Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Alan James

Cofnodion:

Y Cynghorydd Alan James

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 398 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022.

 

Materion yn Codi – Tudalen 10, Eitem 7 Newidiadau Arfaethedig i Dabl Ffioedd a Phrisiau Cerbydau Hacni - Roedd adolygiad o’r tariffau ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr.  Byddai unrhyw gynnig i newid polisi’n destun ymgynghoriad gyda’r diwydiant trwyddedig er mwyn sicrhau ein bod yn cael barn cynrychiolwyr.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2022 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADOLYGU - DEDDF TRWYDDEDU 2003: DATGANIAD O'R POLISI TRWYDDEDU pdf eicon PDF 207 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) gan ddiweddaru aelodau yn dilyn y broses ymgynghori statudol ar Adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chael cymeradwyaeth polisi terfynol ar gyfer ei gyflwyno i’r Cabinet i’w gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       y newidiadau arfaethedig a argymhellir i’r polisi drafft fel y manylir yn Atodiad C (colofn 4) ynghyd â Chynigion 1-4 ac 6 yn Atodiad B yn cael eu cymeradwyo fel polisi drafft terfynol, a

 

(b)       cyfarwyddo swyddogion i symud y polisi drafft terfynol i’w gymeradwyo yn y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i ddiweddaru aelodau yn dilyn y broses ymgynghori statudol mewn perthynas ag adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor, a cheisiodd argymhelliad gan y Pwyllgor ar bolisi terfynol i’w gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo.  [Eglurwyd mai’r Cyngor fyddai’n rhoi’r cymeradwyaeth terfynol i’r polisi drafft ac nid y Cabinet fel sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.]

 

Roedd gofyn i’r Cyngor ymgynghori ar a pharatoi Datganiad Polisi Trwyddedu o leiaf bob 5 mlynedd.   Fe ddaeth y polisi presennol i rym ar 1 Ebrill 2017 ac roedd y Pwyllgor Trwyddedu wedi awdurdodi swyddogion i ddechrau ar yr ymgynghoriad statudol i adolygu’r polisi presennol ym mis Medi 2021.   Cynhaliwyd adolygiad mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru er cysondeb.   Darparwyd manylion y broses ymgynghori a oedd wedi arwain at un ymateb gan barti a oedd â diddordeb (bragdy cenedlaethol) ac un gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a oedd yn ymwneud ag Adran Iechyd Cyhoeddus y polisi yn unig.    Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cefnogi’r newidiadau arfaethedig.  Roedd yr atodiadau i’r adroddiad yn cynnwys y polisi drafft, crynodeb o’r newidiadau arfaethedig, ymatebion i’r ymgynghoriad a sylwadau ac argymhellion y swyddogion ar hynny a’r polisi presennol.

 

Tynnodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu sylw’r aelodau at yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn Atodiad C ynghyd â’r rheswm y tu ôl i’r diwygiadau a argymhellir gan y swyddogion yng ngholofn 4.  Dyma’r tro cyntaf i’r Bwrdd Iechyd Cyhoeddus gyflwyno sylwadau fel rhan o’r adolygiad statudol a chroesawyd eu mewnbwn o ystyried eu harbenigedd mewn iechyd cyhoeddus.   Roedd rhai o’r sylwadau gan y parti a oedd â diddordeb wedi cael eu lliniaru i lefel foddhaol ac felly nid oedd angen unrhyw ddiwygiadau, ac aethpwyd i’r afael â sylwadau eraill drwy’r argymhelliad i waredu datganiadau ac ystadegau a’u hamnewid am wybodaeth gan y Bwrdd Iechyd Cyhoeddus yr awgrymwyd y dylid ei chynnwys o fewn y datganiad polisi.   [Nodwyd y dylid newid cyfeiriadau at ‘Atodiad C’ yng ngholofn 4 i ‘Atodiad 3’ ar dudalen 118 o’r adroddiad 3’].  Gofynnwyd i Aelodau naill ai gymeradwyo’r polisi drafft yn unol â’r ymgynghoriad h.y. heb unrhyw newidiadau, neu gymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig a argymhellwyd i’r polisi drafft fel y manylir yn atodiad C (colofn 4) ynghyd â chynigion 1 - 4 a 6 yn Atodiad B (na wnaethpwyd unrhyw sylwadau yn eu cylch), a rhoi cyfarwyddyd i Swyddogion i gynnig y polisi ar gyfer ei gymeradwyo yn y cabinet.

 

Ystyriodd Aelodau’r polisi drafft ynghyd â’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad a sylwadau swyddogion mewn ymateb i’r rheiny.   Cydnabu’r Cadeirydd y ddogfen gynhwysfawr a diolchodd i bawb a oedd ynghlwm â’i chynhyrchu.   Roedd hi hefyd yn falch o nodi ymgysylltiad diweddar y Bwrdd Iechyd Lleol â materion trwyddedu a’u cyfraniad at y datganiad polisi, a oedd yn adlewyrchu pwysigrwydd iechyd cyhoeddus.   Mewn ymateb i gwestiynau, nododd yr Uwch Swyddog Trwyddedu y manteision a oedd ynghlwm â’r ymateb gan y Bwrdd Iechyd Lleol a oedd yn cynnig gwybodaeth berthnasol a chyfredol i gymryd lle’r ystadegau a fyddai o bosibl yn dyddio yn ystod bywyd y polisi, ac awgrymodd y dylid cymeradwyo’r diwygiadau fel y maent wedi’u hamlinellu a chynnwys awgrymiadau’r Bwrdd Iechyd Lleol yn y datganiad polisi.

 

Ar ôl ystyried y Datganiad Polisi Trwyddedu drafft a oedd ynghlwm yn ogystal â’r ymatebion a dderbyniwyd fel y manylir yn Atodiad C -

 

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       y newidiadau arfaethedig a argymhellir i’r polisi drafft fel y manylir yn Atodiad C (colofn 4) ynghyd â Chynigion 1-4 a 6 yn Atodiad B yn cael eu cymeradwyo fel polisi drafft terfynol, a

 

(b)       cyfarwyddo swyddogion i symud y polisi drafft terfynol i’w  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADOLYGU OEDRAN CERBYDAU I DRWYDDEDAU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 475 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) gan ofyn i’r aelodau adolygu’r uchafswm oedran cerbydau presennol ar gyfer ceisiadau newydd ac adnewyddu yn dilyn newidiadau dros dro i’r polisi presennol ym mis Ionawr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

 

(a)       y dyddiad gweithredu i gerbydau trwydded yn unig hyd at 12 oed o ddyddiad y cofrestriad cyntaf i gael ei oedi am ddeuddeng mis arall o fis Gorffennaf 2023 tan Gorffennaf 2024, yn aros am adolygiad o’r cyfyngiadau oedran cerbyd cyfredol;

 

(b)       swyddogion yn gallu awdurdodi i ddechrau proses ymgynghori gyda holl ddeiliaid trwydded a phartneriaid allweddol i ystyried cynyddu oedran adnewyddu cerbydau i dros 12 oed, ar sail gofynion amserlen cynnal a chadw caeth a threfn profi cydymffurfio, yn hytrach nag oedran fel y prif ddynodwr;

 

(c)        swyddogion yn gallu awdurdodi i ddechrau proses ymgynghori gyda holl ddeiliaid trwydded a phartneriaid allweddol i ystyried cynyddu oedran cerbydau fflyd newydd i dan 8 oed, ar sail gofynion amserlen cynnal a chadw caeth a threfn profi cydymffurfio, yn hytrach nag oedran fel y prif ddynodwr; a

 

(d)       swyddogion yn gallu awdurdodi i edrych i mewn i broses dirprwyo i benderfynu ar geisiadau cerbyd fflyd newydd i gerbydau dros 5 oed, tra bod y broses ymgynghori uchod yn parhau, a chyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf o’r Pwyllgor ei ystyried.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn ceisio adolygiad aelodau o’r uchafswm oedran cerbydau ar gyfer ceisiadau newydd ac adnewyddu yn dilyn newidiadau dros dro i’r polisi presennol ym mis Ionawr 2022 ac ymlacio’r terfyn oedran uchafswm ar gyfer ceisiadau cerbydau newydd.

 

Cafodd polisi presennol cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2016, yn dilyn ymgynghori helaeth, a daeth i rym ar 1 Gorffennaf 2017.   Roedd y polisi’n cynnwys cyfyngiad oedran ar gerbydau sef na ddylai unrhyw gerbyd newydd i’r fflyd fod yn hŷn na 5 mlwydd oed ac y dylid gwaredu unrhyw gerbyd sy’n cyrraedd 12 oed.  Rhoddwyd cyfnod gras o 5 mlynedd i gerbydau oedd eisoes â thrwydded a fyddai’n dod i ben ym mis Gorffennaf 2022.   Yn dilyn cais gan berchennog cerbyd tacsi ym mis Ionawr 2022 i ystyried adolygu’r polisi oedran cerbydau ar unwaith yn sgil y pandemig Coronafeirws a’i effaith ar ail-gerbydau a cherbydau newydd, cymeradwyodd y Pwyllgor i oedi gweithrediad y cyfyngiad oed am gyfnod o 12 mis er mwyn rhoi cyfle i adfer yn dilyn effeithiau’r pandemig, gan adolygu’r sefyllfa ym mis Ionawr 2023.   Gofynnodd yr un perchennog tacsi i’r aelodau hefyd ymlacio’r gofyniad nad yw ceisiadau cerbydau newydd yn hŷn na 5 oed ac yn hytrach, caniatáu i gerbydau beidio bod yn hŷn na 8 mlwydd oed.  Yn ogystal, roedd swyddogion wedi derbyn cais gan weithredwr gwahanol i ystyried ymlacio gofyniad oed ar gyfer Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn.  Roedd yr agweddau hyn yn newid polisi a fyddai’n golygu bod angen i’r Aelodau eu hystyried fel rhan o’r adolygiad a’r ymgynghoriad ehangach.   Darparwyd gwybodaeth am ofynion oedran cerbydau ar gyfer awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn hefyd.

 

Gofynnwyd i Aelodau ystyried p’un a yw hi’n briodol i ymlacio’r terfyn oedran uchafswm ar gyfer ceisiadau cerbydau newydd ac adnewyddu, ac os felly, p’un a fyddai angen gofynion amodol pellach. Roedd 21 o’r 287 o gerbydau trwyddedig wedi’u heffeithio gan y terfyn oedran uwch, gan godi i 23 ym mis Gorffennaf 2023, ar ôl i’r 5 mlynedd o gyfnod gras ddod i ben.   Roedd nifer blynyddol y cerbydau newydd i’r fflyd ers cyflwyno’r polisi yn 2017 wedi cael ei gynhyrchu, roedd y cerbydau hyn wedi bod yn destun yr uchafswm oedran o 5 mlynedd.   Ers 1 Awst 2022, roedd 12 o gerbydau newydd i’r fflyd pellach wedi bod.   Os oedd Aelodau o blaid cefnogi unrhyw gynigion ar gyfer diwygiadau i’r polisi, byddai angen ymgynghori â phob deiliad trwydded a phartner allweddol.

 

Trafododd yr aelodau’r adroddiad gyda’r Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd ynghyd â’r rhesymau y tu ôl i gyflwyno cyfyngiad oedran ar gerbydau trwyddedig a cheisiwyd rhagor o fanylion mewn perthynas â hynny a ph’un a oedd angen amod oedran ar wahân mewn perthynas â  Cherbydau sy’n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn.  Er y nodwyd bod y polisi oedran cerbydau wedi cael ei gyflwyno i foderneiddio’r fflyd bresennol o gerbydau trwyddedig i sicrhau safonau uchel, codwyd cwestiynau am y sylfaen dystiolaeth i gefnogi polisi o’r fath, a ph’un a fyddai modd bodloni gofynion diogelwch a safonau cerbydau yn well drwy batrwm cynnal a chadw cadarn sy’n cyfateb i oedran neu filltiroedd y cerbyd o bosibl.

 

Yn ystod y ddadl, ymatebodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i gwestiynau/sylwadau’r aelodau fel a ganlyn - 

 

·         cyflwynwyd y polisi oedran cerbydau er mwyn mynd i’r afael â phryderon diogelwch a’r disgwyliad o draul dros amser yn sgil y nifer uchel o filltiroedd

·         roedd safonau a diogelwch yn mynd law yn llaw â’i gilydd, a  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 195 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm), ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith i'r dyfodol ddiwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod –

                        

(a)       cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi, a

 

(b)       cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer 2022/23 fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad, yn amodol ar gynnwys adroddiad nôl ym mis Rhagfyr am broses ddirprwyedig i benderfynu ar geisiadau fflyd newydd ar gyfer cerbydau 5 mlynedd a hŷn fel y cymeradwyir o dan y cofnod blaenorol.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a oedd wedi cael ei ddosbarthu ymlaen llaw) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â diweddariad ar y rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer 2022/23.

 

Roedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu’n adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi Trwyddedai yn effeithiol, yn ogystal ag ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi.  Yn sgil blaenoriaethau annisgwyl, roedd y rhaglen waith a oedd eisoes wedi cael ei chymeradwyo wedi cael ei diwygio rhywfaint gan ail-drefnu eitemau a chyflwynwyd rhaglen waith ddiwygiedig i’w hystyried.

 

Nododd Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf a’r diwygiadau arfaethedig i’r rhaglen gwaith i'r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod –

                        

(a)       cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi, a

 

(b)       cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer 2022/23 fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad, yn amodol ar gynnwys adroddiad nôl ym mis Rhagfyr am broses ddirprwyedig i benderfynu ar geisiadau fflyd newydd ar gyfer cerbydau 5 mlynedd a hŷn fel y cymeradwyir o dan y cofnod blaenorol.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Ar y pwynt hwn (10.45 am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer.

 

Ar ôl ailddechrau’r cyfarfod, cymerodd y Cynghorydd Hugh Irving yr awenau fel Cadeirydd gan y byddai’n rhaid i’r Cynghorydd Bobby Feeley adael y cyfarfod cyn bo hir oherwydd ymrwymiad blaenorol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 559870

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559870.

10.30 am

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559870.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 559870;

 

(ii)          penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         methiant yr Ymgeisydd i ddatgan dwy euogfarn yn ymwneud â throseddau treisgar ym 1995 a 2011 a oedd wedi dod i’r amlwg yn dilyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

 

(iv)         gwybodaeth berthnasol gan gynnwys esboniad yr Ymgeisydd o’r rheswm dros beidio â datgan ynghyd â’r dogfennau yn ymwneud â’r achos gan gynnwys y cais a’r dystysgrif GDG a oedd ynghlwm â’r adroddiad;

 

(v)          polisi’r Cyngor mewn perthynas ag addasrwydd ymgeiswyr, ac

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd cydweithiwr yn bresennol gyda’r Ymgeisydd a chadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Darparodd y Swyddog Gorfodi grynodeb o adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd amgylchiadau’r ddwy euogfarn, roedd peth amser wedi mynd heibio ers y troseddau hyn, roedd yn ifanc yn cyflawni’r drosedd gyntaf a darparodd sicrwydd i aelodau am ei ymddygiad presennol ac i’r dyfodol.   Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, rhoddodd yr Ymgeisydd wybod nad oedd y troseddau’n ddigon difrifol i warantu cwrs rheoli dicter.   Nododd yr ymgeisydd y dylai fod wedi datgan ei euogfarnau; ond o ystyried yr holl amser a oedd wedi mynd heibio ers y troseddau, roedd yr ymgeisydd dan yr argraff na fyddai’r euogfarnau hyn ar ei gofnod troseddol mwyach.   Roedd bellach wedi sylweddoli, pryd bynnag ddigwyddodd y troseddau, y dylai fod wedi eu datgan ac ymddiheurodd am hynny.   Darparodd yr Ymgeisydd fanylion am ei amgylchiadau personol.   O ran datganiad terfynol yr Ymgeisydd, cadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559870.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion cyn y cyfarfod yn ofalus yn ogystal â’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod gwrandawiad yr achos.   Diolchodd y Pwyllgor i bawb a oedd ynghlwm â’r achos hwn am eu cefnogaeth.

 

Wrth drafod eu penderfyniad, roedd yr aelodau wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.   Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried y trwyddedau wedi’u nodi yn nhystysgrif GDG yr Ymgeisydd, oedran yr Ymgeisydd yn ystod y drosedd gyntaf, yr amser a oedd wedi mynd heibio ers y troseddau, pledion euog yr Ymgeisydd, a’r amgylchiadau a eglurwyd mewn perthynas â’r methiant i ddatgan y ddwy euogfarn droseddol.   Roedd y Pwyllgor yn fodlon ag esboniad yr Ymgeisydd bod y methiant i ddatgan ei euogfarnau o ganlyniad i gamddealltwriaeth gonest ac nad oedd wedi bwriadu eu twyllo.   O ganlyniad, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded a phenderfynwyd cymeradwyo’r drwydded yn unol â’r cais.

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn bod yr Ymgeisydd wedi bod yn agored ac yn onest yn ystod gwrandawiad y cais ac mewn ymateb i gwestiynau.   Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn ystyried y byddai’n briodol cyflwyno rhybudd clir i’r ymgeisydd am ei ymddygiad i’r dyfodol, gan gynghori’r Ymgeisydd i fod yn agored ac yn onest yn ei ymdriniaeth â Swyddogion Trwyddedu, y Pwyllgor a’r Cyngor cyfan yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 559851

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559851.

11.30 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559851.

Cofnodion:

[Cafodd yr eitem hon ei dwyn ymlaen at y rhaglen gyda chaniatâd y Cadeirydd]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559851;

 

(ii)          penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         methiant yr Ymgeisydd i ddatgan wyth o euogfarnau yn ymwneud â deddfwriaeth dramor/twyllo’r refeniw cyhoeddus yn 2015 a ddaeth i’r amlwg yn dilyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

 

(iv)         gwybodaeth berthnasol gan gynnwys esboniad y cais ynghyd â’r dystysgrif GDG ac esboniad yr Ymgeisydd o’r rheswm dros beidio â datgan euogfarnau a oedd ynghlwm â’r adroddiad;

 

(v)          polisi’r Cyngor mewn perthynas ag addasrwydd ymgeiswyr, ac

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Darparodd y Swyddog Gorfodi (KB) grynodeb o adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd fod ganddo drwydded gydag awdurdod lleol gwahanol ar hyn o bryd a nododd yr amgylchiadau mewn perthynas â’r cais a pham nad oedd yn ymwybodol o’r euogfarn yn ystod y broses honno, dim ond y GDG sylfaenol yr oedd wedi’i weld, nid oedd wedi gweld y gwiriad manwl.   Eglurodd natur y drosedd, y broses gyfreithiol a ddilynodd a’r ddirwy y bu’n rhaid ei thalu.   Darparodd yr Ymgeisydd sicrwydd i aelodau y byddai wedi datgan yr euogfarn ar y cais pe byddai’n ymwybodol ohono ar yr adeg.   Mewn ymateb i’r cwestiynau, cadarnhawyd dyddiad y drosedd a’r euogfarn ddilynol ac eglurodd yr Ymgeisydd y rheswm y tu ôl i’w gais, sef i fodloni ei ofynion busnes i weithredu’n Sir Ddinbych.   Roedd yn is-gontractio ar gyfer contractwr yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd a oedd wedi darparu llythyr o argymhelliad ar ei ran a gafodd ei ddarllen yn ystod y cyfarfod.   Yn ei ddatganiad terfynol, ymddiheurodd yr Ymgeisydd am yr hepgoriad a’r sefyllfa bresennol.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559851.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion cyn y cyfarfod yn ofalus yn ogystal â’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod gwrandawiad yr achos.   Diolchodd y Pwyllgor i bawb a oedd ynghlwm â’r achos hwn am eu cefnogaeth.

 

Wrth drafod eu penderfyniad, roedd yr aelodau wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.   Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried cyflwyniadau’r Ymgeisydd, y llythyr o argymhelliad a’r ymateb i gwestiynau yn ystod y gwrandawiad, y drosedd a nodwyd yn nhystysgrif GDG manwl yr Ymgeisydd, yr amgylchiadau a nodwyd mewn perthynas â’r drosedd a’r methiant i ddatgan y troseddau ar y ffurflen gais.   Roedd y Pwyllgor yn fodlon ag esboniad yr Ymgeisydd bod y methiant i ddatgan ei euogfarnau o ganlyniad i gamddealltwriaeth gonest yn sgil ymdriniaeth flaenorol â chais a gafodd ei gymeradwyo mewn sir arall.   O ganlyniad, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded a phenderfynwyd cymeradwyo’r drwydded yn unol â’r cais.

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn bod yr Ymgeisydd wedi bod yn agored ac yn onest yn ystod gwrandawiad y cais ac mewn ymateb i gwestiynau.   Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn ystyried y byddai’n briodol cyflwyno rhybudd clir  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 559747

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559747.

11.00 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559747.

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor bod Ymgeisydd Rhif 559747 wedi rhoi gwybod nad oedd ar gael i fynychu’r gwrandawiad o ganlyniad i broblemau gofal plant a gofynnodd i’r cais gael ei drafod yn ei absenoldeb er mwyn osgoi oedi pellach.   Amlinellodd y Cyfreithiwr yr opsiynau a oedd ar gael i’r Pwyllgor, sef gohirio’r mater i ddyddiad arall, neu wneud penderfyniad ar y cais yn absenoldeb yr Ymgeisydd.   Os oedd y Pwyllgor am benderfynu ar y cais yn absenoldeb yr Ymgeisydd, roedd yn rhaid iddynt fod yn fodlon bod ganddynt ddigon o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad cadarn.

 

Ar ôl ystyried cais yr Ymgeisydd ynghyd â’r cyngor cyfreithiol a ddarparwyd, roedd y Pwyllgor yn ystyried bod ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad gwybodus, ac yn dilyn pleidlais ar y mater -

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Pwyllgor benderfynu ar y cais yn absenoldeb yr Ymgeisydd.

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559747;

 

(ii)          penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         methiant yr Ymgeisydd i ddatgan dwy euogfarn yn ymwneud â methiant i ddatgan newid mewn amgylchiadau, a oedd yn cael effaith ar hawl i fudd-dal/taliadau arall yn 2013 a ddaeth i’r amlwg yn dilyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

 

(iv)         gwybodaeth berthnasol gan gynnwys esboniad yr Ymgeisydd o’r rheswm dros beidio â datgan ynghyd â’r dogfennau yn ymwneud â’r achos gan gynnwys y cais, tystysgrif GDG a’r e-bost a dderbyniwyd yn cefnogi'r cais a oedd ynghlwm â’r adroddiad;

 

(v)          polisi’r Cyngor mewn perthynas ag addasrwydd ymgeiswyr, ac

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 559747.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion cyn y cyfarfod cyn y gwrandawiad yn ofalus.  Nid oedd yr Ymgeisydd wedi gallu mynychu’r gwrandawiad a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn ei absenoldeb.   Gan yr ystyriwyd bod digon o wybodaeth ar gael er mwyn galluogi penderfyniad gwybodus, cytunodd y Pwyllgor i benderfynu ar y cais yn absenoldeb yr Ymgeisydd.

 

Wrth drafod eu penderfyniad, roedd yr aelodau wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.   Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried manylion ymgysylltiad yr Ymgeisydd â swyddogion fel sydd wedi’i nodi ym mharagraff 4.5 o’r adroddiad, e-bost yr Ymgeisydd ar 20 Gorffennaf 2022 yn egluro’r amgylchiadau mewn perthynas â’r methiant i ddatgan y troseddau ar y ffurflen gais (Atodiad C i’r adroddiad), a’r amser a oedd wedi mynd heibio ers y drosedd.   Roedd y Pwyllgor yn fodlon ag esboniad yr Ymgeisydd yn yr e-bost ar 20 Gorffennaf 2022 bod y methiant i ddatgan euogfarnau ar y ffurflen gais o ganlyniad i gamddealltwriaeth gonest.    O ganlyniad, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded a phenderfynwyd cymeradwyo’r drwydded yn unol â’r cais.   Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn ystyried y byddai’n briodol cyflwyno rhybudd clir i’r ymgeisydd am ei ymddygiad yn y dyfodol, gan gynghori’r Ymgeisydd i fod yn agored ac yn onest yn ei ymdriniaeth â Swyddogion Trwyddedu, y Pwyllgor a’r Cyngor cyfan yn y dyfodol.

 

Daeth y cyfarfod i ben  ...  view the full Cofnodion text for item 10.