Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Arwel Roberts

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Arwel Roberts

 

 

2.

DATGANIAD CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 324 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADOLYGIAD - DEDDF TRWYDDEDU 2003 – DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU pdf eicon PDF 194 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad aelodau o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Cyngor cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol a’i gyflwyno i’r Cyngor llawn yn dilyn hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau’r aelodau, bod y Pwyllgor yn rhoi awdurdod i swyddogion ddechrau ymgynghori, ac -

 

 (a)      os na dderbynnir sylwadau yn sgil yr ymgynghoriad, bod datganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu yn cael ei gyflwyno’r Cyngor llawn i’w gymeradwyo, neu

 

 (b)      os y derbynnir sylwadau yn sgil yr ymgynghoriad bod y swyddogion yn adrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i'r aelodau adolygu Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor cyn cynnal ymgynghoriad ffurfiol a’i gyflwyno i’r Cyngor llawn yn dilyn hynny.  Roedd y polisi yn sefydlu fframwaith lleol ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â cheisiadau ar gyfer caniatâd neu amrywiadau i amodau a thelerau presennol ac roedd yn ofyniad statudol i ymgynghori ac adolygu’r polisi o leiaf bob pum mlynedd.

 

O ystyried y manteision o bolisi cyson ar draws Gogledd Cymru, roedd y mwyafrif o’r newidiadau arfaethedig wedi cael eu drafftio gan chwe awdurdod trwyddedu Gogledd Cymru, ac wedi cael eu hamlygu yn goch i'r aelodau eu hystyried.  Nid oedd newidiadau sylweddol wedi cael eu cynnig oni bai am gynnwys newidiadau deddfwriaethol, cyfrifoldebau’r Bwrdd Iechyd, cryfhau materion yn ymwneud â chyffuriau a chynnwys mentrau lleol.  Roedd y broses ymgynghori yn cynnwys hysbysiad cyhoeddus o’r polisi drafft ynghyd â chysylltu ag ymgyngoreion statudol a’r holl ddeiliaid trwydded.  Bu i’r swyddogion argymell bod unrhyw sylwadau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor ond os na dderbynnir sylwadau, dylid cyflwyno adroddiad i’r Cyngor llawn i gymeradwyo’r polisi drafft.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Datganiad Polisi Trwyddedu drafft a thrafod gyda swyddogion ynghylch gofynion amrywiol a chamau rhesymol yr oedd yr awdurdod lleol yn eu disgwyl gan eiddo trwyddedig.  Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau’r aelodau a sylwadau ynglŷn ag agweddau amrywiol o'r polisi ac fe wnaethant ddarparu eglurder mewn sawl maes.  Roedd prif feysydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·         cadarnhaodd y swyddogion bod gofyniad deddfwriaethol ar bob eiddo â thrwydded i gyflenwi alcohol, i ddarparu dŵr yfed am ddim ar gais

·         roedd yr aelodau wedi cwestiynu’r cyfeiriad arfaethedig at y ddarpariaeth o ystafell cymorth cyntaf a chyfarpar (yn cynnwys diffibriliwr mewn lleoliadau mwy) ac a oedd angen ei gynnwys yn y polisi o ystyried bod hyn yn gyfrifoldeb ar yr eiddo trwyddedig ac nid yr awdurdod trwyddedu.   

Cadarnhaodd y swyddogion y byddai unrhyw ofyniad i ddarparu cyfleusterau cymorth cyntaf yn cael ei benderfynu o fewn yr asesiadau risg a gynhaliwyd gan yr eiddo trwyddedig a hefyd yn ystyried y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.  Fodd bynnag, roedd y briodol bod y polisi’n ystyried rheoli'r eiddo trwyddedig yn ei gyfanrwydd ac i annog cynnal pob cam rhesymol.  Nid oedd amodau penodol ar gyfer eiddo trwyddedig wedi cael eu cynnig o ran darpariaethau cymorth cyntaf o ystyried mai cyfrifoldeb yr eiddo trwyddedig unigol oedd penderfynu beth oedd yn addas iddyn nhw

·         eglurwyd y byddai yfed o boteli yn cael ei ganiatáu oni bai bod amod ar y drwydded eiddo unigol yn gwahardd hynny a chytunodd swyddogion i ailedrych ar y geiriad yn y polisi i sicrhau eglurder o ran hynny

·         byddai rheolyddion ynglŷn ag yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus / ar y stryd yn destun Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

·         roedd atodiad 6 yn y polisi yn cyfeirio at amodau gorfodol nad oedd modd eu newid

·         o ran disgwyliadau hyfforddiant staff, roedd pob eiddo trwyddedig yn gyfrifol am hyfforddiant staff a byddai pob eiddo yn meddu ar ei raglen hyfforddiant ei hun

·         er nad oedd diffiniad o ‘leoliadau mwy’, roedd disgwyl y byddai unrhyw fesurau angenrheidiol ychwanegol, o ystyried maint y lleoliad, yn cael eu penderfynu yn asesiad risg yr eiddo unigol

·         wrth ymateb i sylwadau ynghylch y diffyg cyfeiriad at reoliadau rheoli adeiladu yn adran 5 y polisi, dywedodd y swyddogion fod y Gwasanaethau Cynllunio yn ymgyngoreion statudol ac roedd ganddynt gyfle i roi mewnbwn ar yr adolygiad polisi; cytunodd y swyddogion i ofyn am farn Rheoli Adeiladu yn benodol o ran hynny. 

·         cyfeiriodd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 105 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn atodiad i’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ar raglen gwaith i’r dyfodol arfaethedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2021/22.

 

Yn y cyfarfod diwethaf, hysbyswyd yr aelodau ynghylch yr anawsterau o ran cynnal rhaglen gwaith i'r dyfodol ar gyfer y Pwyllgor dros y deuddeg mis diwethaf yn sgil pandemig y coronafeirws a chytunwyd bod y swyddogion yn ailddrafftio rhaglen gwaith i'r dyfodol i’w chyflwyno yn y cyfarfod nesaf i’w chymeradwyo.  Wrth ddrafftio’r rhaglen gwaith i’r dyfodol, roedd y swyddogion wedi ystyried polisïau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor, ynghyd â dyddiadau adolygu’r polisïau hynny ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl a gynigir gan lywodraeth ganolog.  Dywedodd y swyddogion bod dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol wedi cael eu cadarnhau a byddent yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn atodiad i’r adroddiad.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 yn Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 553562

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 553562.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  553562.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) wedi -

 

(i)            i gais gael ei dderbyn gan Ymgeisydd Rhif

553562 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          i swyddogion atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         i’r Ymgeisydd apelio i’r Llys Ynadon yn erbyn dirymiad ei drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ym mis Gorffennaf 2019 oherwydd trosedd glwyfol honedig. Cafodd yr achos ei gau gan Lys y Goron ym mis Hydref 2019 ac ni chafodd yr Ymgeisydd ei farnu’n euog o unrhyw drosedd;

 

(iv)         i’r Llys Ynadon gyflwyno gorchymyn cydsynio yn cytuno y dylid rhoi’r apêl o’r neilltu a chaniatáu i’r Ymgeisydd wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am drwydded newydd lle byddai'r holl faterion yn cael eu hystyried o'r newydd;

 

(v)          i wybodaeth bellach ynglŷn â’r cais yn cynnwys hanes yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig a’r holl wiriadau arferol eraill gael eu cwblhau i safon foddhaol ynghyd â’r geirdaon a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd;

 

(vi)         ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm ag addasrwydd ymgeiswyr, ac

 

(vii)        i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd y digwyddiadau’n gysylltiedig â’r drosedd honedig, a oedd yn ei gwadu’n bendant, ynghyd â’r prosesau cyfreithiol canlynol a’r effaith niweidiol ar ei fywyd personol.  Roedd yr Ymgeisydd yn awyddus i adennill y drwydded a dychwelyd i’r gwaith yr oedd yn ei garu ac i ddarparu ar gyfer ei deulu.  Atebodd yr Ymgeisydd y cwestiynau a godwyd gan aelodau gan geisio cadarnhau ei fod yn addas i gael trwydded, gan gadarnhau nad oedd wedi bod wrth ei waith pan ddigwyddodd hyn, nid oedd wedi bod yn rhan o unrhyw ddigwyddiad o’r fath yn y gorffennol ac nid oedd ganddo unrhyw broblemau rheoli dicter.  Pwysleisiodd yr Ymgeisydd ei edifeirwch ynghylch y digwyddiad a darparodd sicrwydd ei fod wastad wedi bod, ac yn parhau i fod, yn unigolyn cymwys ac addas i gael trwydded.  Yn ei ddatganiad terfynol, bu i’r Ymgeisydd annog yr aelodau i gymeradwyo ei gais er mwyn iddo allu gweithio a darparu ar gyfer ei deulu.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  553562.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniadau’r Ymgeisydd a'i atebion i gwestiynau.  Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried yr adrannau perthnasol yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor adran 4.12 o’r polisi a oedd yn nodi y byddai materion, nad oeddent wedi arwain at gollfarn droseddol, yn cael eu hystyried ac roedd unrhyw gyfeiriad mewn perthynas â “chollfarn” yn y polisi yn cynnwys materion yr oedd yr un fath ag ymddygiad troseddol ond nid oeddent wedi arwain at gollfarn, ac adran 4.31 a oedd yn nodi, o ran troseddau’n cynnwys / yn ymwneud â thrais, na fyddai trwydded yn cael ei chaniatáu nes yr oedd o leiaf 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd.  Casglodd y Pwyllgor nad oedd yr Ymgeisydd wedi cael ei farnu’n euog o unrhyw drosedd (yn wir ystyriwyd bod achos troseddol Llys y Goron ar y drosedd o glwyfo wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 7.