Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Michelle Blakeley-Walker

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Michelle Blakeley-Walker

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n peri rhagfarn ag unrhyw fater i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan.

 

 

3.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu 2023/24. Cynigodd y Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Hugh Irving. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Bobby Feeley yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu 2023/24. Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid penodi’r Cadeirydd Hugh Irving fel Is-gadeirydd, ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Andrea Tomlin. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 325 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM WAITH YR ADAIN DRWYDDEDU YN 2022/23 pdf eicon PDF 297 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar waith yr Adain Drwyddedu yn ystod 2022/23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (RhBGC) adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar waith yr Adain Drwyddedu yn ystod 2022/23, gan ganolbwyntio ar faterion gweithredol a rheoli.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu data ystadegol ynghylch nifer y trwyddedau a roddwyd, cwynion a cheisiadau gwasanaeth a dderbyniwyd yn cynnwys y prif swyddogaethau – Alcohol ac Adloniant; Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat; Hapchwarae, Gemau a Loteri; Masnachu ar y Stryd; Casgliadau Elusennol a Metel Sgrap, ynghyd â gweithgareddau eraill, gan gynnwys ceisiadau gwasanaeth/rhyddid gwybodaeth, canlyniadau cyffredinol llwyth gwaith a chyfathrebu.   Roedd materion rheoli yn cynnwys cyfeiriad at ystyriaethau llwyth gwaith yn y dyfodol, ffioedd a pholisïau. Arweiniodd y RhBGC yr aelodau trwy’r adroddiad.

 

Cymerodd yr Aelodau’r cyfle i drafod gwahanol agweddau ar yr adroddiad gyda’r RhBGC, a ymatebodd i gwestiynau a sylwadau fel a ganlyn –

 

·         roedd llai o ymgeiswyr/gyrwyr yn ymddangos gerbron y pwyllgor, a oedd yn adlewyrchu pa mor dda roedd y polisi presennol yn gweithio, gyda phwerau wedi eu dirprwyo i swyddogion o fewn fframwaith y polisi, a materion yn cael eu dwyn gerbron aelodau a oedd yn ymwneud â gwyro oddi wrth y polisi mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.

·         dros y deuddeg mis diwethaf, cafwyd 34 cais ar gyfer gyrwyr trwyddedig newydd a gadawodd 24 o yrwyr trwyddedig y proffesiwn, a oedd yn golygu bod 10 gyrrwr trwyddedig ychwanegol yn ystod y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, yn gyffredinol bu tuedd ar i lawr o ran nifer y cerbydau a gyrwyr trwyddedig.

·         roedd hi’n rhesymol dod i’r casgliad bod y gostyngiad yn nifer y diffygion a nodwyd mewn cerbydau o ganlyniad i effeithiolrwydd y polisi a’r drefn brofi. 

·         cytunwyd cynnwys nifer y trwyddedau eiddo sy’n cael eu hildio mewn adroddiadau yn y dyfodol, er mwyn nodi unrhyw dueddiadau/pwysau, er y nodwyd nad oedd pob trwydded yn cael ei hildio pan fydd eiddo trwyddedig yn rhoi’r gorau i weithredu.

·         roedd casgliadau elusennol yn ymwneud â rhoi bagiau dillad trwy flychau post o ddrws i ddrws wedi’u heithrio i raddau helaeth o ran trwyddedu, oherwydd bod gan elusennau Eithriadau’r Swyddfa Gartref.

·         rhoddwyd sicrwydd bod cyfathrebu rheolaidd trwy e-bost â busnesau tacsis, a oedd yn cynnwys tynnu sylw at ddiffygion a nodwyd yn dilyn archwilio cerbydau, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r materion hynny.

·         byddai diffygion diogelwch difrifol mewn cerbydau yn arwain at atal y drwydded nes y byddai’r gwaith gofynnol wedi’i gwblhau, ond gallai cerbydau â mân ddiffygion barhau i weithredu gyda rhybudd bod y gwaith perthnasol yn cael ei gwblhau o fewn cyfnod penodol o amser.

·         roedd y rhan fwyaf o gwynion a dderbyniwyd mewn perthynas ag eiddo trwyddedig yn ymwneud â niwsans sŵn a chan amlaf roeddent yn fater ar gyfer Rheoli Llygredd, gyda chylch gwaith Swyddogion Trwyddedu yn canolbwyntio’n benodol ar sicrhau bod yr amodau trwyddedu’n cael eu bodloni. Fodd bynnag, roedd Swyddogion Trwyddedu a Swyddogion Rheoli Llygredd yn cydweithio’n agos, gyda’r bwriad o ddatrys y materion niwsans sŵn oedd yn gysylltiedig ag eiddo trwyddedig.

·         ymhelaethwyd ar rôl a chylch gwaith y Deiliad Trwydded Bersonol a’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig o ran gweithredu eiddo trwyddedig; manylwyd ar y gwahaniaethau rhwng Trwyddedau Masnachu ar y Stryd a gyhoeddir gan y Cyngor a Thystysgrifau Bedleriaid a gyhoeddir gan yr Heddlu; ac fe adroddwyd ar y gofynion ar gyfer Trwyddedau Metel Sgrap, gan gynnwys trwyddedau ar wahân i safleoedd a chasglwyr

·         dywedwyd bod modd canfod trwyddedau tacsi a roddwyd ar wefan y Cyngor a’r gobaith oedd, unwaith y byddai’r gwaith ar y gronfa ddata newydd wedi’i gwblhau, y byddai gwybodaeth am bob trwydded sydd wedi’u rhoi ar gael i’r cyhoedd ei gweld.

·         er  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 196 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm), ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r rhaglen gwaith i'r dyfodol ddiwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

                        

(a)       nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)       chymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer 2023 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu, ynghyd â rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig.

 

Roedd blaenoriaethau’r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddir ar yr Awdurdod mewn perthynas â’i gyfrifoldebau o ran ei swyddogaeth drwyddedu, a rheoleiddio, rheoli a gorfodi Trwyddedai yn effeithiol, yn ogystal ag ymrwymiad yr Awdurdod i greu cymunedau mwy diogel a datblygu’r economi. Roedd yr adolygiad a drefnwyd ar gyfer y Datganiad Polisi ar Gerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat wedi ei ohirio, wrth aros am ganlyniad yr ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar: Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru), ac roedd rhaglen waith ddiwygiedig wedi’i chyflwyno ar gyfer ystyriaeth. [Trefnwyd sesiwn friffio i aelodau ar y Papur Gwyn yn syth ar ôl y cyfarfod.]

 

Nododd Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf a’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig. Cadarnhawyd y byddai hyfforddiant i aelodau hefyd yn cael ei gynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

                        

(a)       nodi cynnwys yr adroddiad, a

 

(b)       chymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol ddiwygiedig ar gyfer 2023 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr Adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.20am.