tacsis mwy o faint â rhyw fath o
system cynnal a chadw ar waith; codwyd pryderon bod y cyfrifoldeb am gyflwr
cerbydau trwyddedig yn parhau i fod gyda'r perchennog/gyrrwr yn unig, gyda
chwmnïau tacsi’n is-gontractio gwaith gan eu rhyddhau o unrhyw gyfrifoldeb ·
cefnogodd yr aelodau'r broses o
herio gweithredwyr gwael a thynnwyd sylw at yr angen i addysgu perchnogion
cerbydau am eu cyfrifoldebau i sicrhau bod cerbydau’n bodloni'r holl ofynion o
ddydd i ddydd ac i beidio â defnyddio'r MOT fel prawf cynnal a chadw ·
mynegwyd
rhywfaint o gefnogaeth ar gyfer defnyddio cerbydau safonol a chynlluniau lliw
fel modd o godi safonau a chytunodd swyddogion i edrych ymhellach i'r mater -
awgrymwyd hefyd y gallai cerbydau arddangos arwydd sy'n darparu manylion am
brofion er mwyn darparu sicrwydd i gwsmeriaid ·
pwysleisiwyd
yr angen am gerbydau trwyddedig o ansawdd uchel i sicrhau safonau cerbydau
uchel a chyfleu delwedd broffesiynol o Sir Ddinbych. Eglurodd y RhC mai newidiadau i bolisi ac
amodau a threfn orfodi effeithiol i dargedu gweithredwyr gwael fyddai'r ffordd
orau o gyrraedd y nod hwnnw. Argymhellodd
Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd ddull cydweithredol gyda’r Gwasanaethau Fflyd
er mwyn gweithredu proses gadarn i wella safonau. Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Cludiant am ei
gyflwyniad llawn gwybodaeth. PENDERFYNWYD nodi’r
cyflwyniad a gafwyd gan y Gwasanaethau Fflyd. [Yn y fan hon o’r gweithrediadau, gadawodd y
Cynghorydd Hugh Irving y cyfarfod]. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD - dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes
a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei
datgelu, fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12, o Ran 4, Atodlen 12A o’r Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 14/0892/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 14/0892/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD diddymu
trwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif 14/0892/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar
unwaith. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 14/0892/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y
Cyngor am gyflwyno cerbyd trwyddedig i’w brofi mewn cyflwr anniogel a
pheryglus; (ii)
roedd
manylion y diffygion a nodwyd yn dilyn cyflwyno’r cerbyd am brawf
Cydymffurfio/MOT wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â datganiadau tyst a
dogfennau cysylltiedig, a (iii)
gwahoddwyd
y Gyrrwr i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’r drwydded ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny. Nid oedd y Gyrrwr yn
bresennol ac roedd wedi methu cysylltu â
swyddogion ynghylch ei adolygiad trwydded.
Cadarnhaodd swyddogion fod yr hysbysiad angenrheidiol wedi'i anfon ac ar
y sail honno roedd yr aelodau'n fodlon gwrando ar yr achos yn absenoldeb y
Gyrrwr. Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi’r
adroddiad a rhoddodd fanylion ar ffeithiau'r achos. Mewn achosion pan fo 20 neu fwy o bwyntiau
cosb wedi eu cronni mewn cyfnod o 24 mis
caiff y mater ei gyfeirio at y Pwyllgor i’w adolygu. Ymatebodd y Swyddog Gorfodi i gwestiynau gan gadarnhau mai'r Gyrrwr oedd yn
berchen ar y cerbyd dan sylw, ond yn gweithredu drwy gyfrwng cwmni tacsi. Cadarnhaodd fod gwiriad cydymffurfio chwe mis
blaenorol y cerbyd wedi’i gynnal ac nid oedd gan y Gyrrwr unrhyw bwyntiau cosb
blaenorol. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD diddymu
trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif 14/0892/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar
unwaith. Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu
fel a ganlyn - Yn ystod trafodaethau, ystyriodd yr aelodau’r dystiolaeth
a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn ofalus.
Mynegodd y pwyllgor bryderon difrifol ynghylch cyflwr anniogel y cerbyd
trwyddedig fel y'u cyflwynwyd ar gyfer ei brofi, a’r peryglon a berir i'r
cyhoedd o ganlyniad. Roedd aelodau wedi
canfod bod cyflwr y cerbyd mor ddifrifol fel y byddai gyrrwr cyfrifol wedi
gwybod bod yna broblem gyda'r cerbyd, a dylai fod wedi cymryd mesurau digonol i
fynd i'r afael â hynny. Roedd y Gyrrwr
wedi gweithredu’r cerbyd mewn cyflwr anniogel heb ystyriaeth briodol i
ddiogelwch y cyhoedd ac yn absenoldeb unrhyw sylwadau gan y Gyrrwr, nid oedd
modd cael unrhyw sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. O ganlyniad, canfu'r pwyllgor nad oedd y
Gyrrwr yn berson addas a phriodol a phenderfynodd ddiddymu'r drwydded am
resymau diogelwch y cyhoedd. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0123/TXPHD Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hurio preifat o
ran Gyrrwr Rhif 15/0123/TXPHD. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD rhoi
rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/0123/TXPHD ynglŷn â’i hymddygiad i’r
dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 15/0123/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hurio preifat yn
dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am yrru
cerbyd heb ei drwyddedu; (ii)
manylion
a'r amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd (crynodeb o ffeithiau ynghyd â
datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad), a (iii)
gwahoddwyd
y Gyrrwr i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch
Cymunedol yr adroddiad a rhoddodd fanylion ar ffeithiau'r achos. Mewn achosion
pan fo 20 neu fwy o bwyntiau cosb wedi
eu cronni mewn cyfnod o 24 mis caiff y mater ei gyfeirio at y Pwyllgor i’w
adolygu. Roedd y Gyrrwr wedi cyflwyno llythyr lliniaru i'r
pwyllgor (a gylchredwyd yn y cyfarfod) gan nad oedd yn gallu bod yn
bresennol. Eglurodd fod ei gweithredoedd
wedi digwydd yn y fan a’r lle yn fyrfyfyr ac wedi’u gwneud gyda'r bwriadau
gorau. Eglurodd y swyddogion faterion penodol mewn ymateb
i gwestiynau ar hynny, gan gynnwys gweithdrefnau priodol i'w dilyn mewn
achosion o'r fath yn ymwneud â gwaith contract. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD rhoi
rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/0123/TXPHD ynglŷn â’i ymddygiad yn y
dyfodol. Roedd y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Ystyriodd yr Aelodau’r
dystiolaeth a gyflwynwyd a'r llythyr lliniaru a roddwyd gan y Gyrrwr yn yr achos
hwn. Roedd gan y pwyllgor farn ddifrifol
dros ben dros ddefnyddio cerbyd heb drwydded ac nid oeddent yn cymeradwyo
defnydd o'r fath o gwbl. Fodd bynnag, gan
ystyried y dystiolaeth a’r camau lliniaru a ddarparwyd, gan gynnwys
amgylchiadau penodol yr achos hwn ac ymdrechion a wnaed i gyflawni'r contract,
ystyriodd yr aelodau bod y Gyrrwr yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded. Serch hynny, teimlai'r
pwyllgor y dylai'r Gyrrwr fod wedi cymryd camau pellach i wneud trefniadau
eraill i ddatrys y sefyllfa ac o ystyried difrifoldeb y drosedd, roedd yn
briodol rhoi rhybudd llym o ran ymddygiad yn y dyfodol ac y dylid atgoffa’r
Gyrrwr bod y pwyntiau cosb yn aros yn ddilys am ddwy flynedd. Roedd y pwyllgor hefyd yn awyddus i'r Gyrrwr
fod yn ymwybodol o'r camau amgen i'w cymryd mewn sefyllfa o'r fath, heb yr
angen i droi at ddefnyddio cerbyd heb ei drwyddedu. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau'r
busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
ADOLYGIAD ARFAETHEDIG O’R DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU PDF 109 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn
am gymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad Polisi Trwyddedu drafft ar gyfer
ymgynghori ffurfiol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Datganiad drafft o Bolisi Trwyddedu yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghori
cyhoeddus a bod pŵer yn cael ei ddirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd i gytuno ar unrhyw newidiadau sy'n codi o'r prosiect
cydweithredu cyn ymgynghori. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
cyflwyno Datganiad drafft o’r Polisi Trwyddedu i'w gymeradwyo ar gyfer
ymgynghoriad ffurfiol. Er mwyn
cydymffurfio â'r amserlenni statudol, rhaid i'r Polisi diwygiedig fod yn
effeithiol o Ionawr 2016. Fe wnaeth y Datganiad Polisi Trwyddedu sefydlu fframwaith
lleol ar gyfer gwneud penderfyniadau wrth ystyried ceisiadau am ganiatâd neu
amrywiadau perthnasol i delerau ac amodau presennol. Hysbyswyd yr aelodau o ddull cydweithredol
gan awdurdodau Gogledd Cymru wrth baratoi ar gyfer yr adolygiad Polisi, ynghyd
â diwygiadau arfaethedig gan ystyried newidiadau deddfwriaethol. Roedd disgwyl y byddai'r drafft terfynol yn
barod ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus erbyn Hydref / Tachwedd 2015. Cyfeiriodd y Cynghorydd Bill Cowie at baragraff 3.2.1 a
gofynnodd a ddylai Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro hefyd fod yn
ddarostyngedig i amodau i adlewyrchu unrhyw strategaethau neu fentrau atal
troseddau lleol. Cytunodd y swyddogion i
ymgynghori â chydweithwyr yn hynny o beth a diwygio yn ôl yr angen. Nododd yr aelodau ddiwygiad i'r argymhelliad
i adlewyrchu’r ffaith yn well y gellir newid y polisi drafft o ganlyniad i'r
dull cydweithredol parhaus. O ganlyniad
- PENDERFYNWYD bod
y Datganiad drafft o’r Polisi Trwyddedu yn cael ei gymeradwyo ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus a bod pŵer yn cael ei ddirprwyo i Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i gytuno ar unrhyw newidiadau sy'n codi o'r
prosiect cydweithredu cyn ymgynghori. |
|
ADOLYGIAD O BOLISI A GWEITHDREFN BRESENNOL PWYNTIAU COSB PDF 54 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn
am gymeradwyaeth ar gyfer y Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig ar
gyfer ymgynghori ffurfiol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD (a) bod y wybodaeth a ddarperir ar y dadansoddiad o'r pwyntiau a gyhoeddwyd fel
y manylwyd yn yr adroddiad yn cael ei chydnabod. (b) yn amodol ar y newidiadau uchod bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i
ddechrau ymgynghoriad ffurfiol ar y diwygiadau arfaethedig i'r Polisi a
Gweithdrefn Pwynt Cosb fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac (c) yn dilyn ymgynghoriad, adroddiad yn ôl ar y drafft terfynol o’r Polisi a
Gweithdrefn Pwynt Cosb ynghyd ag unrhyw sylwadau perthnasol a dderbyniwyd i
gael eu cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor i'w gymeradwyo'n ffurfiol. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad
gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
ceisio cymeradwyaeth o’r Polisi a’r Weithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig ar
gyfer ymgynghoriad ffurfiol. Roedd y
ddogfen yn manylu ynghylch sut yr ymdriniodd y Cyngor â mân achosion o dorri
rheolau mewn perthynas â thrwyddedu tacsis. Roedd y Pwyllgor Trwyddedu wedi cymeradwyo'r
Polisi a’r Weithdrefn Pwyntiau Cosb ym mis Medi 2014, a gofynnwyd am adroddiad
cynnydd blynyddol ar ei weithrediad.
Roedd dadansoddiad o'r pwyntiau a ddyfarnwyd wedi’i gynnwys yn yr
adroddiad a thynnwyd sylw'r aelodau at nifer o faterion a godwyd ers cyflwyno'r
cynllun, gan gynnwys lefel y pwyntiau a ddyfarnwyd am dorri rheolau
penodol. O ganlyniad, roedd diwygiadau
i'r cynllun wedi’u cynnig a oedd angen ymgynghoriad ffurfiol. Tynnwyd sylw arbennig at y cynnig ar gyfer
ymdrin â rheolau a dorrir sy'n arwain at ddyfarniad sengl o 20 pwynt cosb a
oedd ar hyn o bryd yn cael eu cyflwyno i bwyllgor. Er mwyn ymdrin â materion mewn modd amserol,
cynigiwyd bod yr achosion hynny’n cael eu hystyried gan naill ai'r Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd neu Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a
Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd neu Is-gadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu. Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r ddogfen a nodwyd y cynnydd arfaethedig
yn y pwyntiau cosb am dorri rheolau penodol a hefyd cynigiwyd y diwygiadau a
ganlyn - ·
oherwydd y cynnydd mewn diffygion diogelwch
cerbydau a adroddwyd i'r pwyllgor ac o ystyried yr angen i godi safonau cerbydau
a sicrhau diogelwch y cyhoedd, teimlai'r aelodau y dylai cynnydd i 10 pwynt
cosb gael ei gymhwyso i droseddau sy'n ymwneud â cherbydau diffygiol lle'r oedd
mater diogelwch brys. Roedd y dyfarniad hwn yn berthnasol i
bwyntiau 1a), 1b), 1c), 1d), 1e) ac 1m) o fewn y raddfa pwyntiau cosb (tudalen
25 o'r adroddiad), a ·
ystyriodd
yr aelodau bod gyrrwr trwyddedig cerbyd trwyddedig â dyletswydd gofal am y
cerbyd waeth p'un a oeddent yn berchen ar y cerbyd neu beidio - o ganlyniad,
cytunwyd y gallai'r gyrrwr, perchennog a / neu weithredwr y cerbyd trwyddedig
fod yn atebol am reolau a dorrir, yn dibynnu ar amgylchiadau'r drosedd, y dylid
eu hadlewyrchu o fewn y ddogfennaeth. Yn sgil y diwygiadau uchod i'r polisi drafft,
cytunwyd y dylid dwyn y drafft terfynol yn ôl gerbron y pwyllgor i'w gadarnhau
yn ffurfiol, waeth bynnag a fyddai unrhyw sylwadau perthnasol mewn ymateb i'r
ymgynghoriad ffurfiol. PENDERFYNWYD - (a) bod y wybodaeth a ddarperir
am y dadansoddiad o'r pwyntiau a gyhoeddwyd fel y manylwyd yn yr adroddiad yn
cael ei chydnabod. (b) yn amodol ar y newidiadau
uchod bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i ddechrau ymgynghoriad ffurfiol ar
y diwygiadau arfaethedig i'r Polisi a’r Weithdrefn Pwyntiau Cosb fel y nodwyd
yn yr adroddiad, ac (c) yn dilyn ymgynghoriad, bod
adroddiad ar y drafft terfynol o’r Polisi a'r Weithdrefn Pwyntiau Cosb, ynghyd
ag unrhyw sylwadau perthnasol, yn cael eu cyflwyno gerbron y pwyllgor eto i'w
cymeradwyo'n ffurfiol. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2015/16 PDF 75 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo
rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (a ddosbarthwyd eisoes) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer 2015/16. Byddai eitem ar y cynllun i osod safonau gofynnol ar
gyfer cerbydau trwyddedig, fel y trafodwyd yn gynharach ar y rhaglen, yn cael
ei chynnwys yn y rhaglen waith ar gyfer naill ai Rhagfyr neu Fawrth. PENDERFYNWYD cymeradwyo
rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm. |