Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Ellie Chard – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ellie Chard gysylltiad personol ag eitem rhif 6 ar y rhaglen – Cais am Drwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat gan ei bod yn adnabod mam yr Ymgeisydd, a oedd yn gydnabod iddi ers amser maith.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 329 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023.

 

Materion yn Codi – Eitem rhif 5, Newidiadau Arfaethedig i Dabl Ffioedd a Thaliadau Cerbydau Hacni – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Delyth Jones, bu i swyddogion gadarnhau y byddai diweddariad ar y cynnydd gyda’r adolygiad o’r gyfrifiannell ffioedd yn cael ei ddarparu o dan eitem rhif 5 ar y rhaglen - Rhaglen Waith y Pwyllgor Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2024 pdf eicon PDF 204 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      chymeradwyo’r rhaglen waith ddiweddaraf ar gyfer 2024 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr Adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a oedd wedi cael ei ddosbarthu ymlaen llaw) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â rhaglen waith ddiwygiedig ar gyfer 2024.

 

Roedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi trwyddedai yn effeithiol, yn ogystal ag ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi.  Roedd y rhaglen waith wedi'i drafftio gan ystyried polisïau perthnasol a dyddiadau adolygu, ynghyd ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl a gynigiwyd.  Cafodd nifer o eitemau ar y rhaglen waith eu haildrefnu a chafodd eitem arall ei hychwanegu, a chafodd rhaglen waith ddiwygiedig ei chyflwyno i’w hystyried.

 

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau hynny a gafodd eu haildrefnu / a gafodd eu hychwanegu a oedd yn ymwneud â –

 

·       Thariffau Cerbydau Hacni – cafodd ei aildrefnu o fis Mawrth i fis Mehefin er mwyn caniatáu mwy o amser i gael digon o ddata gan y fasnach dacsis i ffurfio cyfrifiannell cywir ac effeithiol gydag ymgysylltiad pellach wedi’i gynllunio

·       Adolygu Gofynion Trwyddedu Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn – eitem ychwanegol ar gyfer mis Mehefin i adolygu’r gofynion trwyddedu cyfredol ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn o ystyried y costau uwch sy’n gysylltiedig â’r cerbydau hynny

·       Adolygu Polisi Eithrio Platiau Cerbydau Hurio Preifat – cafodd ei aildrefnu i fis Rhagfyr i gyd-fynd ag Adolygu Polisi ac Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

·       Gweithdrefnau Arbennig (tyllu’r croen) – cafodd ei aildrefnu o fis Mawrth i fis Mehefin gan nad oedd unrhyw ddiweddariad pellach ar y ddeddfwriaeth newydd pan gafodd yr adroddiad ei ysgrifennu.   Ers hynny, mae sesiwn hyfforddiant ar y cynllun trwyddedu, i’w ddarparu gan Sarah Jones o Lywodraeth Cymru, wedi’i drefnu i’r holl aelodau ar 22 Mawrth 2024, yn dilyn cyhoeddi’r rheoliadau drafft.

 

Nododd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf a’r diwygiadau arfaethedig i’r rhaglen waith.

 

Cafwyd trafodaeth ar yr adolygiad o’r gyfrifiannell ffioedd a gosod tariffau cerbydau hacni a gafodd ei aildrefnu i fis Mehefin oherwydd data annigonol ac roedd y Pwyllgor yn siomedig gyda’r diffyg ymateb gan y fasnach dacsis.   Roedd Aelodau yn awyddus i ddeall y rhesymeg y tu ôl i’r diffyg ymgysylltiad, camau yn y dyfodol o fewn y broses honno a dewisiadau ar gyfer y ffordd ymlaen.   Mynegwyd pryderon na fyddai digon o ddata yn cael ei ddarparu gan y fasnach i ffurfio’r gyfrifiannell tariffau ac na fyddai’r Pwyllgor mewn sefyllfa i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth lawn ar y mater.   Awgrymwyd y posibilrwydd o ddefnyddio data mewnol a gynhelir gan y Tîm Trwyddedu a ffynonellau eraill a gyhoeddwyd yn allanol.   Bu i’r Cynghorydd Gwyneth Ellis hefyd gwestiynu’r rhesymeg y tu ôl i’r Cyngor yn gosod y tariffau a’r teilyngdod neu fel arall y fasnach dacsis yn gosod eu ffioedd a’u taliadau eu hunain a gofynnwyd am drafodaeth gyda’r swyddogion ar y mater y tu allan i’r cyfarfod.

 

Ymatebodd y swyddogion i sylwadau’r Aelodau a chwestiynau pellach fel a ganlyn –

 

·       ymhelaethu ar yr ymgysylltiad gyda’r fasnach dacsis hyd yn hyn gan gynnwys Gweithgor yn cynnwys 2/3 o weithredwyr mawr ac 1 perchennog/gyrrwr, ac anfon ffurflen casglu data syml dros e-bost at bob un o’r 300 o yrwyr trwyddedig gydag oddeutu 100 o’r rheiny yn berchnogion/gyrwyr a oedd wedi arwain at 2/3 ymateb

·       o ystyried y costau gwahanol sy’n gysylltiedig â’r gweithredwyr mawr a pherchnogion/gyrwyr, roedd yn bwysig bod digon o ddata yn cael ei sicrhau gan y ddwy ffynhonnell i roi syniad cywir o’r costau a methodoleg gadarn ar gyfer y gyfrifiannell ffioedd

·       roedd yr ymgysylltu pellach a oedd wedi’i drefnu yn cynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 573053

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau wneud penderfyniad ynglŷn â chais gan Ymgeisydd Rhif 573053 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 573053.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)             cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 573053;

 

(ii)            penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)          bod yr Ymgeisydd wedi cael yr euogfarnau troseddol canlynol;  Ionawr 1999 – ymosodiad sy’n achosi gwir niwed corfforol; Awst 2012 – clwyfo/achosi niwed corfforol difrifol; Tachwedd 2014 ac Ionawr 2015 – curo, cafodd pob un ei ddatgan gan yr Ymgeisydd a’i nodi ar y Dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

 

(iv)          gwybodaeth bellach yn ymwneud â’r achos yn cynnwys cyfweliad gyda’r Ymgeisydd a’i esboniad ynghylch amgylchiadau’r euogfarnau a gwybodaeth gefndir, ynghyd â chyflwyniad ysgrifenedig am yr Ymgeisydd (proffil personol) a darparu nifer o eirdaon cymeriad; 

 

(v)           polisi’r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr; a

 

(vi)          gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi – Trwyddedu yr adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn awyddus i dawelu meddwl yr Aelodau gan ddweud fod ganddo gywilydd o’i orffennol a’i fod bellach yn berson hollol wahanol a oedd wedi trawsnewid ei fywyd yn llwyr.   Cyfeiriodd at yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud a’i euogfarnau a’r newidiadau cadarnhaol y mae wedi’i wneud i’w fywyd ers hynny.   Disgrifiodd ei hun fel unigolyn gofalgar y gellir ymddiried ynddo, sydd bob amser yn barod i helpu eraill, a chafodd y rhinweddau hynny eu cynnwys yn ei eirdaon cymeriad a’u harddangos yn ei brofiadau gwaith blaenorol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau, bu i’r Ymgeisydd ymhelaethu ar ei gyflogaeth flaenorol, yn benodol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac eglurodd ei fynediad at wasanaethau iechyd meddwl a bod ganddo iechyd meddwl gwell ac agwedd gadarnhaol.   Bu i’r Swyddog Gorfodi gadarnhau bod yr euogfarnau wedi digwydd yn ystod cyfres benodol o amgylchiadau ac nad oedd unrhyw risg wedi bod i’r cyhoedd.

 

Wrth wneud datganiad terfynol, cyfeiriodd yr Ymgeisydd at yr amgylchiadau ar adeg yr euogfarnau a mynegodd edifeirwch, gan ailadrodd ei fod wedi cymryd rheolaeth dros ei fywyd a’i fod wedi newid fel person, yn ofalgar a chymwynasgar.   Roedd eisiau symud ymlaen ac roedd wedi cael dau gynnig cyflogaeth os yw’n cael ei drwydded tacsi.   I gloi, bu iddo ddiolch i’r aelodau am eu hamser a’u hystyriaeth o’r cais.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a –

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 573053.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd, ei eirdaon cymeriad a'i atebion i gwestiynau.  Roedd yr aelodau wedi trin natur agored a gonestrwydd yr Ymgeisydd yn y ffordd yr oedd wedi delio a’r Pwyllgor yn ddifrifol iawn.

 

Wrth ddod i benderfyniad, bu i’r Pwyllgor ystyried y troseddau a oedd wedi’u nodi yn nhystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yr Ymgeisydd, Datganiad o Bolisi’r Cyngor yn ymwneud ag addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedai yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, yr amser sydd wedi mynd heibio ers cyflawni’r troseddau a’r amser hyd nes y bydd yr euogfarnau wedi dod i ben at ddibenion y polisi hwnnw, a’r amgylchiadau fel y cafodd eu hegluro gan yr Ymgeisydd mewn perthynas â’r troseddau.

 

Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr  ...  view the full Cofnodion text for item 6.