Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Arwel Roberts a Peter Scott

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Arwel Roberts a Peter Scott

 

 

2.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau i benodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2020/21. Cynigiodd y Cynghorydd Melvyn Mile y dylid penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw Williams.  Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Pete Prendergast yn Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.  Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill, aethpwyd ati i bleidleisio ac felly –

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Brian Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. 

 

 

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2020/21.  Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Pete Prendergast yn Is-gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.  Cynigiodd y Cynghorydd Huw Williams y dylid penodi’r Cynghorydd Brian Jones yn Is-gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Melvyn Mile.  Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill, aethpwyd ati i bleidleisio ac felly –

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Brian Jones yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

4.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Barry Mellor – Cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 11 ar y Rhaglen

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor gysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu ag eitem 11 ar y rhaglen a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem honno’n cael ei thrafod.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 458 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2020 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

7.

ADOLYGIAD O BOLISI AC AMODAU TRWYDDEDU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad o’r Polisi Trwyddedu cyfredol yn ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr a chymeradwyaeth ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol ar ddatganiad drafft o Bolisi Trwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn -

 

 (a)      cymeradwyo’r adolygiad o’r Polisi Trwyddedu cyfredol sy’n ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsi) a Cherbydau, Gyrwyr a Gweithredwyr Hurio Preifat yn unol â Safonau Statudol newydd yr Adran Gludiant ac Argymhellion Cysoni Trwyddedu Tacsi a Cherbydau Hurio Preifat, a

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i ymgynghori gyda’r fasnach a’r cyhoedd ehangach (gan gynnwys sefydliadau lleol perthnasol) ar ddatganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i'r aelodau adolygu’r Polisi a’r Amodau cyfredol ar Drwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat i gynnwys y safonau statudol a gyhoeddwyd gan yr Adran Drafnidiaeth a’r argymhellion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac roedd hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y Polisi Trwyddedu drafft.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynglŷn â chyhoeddi safonau statudol yr Adran Drafnidiaeth ym mis Gorffennaf 2020 (Atodiad A i’r adroddiad) gan ganolbwyntio ar amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn a rheoleiddio’r sector yn well ynghyd â chyhoeddi argymhellion Llywodraeth Cymru (LlC) ym mis Mawrth 2021 (Atodiad B i’r adroddiad) i ddarparu ‘atebion cyflym’ i wella cysondeb safonau trwyddedu a gwella diogelwch y cyhoedd.  O ran awdurdod deddfwriaethol, eglurwyd bod safonau’r Adran Drafnidiaeth yn effeithiol yng Nghymru er bod cyfrifoldeb am bolisi tacsis a cherbydau hurio preifat wedi’i ddatganoli i LlC.  Fodd bynnag, pe bai LlC yn cyflwyno deddfwriaeth i reoleiddio’r materion hynny, ni fyddai safonau’r Adran Drafnidiaeth yn weithredol mwyach.  Gan fod safonau’r Adran Drafnidiaeth wedi’u hystyried wrth ddrafftio argymhellion LlC, cynigiwyd y dylai’r Polisi a’r Amodau Trwyddedu gynnwys yr holl bolisïau ac amodau ategol eraill sy'n ymwneud â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat, ac y dylid cynnal ymgynghoriad pedair wythnos ar y drafft hwnnw ac i'r polisi terfynol gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w gymeradwyo.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, gofynnwyd am farn y swyddogion am y dogfennau cynhwysfawr.  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r broses ymgynghori arfaethedig gyda’r nod o ennyn cymaint o ymateb â phosib’ gan y diwydiant trwyddedig a budd-ddeiliaid a sicrhau bod dealltwriaeth dda o effaith unrhyw newidiadau posib' i'r polisi cyfredol.  Cadarnhaodd y swyddogion nad oedd ganddynt unrhyw bryderon ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i’r polisi, gan eu bod wedi’u bwriadu i wella diogelwch y cyhoedd, gwella cysondeb a gwella’r profiad i gwsmeriaid.  Roedd nifer o argymhellion LlC wedi’u cynnwys eisoes ym mholisi cyfredol y Cyngor.  Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r prif newidiadau polisi’n cael eu hamlygu yn ystod yr ymgynghoriad, ond roedd hefyd yn bwysig i'r rhai oedd yn cael eu heffeithio allu gweld a deall y ddogfen gyfan a deall unrhyw oblygiadau yn ei sgil.  Rhoddwyd manylion am yr ymgynghoriad a fyddai’n cynnwys y diwydiant trwyddedig, grwpiau perthnasol, Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned a’r cyhoedd yn ehangach.  Byddai’n cael ei gynnal yn fras yn unol ag ymgynghoriadau blaenorol (ymgynghoriad ysgrifenedig a sesiynau gweithdai'n cael eu cynnwys ar wahanol adegau mewn gwahanol leoliadau daearyddol o fewn y Sir) cyhyd â bod hynny'n ddiogel o safbwynt Covid, a byddai gwahoddiad i unrhyw un oedd â diddordeb neu gysylltiad gymryd rhan.  Byddai’r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried i ddylanwadu ar y polisi terfynol i’w gyflwyno i’r Pwyllgor i gael ei gymeradwyo.  Cytunodd y swyddogion i ddarparu crynodeb i’r aelodau o’r ymatebion i'r ymgynghoriad a’r adborth a gafwyd yn rhan o’r broses.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn –

 

 (a)      cymeradwyo’r adolygiad o’r Polisi Trwyddedu cyfredol sy’n ymwneud â Cherbydau Hacni (Tacsis) a Cherbydau, Gyrwyr a Gweithredwyr Hurio Preifat yn unol â Safonau Statudol newydd yr Adran Drafnidiaeth ac Argymhellion Cysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat Llywodraeth Cymru, ac

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i ymgynghori gyda’r diwydiant a’r cyhoedd yn ehangach (gan gynnwys sefydliadau lleol perthnasol) ar ddatganiad drafft o'r Polisi Trwyddedu.

 

 

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM GERBYDAU DI-ALLYRIADAU GYDA’R FFLYD O GERBYDAU TRWYDDEDIG pdf eicon PDF 193 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn diweddaru aelodau ar y sefyllfa gyfredol yn ymwneud â Chynllun Peilot Tacsis Gwyrdd Llywodraeth Cymru ar gyfer cerbydau di allyriadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau'r aelodau, derbyn a nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Peilot Tacsi Gwyrdd Llywodraeth Cymru.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am sefyllfa bresennol cynllun peilot Tacsis Gwyrdd Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer cerbydau di-allyriadau a llwyddiant Sir Ddinbych i gael cyllid gan LlC ar gyfer 4 cerbyd trydan ac isadeiledd gwefru yn rhan o'r cynllun peilot.

 

Roedd LlC wedi gosod targed o ddatgarboneiddio'r fflyd dacsis yn llwyr erbyn 2028 a rhagwelid y byddai'r cynllun peilot yn cynorthwyo'r nod hwnnw.  Tair ardal y cynlluniau peilot oedd Prifddinas-ranbarth Caerdydd, Sir Ddinbych a Sir Benfro.  Byddai cyfanswm o 50 o dacsis Nissan trydan oedd yn addas i bobl mewn cadair olwyn yn cael eu prynu, 44 ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd, 4 ar gyfer Sir Ddinbych a 2 ar gyfer Sir Benfro.  Byddai’r isadeiledd gwefru cysylltiedig hefyd yn cael ei osod ym mhob ardal a byddai'r cynllun yn gweithredu ar sail 'profi cyn prynu', a fyddai'n caniatáu i yrwyr tacsis trwyddedig roi cynnig ar y cerbyd yn rhad ac am ddim am 30 diwrnod.  Roedd yn cynnwys gwefru’r cerbyd am ddim, yswiriant, trwyddedu’r cerbyd, cymorth pe bai’n torri i lawr, ac ati.  Byddai’r gyrwyr wedyn yn llenwi arolwg gwerthuso ac yn cael gwybodaeth am gynlluniau/gymorth i brynu cerbydau di-allyriadau neu eu llogi yn y tymor hir.  Byddai’r cynlluniau peilot ar waith am 2-3 blynedd ac roedd yr Adain Rheoli Fflyd yn arwain ac yn gweinyddu’r prosiect yn Sir Ddinbych.  Roedd Swyddog Symudedd y Fflyd yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau am y cynllun.

 

Croesawai’r aelodau’r cynllun fel modd o annog y diwydiant tacsis i newid i gerbydau di-allyriadau ac am y manteision amgylcheddol a fyddai’n dod yn ei sgil, a oedd yn flaenoriaeth gorfforaethol i’r Cyngor.  Wrth drafod, gofynnodd yr aelodau gwestiynau i’r swyddogion ynglŷn â gweithredu’r cynllun yn ymarferol, gan gynnwys am yr isadeiledd gwefru oedd ei angen, a sut y byddai’n cael ei fonitro i sicrhau'r canlyniadau gorau.  Roedd yr aelodau yn awyddus i sicrhau bod ardaloedd gwledig y sir hefyd yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a fyddai’n dod yn sgil y cynllun peilot.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·         roedd gan y Cyngor 4 cerbyd yn ei feddiant yn disgwyl i gael eu trwyddedu ac roedd proses gaffael ar gyfer y peiriannau gwefru 50kW i fodloni anghenion gweithredol y diwydiant tacsis ar ddod.  Rhagwelid y byddai’r peiriannau gwefru’n cael eu gosod o fewn yr 8-10 wythnos nesaf, a byddai’r cynllun peilot yn cychwyn wedyn

·         byddai’r cerbydau’n cael eu cynnig ar sail ‘profi cyn prynu’ am 30 diwrnod a byddai pobl yn cael eu hannog i’w defnyddio gyda sicrwydd y byddai’r isadeiledd a’r system danwydd yn eu lle i gefnogi’r diwydiant i droi at ddefnyddio cerbydau di-allyriadau

·         byddai cyllid grant yn cael ei ddarparu am ddwy flynedd i ddechrau, gyda phosibilrwydd o drydedd pe bai’r data’n dweud bod y cynllun peilot yn llwyddiannus

·         roedd ymdrech aflwyddiannus cwmni tacsis lleol i newid i gerbydau trydan (fel y soniwyd yn y wasg) i raddau helaeth oherwydd y diffyg isadeiledd gwefru ar hyn o bryd i ddarparu ar gyfer model busnes penodol y gweithredwr hwnnw.  Fodd bynnag, roedd yr isadeiledd gwefru’n cael ei ddatblygu i fodloni modelau busnes pob gweithredwr ac roedd disgwyl i'r gweithredwr hwnnw fanteisio ar y cyfle i fod yn rhan o'r cynllun peilot.  Mewn ymateb i bryderon y byddai’r sylw negyddol yn y wasg yn effeithio'n andwyol ar y nifer a fyddai am fod yn rhan o'r cynllun, roedd y swyddogion yn sicrhau'r aelodau bod diddordeb hynod wedi bod yn y Rhyl a Phrestatyn

·         yn rhan o delerau'r grant, byddai’r cynllun yn cael ei dreialu yn  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

ADOLYGU’R POLISI MASNACHU AR Y STRYD pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm), yn diweddaru aelodau ar yr adolygiad o'r polisi masnachu ar y stryd a’r camau nesaf a argymhellir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn -

 

 (a)      cymeradwyo’r polisi masnachu ar y stryd drafft (Atodiad A i’r adroddiad) ar gyfer ymgynghoriad, a

 

 (b)      cefnogi sefydlu is-grŵp i ystyried y polisi ymhellach i gynnwys y Cadeirydd a/neu’r Is-Gadeirydd i gynrychioli’r Pwyllgor Trwyddedu ynghyd â chynrychiolydd o bob Grŵp Ardal yr Aelodau.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am yr adolygiad o bolisi’r Cyngor ar fasnachu ar y stryd ac argymhellodd y camau nesaf ynghyd â’r polisi drafft i’r aelodau ei ystyried.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir ynglŷn â phrosesau deddfwriaethol y drefn ar gyfer masnachu ar y stryd a’r modd yr oedd pethau’n gweithredu ar hyn o bryd yn y Sir.  Roedd hynny’n cael ei adolygu er mwyn darparu polisi oedd yn addas at ei ddiben ac a oedd hefyd yn mynd i'r afael â phryderon pob un y gallai fod yn effeithio arnynt.  Roedd diffiniad masnachu ar y stryd wedi’i nodi yn yr adroddiad, ynghyd â’r eithriadau cyfreithiol ar gyfer mathau penodol o fasnachu a’r rhai a oedd yn cael eu rheoleiddio trwy ddulliau neu awdurdodau eraill.  Roedd y Pwyllgor wedi cytuno ar ymgynghoriad cychwynnol ar bolisi drafft ym mis Rhagfyr 2016, a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus wedi hynny ac ni chafwyd unrhyw sylwadau.  Fodd bynnag, roedd adborth wedi’i dderbyn wedyn gan unigolion eraill, aelodau a thimau’r Cyngor yn sgil yr heriau yr oedd busnesau'r stryd fawr yn eu hwynebu, a oedd yn fwy difrifol oherwydd y pandemig Coronafeirws.  Ystyrid bod angen mwy o waith cyn y gallai polisi oedd yn addas at ei ddiben gael ei gyflwyno'n ôl i'r Pwyllgor.  Yn dilyn hynny, roedd gofyn i’r aelodau ystyried y polisi drafft diweddaraf i ymgynghori ymhellach arno a sefydlu Is-grŵp i drafod y polisi ymhellach.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cytunodd yr aelodau ei bod yn bwysig sicrhau sut y gallai’r polisi gefnogi busnesau sefydlog a masnachwyr ar y stryd fel ei gilydd yn y ffordd orau, yn enwedig gan fod gwedd canol trefi a’r stryd fawr yn newid a gan ystyried effaith y pandemig Coronafeirws.  Oherwydd yr heriau, cytunwyd bod angen hyblygrwydd yn y polisi a chydnabyddiaeth bod rhai busnesau sefydlog wedi addasu eu harferion i weithredu eu busnes mewn ymateb i'r pandemig, gan gynnwys defnyddio lle y tu allan.  Pwysleisiwyd yr anghysondeb ar draws y Sir ar hyn o bryd o ran arferion masnachu hefyd, a oedd i raddau helaeth gan nad oedd polisi ffurfiol mewn grym a bod dibyniaeth ar y rheoliadau cyfredol.  Eglurodd y swyddogion y byddai masnachwyr sefydlog oedd yn defnyddio’r palmant angen trwydded balmant gan yr Adran Briffyrdd ond nid oedd y rhai a oedd yn masnachu o fewn cwrtil eu heiddo (6-9 troedfedd) angen trwydded.  Ychwanegodd y Cynghorydd Joan Butterfield fod llefydd bwyta angen caniatâd cynllunio ar gyfer byrddau a chadeiriau mewn ardal benodol y tu allan i’r eiddo.  Er bod y swyddogion yn awyddus i bolisi gael ei gyflwyno ar y cyfle cyntaf, roedd yn allweddol bod y polisi'n gadarn ac yn addas at ei ddiben.

 

Trafododd yr aelodau argymhellion yr adroddiad ac roedd y Cynghorydd Brian Jones yn teimlo y byddai'n fuddiol ffurfio Is-grŵp gyda chynrychiolaeth aelodau etholedig o bob cwr o’r Sir i ystyried y polisi’n fanylach.  Roedd rhywfaint o drafod p’un a fyddai’n well i'r Is-grŵp gynnwys aelodaeth drawsbleidiol neu o wahanol ardaloedd daearyddol a chytunwyd wedi hynny y byddai'r elfen ddaearyddol yn well.  Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones, ac eiliodd y Cynghorydd Joan Butterfield, y dylid cymeradwyo’r polisi drafft i ymgynghori arno a chefnogi creu Is-grŵp a fyddai'n cynnwys Cadeirydd a/neu Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a chynrychiolaeth o bob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau.  Wrth bleidleisio –

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn –

 

 (a)      cymeradwyo’r polisi masnachu ar y stryd drafft (Atodiad A i’r adroddiad) i ymgynghori arno, a

 

 (b)      cefnogi sefydlu Is-grŵp i ystyried y polisi ymhellach, gan gynnwys y Cadeirydd  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU

Cael diweddariad ar lafar gan Reolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r diweddariad ar lafar a chyflwyno rhaglen gwaith i'r dyfodol i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w chymeradwyo.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd ddiweddariad ar lafar gan egluro’r anawsterau wrth gynnal rhaglen gwaith i'r dyfodol i’r Pwyllgor dros y deuddeng mis diwethaf oherwydd effaith y pandemig Coronafeirws, a’r ymdrechion i ymateb iddo.  Yn dilyn hynny, argymhellwyd y dylai’r swyddogion ailddrafftio’r rhaglen gwaith i’r dyfodol i gynnwys nifer o eitemau pwysig mewn perthynas â thacsis (gan gynnwys unrhyw fentrau anogaeth ar gyfer cerbydau trydan neu gynlluniau a fyddai’n dod i’r amlwg) a’r polisi ar fasnachu ar y stryd, ynghyd â nifer o adolygiadau llai oedd eu hangen, a chyflwyno rhaglen ffurfiol o waith i’r dyfodol i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w chymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r diweddariad ar lafar a bod rhaglen ffurfiol o waith i'r dyfodol yn cael ei chyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w chymeradwyo.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 yn Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 [Ar y pwynt hwn (11.10 am) cymerodd y pwyllgor egwyl fer.]

 

 

Dogfennau ychwanegol:

11.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 551134

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 551134.

11.00 am

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  551134.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) wedi –

 

(i)            i gais gael ei dderbyn gan Ymgeisydd Rhif

551134 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          i swyddogion atgyfeirio'r cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         i’r Ymgeisydd gael 8 o bwyntiau cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA am oryrru ym mis Gorffennaf 2018 (3 phwynt)  a Gorffennaf 2019 (5 pwynt) a chael collfarn am Gynllwynio/Trin Nwyddau wedi’u Dwyn yn 2010, a oedd i gyd wedi’u datgan gan yr Ymgeisydd a’u cadarnhau yn dilyn y gwiriadau arferol;

 

(iv)         i ragor o wybodaeth gael ei derbyn ynglŷn â’r achos, gan gynnwys hanes yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig gydag awdurdod lleol arall ynghyd â’i addasrwydd fel gyrrwr trwyddedig a geirdaon (wedi’u hatodi i’r adroddiad);

 

(v)          ystyried polisi’r Cyngor ynghlwm â pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas yw ymgeiswyr; ac

 

(vi)         i’r Ymgeisydd gael ei wahodd i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu (JT) yr adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Darparodd yr Ymgeisydd rywfaint o wybodaeth gefndir a'r rhesymau y tu ôl i'w gais ar ôl symud i'r ardal.  Fe wnaeth hefyd ddarparu manylion ei gyflogaeth ar hyn o bryd, fel gyrrwr trwyddedig ag awdurdod lleol arall, a soniodd am y gwaith roedd yn ei wneud yn Sir Ddinbych o ran contractau ysgol a hurio preifat.  Rhoddodd yr Ymgeisydd sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad wrth yrru a chyfeiriodd at ei eirdaon a oedd yn brawf o’i gymeriad.  Fe wnaeth hefyd ateb cwestiynau a ofynnwyd gan yr aelodau gan geisio cadarnhau ei fod yn addas i gael trwydded, a darparu mwy o eglurhad ynglŷn â'i drefniadau gwaith ar hyn o bryd rhwng ardaloedd awdurdodau lleol a manylu ar yr amgylchiadau oedd ynghlwm â'r troseddau goryrru.  Cadarnhaodd nad oedd unrhyw bwyntiau cosb eraill i ddod ar ei drwydded a dywedodd ei fod yn fwy gwyliadwrus ar ôl cael y gosb am oryrru a’i fod yn ymddwyn yn ddiogel wrth yrru.  Dywedodd yr Ymgeisydd nad oedd ganddo unrhyw beth arall i’w ychwanegu at ei gais. 

 

Fe giliodd y Pwyllgor i ystyried y cais ond wrth drafod roedd angen eglurhad ynglŷn â phwynt arall ac fe alwyd pawb yn ôl.  Cadarnhaodd y swyddogion fod gwaith hurio preifat wedi’i archebu ymlaen llaw yn cael ei ganiatáu ar draws ardaloedd awdurdodau lleol cyhyd â bod y gyrrwr a’r cerbyd wedi’u trwyddedu gan awdurdod lleol.  Fe giliodd y Pwyllgor eto i barhau i drafod ac yn dilyn hynny –

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais ar gyfer trwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  551134.

 

Dyma resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus, fel yr oeddent i'w gweld yn yr adroddiad, ynghyd â chyflwyniad llafar yr Ymgeisydd a'i atebion i gwestiynau.  Roedd yr aelodau hefyd wedi ystyried adrannau perthnasol polisi’r Cyngor ynghlwm â pherthnasedd euogfarnau a pha mor addas yw ymgeiswyr.

 

Yn benodol, ystyriodd y Pwyllgor 4.42 yn Natganiad Polisi’r Cyngor ynghylch Addasrwydd Ymgeiswyr a Thrwyddedau yn y Masnachau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Roedd yn datgan, lle’r oedd gan ymgeisydd 7 pwynt neu fwy ar eu trwydded DVLA am fân droseddau traffig neu debyg, na fyddai trwydded yn cael ei rhoi oni bai fod o leiaf 5 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau’r ddedfryd a roddwyd. Casglodd y Pwyllgor y byddai cwblhau'r ddedfryd (a oedd yn 4 blynedd o'r trosedd cyntaf  ...  view the full Cofnodion text for item 11.