Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNTIAU I’W NODI

·       yn anffodus ni fu’n bosibl i ddarparu cyfieithu ar y pryd ar gyfer y cyfarfod gan nad oedd y cyfieithydd a drefnwyd ar gael bellach a bu ymdrechion i ddod o hyd i gyfieithydd arall i ddod i’r cyfarfod yn aflwyddiannus.

 

·       Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Ellie Chard (a oedd wedi disodli’r Cynghorydd Michelle Blakeley-Walker) i’w chyfarfod Pwyllgor Trwyddedu cyntaf.   Nid oedd y Cynghorydd Chard wedi derbyn yr hyfforddiant trwyddedu gofynnol eto ac roedd felly’n mynychu’r cyfarfod fel arsylwr yn unig ar yr achlysur hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Delyth Jones

Byddai’r Cynghorydd Win Mullen-James yn hwyr yn cyrraedd y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Delyth Jones

Byddai’r Cynghorydd Win Mullen-James yn cyrraedd y cyfarfod yn hwyr.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Brian Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen: Newidiadau arfaethedig i Dabl Ffioedd Cerbydau Hacni.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol ag eitem 5 yn y rhaglen - Newidiadau Arfaethedig i Dabl Ffioedd Cerbydau Hacni, gan ei fod fel cyn Aelod Cabinet wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda chyfran fawr o’r fasnach tacsis yn ymwneud â Chynllun Peilot Gwefru Cerbydau Trydan.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 286 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

5.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD CERBYDAU HACNI pdf eicon PDF 449 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r ffioedd tariff cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, trwy bleidlais fwyafrifol –

 

(a)      bod yr Aelodau'n cyfarwyddo'r swyddogion i ymgynghori ar weithredu cynnydd i'r tariff o 5% (wedi'i dalgrynnu i'r ganran gyfan agosaf) yn unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro;

 

(b)      awdurdodi swyddogion i fwrw ymlaen â hysbysiad statudol sydd â dyddiad gweithredu o leiaf 28 diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad, a

 

(c)      rhoi cyfarwyddyd i swyddogion baratoi adroddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu os ceir unrhyw wrthwynebiadau i’r hysbysiad statudol.

 

Cofnodion:

[Ymatalodd y Cynghorydd Win Mullen-James rhag pleidleisio ar yr eitem hon gan ei bod wedi ymuno â’r cyfarfod yn hwyr ac nad oedd wedi bod yn bresennol am y drafodaeth gyfan.]

 

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (RhBGC) adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r ffioedd tariff cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis), gan gynnwys dewisiadau i’w hystyried ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.  Roedd y ffioedd tariff cyfredol wedi eu gosod yng Ngorffennaf 2022.

 

Yn dilyn cais gan yrrwr trwyddedig, roedd swyddogion wedi ymgynghori ar gynnydd arfaethedig o 10% i’r holl dariffau a ffioedd ychwanegol i ganfod safbwyntiau’r fasnach drwyddedig.  Roedd yr ymateb yn cynnwys cefnogaeth gyffredinol ar gyfer cynnydd ac amrywiadau amgen niferus i’r cynnig.  Roedd Adroddiad yr Ymgynghorydd Trwyddedu ar adolygiad o’r ffioedd 2022 wedi argymell methodoleg ar gyfer cyfrif ffioedd yn y dyfodol a oedd yn ddibynnol ar ddata digonol yn cael ei ddarparu gan y fasnach drwyddedu; roedd y gwaith ymgysylltu hwnnw wedi dechrau heb unrhyw amserlen benodol ar gyfer cwblhau.  Yn absenoldeb y data hwn, roedd yr Ymgynghorydd wedi argymell defnyddio'r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro (4.8% ar Awst 2023) fel adnodd i gynyddu/gostwng ffioedd.

 

Fe arweiniodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd Aelodau drwy’r adroddiad yn fanwl a’r dewisiadau oedd ar gael i un ai cadw’r tabl ffioedd presennol, cefnogi’r cynnig ar gyfer cynnydd o 10% mewn tariff neu gefnogi cynnydd yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro.  Pe byddai Aelodau’n cefnogi cynnydd mewn ffioedd byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y cynnig gydag unrhyw wrthwynebiadau’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i’w hystyried.  Byddai unrhyw dariff terfynol yn destun Penderfyniad Dirprwyedig Aelod Arweiniol.  Roedd swyddogion wedi argymell ymgynghoriad ar gynyddu ffioedd 5% (wedi ei dalgrynnu i’r canran llawn agosaf) yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar gyfer Moduro fel yr argymhellwyd gan yr Ymgynghorydd.

 

Ystyriodd Aelodau’r adroddiad a’r dewisiadau oedd ar gael iddynt, ac roedd yna safbwyntiau cymysg ynglŷn â’r ffordd orau ymlaen.  Codwyd cwestiynau gyda’r Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yn ymwneud ag agweddau amrywiol o’r adroddiad a’r ymgynghoriad cychwynnol gyda’r fasnach, a chodwyd rhai pryderon yn ymwneud â thybiaethau nad yw’r rhai na ymatebodd yn gefnogol i adolygiad, diffyg ymateb cyffredinol o’r fasnach tacsis i lywio’r broses ac amrywiadau graddfa chwyddiant pan oeddent yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer cynyddu ffioedd.  Tra codwyd pryderon cyffredinol yn ymwneud ag amseru cynnydd mewn ffioedd yn ystod argyfwng costau byw a’r effaith ar ddefnyddwyr tacsis, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i’r effaith ar y fasnach dacsis a oedd yn ymdrin â chostau cynyddol sy’n effeithio ar y diwydiant.  Teimlwyd y dylai fod yna ddull mwy strwythuredig o adolygu ffioedd yn rheolaidd.

 

Ymatebodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i gwestiynau a sylwadau’r Aelodau fel a ganlyn –

 

·       nid oedd yna unrhyw derfynau amser statudol ar gyfer adolygu ffioedd a phrisiau tacsis

·       yn dilyn y cais i gynyddu tariff, ystyriwyd ei bod yn briodol i fesur cefnogaeth ar gyfer cynnydd gan y fasnach dacsis

·       ymgynghorwyd â 280 o yrwyr trwyddedig, roedd 56 wedi ymateb gyda 47 yn cefnogi cynnydd, ac ystyriwyd hynny’n ddigonol i fynd ymlaen gydag adolygiad

·       nid oedd yna unrhyw fethodoleg y tu ôl i’r dybiaeth fod y rhai hynny a fethodd ymateb yn fodlon gyda’r tariff presennol, ac o ystyried y gyfradd ymateb isel i ymgynghoriadau’n gyffredinol ni ellid dod i gasgliad boddhaol ynglŷn â’r dybiaeth honno 

·       roedd swyddogion yn gweithio i ymgysylltu gyda’r fasnach dacsis fel yr argymhellwyd gan yr Ymgynghorydd gyda’r bwriad o gyfrifo cynnydd mewn prisiau yn y dyfodol ac wedi cwblhau’r gwaith hwnnw byddai adolygiadau rheolaidd yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

IS-DDEDDFAU CERBYDAU HACNI DIWYGIEDIG ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 202 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno’r Is-ddeddfau diwygiedig sy’n ymwneud â rheoleiddio Cerbydau Hacni er mwyn i’r Pwyllgor eu hystyried a’u cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

(a)      bod Is-ddeddfau Enghreifftiol arfaethedig yr Adran Drafnidiaeth (fel a nodir yn Atodiad A yr adroddiad) yn cael eu cefnogi, a

 

(b)      rhoi awdurdod i swyddogion ddechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda phob perchennog cerbyd hacni a gyrwyr trwyddedig.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno’r Is-ddeddfau diwygiedig yn ymwneud â rheoliad Cerbydau Hacni ar gyfer ei ystyried gan y Pwyllgor a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa ynglŷn â gofynion deddfwriaethol y Cyngor ar gyfer trwyddedu a rheoleiddio cerbydau hacni a gyrwyr.  Ers ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 mae'r cyfrifoldebau hynny wedi eu harfer drwy Amodau Trwyddedu Cerbyd Hacni a Hurio Preifat y Cyngor a thrwy Is-ddeddfau mewn perthynas â’r Rhyl a Phrestatyn yn unig.  Argymhellwyd fod y Cyngor yn mabwysiadu Is-ddeddfau a oedd yn ymwneud â’r sir gyfan i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r newidiadau mewn deddfwriaeth yn gywir ac yn sicrhau dull teg, tryloyw a chyson.

 

Argymhellodd swyddogion fod yr Is-ddeddfau Enghreifftiol a luniwyd gan yr Adran Drafnidiaeth (Atodiad A i’r adroddiad) yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol gydag unrhyw sylwadau’n cael eu cyflwyno gerbron y Cyngor i’w hystyried.  Pe byddai’r Is-ddeddfau Enghreifftiol yn cael eu mabwysiadu gan y Cyngor, byddai Is-ddeddfau Y Rhyl a Phrestatyn (Atodiad B i’r adroddiad) yn cael eu diddymu.

 

Cytunodd Aelodau y dylid gweithredu dull cyson ar draws y sir mewn perthynas ag is-ddeddfau cerbydau hacni a nodwyd na fyddai mabwysiadu’r is-ddeddfau enghreifftiol yn achosi unrhyw newid mawr ond byddai’n moderneiddio’r ddarpariaeth bresennol a oedd yn ymwneud â Rhyl a Phrestatyn yn unig ar hyn o bryd.   Cwestiynwyd perthnasedd darpariaeth 18 (a) a oedd yn ymwneud ag unrhyw eiddo a gaiff ei adael ar ôl yn cael ei drosglwyddo’n gorfforol i Orsaf Heddlu.  Cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fod eitemau i’w cyflwyno i Orsaf Heddlu a oedd yn amod trwyddedu gydag eiddo yn cael ei drosglwyddo i rywun mewn awdurdod a’r Heddlu oedd y rhai gorau i ymdrin â’r mater.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth yn yr adroddiad,

 

PENDERFYNWYD

 

(a)      bod Is-ddeddfau Enghreifftiol arfaethedig yr Adran Drafnidiaeth (fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad) yn cael eu cefnogi, a

 

(b)      rhoi awdurdod i swyddogion ddechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda phob perchennog cerbyd hacni a gyrwyr trwyddedig.

 

 

7.

ADOLYGU GOFYNION MEDDYGOL GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) ar adolygu gofynion meddygol presennol gyrwyr a cheisio cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion ar gyfer gweithredu safonau meddygol Grŵp 2.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

                    

(a)      rhoi awdurdod i swyddogion ymgynghori â gyrwyr trwyddedig a gweithredwyr a pherchnogion trwyddedig ynghylch gweithredu safonau meddygol Grŵp 2; a

 

(b)      lle na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori, rhoi awdurdod i swyddogion weithredu gofyniad am dystysgrifau meddygol Grŵp 2 ar gyfer gyrwyr trwyddedig fel a nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad, a ddaw i rym o 1 Rhagfyr 2023 ar gyfer ymgeiswyr newydd, ac 1 Mehefin 2024 ar gyfer deiliaid trwydded presennol, a

 

(c)      os bydd unrhyw un yn gwrthwynebu’r cynigion yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd swyddogion yn cael cyfarwyddyd i baratoi adroddiad i’w gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu er mwyn ystyried y gwrthwynebiadau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar yr adolygiad o’r gofynion meddygol presennol ar gyfer gyrwyr a cheisiodd gymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion ar gyfer gweithredu safonau meddygol Grŵp 2 yn lle’r safonau meddygol Grŵp 1 presennol.

 

Roedd manylion ynglŷn â’r arfer cyfredol ar gyfer gwiriadau meddygol Grŵp 1 a chynigion ar gyfer gwiriadau meddygol Grŵp 2, gan gynnwys amodau arfaethedig i fodloni safonau meddygol Grŵp 2 o ran addasrwydd i yrru, ffurflenni meddygol ar gyfer y ddau grŵp a’r goblygiadau o ran cost wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  Mae safonau meddygol Grŵp 2 yn cael eu gweithredu mewn 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru (gan gynnwys pob un o’r awdurdodau cyfagos).  Byddai unrhyw newid i’r polisi presennol yn gofyn am broses ymgynghori gydag unrhyw wrthwynebiadau yn cael eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor.  Pe na fyddai unrhyw sylwadau yn cael eu derbyn byddai’r safonau arfaethedig yn dod i rym ar ddyddiad y cytunir arno.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai’r cynnig i symud i safonau meddygol Grŵp 2 yn golygu y byddai’r awdurdod yr un fath ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, byddai’n gwella polisi ac yn bodloni cynigion Llywodraeth Cymru ar ddiwygio trwyddedu tacsis.  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â p’un ai a fyddai’r cynnig yn atal ymgeiswyr newydd, dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu y gallai brofi’n ysgogiad i rai gyrwyr gan mai dim ond un prawf meddygol oedd ei angen wrth ymgeisio’r tro cyntaf ar gyfer y rhai hynny o dan 45 oed ac yna bob tair blynedd o 45 - 65 oed ac yna yn flynyddol wedi hynny, yn hytrach na’r polisi presennol a oedd yn gofyn am brawf meddygol bob tair blynedd ar gyfer pob gyrrwr hyd at 60 oed ac yna yn flynyddol wedi hynny.  Hefyd eglurodd nad oedd yna brinder o yrwyr trwyddedig.

 

PENDERFYNWYD

                    

(a)      rhoi awdurdod i swyddogion ymgynghori â gyrwyr trwyddedig presennol a gweithredwyr a pherchnogion trwyddedig ynglŷn â gweithredu safonau meddygol Grŵp 2;

 

(b)      lle na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn dilyn y cyfnod ymgynghori, rhoi awdurdod i swyddogion weithredu gofyniad am dystysgrifau meddygol Grŵp 2 ar gyfer gyrwyr trwyddedig fel y nodir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad, gyda hyn yn dod i rym o 1 Rhagfyr 2023 ar gyfer ymgeiswyr newydd, a 1 Mehefin 2024 ar gyfer deiliaid trwydded sy’n adnewyddu

 

(c)      lle codwyd gwrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori, fod swyddogion yn cael cyfarwyddyd i baratoi adroddiad i’w gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu er mwyn ystyried y gwrthwynebiadau.

 

 

8.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2023 pdf eicon PDF 182 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm), ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith i'r dyfodol ddiwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      chymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig ar gyfer 2023 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr Adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu, ynghyd â rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig ar gyfer 2023.

 

Roedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi trwyddedeion yn effeithiol, yn ogystal ag ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi.  Gofynnwyd i Aelodau ystyried y rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig a nodi fod yr adolygiad a drefnwyd o’r Datganiad Polisi Cerbyd Hacni a Hurio Preifat wedi ei ohirio ymhellach tra’n aros am ganlyniad yr ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru: Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru).

 

PENDERFYNWYD

                    

(a)      nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)      chymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig ar gyfer 2023 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr Adroddiad.

 

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12, 13 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Ar y pwynt hwn (10.45 am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

9.

CAIS AM DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded Cerbyd Hurio Preifat.

10.45 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar amodau ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)             cafwyd cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)            nid yw swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu’r cais gan nad yw’r cerbyd a gyflwynwyd i gael trwydded yn cydymffurfio â pholisi’r Cyngor ynghylch y cyfyngiad oedran pum mlynedd i gerbydau a drwyddedir gan gais newydd;

 

(iii)          amodau ychwanegol yn berthnasol i drwyddedu mathau o gerbydau arbenigol megis yr un a gyflwynwyd yn yr achos hwn ynghyd â thystiolaeth gefnogol a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd, a

 

(iv)          gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Darparodd y Swyddog Gorfodi (KB) grynodeb o’r adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Cyflwynodd yr Ymgeisydd ei achos a chyfeiriodd at y ddogfennaeth gefnogol a oedd wedi ei ddosbarthu ymlaen llaw gyda’r adroddiad.  Roedd yn weithredwr cerbydau arbenigol sefydledig gydag enw da a rhoddodd ychydig o gefndir i’r math o fusnes yr oedd yn ei weithredu a oedd yn darparu ar gyfer marchnad arbenigol.  Cyfeiriwyd at rinweddau’r cerbyd arbenigol arfaethedig ar gyfer trwyddedu yn ogystal ag amserlenni cynnal a chadw a thrin a gefnogwyd gan garej leol.  Roedd y cais ar gyfer cerbyd arbenigol gyda defnydd cyfyngedig ar gyfer digwyddiadau arbennig, a oedd yn cael ei gynnal i safon uchel ac yn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol a diogelwch.

 

Wrth ymateb i gwestiynau, eglurodd yr Ymgeisydd mae ei fwriad oedd i uwchraddio a chael cerbyd newydd yn lle ei gerbyd trwyddedig presennol yn hytrach nac ychwanegu at y fflyd.  Yn nhermau’r cyfundrefnau cynnal a chadw blaenorol, roedd gan yr Ymgeisydd fanylion hanes blaenorol o drin y cerbyd ac MOT ac roedd y cerbyd wedi ei archwilio ac roedd yn fodlon â’r archwiliad; hefyd rhoddodd sicrwydd ynglŷn â chyfundrefnau cynnal a chadw parhaus yn y dyfodol.  Yn olaf cadarnhaodd ei fod yn barod i gydymffurfio gyda’r amodau trwyddedu ychwanegol ar gyfer y cerbyd dan sylw fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Gohiriwyd y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar yr amodau ychwanegol fel y nodwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais yn ofalus, adroddiad y swyddog a’r achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn ysgrifenedig cyn y cyfarfod ac yn y cyfarfod ei hun.

 

Wrth ddod i benderfyniad, nododd y Pwyllgor natur a’r math o fusnes a weithredwyd, a bod y cerbyd dan sylw â milltiroedd isel ac mae ychydig o deithiau arbenigol fyddai’n cael eu gwneud a bod yr Ymgeisydd yn weithredwr gydag enw da ac wedi hen sefydlu mewn gwasanaethau arbenigol o’r fath.  Ar y sail honno, ac ar ôl ystyried yn benodol yr uchod, a’r gwasanaeth cynnal a chadw llym ddwywaith y flwyddyn gan y Gwasanaethau Fflyd, cytunodd yr Aelodau bod achos wedi’i gyflwyno i wyro o’u polisi cyfyngiad oedran yn yr achos hwn, ac i ganiatáu’r cais fel a gyflwynwyd, yn amodol ar yr amodau ychwanegol sydd yn berthnasol i’r math o gerbyd arbenigol, fel y nodir yn Atodiad 3 yr adroddiad.

 

Cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor felly eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

[Wrth fynd heibio nododd y Pwyllgor ei bod yn debygol y byddai polisi ar wahân mewn perthynas â’r mathau o gerbydau arbenigol yn cael ei lunio yn y dyfodol, un ai fel rhan o ddiwygiad Llywodraeth Cymru o drwyddedu tacsis neu drwy fframwaith polisi y Cyngor ei hun.]  ...  view the full Cofnodion text for item 9.