Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Joan Butterfield

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes sydd wedi ei nodi i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol na niweidiol.

 

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol neu ragfarnus.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 182 KB

I dderbyn –

 

(a)  Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar Ragfyr 5, 2012 (copi’n amgaeedig)

 

(b)  Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar Ionawr 24, 2013 (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar Ragfyr 5, 2012 ac Ionawr 24, 2013 a’u cadarnhau’n gofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2012 a’r Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2013.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2012 a 24 Ionawr 2013 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Ar y pwynt hwn, nododd y Cadeirydd ei fwriad i amrywio trefn y rhaglen i ddelio â’r unigolion hynny a oedd yn mynychu’r cyfarfod i gefnogi eu ceisiadau/adolygiadau trwydded a gwrando ar eu hachosion hwy cyn unrhyw fusnes arall.

 

 

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol oherwydd ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig, fel y diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 o atodlen 12A i’r Ddeddf, yn cael ei datgelu.

 

 

5.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 045909

I ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn gofyn i aelodau bennu cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 045909.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod y cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 045909.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar –

 

(i)      Gais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 045909 am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat;

 

(ii)     Nad oedd y swyddogion mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais yng ngoleuni gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad manylach gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB);

 

(iii)     Darparwyd crynodeb o gollfarnau a ddatgelwyd, a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau yn ystod y cyfnod 1982 i 2009 gan gynnwys digwyddiadau yn ymwneud â meddwdod, trais ac anonestrwydd;

 

(iv)     Polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a

 

(v)     Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad a dweud bod yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr Ymgeisydd i ddal trwydded o ystyried natur y collfarnau.

 

Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi ei gais, gan ddweud ei fod yn rhydd rhag alcohol ac yn aml ef oedd y gyrrwr dynodedig ar gyfer teulu a chyfeillion. Adroddodd ar ei waith rhan-amser fel gyrrwr dosbarthu, gan ddweud ei fod hefyd yn dda gyda chwsmeriaid ac eisiau gwneud ei fywoliaeth fel gyrrwr tacsis. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, adroddodd yr Ymgeisydd ar ei swyddi blaenorol yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf a’i ddymuniad am waith llawn-amser. Esboniodd hefyd yr amgylchiadau o gwmpas y troseddau a ddatgelwyd gan yr archwiliad cofnod troseddol. Yn ei ddatganiad terfynol, pwysleisiodd yr Ymgeisydd ei fod eisiau gweithio a dilyn gyrfa fel gyrrwr tacsis. Cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu bod yr Ymgeisydd wedi datgelu’r troseddau hyd eithaf ei wybodaeth ac wedi cydweithredu’n llawn gyda swyddogion yn ystod y broses o wneud cais.

 

Ar y pwynt hwn, torrodd y cyfarfod er mwyn i’r pwyllgor ystyried yr achos ac fe -

 

BENDERFYNWYD gwrthod cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat gan Ymgeisydd Rhif 045909.

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Tra’n nodi bod y rhan fwyaf o’r troseddau wedi digwydd beth amser yn ôl, mynegodd y pwyllgor amheuon ynglŷn â chaniatáu’r cais yn wyneb natur y troseddau hynny ac nid oedd yn gwbl fodlon gyda’r esboniadau a roddwyd gan yr Ymgeisydd mewn perthynas â hynny. Roedd gan yr Aelodau bryderon penodol ynglŷn â’r ddwy drosedd ddiwethaf a gyflawnwyd yn 2005 a 2009 mewn perthynas â meddwdod ac o ystyried polisi’r cyngor ynglŷn â pherthnasoedd collfarnau, ystyriwyd, dan yr amgylchiadau, y dylai’r Ymgeisydd fod yn rhydd rhag collfarnau o’r fath am bum mlynedd cyn ceisio gwneud cais am drwydded. O ganlyniad, gwahoddodd y pwyllgor yr Ymgeisydd i wneud cais eto mewn 12 mis.

 

Bu i’r Cadeirydd hysbysu’r Ymgeisydd o’r penderfyniad a’r rhesymau am hynny.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau’r busnes uchod, aeth y cyfarfod yn ei flaen mewn sesiwn agored.

 

6.

CAIS AM ADNEWYDDU TRWYDDED SEFYDLIAD RHYW pdf eicon PDF 76 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â chais gan Adult World i adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw o ran yr eiddo yn 43 – 47 Queen Street, y Rhyl.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)       caniatáu cais am adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw ar gyfer eiddo yn 43 - 47 Queen Street, Y Rhyl â’r opsiwn o dalu’r ffi adnewyddu o £2600 mewn rhandaliadau

 

(b)       gofyn i swyddogion adolygu’r ffioedd presennol ar gyfer trwyddedu sefydliad rhyw gan ystyried yr achos diweddar ‘R (Hemming ac Eraill) v Cyngor Dinas Westminster’ ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor ar hynny os bydd angen.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn dweud bod cais i adnewyddu trwydded sefydliad rhyw wedi ei dderbyn gan Adult World mewn perthynas â safle yn 43 – 47 Queen Street, y Rhyl. Dywedodd nad oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi codi unrhyw wrthwynebiad i’r cais ac ar ôl hysbysiad cyhoeddus ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan aelodau’r cyhoedd.

 

Tynnodd y Prif Gyfreithiwr sylw’r aelodau at achos diweddar R (Hemming ac Eraill) v Cyngor Dinas Westminster a oedd yn cynnwys her gyfreithiol i ffioedd trwydded a godwyd am sefydliadau rhyw. Roedd yr achos yn sefydlu dwy egwyddor bwysig -

 

- Lle mae Cyngor yn elwa o ffioedd trwydded, pan fydd incwm y ffi yn fwy na’r gwariant a achosir, rhaid iddo gario’r gwarged ymlaen wrth benderfynu ar y ffi mewn blynyddoedd i ddod, a

 

- Mewn cynlluniau gorfodi a ddaw dan Reoliadau Darparu Gwasanaethau, ni ellir ailgodi costau gorfodi ar weithredwyr trwyddedig.

 

O ganlyniad, cynghorwyd yr aelodau efallai y byddai angen ailystyried y ffi yn y dyfodol oherwydd her bosibl. Ar ôl trafodaeth fer, fe–

 

BENDERFYNWYD -

 

(a)       caniatáu’r cais i adnewyddu Trwydded Sefydliad Rhyw a ddelir mewn perthynas â safle yn 43 – 47 Queen Street, y Rhyl, gyda’r opsiwn i dalu’r ffi adnewyddu o £2600 mewn rhandaliadau, a

 

(b)       gofyn i’r swyddogion adolygu’r ffioedd presennol ar gyfer trwyddedu sefydliadau rhyw yng ngoleuni’r achos diweddar ‘R (Hemming ac Eraill) v Cyngor Dinas Westminster’ ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor ar y mater os oes angen.

 

 

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol oherwydd ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig, fel y diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 o atodlen 12A i’r Ddeddf, yn cael ei datgelu.

 

 

7.

ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – GYRRWR RHIF 043120

I ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn gofyn am i aelodau bennu addasrwydd Gyrrwr Rhif 043120 i barhau i ddal Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD rhoi rhybudd difrifol i Yrrwr Rhif 043120 ynglŷn â’i ymddygiad a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

[Cyn cychwyn ar yr eitem hon, caniataodd y Cadeirydd ohiriad er mwyn i bawb ymgyfarwyddo gyda’r dogfennau.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar –

 

(i)      Addasrwydd Gyrrwr Rhif 043120 to i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat;

 

(ii)     Bod cwyn wedi ei derbyn gan feiciwr ynglŷn ag ymddygiad y Gyrrwr ar ddau achlysur gwahanol ar 31 Rhagfyr 2012 ac 1 Ionawr 2013, ac roedd ffilm o’r ddau achos ar gael i’r pwyllgor i’w gwylio  (roedd crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau gan dystion, trawsgrifiadau o’r sgyrsiau a recordiwyd a dogfennau cysylltiedig hefyd ynglwm wrth y prif adroddiad), a

 

(iii)     Roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi adolygiad ei drwydded ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar y mater.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (HB) yr adroddiad a rhoi crynodeb o ffeithiau’r achos. Yna gwyliodd y pwyllgor ffilm o’r ddau ddigwyddiad a grybwyllwyd yn yr adroddiad a gafwyd o (1) gamera pen yr achwynydd a oedd wedi ei ddodi ar ei helmed beicio, (2) recordiad a wnaed gan y teithiwr a oedd gyda’r Gyrrwr ar ei ffôn symudol / llechen, a (3) clipiau a recordiwyd ar gamerâu teledu cylch cyfyng Canol Tref y Rhyl.

 

Anerchodd y Gyrrwr y pwyllgor gan ddweud iddo ddod yn yrrwr trwyddedig yn 2009 ac nad oedd erioed wedi bod yn destun cwyn o’r blaen. Dywedodd nad oedd wedi bod yn dreisgar tuag at y beiciwr mewn unrhyw ffordd ond wedi gofyn iddo roi’r gorau i reidio yng nghanol y ffordd oherwydd y gallai achosi damwain, ac reodd yn rhwystro ceir rhag goddiweddyd. Gwadodd ddilyn y beiciwr ar 1 Ionawr 2013 gan ychwanegu nad oedd ganddo reolaeth dros weithrediadau ei deithiwr.

 

Cymerodd yr aelodau y cyfle i holi’r Gyrrwr ynglŷn â’r digwyddiadau dan sylw, gan gyfeirio yn benodol at y rhesymeg y tu ôl i’w ymddygiad a’i fwriadau yn ystod y digwyddiad a recordiwyd ar 1 Ionawr 2013. Atebodd y Gyrrwr y cwestiynau a gwadodd ddilyn y beiciwr yn fwriadol neu aflonyddu arno, gan ychwanegu nad oedd wedi dangos unrhyw arwydd o drais tuag ato ar unrhyw adeg. Dywedodd hefyd ei fod yn ymwybodol o’r rheolau a’r rheoliadau yn yr amodau trwyddedu a Chod y Briffordd. Yn hynny o beth, derbyniodd y dylai beiciwr reidio i ffwrdd o ymyl y ffordd dan amylchiadau penodol, ond teimlai nad oedd angen reidio yng nghanol y ffordd yn ddiangen.

 

Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, roedd y Gyrrwr eisiau esbonio nad oedd wedi derbyn hysbysiad aflonyddu gan yr Heddlu ond wedi ei hysbysu o ystyr aflonyddiad a gofynnwyd iddo anwybyddu’r beiciwr yn y dyfodol. Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Gyrrwr efallai iddo weld y beiciwr ers hynny ond nad oedd wedi bod â rheswm i gysylltu ag o.

 

Ar y pwynt hwn, torrodd y cyfarfod i ystyried yr achos ac fe –

 

BENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 043120 yn cael rhybudd difrifol ynglŷn â’i ymddygiad a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

[Ni chymerodd y Cynghorydd Bill Cowie unrhyw ran yn y drafodaeth na’r pleidleisio ar yr eitem hon gan nad oedd wedi bod yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan.]

 

Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -

 

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos gan gynnwys y ffilm a recordiwyd ac esboniad y Gyrrwr o’r digwyddiadau, credai’r aelodau bod y Gyrrwr wedi dilyn y beiciwr yn fwriadol ar 1 Ionawr 2013 ac wedi gyrru’n rhy agos a chodi ofn arno. Daeth y pwyllgor i’r casgliad hefyd bod y Gyrrwr wedi dangos diffyg  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau’r busnes uchod, aeth y cyfarfod yn ei flaen mewn sesiwn agored.

 

8.

DIWEDDARIAD AR ADOLYGU FFIOEDD A THALIADAU TRWYDDEDU AR GYFER 2013/14 pdf eicon PDF 46 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth aelodau i gadw’r strwythur ffioedd cyfredol hyd nes y bydd yr adolygiad o ffioedd a thaliadau trwyddedu wedi ei gwblhau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cadw’r strwythur ffioedd presennol ar gyfer Ffioedd a Thaliadau Trwyddedu (fel y’u nodir yn yr atodiad i’r adroddiad hwn) ar gyfer 2013/14 hyd nes ceir canlyniad yr adolygiad llawn.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo cadw’r strwythur ffioedd presennol nes bydd yr adolygiad o’r ffioedd a’r taliadau wedi ei gwblhau. Roedd y strwythur ffioedd presennol ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Cafodd y pwyllgor ddiweddariad ar gynnydd a wnaed ar yr adolygiad o’r ffioedd a’r taliadau trwyddedu, a dywedwyd bod cyngor cyfreithiol arbenigol yn cael ei geisio ar gyfrifo ffioedd trwyddedu er mwyn osgoi unrhyw heriau cyfreithiol. Byddai’r gwaith hwn yn cychwyn yn y man, ar ôl cwblhau adolygiad gweithdrefnau tacsis a cherbydau hur preifat. Yn y cyfamser, byddai swyddogion yn mynychu cwrs ddiwedd mis Mawrth ar ffioedd a thaliadau trwyddedu. Hysbyswyd yr aelodau hefyd bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn gweithio dan Banel Technegol Trwyddedu Cymru Gyfan, gyda’r dasg o ystyried ffioedd a thaliadau, yn benodol ar gyfer tacsis.

 

Yn wyneb yr uchod, teimlai’r aelodau ei bod yn ddoeth cadw’r strwythur ffioedd presennol nes ceid adolygiad llawn o’r ffioedd a’r taliadau. Gofynnodd yr aelodau hefyd bod yr achos diweddar ‘R (Hemming ac Eraill) v Cyngor Dinas Westminster’ yn delio â her gyfreithiol  ynglŷn â ffioedd sefydliadau rhyw, yn cael ei gymryd i ystyriaeth fel rhan o’r adolygiad hwnnw ynghyd â phenderfyniad y llys apêl unwaith y byddai’n hysbys.

 

PENDERFYNWYD cadw’r strwythur ffioedd presennol ar gyfer Ffioedd a Thaliadau Trwyddedu (fel y manylwyd yn yr atodiad i’r adroddiad) ar gyfer 2013/14 nes ceid canlyniadau’r adolygiad llawn.

 

 

9.

ADOLYGU AMODAU MARCHNAD AR GYFER Y RHYL pdf eicon PDF 49 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth aelodau i amodau diwygiedig ar gyfer Marchnad y Rhyl ynghyd â strwythur ffioedd newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Amodau Marchnad diwygiedig arfaethedig ynghyd â’r strwythur ffioedd (fel y’u nodir yn Atodiad 1 a 2 i’r adroddiad yn eu tro).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo amodau diwygiedig ar gyfer Marchnad y Rhyl, ynghyd â strwythur ffioedd newydd (fel y nodwyd yn Atodiad 1 a 2 i’r adroddiad, yn eu tro).

 

Hysbyswyd yr aelodau –

 

·         Ers sefydlu’r farchnad yn 2011 bu nifer o newidiadau yn arwain at adolygu’r amodau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu arferion gwaith presennol yn well

·         Rhoddwyd caniatâd cynllunio parhaol ar gyfer y farchnad ym mis Hydref 2012

·         Bod Cytundeb Lefel Gwasanaeth wedi ei lunio ar gyfer Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i reoli a hyrwyddo deg stondin a fyddai’n cael eu cynnig i’r gymuned yn rhad ac am ddim am hyd at wyth wythnos; os oedd y fenter yn llwyddiannus, gallai deiliad y stondin wneud cais i rentu’r stondin yn barhaol

·         Ar ôl prynu a darparu stondinau’r farchnad (gasebos) bu’n bosibl symleiddio’r strwythur ffioedd yn seiliedig ar nifer y gasebos a ddefnyddiwyd yn hytrach na gweithio’r pris allan fesul medr, ac roedd ffioedd wedi eu cyfrifo’n deg i sicrhau bod masnachwyr yn talu ffi realistig am pob gasebo a logwyd.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd yr aelodau y materion canlynol gyda'r swyddogion –

 

·         Holodd y Cynghorydd Bill Cowie os oedd ymgynghori wedi bod gyda deiliaid stondinau presennol ar y newidiadau arfaethedig ac atebodd y Swyddog Trwyddedu nad oedd newidiadau materol mawr wedi eu gwneud ac y byddai’r diwygiadau yn sicrhau amodau mwy ymarferol, clir ac wedi eu symleiddio i’r deiliaid stondin

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Cefyn Williams ar reoli deg stondin am ddim a holodd os oedd yr effaith ar ddeiliaid stondinau presennol wedi ei chymryd i ystyriaeth. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y rhesymeg y tu cefn i’r penderfyniad i gefnogi pobl leol a chynnyrch lleol a rhoddodd sicrhad y byddai angen i ddarpar ddeiliaid stondin fodloni meini prawf penodol er mwyn cymhwyso. Adroddodd ar hyrwyddo Marchnad y Rhyl fel marchnad gymunedol gyda pherchnogaeth leol yn amlygu’r manteision i’r gymunedol o ganlyniad

·         Adroddodd y Cynghorydd Win Mullen-James ar gwynion a dderbyniodd gan rai llai abl yn gorfforol a defnyddwyr cadeiriau olwyn yn y gymuned mewn perthynas â chyfyngiad ar fynediad ar ddyddiau marchnad ac amlygodd yr angen i gael digon o le rhwng stondinau er mwyn rhoi gwell mynediad i’r unigolion hynny. Gofynnodd hefyd am sicrhad ynglŷn ag ansawdd y nwyddau i’w gwerthu. Rhybuddiodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn erbyn rheol gyffredinol yn erbyn nwyddau ail law ond rhoddodd sicrhad y byddai ansawdd y nwyddau yn cael ei ddilysu a’i reoli’n briodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Amodau Marchnad diwygiedig ynghyd â’r strwythur ffioedd arfaethedig (a fanylwyd yn Atodiadau 1 a 2 i’r adroddiad yn eu tro).

 

 

10.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2013/14 pdf eicon PDF 64 KB

I ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu (copi’n amgaeedig).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu fel y’i nodir yn yr adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar raglen waith y Pwyllgor Trwyddedu i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cydnabod rhaglen waith y Pwyllgor fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30 a.m.