Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Brian
Blakeley, Hugh Irving a Peter Owen. Cofnodion: Y Cynghorwyr Brian Blakeley, Hugh Irving a Peter Owen. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu ragfarnus
mewn unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol neu
ragfarnus. Cofnodion: NI chyflwynwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol neu
ragfarnus. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 166 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd
ar 12 Medi 2012 (copi’n amgaeëdig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD, yn amodol ar bwyntiau o gywirdeb, derbyn a chadarnhau cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2012 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Medi 2012. Cywirdeb – Tudalen 7 – Eitem 5, Adolygu Tair Trwydded –
Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyblygu Rhif y Gyrrwr, a oedd angen ei newid [Dylid
newid Rhif Gyrrwr 040298 yn (3) Atodiad 2 i Yrrwr Rhif 040448.] Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield nad oedd
ei hymddiheuriadau am absenoldeb yn y cyfarfod diwethaf wedi eu cofnodi yn y
cofnodion. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 12 Medi 2012 fel cofnod cywir. Ar y pwynt hwn, nododd y Cadeirydd ei fwriad i
newid trefn y rhaglen ar gyfer yr unigolion hynny a oedd yn mynychu’r cyfarfod
i gefnogi eu ceisiadau / adolygiadau trwydded, a gwrando ar eu hachosion hwy
cyn unrhyw fater arall. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg
a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol oherwydd ei bod yn
debygol y byddai’n datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym
Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A i’r Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 044881
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau
benderfynu ar gais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 044881 am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hur preifat. Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwyddedu gyrru cerbyd hacni a cherbydau hur
preifat gan Ymgeisydd Rhif 044881 a rhoi rhybudd ar ddifrifoldeb ei drosedd a’i
ymddygiad i’r dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y
Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar – (i)
Cais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd rhif 044881 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat; (ii)
Bod yr Ymgeisydd wedi ei gollfarnu
am Fethu â Darparu Sampl i’w Ddadansoddi (wrth ofalu am gerbyd modur) ar 13
Hydref 2010 a’i wahardd rhag gyrru am 16 mis (wedi ei ostwng i 12 mis ar ôl
cwblhau cwrs) a’i ddirwyo £160.00; (iii)
Bod yr Ymgeisydd wedi dal
trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat ers 2006 a’i fod yn gyrru
cerbyd trwyddedig adeg y drosedd (roedd yr Ymgeisydd wedi dweud ers hynny nad
oedd yn cludo teithwyr talu pan ddigwyddodd y drosedd); (iv)
Bod yr Ymgeisydd wedi methu â
hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o’r drosedd o fewn saith diwrnod yn unol ag amodau
trwyddedu, ac yn hytrach roedd wedi gadael i’w drwydded fynd yn ddi-rym ym mis
Rhagfyr 2010; (v)
Polisi presennol y Cyngor mewn
perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (vi)
Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny. Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb
o’r adroddiad gan ddweud bod yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd
bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr ymgeisydd yn
wyneb y cyfnod cymharol fyr yn rhydd rhag troseddau gyrru. Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi
ei gais, gan fynegi ei edifeirwch ynglŷn â’r drosedd. Ymddiheurodd hefyd
am fethu â hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o’r gollfarn, a oedd oherwydd dryswch a
phryder a ddioddefodd ynglŷn â'r digwyddiad. Ymatebodd i gwestiynau’r
aelodau ar amgylchiadau ei gollfarn a’i fethiant i ddarparu sampl i’w
ddadansoddi, a chadarnhaodd iddo ddal trwydded gyrru tacsi heb ddigwyddiad ers
2006. I gloi, dywedodd yr Ymgeisydd iddo fynychu cwrs a argymhellwyd gan y llys
a’i fod wedi dysgu gwersi o hwnnw. Ailadroddodd ei edifeirwch dwys a sicrhaodd
yr aelodau na fyddai digwyddiad o’r fath eto. Ar y pwynt hwn, ymneiltuodd y pwyllgor i
ystyried yr achos ac fe - BENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hur
preifat i Ymgeisydd Rhif 044881 a rhoi rhybudd ynglŷn â difrifoldeb ei
drosedd a'i ymddygiad yn y dyfodol. Roedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan
yr Ymgeisydd, roedd y pwyllgor wedi ei berswadio mai digwyddiad unigol oedd y
drosedd a bod yr Ymgeisydd yn ddiffuant yn ei sicrhad na fyddai’n digwydd eto.
Roedd hefyd wedi cymryd i ystyriaeth bolisi presennol y Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd collfarnhau a nododd bod caniatáu’r cais yn unol â’u polisi hwy eu
hunain a’r amserlen a ddarparwyd i’r Ymgeisydd fod yn rhydd rhag collfarnhau yn
gysylltiedig â diod. Yn unol â hynny, ystyriodd yr aelodau bod yr Ymgeisydd yn
berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hur
preifat ond teimlasant ei bod yn briodol rhoi rhybudd yn wyneb y drosedd a
gyflawnwyd. Cyflwynodd y Cadeirydd benderfyniad y
pwyllgor a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r Ymgeisydd. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 044879
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau
benderfynu ar gais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 044879 am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hur preifat. Penderfyniad: PENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hur
preifat gan Ymgeisydd Rhif 044879. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y
Gwasanaethau Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar – (i)
Cais a dderbyniwyd gan
Ymgeisydd rhif 044879 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat; (i)
Nad oedd y swyddogion mewn
sefyllfa i ganiatáu’r cais oherwydd gwybodaeth a ddatgelwyd ar ôl datgeliad
manylach gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ( (ii)
Crynodeb o’r collfarnau a
ddatgelwyd a oedd yn ymwneud â nifer o droseddau dros gyfnod o 1982 i 1995; (iii)
Polisi presennol y Cyngor mewn
perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (ii)
Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau’r aelodau ar hynny. Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb
o’r adroddiad gan ddweud bod yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd
bod y mater wedi ei ddwyn gerbron y pwyllgor i asesu addasrwydd yr ymgeisydd i
ddal trwydded o ystyried natur y collfarnhau. Anerchodd yr Ymgeisydd y pwyllgor i gefnogi
ei gais, gan ddweud ei fod yn yrrwr profiadol, yn meddu ar drwydded yrru DVLA
am flynyddoedd yn rhydd rhag collfarnau moduro. Ystyriai ei fod yn dda gyda’r
cyhoedd a chredai y gallai ddarparu gwasanaeth cyhoedd gwerthfawr. Hefyd,
mynegodd ei edifeirwch ynglŷn â'i orffennol, gan ddweud ei fod wedi newid
ei fywyd ers hynny. Wrth ymateb i gwestiynau, manylodd yr Ymgeisydd ei
ymrwymiadau a’i gyfrifoldebau teuluol a’i gyflogaeth yn y gorffennol. Siaradodd
hefyd am ei ddymuniad i gael gwaith fel gyrrwr trwyddedig a fyddai, teimlai, yn
gam cadarnhaol. Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i
ystyried yr achos ac fe - BENDERFYNWYD caniatáu’r cais am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbydau hur
preifat i Ymgeisydd Rhif 044879. Roedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Nododd yr Aelodau bod y troseddau wedi’u
disbyddu ac wedi digwydd beth amser yn ôl, a bod yr Ymgeisydd wedi bod yn rhydd
rhag collfarnau am ryw ddwy flynedd ar bymtheg. O ganlyniad, derbyniodd yr
aelodau gyflwyniad yr Ymgeisydd iddo newid ei fywyd ers hynny, a nodi’r
amgylchiadau a’r cyfrifoldebau teuluol. Nododd y pwyllgor hefyd bod caniatáu’r
cais yn unol â’i bolisi ei hun ynglŷn â pherthnasedd collfarnau a’r
amserlen a ddarparwyd i’r Ymgeisydd fod yn rhydd rhag troseddau. Yn unol â
hynny, ystyriodd yr aelodau bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hur preifat. Cyflwynodd y Cadeirydd benderfyniad y
pwyllgor a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw i’r Ymgeisydd. |
|
ADOLYGU DWY DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT
Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau adolygu dwy drwydded
i yrru cerbyd hacni a cherbydau hur preifat oherwydd methiant i gydymffurfio â
gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrrwr yn llwyddiannus. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) cydnabod bod Gyrrwr Rhif 040740 wedi llwyddo
yn y prawf o wybodaeth gyrwyr a pheidio â chymryd camau pellach, a (b) atal
Gyrrwr Rhif 041605 nes bydd wedi cwblhau’r prawf gwybodaeth gyrwyr yn
llwyddiannus. Pe na byddai’r Gyrrwr wedi llwyddo yn y prawf erbyn cyfarfod
nesaf y Pwyllgor (6 Mawrth 2013) byddai’r mater yn cael ei ddwyn gerbron y
cyfarfod hwnnw i’w benderfynu. Byddai llwyddo yn y prawf yn ystod y cyfnod atal
yn arwain at ddileu’r penderfyniad i’w atal. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad cyfrinachol gan
Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw) yn gofyn i’r aelodau ystyried addasrwydd dau Yrrwr, rhifau 040740 a 041605
(roedd adroddiadau unigol wedi eu rhestru fel Atodiad 1 ac Atodiad 2 i’r prif
adroddiad) i barhau fel gyrwyr trwyddedig ar ôl methu â chydymffurfio â
gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrrwr o fewn yr amserlen a
bennwyd. Ystyriodd yr Aelodau’r amgylchiadau unigol yn
ymwneud â phob Gyrrwr ar wahân, gan drin pob achos ar ei haeddiant, fel a
ganlyn – (1) Gyrrwr rhif 040740 (Atodiad 1) – Dyddiad
Adnewyddu 31 Rhagfyr 2011 Roedd pum nodyn atgoffa wedi eu hanfon at y
Gyrrwr ers amser adnewyddu ei drwydded ac roedd wedi mynychu cyfarfod diwethaf
y Pwyllgor Trwyddedu i esbonio’r rhesymau dros ei fethiant i gymryd y prawf
gwybodaeth. Roedd y pwyllgor wedi penderfynu gohirio ystyried addasrwydd y
Gyrrwr tan y cyfarfod nesaf i roddi cyfle pellach i’r Gyrrwr sefyll y prawf
gwybodaeth. Roedd y Swyddog Trwyddedu yn falch o adrodd bod y Gyrrwr ers hynny
wedi llwyddo yn y prawf. O ganlyniad, fe – BENDERFYNWYD cydnabod cwblhau’r prawf gwybodaeth gyrwyr yn llwyddiannus gan Yrrwr
rhif 040740 a pheidio â chymryd unrhyw gamau pellach. Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
fel a ganlyn – Roedd y Gyrrwr nawr wedi cydymffurfio â
gofyniad y Cyngor i ymgymryd â phrawf gwybodaeth gyrwyr ac felly ystyriwyd nad
oedd angen cymryd camau pellach. (2) Gyrrwr Rhif 041605 (Atodiad 2) – Dyddiad
Adnewyddu 31 Rhagfyr 2011 Roedd pum nodyn atgoffa wedi eu cyflwyno i’r
Gyrrwr ers amser adnewyddu ei drwydded ond nid oedd wedi gwneud unrhyw ymgais i
gysylltu â swyddogion. Ar 21 Medi 2012 hysbyswyd y Gyrrwr y byddai’r mater yn
cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu i’w ystyried. Ni chafwyd ymateb gan y
Gyrrwr ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Ar y pwynt hwn, ymneilltuodd y pwyllgor i
ystyried yr achos ac fe – BENDERFYNWYD atal Gyrrwr Rhif 041605 nes byddai wedi cwblhau’n llwyddiannus brawf
gwybodaeth gyrwyr. Byddai methiant i sefyll y prawf yn llwyddiannus cyn
cyfarfod nesaf y pwyllgor (6 Mawrth 2013) yn arwain at ddwyn y mater yn ôl
gerbron y pwyllgor i’w benderfynu. Byddai cwblhau’r prawf yn llwyddiannus o
fewn y cyfnod atal yn arwain at roddi ei drwydded yn ôl iddo. Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
fel a ganlyn - Ystyriai’r pwyllgor bod y Gyrrwr wedi cael
digon o gyfle i gymryd prawf gwybodaeth y gyrrwr. Yn unol â hynny, ystyriai’r
pwyllgor ei bod yn briodol atal trwydded y Gyrrwr nes byddai wedi llwyddo yn y
prawf gwybodaeth. Byddai methiant gan y
Gyrrwr i lwyddo yn y prawf yn arwain at ddwyn y mater yn ôl gerbron y pwyllgor
yn y cyfarfod nesaf, pan roddid ystyriaeth ddifrifol i ddirymu ei drwydded ar
sail y ffaith nad oedd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded. |
|
ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HUR PREIFAT – GYRRWR RHIF 043844
Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am benderfyniad gan
yr Aelodau ar addasrwydd Gyrrwr Rhif 043844 i barhau i ddal Trwydded Gyrrwr
Cerbyd Hacni a Cherbyd Hur Preifat. Penderfyniad: PENDERFYNWYD atal Gyrrwr Rhif 043844 rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hur
preifat am resymau diogelwch y cyhoedd a gofyn iddo fynd ar gwrs Ymwybyddiaeth
Gyrru cyn dwyn y mater yn ôl gerbron cyfarfod nesaf y pwyllgor er mwyn asesu
ymhellach ei addasrwydd i barhau fel gyrrwr trwyddedig ac ailystyried y
penderfyniad i’w atal. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth y
Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar – (i)
Addasrwydd Gyrrwr Rhif 043844 i
ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hur preifat; (ii)
Roedd y Gyrrwr wedi cronni 12 pwynt
cosb ar ei drwydded DVLA mewn cyfnod o dair blynedd ond roedd Ynadon Prestatyn
wedi caniatáu iddo gadw ei drwydded DVLA, ar ôl derbyn y byddai ei wahardd yn
achosi caledi eithriadol yn ei achos ef; (iii)
Roedd manylion y cosbau ar
Drwydded DVLA y Gyrrwr wedi eu darparu, gyda thair yn ymwneud â defnyddio ffôn
symudol wrth yrru cerbyd; (iv)
Polisi presennol y Cyngor mewn
perthynas â pherthnasedd collfarnau, a (v)
Bod yr Ymgeisydd wedi ei wahodd
i fynychu’r cyfarfod i gefnogi adolygiad ei drwydded ac i ateb cwestiynau gan
yr Aelodau ar y mater. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb
o’r adroddiad a chadarnhau bod y Gyrrwr wedi cydweithredu trwy gydol y broses.
Nododd yr aelodau nad oedd y Gyrrwr yn bresennol er gwaethaf cael ei wahodd i
fynychu. Ystyriodd yr aelodau ffeithiau’r achos ac ar
ôl trafodaeth fe – BENDERFYNWYD atal Gyrrwr Rhif 043844 rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hur
preifat am resymau diogelwch y cyhoedd a bod gofyn iddo fynychu Cwrs
Ymwybyddiaeth Gyrru cyn dod â’r mater yn ôl gerbron cyfarfod nesaf y pwyllgor
er mwyn asesu ymhellach ei addasrwydd i barhau fel gyrrwr trwyddedig, ac
ailystyried yr ataliad a bennwyd. Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu fel a ganlyn - Ar ôl ystyried ffeithiau’r achos roedd gan yr
aelodau bryderon difrifol ynglŷn ag ailadrodd y drosedd o ddefnyddio ffôn
symudol wrth yrru a oedd yn dangos difaterwch y Gyrrwr tuag at y gyfraith a
diogelwch y cyhoedd. Mynegwyd pryderon dwys hefyd ynghylch goblygiadau difrifol
gweithrediadau’r Gyrrwr, gyda chanlyniadau a allai fod yn farwol. Fodd bynnag,
ystyriai’r pwyllgor y byddai’r Gyrrwr yn elwa o fynychu Cwrs Ymwybyddiaeth
Gyrru er mwyn newid ei ymddygiad. O ganlyniad, gofynnodd y Pwyllgor i’r Gyrrwr
fynychu ei gyfarfod nesaf er mwyn asesu ymhellach ei addasrwydd i barhau fel
gyrrwr trwyddedig ar ôl iddo gwblhau’r Cwrs Ymwybyddiaeth Gyrru. [Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am
gael cofnodi'r ffaith iddi bleidleisio yn erbyn y penderfyniad uchod.] Ar y pwynt hwn (10.40 a.m.) cafwyd egwyl
luniaeth. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau’r eitemau uchod, aeth y cyfarfod yn ei flaen
mewn sesiwn agored. |
|
BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 74 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r aelodau gymeradwyo
blaenraglen waith y Pwyllgor Trwyddedu a’r blaenoriaethau ar gyfer yr Adran
Drwyddedu ar gyfer 2013/14. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu (ynghlwm yn Atodiad 1
i’r adroddiad) a’r Blaenoriaethau ar gyfer Adran Gweinyddu Trwyddedu ar gyfer y
flwyddyn 2013/14. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r
aelodau gymeradwyo blaenraglen waith y Pwyllgor Trwyddedu (Atodiad 1 i’r
adroddiad) a blaenoriaethau’r Adran Gweinyddu Trwyddedu ar gyfer 2013/14. Y prif elfennau a oedd yn gyrru’r
blaenoriaethau oedd dyletswyddau a chyfrifoldebau’r Cyngor mewn perthynas â’r
swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi Trwyddedai ac ymrwymiad
i gymunedau diogelach. Roedd pob un o’r blaenoriaethau wedi eu dodi o fewn
rhaglen waith y pwyllgor ac roedd yn golygu adolygu’r meysydd canlynol – ·
Polisïau
Casglu o Dŷ i Dŷ a Chasglu ar y Stryd ·
Rheoliadau
Marchnad y Rhyl ·
Polisi ac
amodau Gyrwyr Cerbyd Hacni / Cerbydau Hur Preifat ·
Polisi ac
amodau Gweithredwyr Cerbydau Hacni / Cerbydau Hur Preifat ·
Ffioedd a
Thaliadau Derbyniodd yr aelodau y blaenoriaethau ar gyfer
yr adran Drwyddedu ac roeddynt yn fodlon gyda’r amserlenni a bennwyd ym
mlaenraglen waith y pwyllgor ac fe – BENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu (ynghlwm fel Atodiad 1
i’r adroddiad) a’r Blaenoriaethau ar gyfer yr Adran Gweinyddu Trwyddedu ar
gyfer y flwyddyn 2013/14. |
|
DIWEDDARIAD AR ADOLYGU FFIOEDD A THALIADAU TRWYDDEDU PDF 47 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn diweddaru’r aelodau ar y cynnydd a
wnaed ar adolygu’r ffioedd a’r taliadau trwyddedu ar gyfer 2013/14. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) derbyn
a chydnabod yr adroddiad, a (b) cyflwyno
adolygiad llawn o ffïoedd a thaliadau i gyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu yn y
dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cynllunio, Adfywio a Rheoleiddio (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn diweddaru’r
aelodau ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag adolygu’r ffioedd a’r taliadau
ar gyfer 2013/14. Roedd dalen amser enghreifftiol a ddefnyddiwyd yn y broses
gyfrifo ynghlwm wrth yr adroddiad. Hysbyswyd y pwyllgor o adolygiad cynhwysfawr o
bob swyddogaeth drwyddedu a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i bennu lefel briodol
ffioedd ynghyd â’r anawsterau a oedd yn gysylltiedig â’r broses. Byddai angen
hefyd cynnwys adennill costau meddalwedd Trwyddedu mewn unrhyw ffioedd a
thaliadau. Roedd cyngor cyfreithiol arbenigol yn cael ei geisio ar gyfrifo
ffioedd trwyddedu er mwyn osgoi unrhyw heriau cyfreithiol. Rhagwelwyd y byddai
adolygiad llawn o’r ffioedd a’r taliadau yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y
pwyllgor ym mis Mawrth 2013. Cymerodd yr aelodau y cyfle i holi’r swyddogion
a gofyn am esboniad ar a ellid debydu amrywiol agweddau’r swyddogaeth drwyddedu
er mwyn sicrhau swyddogaeth sy’n ariannu ei hunan. Holwyd yn benodol ynglŷn â’r costau a
achoswyd i’r Pwyllgor Trwyddedu megis amser aelodau a swyddogion. Ymatebodd y
Swyddog Trwyddedu (NJ) i gwestiynau’r aelodau gan ddweud, lle’n bosibl, bod y
ffioedd trwyddedu a godwyd yn ceisio adennill cost gweinyddu’r swyddogaeth a
bod cyngor cyfreithiol arbenigol yn cael ei geisio i sicrhau bod cyfrifiad
ffioedd yn briodol ar gyfer pob swyddogaeth unigol. Gofynnid am gyngor hefyd o
ran a ellid gwrthbwyso amser a dreuliwyd yn y Pwyllgor Trwyddedu yn erbyn
ffioedd trwyddedu. Byddai angen gwybodaeth bellach gan ddeiliaid y gyllideb
drwyddedu er mwyn ateb cwestiynau’r aelodau’n llawn mewn perthynas â
chwestiynau aelodau ar wariant penodol ar swyddogaethau penodol. Nodwyd bod
Emlyn Jones wedi ei benodi’n ddiweddar fel Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd gyda
chyfrifoldeb am y swyddogaeth drwyddedu. Cyfeiriodd y Cynghorydd Joan Butterfield at yr
hyfforddiant trwyddedu yr oedd ei angen gan holl aelodau pwyllgor a holodd
ynglŷn â rôl sylwedyddion mewn cyfarfodydd
ac i ba raddau y caniatawyd eu cyfranogiad hwy mewn materion a oedd yn
cael eu hystyried. Cytunodd y Prif Gyfreithiwr holi ynglŷn â hyn gyda’r
Swyddog Monitro ac adrodd yn ôl. Cydnabu’r pwyllgor yr amser a’r ymdrech a
dreuliwyd ar yr adolygiad a chymryd y cyfle i ddiolch i’r swyddogion am eu
gwaith caled. PENDERFYNWYD – (a) derbyn
a chydnabod yr adroddiad, a (b) cyflwyno
adolygiad llawn o ffioedd a thaliadau i gyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu yn y
dyfodol. |
|
Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeëdig) yn amlinellu’r pwerau newydd sydd ar gael
i’r Awdurdod Trwyddedu o 31 Hydref 2012 dan ddiwygiadau i Ddeddf Trwyddedu 2003
i wneud Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar a phennu Ardollau Hwyr y Nos. Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) cydnabod
cynnwys yr adroddiad ar Ardollau Hwyr y Nos a Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar,
a (b) peidio
â chefnogi gwneud Gorchmynion Cyfyngu Bore Cynnar a phennu Ardollau Hwyr y Nos,
a chyflwyno barn y Pwyllgor Trwyddedu i’r Cyngor Sir pan fyddai’n ystyried yr
adroddiad ar y mater hwn. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd
ymlaen llaw) yn amlinellu’r pwerau newydd a oedd ar gael i’r Awdurdod Trwyddedu
o 31 Hydref 2012 dan ddiwygiadau i Ddeddf Drwyddedu 2003 i wneud Gorchmynion
Cyfyngu Bore Cynnar (EMRO) a phennu Ardollau Hwyr y Nos (LML). Rhoddwyd peth gwybodaeth gefndir i’r aelodau ar
gyflwyniad yr EMRO a’r LNL, a’u bwriad i ddelio â throsedd ac anhrefn sy’n
gysylltiedig ag alcohol a helpu talu am gostau gorfodi ychwanegol a oedd yn
gysylltiedig ag eiddo sy’n agor yn hwyr. Roedd pwyntiau allweddol yn cynnwys - ARDOLLAU HWYR Y NOS (LNL) ·
Pwerau i
awdurdodau lleol godi tâl ar safle yn gwerthu alcohol yn hwyr y nos am y costau
gorfodi ychwanegol a achosir i’r heddlu ac awdurdodau lleol ·
Pe cawsai
ei gyflwyno, byddai angen i’r Cyngor benderfynu pryd y bydd yr ardoll yn
berthnasol yn yr ardal (wedi ei gyfyngu i gyfnod rhwng hanner nos a 6.00a.m.) a
pha eithriadau a gostyngiadau a fyddai’n berthnasol ·
Byddai
angen i’r ardoll fod yn berthnasol i bob safle (oni fo categori eithrio) sy’n
gwerthu alcohol yn ystod cyfnod yr ardoll ac ni ellid ei gyfyngu i dref neu
ardal benodol ·
Ar ôl
tynnu swm gan yr awdurdod lleol am weinyddu a chyflwyno’r cynllun, rhaid anfon
o leiaf 70% o’r swm ymlaen i’r Heddlu ·
Nid oedd
yn rhaid i’r Heddlu wario eu cyfran hwy o’r ardoll mewn ardaloedd lleol lle’r
oedd wedi ei chasglu nac ar blismona a oedd yn gysylltiedig â throsedd ac
anrhefn oherwydd alcohol, er bod Heddlu Gogledd Cymru wedi awgrymu y buasent
hwy yn gwario’r ardoll ar faterion trwyddedu pe cawsai ei chyflwyno ·
Manylion y
gost i safleoedd pe cawsai ei chyflwyno yn seiliedig ar werth ardrethol ·
Byddai
rhyw 175 safle yn cael eu heffeithio gan yr ardoll. GORCHMYNION CYFYNGU BORE CYNNAR
(EMRO) ·
Byddai
EMRO yn berthnasol i drwydded safle, tystysgrif safle clwb a hysbysiadau
digwyddiad dros dro a oedd yn digwydd mewn ardal EMRO benodol ·
Roedd
angen hysbysebu’r cynnig i wneud yr EMRO ac roedd angen i awdurdodau lleol
ddangos bod ganddynt dystiolaeth i gyfiawnhau gwneud hynny ac ystyried sylwadau
cyn eu cyflwyno. Wrth ystyried yr adroddiad, cymerodd yr aelodau y cyfle i gael esboniad ar nifer o faterion gan y swyddogion ar y pwerau newydd a oedd ar gael i wneud LNL ac EMRO. Nododd yr Aelodau bod yr ardoll wedi ei phennu ar lefel genedlaethol, a mynegasant bryderon ynglŷn â’r taliadau arwyddocaol a achosid i safleoedd ledled y sir petai’r Cyngor yn dewis cyflwyno’r ardoll, boed y safleoedd hynny wedi eu lleoli mewn ardaloedd a oedd yn achosi problemau trosedd ac anhrefn oherwydd alcohol ai peidio. Roedd y pwyllgor yn cydnabod bod busnesau eisoes yn cael anhawster yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni a theimlai y byddai cyflwyno ardoll ar safleoedd trwyddedig yn debygol o achosi i lawer ohonynt fynd allan o fusnes. Roedd y Cyngor yn gweithio’n galed i adfywio ei drefi a’i gymunedau a'r economi hwyr y nos, ac ystyriai’r pwyllgor y byddai cyflwyno ardoll mor drom yn niweidio’r economi lleol ymhellach. Nodwyd bod yr heddlu o blaid cyflwyno ardoll a’r refeniw a fyddai’n deillio, a’u bod wedi awgrymu, er nad oedd gofyniad, y buasent yn gwario’r refeniw hwnnw ar faterion trwyddedu. Fodd bynnag, nododd yr aelodau na fyddai gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros ddyraniad y refeniw hwnnw ac roeddynt yn bryderus y byddai’r awdurdod lleol yn gyfrifol am gasglu’r ardoll ac os nad oedd safle yn talu yna roedd y Cyngor yn atebol am y ffi o hyd. Mewn perthynas â chyflwyniad EMRO, teimlai’r Cadeirydd y gallent ... view the full Cofnodion text for item 11. |