Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Barry Mellor, Arwel Roberts, Rhys Thomas a Huw Williams

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Barry Mellor, Arwel Roberts, Rhys Thomas a Huw Williams

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad eu mynegi.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw faterion brys eu codi.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 441 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019 (copi’n amgaeedig).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019.

Materion yn Codi -

Tudalen 10: Eitem 5 Newidiadau Arfaethedig i Ffioedd a Thaliadau Trwyddedu Tacsi - ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn dilyn yr ymgynghoriad angenrheidiol ac felly byddai'r ffioedd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020.

Tudalennau 13 a 14, Eitem 8 Polisi Casgliadau Tŷ i Dŷ Arfaethedig ac Eitem 9 Polisi Casgliadau Stryd Arfaethedig - ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau mewn ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol ar y polisïau arfaethedig a byddai'r ddau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020.

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019 fel cofnod cywir.

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Bydd y Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol ar sail y bydd yn cynnwys datgelu gwybodaeth wedi'i wahardd fel y diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

5.

ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 541292

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif  541292.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif 541292 i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) yn dilyn -

 

(i)            cais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

541292 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          swyddogion wedi cyfeirio'r cais adnewyddu at y Pwyllgor Trwyddedu i'w benderfynu o ystyried amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         yr Ymgeisydd wedi cronni 3 phwynt cosb ar ei Drwydded Yrru DLVA am oryrru ym mis Mai 2017 ac wedi cael cosb ariannol yn ymwneud â dwy drosedd am yrru cerbyd dros bwysau ym mis Rhagfyr 2019, y ddau wedi eu datgan gan yr Ymgeisydd a'u cadarnhau yn dilyn gwiriad arferol;

 

(iv)         gwybodaeth bellach ynghylch yr achos gan gynnwys esboniad yr Ymgeisydd o'r amgylchiadau yn ymwneud â'r euogfarnau ynghyd â'i addasrwydd fel gyrrwr trwyddedig a geirda cymeriad (ynghlwm i’r adroddiad);

 

(v)          polisi'r Cyngor o ran addasrwydd ymgeiswyr a'r rhesymeg y tu ôl i argymhelliad y swyddog i wyro oddi wrth y polisi hwnnw a chaniatáu'r cais adnewyddu o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn yr achos hwn, ac;

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yng nghwmni ei fab a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau'r pwyllgor a'i fod yn hapus i symud ymlaen.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd ei fod yn yrrwr tacsi hirsefydlog a phrofiadol heb unrhyw bryderon blaenorol a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei ymddygiad gyrru.  Esboniodd hefyd yr amgylchiadau o amgylch yr euogfarn goryrru a oedd i gael ei dynnu oddi ar ei drwydded cyn bo hir a chadarnhaodd nad oedd yn cario teithwyr ar y pryd.  O ran yr ail drosedd, eglurodd ei fab mai ei fai oedd am iddo gamgyfrifo'r terfyn pwysau gan arwain at ei dad yn ddiarwybod yn gyrru cerbyd dros ei bwysau.  Rhoddwyd sicrwydd na wnaed unrhyw beth yn fwriadol yn hynny o beth a bod camau wedi'u cymryd ers hynny i sicrhau na fyddai hyn yn digwydd eto yn y dyfodol.  Gan nad oedd unrhyw gwestiynau pellach, crynhodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd y rhesymeg y tu ôl i argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais adnewyddu o ystyried yr amgylchiadau penodol yn yr achos hwn.  Yn ei ddatganiad olaf mynegodd yr Ymgeisydd ei edifeirwch dros y troseddau ac ailadroddodd na chawsant eu cyflawni'n fwriadol.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif 541292 i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.

 

Dyma resymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu -

 

Ystyriodd yr aelodau’r cais a’r cyflwyniadau yn yr achos yn ofalus.  Derbyniwyd bod yr Ymgeisydd yn yrrwr trwyddedig profiadol gyda record flaenorol lân ac wedi bod yn agored ac yn onest wrth ddatgan ei droseddau moduro.  Roedd y cyfeiriadau niferus sy'n tystio i gymeriad da'r Ymgeisydd hefyd wedi'u hystyried.  Roedd yr aelodau wedi canfod bod yr Ymgeisydd yn gredadwy ac yn ddilys yn ei anerchiad i'r Pwyllgor ac wedi derbyn yr esboniad a roddwyd ynghylch amgylchiadau'r troseddau a'r edifeirwch a ddangoswyd.  O ystyried yr amgylchiadau eithriadol hynny, roedd yr aelodau'n fodlon bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  O ganlyniad, penderfynwyd gwyro oddi wrth bolisi cyfredol y Cyngor mewn perthynas â throseddau defnyddio cerbydau ar yr achlysur hwn a chaniatáu'r cais adnewyddu.  Yng ngoleuni'r euogfarnau a gafwyd, ystyriwyd ei bod yn briodol rhybuddio'r Ymgeisydd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd gyfleu'r penderfyniad a'r rhesymau felly i'r Ymgeisydd a'i rybuddio i fod yn ymwybodol o'r rheolau a'r rheoliadau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 543310

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif  543310.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif 543310 i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan roi rhybudd ffurfiol iddo ynghylch ei ymddygiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) yn dilyn -

 

(i)            cais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

543310 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          roedd swyddogion wedi cyfeirio'r cais adnewyddu at y Pwyllgor Trwyddedu i'w benderfynu o ystyried amgylchiadau penodol yr achos;

 

(iii)         yr Ymgeisydd wedi cronni 6 phwynt cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA ym mis Awst 2019 am ddefnyddio ffôn symudol neu ddyfais llaw wrth yrru cerbyd modur a oedd wedi'i ddatgan gan yr Ymgeisydd a'i gadarnhau yn dilyn gwiriad arferol fel rhan o'r cais adnewyddu;

 

(iv)         gwybodaeth bellach ynghylch yr achos gan gynnwys esboniad yr Ymgeisydd o'r amgylchiadau yn ymwneud â'r euogfarnau gyrru ynghyd â'i addasrwydd fel gyrrwr trwyddedig;

 

(v)          polisi'r Cyngor o ran addasrwydd ymgeiswyr a'r rhesymeg y tu ôl i argymhelliad y swyddog i wyro oddi wrth y polisi hwnnw a chaniatáu'r cais adnewyddu o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn yr achos hwn, a;

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol ac nid oedd wedi dynodi a oedd yn bwriadu bod yn bresennol ai peidio.  Cadarnhaodd swyddogion fod y papurau perthnasol a hysbysiad o'r gwrandawiad wedi cael eu cyflwyno.  Ystyriodd y Pwyllgor bod digon o wybodaeth wedi ei ddarparu er mwyn iddynt benderfynu ar y cais a chytunwyd mynd ymlaen â’r achos yn absenoldeb yr Ymgeisydd.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth yr adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos.  Ymatebodd i gwestiynau aelodau ac ymhelaethodd ymhellach ar y manylion yn ymwneud â’r drosedd a chadarnhaodd fod cyfrif yr Ymgeisydd wedi’i gadarnhau gan yr Heddlu.  Tynnwyd sylw'r aelodau at adrannau perthnasol polisi'r Cyngor mewn perthynas â defnyddio ffôn symudol wrth yrru ac amgylchiadau unigryw'r achos ynghyd ag ystyried cymeriad cyffredinol yr Ymgeisydd a arweiniodd at argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r adnewyddu’r cais.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif 543310 i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan roi rhybudd ffurfiol iddo ynghylch ei ymddygiad.

 

Dyma resymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu -

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried amgylchiadau penodol yr achos yn ofalus fel y nodir yn yr adroddiad ynghyd ag ymateb swyddogion i gwestiynau arno.  Nododd yr aelodau record lân yr Ymgeisydd yn flaenorol a'i gymeriad da fel gyrrwr trwyddedig a'i onestrwydd wrth ddatgan yr euogfarn ar yr adeg briodol.  Derbyniodd yr aelodau hefyd gyfrif yr Ymgeisydd o'r digwyddiadau a gadarnhawyd gan yr Heddlu a chanfuwyd ei fod, ar adeg y drosedd, wedi bod yn mynd trwy amgylchiadau unigryw heb unrhyw fai arno'i hun.  O ganlyniad, canfu'r aelodau fod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded ac o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn yr achos hwn cytunwyd i wyro oddi wrth bolisi'r Cyngor o ran defnyddio ffôn symudol wrth yrru a chaniatáu'r cais adnewyddu.  Roedd yr aelodau hefyd o'r farn ei bod yn briodol cyhoeddi rhybudd ffurfiol ynghylch y drosedd ac ymddygiad yn y dyfodol.  Er yr ystyriwyd bod digon o wybodaeth wedi'i darparu i alluogi penderfyniad i gael ei wneud y tro hwn, gofynnodd y Pwyllgor i'w siom gael ei chyfleu'n uniongyrchol i'r Ymgeisydd ynghylch ei ddiffyg presenoldeb yn y gwrandawiad o'i gais.

 

Ar y pwynt hwn (10.25am) cymerodd yr aelodau egwyl am luniaeth.

 

 

7.

POLISI/AMODAU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 188 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi wedi'i amgáu) yn cynnig nifer o ddiwygiadau i’r Polisi/Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol cyn cymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       Awdurdodi swyddogion i ymgynghori ynghylch y diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat a’r Amodau, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor, ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, byddant yn dod i rym 1 Mehefin 2020,   

 

(b)       Os derbynnir unrhyw wrthwynebiad, bydd y Pwyllgor Trwyddedu yn ystyried y gwrthwynebiadau hynny yn ystod y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2020 gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad) dim hwyrach nag 1 Gorffennaf 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cynnig nifer o welliannau i'r Polisi ac Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat i'w ymgynghori a'u cymeradwyo'n ffurfiol yn dilyn ei adolygiad tair blynedd.

 

Ym mis Rhagfyr 2016 cymeradwyodd y Pwyllgor Trwyddedu Bolisi ac Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat o fis Gorffennaf 2017 ymlaen. Ar ôl adolygu'r polisi yn unol â gofynion, cynigiwyd nifer o welliannau i adlewyrchu'r ddau newid yn y gweithdrefnau gweithredu (h.y. cael gwared ar y system pwyntiau cosb) ac i egluro'r amodau presennol.  Argymhellwyd y dylid ymgynghori'n ffurfiol ag unrhyw newidiadau cyn eu gweithredu.

 

Ymhelaethodd swyddogion ar y meysydd arfaethedig i'w diwygio fel a ganlyn -

 

·         Arwyddion / Hysbysebu / Lifrai (Hurio Preifat) - rhoi'r gorau i ddefnyddio arwyddion drws magnetig

·         Eithriad Plât - dirprwyo i swyddogion i ddelio â cheisiadau eithrio

·         Camau Disgyblu - diwygio a disodli cyfeiriadau at gynllun pwyntiau cosb

·         Cynllun Pwyntiau Cosb - diwygio a dileu cyfeiriadau at gynllun pwyntiau cosb

·         Cyfleusterau ar gyfer Defnyddwyr Cadair Olwyn - tynnu “wrth ddrws cefn yr ochr agosaf”

·         Gwrthdrawiadau - diwygiad i sicrhau bod gweithdrefn ar waith ar gyfer cerbydau crog

·         Arwyddion / Hysbysebu / Lifrai (Cerbyd Hacni) - cael gwared ar y gofyniad am arwydd to neu fesurydd ar gyfer archwiliad / prawf cychwynnol ar gerbydau.

 

Trafodwyd y materion canlynol ymhellach -

 

·         Camau Disgyblu - cadarnhawyd, o ran dirprwyaethau swyddogion, bod y weithdrefn ar gyfer ataliadau a dirymiadau yn nodi bod penderfyniadau i'w cymryd mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ynghyd â swyddogion cyfreithiol perthnasol.

·         Cyfleusterau ar gyfer Defnyddwyr Cadair Olwyn - eglurwyd bod llawer o gerbydau newydd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn caniatáu ar gyfer gwahanol bwyntiau mynediad a byddai dileu'r cyfyngiad mynediad cyfredol yn caniatáu mynediad o’r cefn ac yn darparu ar gyfer y cerbydau hynny. 

Nodwyd y gallai problemau gael eu hachosi ar ranciau tacsi oherwydd lle i ddarparu ar gyfer mynediad o’r cefn a bod llawer o gerbydau o'r fath sy'n arddangos arwyddion sy'n gofyn am bellter digonol yn cael eu cadw'n glir at y diben hwnnw.

·         Gwrthdrawiadau - Roedd y Cynghorydd Joan Butterfield yn awyddus i sicrhau bod costau a achosir gan berchnogion cerbydau yn cael eu cadw mor isel â phosibl a gofynnodd am welliant pellach i nodi, mewn achosion lle roedd angen prawf cydymffurfio yn dilyn gwrthdrawiad, y gellir defnyddio'r prawf cydymffurfio fel un o’r profion cydymffurfio rheolaidd gofynnol. 

Er mwyn cydymffurfio â'r cais hwnnw, cytunodd swyddogion i newid yr adran berthnasol i ddarllen fel a ganlyn “Os bydd trwydded yn cael ei hatal oherwydd natur y difrod, bydd y perchennog, ar ei gost ei hun, yn cael y cerbyd wedi'i brofi o dan ofynion prawf cydymffurfio yng Nghanolfan Rheoli Fflyd a Chynnal a Chadw Cerbydau CSDd.  Yn dilyn hynny, dylent gyflwyno'r Dystysgrif Cydymffurfiaeth i'w harchwilio gan swyddog awdurdodedig cyn adfer y drwydded.  Os yw'n berthnasol, gall y perchennog ddewis defnyddio'r prawf cydymffurfio hwn fel un o'r profion cydymffurfio blynyddol sy'n ofynnol o dan adran 2.5 / 5.5. Dylai perchnogion nodi y bydd hyn yn cyflwyno dyddiad dyledus newydd ar gyfer y prawf cydymffurfio bob 6 mis nesaf”.  Holodd y Cynghorydd Brian Jones a oedd yn briodol ei gwneud yn ofynnol i bob cerbyd gael ei brofi yn y Ganolfan Rheoli Fflyd ym Modelwyddan, yn enwedig o ystyried y pellter i berchnogion Llangollen.  Esboniodd swyddogion mai'r rhesymeg y tu ôl i'r gofyniad oedd sicrhau bod y cerbydau hynny sy'n cael difrod sylweddol ac atgyweiriad dilynol yn cael eu profi'n briodol i safon gyson mewn canolfan ddiduedd.  Nodwyd bod y Pwyllgor Trwyddedu wedi cytuno o'r blaen i ystyried symud i brofion  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR WAITH YR ADAIN DRWYDDEDU YN 2019 pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi wedi’i amgáu), yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar waith yr Adain Drwyddedu yn ystod 2019.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar sylwadau aelodau, nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru aelodau ar waith yr Adran Drwyddedu yn ystod 2019 a oedd yn canolbwyntio ar faterion gweithredol a rheoli.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu data ystadegol ynghylch nifer y trwyddedau a roddwyd, cwynion a cheisiadau gwasanaeth a dderbyniwyd yn ymwneud â'r prif swyddogaethau - Alcohol ac Adloniant; Trwyddedu Hacni a Hurio Preifat; Gamblo, Hapchwarae a Loterïau; Masnachu ar y Stryd; Casgliadau Elusennau a Metel Sgrap ynghyd â materion ategol eraill gan gynnwys canlyniadau llwyth gwaith cyffredinol a chyfathrebu.  Roedd materion rheoli yn cynnwys cyfeirio at bolisïau, ffioedd, cwynion yn erbyn y gwasanaeth ynghyd ag ystyriaethau llwyth gwaith yn y dyfodol.  Ymhelaethodd swyddogion ar wahanol agweddau ar yr adroddiad ac egluro materion penodol mewn ymateb i gwestiynau aelodau.

 

Canolbwyntiodd y prif feysydd trafod ar swyddogaethau a materion rheoli ar -

 

·         Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat - roedd dau gais gyrrwr a wrthodwyd gan swyddogion wedi bod yn llwyddiannus ar apêl i'r Llys Ynadon ar ôl cyflwyno tystiolaeth bellach na chyflwynwyd adeg y cais. 

Trafododd yr aelodau gyda swyddogion gost amddiffyn apêl ac a fyddai rhinwedd mewn cyflwyno mecanwaith ar gyfer ceisiadau penodol i yrwyr (yr oedd swyddogion yn ystyried y byddai'n haeddu achosion gwrthod neu ffiniol lle y gellid dadlau'n gadarn dros ganiatáu a gwrthod ac y gallent gyfiawnhau gwyriad o'r polisi) i'w ddwyn gerbron y Pwyllgor Trwyddedu i'w benderfynu.  Byddai proses o'r fath yn rhoi cyfle pellach i'r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth bellach i gefnogi ei gais mewn modd amserol a thrwy hynny’n helpu i osgoi costau llys posibl i'r holl bartïon dan sylw.  Cadarnhaodd yr aelodau fod ganddynt hyder yn y broses o ddirprwyo pwerau a roddir i swyddogion at y diben hwnnw ond cytunwyd y byddai teilyngdod i unrhyw geisiadau nad oeddent yn amlwg ac yn achosi dadl i swyddogion gael eu dwyn yn ôl gerbron y Pwyllgor Trwyddedu i'w penderfynu.  Nodwyd bod yr opsiwn o ddod â materion yn ôl gerbron aelodau yn gynhenid ​​mewn unrhyw ddirprwyaeth i swyddogion ac felly nid oedd angen mecanwaith penodol at y diben hwnnw o fewn y polisi.

·         Casgliadau Elusennol - cadarnhawyd bod nifer y casgliadau elusennol a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys crynhoad o'r un elusen yn casglu mewn gwahanol ardaloedd o'r sir, a bod angen trwyddedu casgliadau elusennol o ddillad o dŷ i dŷ gyda'r mwyafrif o elusennau mawr yn cael Gorchymyn Eithrio gan y Swyddfa Gartref at y diben hwnnw.

·         Metel Sgrap - darparwyd manylion y rheoliadau ar waith sy'n ymwneud â safleoedd a chasglwyr metel sgrap a chadarnhawyd bod angen trwyddedu unrhyw gasgliad o fetel sgrap; sganiwyd gwefannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook yn rheolaidd ar gyfer hysbysebion yn ymwneud â metel sgrap er mwyn sicrhau cydymffurfiad.

·         Cyfathrebu - nodwyd bod cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i bostio negeseuon a chytunodd swyddogion i gylchredeg dolenni ar gyfer Facebook a Twitter i’r tudalennau Safonau Trwyddedu a Masnachu er gwybodaeth a diddordeb i’r aelodau.

·         Ffioedd - mewn ymateb i gwestiynau atgoffwyd aelodau bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau trwyddedu tacsi yn eu cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr 2019 ac o gofio na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori byddent yn effeithiol o 1 Ebrill 2020. Eglurwyd bod swyddogion yn cynnal adolygiad blynyddol o'r holl ffioedd a thaliadau a ddygwyd gerbron y Pwyllgor Trwyddedu i'w cymeradwyo cyn ymgynghori a chymeradwyo'n ffurfiol yr agweddau gweithredol gan y Pennaeth Gwasanaeth.  Gosodwyd y ffioedd yn seiliedig ar y costau gwirioneddol yr aethpwyd iddynt ac ni ellid gwneud elw.

 

Wrth ystyried llwyth gwaith yn y dyfodol, bu trafodaeth bellach ar y materion a  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU AR GYFER 2020/21 pdf eicon PDF 181 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi wedi’i amgáu) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn atodiad i’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2020/21.

 

Wrth ystyried y rhaglen waith cyfeiriwyd at yr adolygiad blynyddol o Ffioedd a Thaliadau ac eglurodd swyddogion fod rhai ffioedd yn statudol tra bod eraill yn ddewisol.  Ni ellid gwneud elw o'r ffioedd dewisol hynny y mae'n rhaid iddynt dalu'r costau yr eir iddynt am weinyddu'r swyddogaeth benodol honno yn unig.  O ran ffioedd trwyddedu cerbydau hacni / hurio preifat, dyfeisiwyd methodoleg fanwl i ganiatáu ar gyfer adolygiad manwl o'r ffioedd a'r taliadau hynny yn unol â'r prosesau trwyddedu perthnasol a chytunwyd i gynnwys y wybodaeth honno fel rhan o'r adolygiad blynyddol nesaf a ddaeth gerbron y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2020. Nododd yr aelodau hefyd y sesiwn hyfforddi trwyddedu a gynlluniwyd ym mis Medi a gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am drosolwg o'r mathau o gwynion a dderbynnir gan y gwasanaeth ynghyd â'r broses gwynion a ddilynir yn hynny o beth i fod ar gael fel rhan o’r sesiwn hyfforddi honno.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn atodiad i’r adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 a.m.