Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 320 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 13 Medi 2023 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 13 Medi 2023.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD A PHRISIAU CERBYDAU HACNI pdf eicon PDF 300 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am adolygiad tabl ffioedd a phrisiau cerbydau hacni (tacsis) a chyflwyno nifer o opsiynau i’w hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, drwy bleidlais fwyafrifol, cadw’r tabl ffioedd presennol wrth aros am ganlyniad yr adolygiad o’r gyfrifiannell ffioedd a chyfeirio’n ôl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu er mwyn ei ystyried.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (PPBM) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru'r aelodau ar adolygiad y prisiau cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis), gan gyflwyno nifer o opsiynau i'w hystyried.

 

Roedd y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Medi 2023 wedi ystyried adroddiad ar gynigion i gynyddu'r tariffau presennol ac wedi awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar gynnydd o 5% (wedi'i dalgrynnu i'r % llawn agosaf) yn unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro.  Darparwyd manylion yr ymgynghoriad statudol ynghyd â'r ymatebion a gafwyd, gan gynnwys dadansoddiad o'r ymatebwyr (masnach/cyhoeddus), y rhai a oedd o blaid cynnydd o 5% (14), y rhai yn erbyn cynnydd o 5% (37) a'r rhai a oedd o blaid cynnydd dros 5% (9).  Darparwyd tabl cymharu o bob tariff yn seiliedig ar filltiroedd llawn yn ogystal.   Roedd adolygiad y prisiau yn ychwanegol at yr adolygiad sy'n cyd-fynd ag adolygiad y gyfrifiannell tariffau (a argymhellir gan yr Ymgynghorydd Trwyddedu yn dilyn yr adolygiad prisiau yn 2022) ac roedd yn dibynnu ar ddata gan y fasnach drwyddedig.  Roedd y gwaith hwnnw’n mynd rhagddo, a chyfarfod cychwynnol wedi’i gynnal ym mis Tachwedd 2023 gyda deiliaid trwydded a oedd wedi mynegi diddordeb i gyfrannu.

 

Arweiniodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr aelodau drwy fanylion yr adroddiad, gan ymhelaethu ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac ystyriaethau eraill. Roedd hyn yn cynnwys yr effaith ar y fasnach tacsis a defnyddwyr tacsis o ganlyniad i gynnydd yn y prisiau, effaith anuniongyrchol bosibl ar y gyllideb cludiant ysgol, a chostau cysylltiedig â mesuryddion tacsi yn cael eu graddnodi.  Gofynnwyd i’r Aelodau roi ystyriaeth i’r opsiynau canlynol -

 

·       cadw'r tabl ffioedd presennol

·       cadw’r tabl ffioedd presennol wrth aros am ganlyniad adolygiad y gyfrifiannell ffioedd a chyfeirio’n ôl yng nghyfarfod Pwyllgor Trwyddedu yn y dyfodol er mwyn ei ystyried

·       cymeradwyo’r cynnig i gynyddu’r ffi o 5% fel yr ymgynghorwyd

·       cymeradwyo cynnydd gwahanol

 

Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad a'r opsiynau oedd ar gael iddynt, gan amlygu'r anawsterau a gyflwynwyd o ystyried y diffyg barn bendant yn deillio o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.  Codwyd cwestiynau gyda Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd a esboniodd fod y gyfrifiannell tariff yn darparu methodoleg ar gyfer cyfrifo prisiau tocynnau yn y dyfodol, ond ei fod yn dibynnu ar ymgysylltu digonol a data ystyrlon gan y fasnach drwyddedig.  Roedd y cyfarfod cychwynnol gyda deiliaid trwydded ym mis Tachwedd 2023 wedi bod yn gynhyrchiol ond roedd angen mwy o wybodaeth, yn enwedig gan berchnogion/gyrwyr a’r rhai hunangyflogedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving fod y cais am gynnydd mewn prisiau wedi tarddu o un perchennog tacsi gyda chyfran fawr o'r fasnach yn erbyn cynnydd. Tynnodd sylw hefyd at yr effaith negyddol y byddai cynnydd yn ei gael ar ddefnyddwyr gwasanaeth ac yn anuniongyrchol ar gyllidebau cludiant ysgol.  Yn ei farn ef, adolygu’r gyfrifiannell prisiau fyddai’n darparu'r sail orau ar gyfer cyfrifo prisiau tocynnau yn y dyfodol.  O ganlyniad, cynigiodd y Cynghorydd Irving y dylid cadw'r tabl prisiau presennol wrth aros am ganlyniad adolygiad y gyfrifiannell prisiau, a chyfeirio'r mater yn ôl i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w ystyried.  Eiliodd y Cynghorydd Joan Butterfield y cynnig, gan ddweud na allai gefnogi codiad pris ar hyn o bryd.

 

Yn ystod y ddadl a ddilynodd, heriwyd y cyfeiriad at unrhyw effaith o gynnydd mewn prisiau ar gyllidebau cludiant ysgol o ystyried bod ffi benodol wedi'i negodi yn yr achosion hynny.  Adroddodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd ar y gofyniad i gerbydau hacni sy'n gweithredu fel cerbydau hurio preifat yn Sir Ddinbych yn unig weithredu o dan y tariff uchaf.  Er y deallwyd bod prisiau contract cludiant ysgol presennol yn sefydlog, roedd yn debygol y byddai cost contractau yn y dyfodol  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

I AMLINELLU GOFYNION TRWYDDED GORFODOL AR GYFER TRINIAETHAU ARBENNIG pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn amlinellu goblygiadau y gofyniad newydd y Cynllun Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Triniaethau Arbennig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad ac aros am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru, ac

 

(b)      i aelodau gymryd rhan mewn hyfforddiant ar-lein a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar rôl y Pwyllgor Trwyddedu o fewn y ddeddfwriaeth newydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Diogelu’r Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn amlinellu goblygiadau gofyniad arfaethedig y Cynllun Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Triniaethau Arbennig sydd i’w weithredu ym mis Mehefin 2024 fel rhan o ddarpariaeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

 

Roedd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i unrhyw un sy'n ymgymryd â gweithgareddau a oedd yn tyllu'r croen, fel tatŵio, tyllu ac aciwbigo, gael trwydded i weithredu; byddai'r drefn yn dod o dan strwythurau’r Pwyllgor Trwyddedu. Ceir manylion y gweithgareddau cyfredol a gwmpesir gan y ‘gweithdrefnau arbennig’.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir i'r ddeddfwriaeth a'r bwriad i leihau risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â'r gweithdrefnau hynny.  Roedd y cynllun trwyddedu newydd yn cynnig disodli’r system gofrestru bresennol o dan Ddeddf Darpariaethau Amrywiol Llywodraeth Leol 1982 a chydymffurfio ag Is-ddeddfau Cyngor Sir Ddinbych, er mwyn dod â gweithdrefnau tyllu’r croen i gyfundrefn drwyddedu fwy strwythuredig y gellir ei gorfodi’n gyfreithiol, gyda chanllawiau cysylltiedig.  Hysbyswyd yr aelodau o brif ofynion y cynllun, y sefyllfa bresennol, a goblygiadau'r cynllun trwyddedu arfaethedig ar gyfer triniaethau arbennig a'r Pwyllgor Trwyddedu.  Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn y broses o lunio dogfen ymgynghori, y disgwyliwyd ym mis Rhagfyr 2023, yn amlinellu eu disgwyliadau o ran llywodraethu, a byddai’n cael ei rhannu gydag aelodau pan fyddai ar gael.  Argymhellwyd bod aelodau'n aros am fwy o wybodaeth gan LlC a chymryd rhan mewn hyfforddiant ar-lein ar rôl y Pwyllgor Trwyddedu o fewn y ddeddfwriaeth newydd.

 

Roedd y Pwyllgor yn llwyr gefnogi'r ddeddfwriaeth newydd a'r gwaith o reoleiddio gweithgareddau o'r fath, o ystyried y risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â'r gweithdrefnau hynny.  Codwyd cwestiynau ynghylch yr amseriad mewn perthynas â chyflwyno'r cynllun trwyddedu, ynghyd â materion yn ymwneud â chapasiti ac adnoddau ar gyfer ei weithredu a'r trwyddedau sydd eu hangen.

 

Ymatebodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i gwestiynau’r Aelodau fel a ganlyn –

 

·       rhagwelwyd y byddai ymgynghoriad LlC ar y trefniadau llywodraethu yn cychwyn yn ystod mis Rhagfyr am gyfnod o amser nad oedd yn hysbys ar hyn o bryd. Felly, ystyriwyd y byddai'n ddoeth rhoi rhybudd ymlaen llaw i'r aelodau, o ystyried efallai na fyddai canlyniad yr ymgynghoriad wedi'i gwblhau cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Mawrth a’r dyddiad gweithredu ym mis Mehefin 2024

·       nid oedd dyddiad wedi’i bennu eto ar gyfer yr hyfforddiant ar-lein a argymhellir i aelodau, ond mae’n debygol y caiff ei gynnal ar ddechrau’r flwyddyn newydd - bydd rhybudd ymlaen llaw yn cael ei roi

·       roedd ffioedd trwyddedu yn cael eu hystyried gan Weithgor ledled Cymru ac yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru. Er mai’r bwriad oedd y byddai’r ffioedd yn talu am yr amser a dreulir yn cyflawni’r swyddogaeth newydd, roedd yn annhebygol iawn y byddai incwm digonol yn cael ei gynhyrchu i gyflogi unigolyn

·       disgwylir y byddai'n broses ymgeisio ar-lein, gyda'r rhan fwyaf o'r manylion yn cael eu cofnodi gan yr ymgeisydd, y broses weinyddol yn cael ei chynnal gan y tîm trwyddedu, a Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd yn cynnal archwiliadau

·       roedd tua 50 o safleoedd wedi’u cofrestru ar gyfer tyllu’r croen ac 81 o ymarferwyr, a fyddai’n dilyn proses drosglwyddo i drwyddedu - i’w chaniatáu o fewn 9 – 12 mis i agor y broses ymgeisio ym mis Mehefin 2024. Y gobaith oedd y byddai llif cyson o geisiadau drwy’r amserlen honno.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad ac aros am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru, ac

 

(b)      i aelodau gymryd rhan mewn hyfforddiant ar-lein a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar rôl y Pwyllgor Trwyddedu o fewn y ddeddfwriaeth newydd.

 

 

7.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2024 pdf eicon PDF 196 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm), ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith i'r dyfodol ddiwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      chymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer 2024 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr Adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a oedd wedi cael ei ddosbarthu ymlaen llaw) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â diweddariad ar y rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer 2024.

 

Roedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi trwyddedai yn effeithiol, yn ogystal ag ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi.  Roedd y rhaglen waith wedi'i drafftio gan ystyried polisïau perthnasol a dyddiadau adolygu, ynghyd ag unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl a gynigiwyd.  O ystyried bod gwaith Llywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn: Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) yn mynd rhagddo, ni chyfeiriwyd ato yn y rhaglen waith.  Fodd bynnag, unwaith y byddai canlyniad y gwaith hwnnw'n hysbys, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r aelodau.

 

Cadarnhaodd swyddogion y byddai adroddiad ar adolygiad y gyfrifiannell prisiau, fel y cytunwyd yn gynharach ar y rhaglen o dan eitem 5, yn cael ei ychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer mis Mawrth.

 

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      chymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer 2024 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr Adroddiad.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 572108

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Rif Ymgeisydd 572108.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 572108.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)             cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 572108;

 

(ii)            penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)          bod yr Ymgeisydd wedi cael euogfarn ym mis Medi 2016 am yrru cerbyd modur â gormodedd o alcohol, ac euogfarn ym mis Ebrill 2017 am ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, difrïol neu sarhaus gyda’r bwriad o achosi ofn neu fygwth trais, yr oedd y ddau wedi’u datgan gan yr Ymgeisydd a'i gadarnhau yn dilyn y gwiriadau arferol;

 

(iv)          gwybodaeth bellach ynghylch yr achos gan gynnwys esboniad yr Ymgeisydd ynghylch amgylchiadau’r euogfarnau a gwybodaeth gefndir, a bod yr Ymgeisydd ar hyn o bryd yn dal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gydag awdurdod lleol arall, a roddwyd ym mis Tachwedd 2021;

 

(v)           ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm â pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas yw ymgeiswyr; ac

 

(vi)          gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol, ynghyd â’i gyflogwr, a chadarnhaodd ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (NS) yr adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd ei fod wedi'i drwyddedu fel gyrrwr gydag awdurdod lleol arall ers dros ddwy flynedd, ac eglurodd y rhesymeg y tu ôl i'w gais i yrru yn Sir Ddinbych sef sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.  O ran y ddwy euogfarn, yr oedd bellach yn berson gwahanol, a rhoddodd sicrwydd ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded.

 

Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau’r aelodau, gan egluro’r cefndir iddo gymryd swydd fel gyrrwr trwyddedig ac ymhelaethu ar ei waith tacsi (yn ystod y cyfnod hwn nodwyd y gallai yrru i Sir Ddinbych ar ôl talu tâl ar hyn o bryd).    Pe bai'r aelodau o blaid caniatáu'r cais, byddai'n rhoi'r cyfle i'r Ymgeisydd barhau i weithio yn ei swydd bresennol a hefyd yn ychwanegu at yr incwm hwnnw gyda gwaith penwythnos ac i gyflenwi ar gyfer gyrwyr trwyddedig eraill.  Ymhelaethodd hefyd ar amgylchiadau’r ddwy euogfarn, gan gadarnhau ei ble euog, ynghyd â throsedd moduro TS10 ym mis Mawrth 2023.

 

Wrth wneud datganiad terfynol, diolchodd yr Ymgeisydd i'r aelodau am y cyfle i gyflwyno ei achos ac ailadroddodd ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 572108.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd a'i atebion i gwestiynau.  Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded, a daeth i’r casgliad bod amgylchiadau eithriadol a rhesymau cyfiawn dros wyro oddi wrth y polisi ar yr achlysur hwn. Caniatawyd y drwydded yn seiliedig ar y canlynol -

 

·       yr amser a aeth heibio ers yr euogfarnau ac ymddygiad da ers hynny

·       y ffaith bod amgylchiadau personol yn ymwneud â'r euogfarnau

·       y ffaith ei fod wedi pledio'n euog ac wedi cydnabod ei gamgymeriadau

·       y ffaith ei fod wedi cwblhau ei gwrs ymwybyddiaeth gyrrwr yn llwyddiannus

·       y ffaith ei fod yn  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 550166

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat mewn perthynas â rhif Gyrrwr 550166.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gohirio trwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat Gyrrwr Rhif 550166 am gyfnod o fis neu nes y bydd darparwr allanol cymwys yn rhoi canlyniad prawf cyffuriau negyddol i'r Adran Drwyddedu fel y cytunwyd rhwng y Swyddogion Trwyddedu a'r Gyrrwr. Yn ogystal, bydd amod yn cael ei osod ar drwydded y Gyrrwr i sicrhau bod profion cyffuriau’n cael eu cynnal yn rheolaidd bob mis wedi hynny, am gyfnod o ddeuddeng mis.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd iddo ddod yn ymwybodol ei fod yn adnabod y Gyrrwr. Wedi hynny, gadawodd y cyfarfod cyn y cam penderfynu heb gymryd unrhyw ran yn y trafodaethau.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)             addasrwydd Gyrrwr Rhif 550166 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, yn dilyn cwyn ynghylch defnydd cyffuriau a phrawf cyffuriau ochr ffordd positif a gynhaliwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ym mis Hydref 2023;

 

(ii)            penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r mater at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)          gwybodaeth gefndir a ddarparwyd gan gynnwys manylion y gŵyn a datgeliad ysgrifenedig gan Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â nodiadau disgrifiadol o gyfweliad gyda Gyrrwr Rhif 550166;

 

(iv)          ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm â pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas yw ymgeiswyr; ac

 

(v)           gwahoddwyd y Gyrrwr i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol, ynghyd â pherthynas iddo, a chadarnhaodd ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi (KB) yr adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Dywedodd y Gyrrwr nad oedd ganddo ddim byd arall i'w ychwanegu at fanylion yr adroddiad ond rhoddodd sicrwydd nad oedd wedi defnyddio cyffuriau ers mis Mehefin 2022 ac na allai roi cyfrif am ffynhonnell y gŵyn.  Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, eglurodd y Gyrrwr eto yr amgylchiadau yn ymwneud â’r prawf cyffuriau positif ar ochr y ffordd, ac ymdrechion aflwyddiannus i gael prawf gwaed tra’r oedd yn y ddalfa gan arwain at absenoldeb sampl gwaed; parhaodd i wadu ei fod wedi cymryd unrhyw gyffuriau y diwrnod hwnnw, gan ddisgrifio dull y prawf cyffuriau ymyl ffordd. Esboniodd fod canlyniad y prawf wedi bod yn bositif oherwydd bod gweddillion wedi’i drosglwyddo gydag arian, bwyd neu wrth ysmygu; ymhelaethodd ar ei amgylchiadau personol yn ystod mis Mehefin 2022 a defnydd blaenorol o gyffuriau ynghyd â'i gyfnod adsefydlu. Gwadodd unrhyw gaethiwed i gyffuriau; esboniodd yr amgylchiadau pan y’i rhyddhawyd o'r ddalfa a chadarnhaodd nad oedd wedi clywed gan yr Heddlu ers iddo gael ei arestio a'i fod wedi cael gwybod na fyddai unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.  Ymatebodd y Swyddog Gorfodaeth hefyd i gwestiynau’r aelodau ynglŷn â sail cynnal prawf cyffuriau ymyl ffordd, gan gynnwys ar gyfer trosedd traffig moduro yn unig, heb unrhyw ddangosyddion eraill yn angenrheidiol.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor i ystyried yr achos a chododd yr aelodau gwestiynau pellach.  O ganlyniad, galwyd pawb yn ôl er mwyn gallu gofyn eu cwestiynau.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Gorfodaeth sail ei gwestiynau yn ystod y cyfweliad o ran y tebygolrwydd o drosglwyddo gweddillion cyffuriau; cadarnhaodd nad oedd y prawf cyffuriau ymyl ffordd yn rhoi unrhyw arwydd o'r union lefelau a ganfuwyd; nid oedd unrhyw awgrym bod y Gyrrwr wedi gwrthod cymryd prawf gwaed; cadarnhawyd y byddai Nyrs Cyffuriau yn y ddalfa yn cymryd y sampl gwaed ac y gallai benderfynu peidio â bwrw ymlaen ar ôl ymdrechion aflwyddiannus mewn amgylchiadau penodol; gofynnwyd am fwy o wybodaeth gan yr Heddlu ynglŷn â'r achos a dywedasant na ellid ei darparu am resymau gweithredol.  Cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod yn parhau i yrru cerbydau trwyddedig. 

 

Gohiriwyd y Pwyllgor eto ac, ar ôl trafodaethau pellach, galwyd pawb yn ôl eto i ofyn cwestiwn pellach ynghylch argymhellion yr adroddiad mewn perthynas â gosod amodau ar y drwydded.  Cadarnhaodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd y gellid gosod amod ar gyfer cynnal prawf cyffuriau cyn gyrru ac  ...  view the full Cofnodion text for item 9.