Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Joan Butterfield

Cofnodion:

Y Cynghorydd Joan Butterfield

 

 

2.

DATGANIADAU CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 6 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd.

 

Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 6 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 6 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd.

 

Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 6 ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 382 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2022 pdf eicon PDF 214 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi wedi’i amgáu), ar flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf ar eitemau a aildrefnwyd a’r rhaglen gwaith i'r dyfodol ddiwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

                        

(a)       nodi cynnwys yr adroddiad,  a

 

(b)       cymeradwyo'r rhaglen gwaith i’r dyfodol diwygiedig ar gyfer 2022 fel y manylir yn atodiad yr adroddiad i’w gymeradwyo.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) am flaenoriaethau’r Adain Drwyddedu ynghyd â diweddariad am eitemau oedd wedi’u haildrefnu a’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ddiwygiedig ar gyfer 2022.

 

Roedd blaenoriaethau'r Adain Drwyddedu yn adlewyrchu’r ddyletswydd a roddwyd ar yr awdurdod mewn cysylltiad â’i gyfrifoldebau ar gyfer swyddogaeth a rheoliadau, rheolaeth, a gorfodaeth effeithiol o drwyddedai ynghyd ag ymrwymiad yr awdurdod i gymunedau mwy diogel a datblygiad yr economi. Yn anffodus oherwydd blaenoriaethau nad oedd modd eu rhagweld, mae’r rhaglen waith i’r dyfodol a gymeradwywyd wedi cael ei diwygio gydag eitemau wedi’u haildrefnu a chyflwynwyd rhaglen waith ddiwygiedig i’w hystyried.

 

Rhoddodd Swyddogion ddiweddariad am yr eitemau a fydd yn cael eu dwyn ymlaen i gyfarfod y pwyllgor ym mis Rhagfyr a gafodd eu trafod gydag aelodau, sef -

 

·         Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

 

Roedd y ddogfen ymgynghori ar Ddatganiad Polisi Trwyddedu arfaethedig ar gyfer busnesau tacsis yn agos at ei chwblhau ac roedd swyddogion yn gweithio gyda Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd y Cyngor i gyhoeddi’r ymgynghoriad drwy borth Sgwrs y Sir.

 

·         Adolygu Datganiad o Egwyddorion - Deddf Gamblo 2005

 

Roedd adolygiad o Ddatganiad o Egwyddorion Deddf Gamblo 2005 yn cael ei gynnal ar draws chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru ac ar ôl ei gwblhau, bydd swyddogion yn cyflwyno cynigion i’r Pwyllgor Trwyddedu.

 

·         Adolygu’r Polisi Masnachu ar y Stryd

 

Roedd y Pwyllgor Trwyddedu eisoes wedi ystyried a chymeradwyo polisi drafft ar gyfer ymgynghoriad a sefydlu Is-grŵp (gan gynnwys y Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd ynghyd â chynrychiolydd o’r Grŵp Ardal Aelodau) i ystyried y polisi ymhellach. Roedd paratoadau yn parhau gyda Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd y Cyngor gyda’r bwriad o gyhoeddi’r ymgynghoriad drwy borth Sgwrs y Sir ar yr adeg briodol. Gan ymateb i gwestiynau, fe soniodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd am gyfarfod yr Is-grŵp ar 24 Tachwedd 2021 ynglŷn â’r gwaith pellach oedd ei angen i geisio barn Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned a Grwpiau Aelodau Ardal ynglŷn â manylion pob ardal unigol er mwyn teilwra’r polisi fel y bo’n briodol, gan ystyried y byddent mewn sefyllfa well i gynghori ar eu hardaloedd penodol.   Roedd y materion i gael eu hystyried yn ymwneud yn bennaf ynglŷn â lle y dylai masnachu ar y stryd gael ei gynnal, os o gwbl. Roedd templed wrthi’n cael ei baratoi i’w ddosbarthu.

 

·         Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003

 

Yn eu cyfarfod diwethaf, fe awdurdododd y Pwyllgor Trwyddedu swyddogion i ymgynghori ar Ddatganiad o Bolisi diwygiedig. Fodd bynnag, roedd hi wedi dod i’r amlwg ers hynny nad oedd fersiwn bresennol y polisi yn cyrraedd gofynion hygyrchedd a byddai angen ei addasu’n sylweddol. O ganlyniad, roedd swyddogion eisiau defnyddio’r templed a luniwyd gan awdurdodau Gogledd Cymru gan nad oedd yna wahaniaethau mawr o ran y cynnwys, dim ond mewn ymddangosiad a fformat. Byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i’r cyfarfod mewn Pwyllgor yn y dyfodol ar ôl yr ymgynghoriad.

 

·         Adolygu Ffioedd a Thaliadau

 

Cafodd y ffioedd a thaliadau ar gyfer gweinyddu trwydded tacsi eu hadolygu ddiwethaf yn 2018 ac er y dylid eu hadolygu’n rheolaidd, bu’n rhaid gohirio'r gwaith hwnnw oherwydd pandemig Covid-19. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i weithredu system ymgeisio ar-lein a fyddai’n gwneud newid mawr i’r broses ymgeisio. Yn ogystal roedd swyddogion wedi derbyn ceisiadau i adolygu taliadau tariff cerbydau hacni a gafodd eu diweddaru ddiwethaf yn 2018.   O ganlyniad, cynigiodd swyddogion i fwrw ymlaen â’r ddau adolygiad ar y cyd ac ymgynghori gyda thrwyddedai presennol gyda’r bwriad o adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2022.

 

Nododd yr Aelodau y diweddariad a chymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig i’r rhaglen  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 554278

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd bod y gwaith o ystyried y cais ar gyfer trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278 yn cael ei ohirio tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu sydd wedi’i drefnu ar gyfer ar 2 Mawrth 2022.

 

Cofnodion:

[Ar ôl datgan cysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu, gadawodd y Cynghorydd Brian Jones y cyfarfod tra oedd yr eitem honno’n cael ei thrafod.]

 

Roedd adroddiad cyfrinachol eisoes wedi’i gyflwyno gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278. Nid oedd yr ymgeisydd na’i gynrychiolydd enwebedig yn bresennol.

 

Dywedodd swyddogion bod yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd enwebedig wedi gofyn am ohirio’r achos gan nad oedd yr ymgeisydd wedi gallu mynychu’r cyfarfod i gefnogi ei gais oherwydd ymrwymiadau gwaith oedd yn gwrthdaro.

 

Dywedodd y Cynghorwr Cyfreithiol beth oedd opsiynau'r Pwyllgor i naill ai cytuno i’r cais a gohirio'r mater tan rhywbryd eto, neu fwrw ymlaen a phenderfynu ar y cais yn absenoldeb yr ymgeisydd. Gofynnwyd i’r Pwyllgor fod yn ystyriol o roi cyfle i’r ymgeisydd gyflwyno'i achos er mwyn sicrhau proses a phenderfyniad teg, ac ystyried petai hyn yn cael ei benderfynu yn ei absenoldeb, ac os na fyddai’r canlyniad yn mynd o blaid yr ymgeisydd, roedd yna berygl o gostau gyda honiad posibl bod yr awdurdod trwyddedu wedi bod yn afresymol dan yr amgylchiadau. O ganlyniad, y cyngor cyfreithiol cryf oedd y dylai aelodau ystyried gohirio'r achos.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y cais i ohirio ynghyd â’r cyngor cyfreithiol a roddwyd. Penderfynodd y Pwyllgor i ohirio'r achos ac yna fe wnaethant ystyried a ddylid galw cyfarfod arbennig i benderfynu ar y cais.  Ar ôl trafodaeth fer, cytunwyd y dylid gohirio dod i benderfyniad ar y cais tan bwyllgor nesaf y cyfarfod oedd wedi cael ei drefnu ar 2 Mawrth 2022.

 

Penderfynwyd bod y gwaith o ystyried y cais ar gyfer trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 554278 yn cael ei ohirio tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu sydd wedi’i drefnu ar gyfer ar 2 Mawrth 2022.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.00am.