Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW Dywedodd y
Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf Alison Lessels, Cynghorwr Cyfreithiol y
Pwyllgor Trwyddedu, a mynegodd werthfawrogiad y Pwyllgor o’i chyngor gwerthfawr
a’i gwasanaeth yn ystod ei chyfnod gyda'r Cyngor a dymuno'n dda iddi ar gyfer y
dyfodol. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr
Merfyn Parry a Rhys Thomas. Cofnodion: Y Cynghorwyr
Merfyn Parry a Rhys Thomas. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 365 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019 (copi ynghlwm). Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I FFIOEDD A THALIADAU TRWYDDEDU TACSI PDF 198 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
ceisio cymeradwyaeth aelodau i’r ffioedd a thaliadau arfaethedig sy’n ymwneud
â’r drefn trwyddedu tacsis. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai
aelodau’n - (a) cymeradwyo’r
ffioedd a’r taliadau a fanylir arnynt yn Atodiad A yr adroddiad; (b) awdurdodi
swyddogion i gyhoeddi’r newidiadau i’r ffioedd Trwyddedu Tacsi mewn papur
newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol, ac os na dderbynir unrhyw
wrthwynebiad, byddant yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2020. (c) lle derbynnir
unrhyw wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau
hynny yn eu cyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad)
dim hwyrach nag 1 Ebrill 2020. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod Y Cyhoedd adroddiad
(a gylchredwyd ymlaen llaw) yn ceisio cymeradwyaeth yr aelodau o’r ffioedd a’r
taliadau arfaethedig yn ymwneud â’r drefn trwyddedu tacsi. Gallai’r Cyngor godi tâl am drwyddedau mewn perthynas
â thrwyddedau
cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat i dalu costau‘n ymwneud â gweinyddu, archwilio, rheoli
a goruchwylio.
Nid oedd
modd cynnwys costau gorfodi ac nid oedd modd gwneud elw. O ganlyniad, dyfeisiwyd methodoleg ffioedd a
thaliadau i alluogi adolygiad manwl o ffioedd a thaliadau yn unol â’r broses
drwyddedu berthnasol. Byddai unrhyw
newid i’r ffioedd a’r taliadau yn destun hysbysiad cyhoeddus a byddai unrhyw
wrthwynebiad yn cael ei gyflwyno ger bron y pwyllgor. Os na fyddai unrhyw wrthwynebiad, byddai’r
ffioedd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020. Nodwyd mai’r tro diwethaf y cynyddwyd y
ffioedd a’r taliadau oedd ym mis Ebrill 2018 er fod ffioedd cerbydau wedi aros
yr un peth am 11 o flynyddoedd. Wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau, eglurwyd bod y
swyddogion yn cynnal adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ac, er eglurder,
roedd y tabl o ffioedd arfaethedig yn cynnwys ffioedd o fewn y drefn drwyddedu
yr oedd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn gyfrifol amdanynt a’r
ffioedd yr oedd angen cymeradwyaeth yr aelodau. Roedd y Pennaeth Gwasanaeth wedi cadarnhau ei fod yn
cefnogi’r ffioedd a’r taliadau fel y cynigiwyd. Wrth nodi gostyngiad o ran rhai o’r ffioedd, dywedodd y
swyddogion eu bod wedi llwyddo i wneud arbedion ariannol drwy arbedion o fewn y
broses. PENDERFYNWYD y byddai
aelodau’n - (a) cymeradwyo’r
ffioedd a’r taliadau a fanylir arnynt yn Atodiad A yr adroddiad; (b) awdurdodi
swyddogion i gyhoeddi’r newidiadau i’r ffioedd Trwyddedu Tacsi mewn papur
newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol, ac os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiad, byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020, a (c) lle derbynnir
unrhyw wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau
hynny yn ei gyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad)
dim hwyrach nag 1 Ebrill 2020. |
|
ADOLYGU’R BROSES GORSAFOEDD PROFI CYMERADWY PRESENNOL PDF 205 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
ceisio adolygiad yr aelodau o’r broses bresennol i enwebu gorsafoedd profi
cymeradwy i gynnal profion cydymffurfio ar gerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat yn y sir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD i
edrych ar broses profi mewnol fel dewis a ffafrir ond yn amodol ar adolygiad ac
ymgynghoriad pellach gyda'r holl bartïon perthnasol. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ( a gylchredwyd
ymlaen llaw) yn ceisio adolygiad yr aelodau o’r broses bresennol i enwebu
gorsafoedd profi cymeradwy i gynnal profion cydymffurfio ar gerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat yn y sir. Roedd gan Sir Ddinbych 8 gorsaf brofi wedi’u henwebu ar
draws y Sir, 5 yn y Gogledd (yn cynnwys Canolfan Rheoli Fflyd y Sir ym
Modelwyddan) a 3 yn y De, yr oedd y Gwasanaeth Fflyd yn eu cymeradwyo bob
blwyddyn. Esboniodd y Swyddogion y
rhesymeg y tu ôl i’r adolygiad o ystyried y pryderon y gallai’r amrywiad o ran
cost y ffioedd a godir gan garejys unigol am brofion cydymffurfio a phrisiau
cystadleuol fod yn gysylltiedig â lleihad yn ansawdd y prawf, ynghyd â
phryderon nad oedd y broses gymeradwy ar gyfer gorsafoedd profi trwyddedig yn
cael ei dilyn yn llawn gan arwain at anghyfartaledd o ran safon y profion a
oedd yn cael eu cynnal. Roedd pryder hefyd ynghylch nifer
ac amlder y profion a oedd yn cael eu cynnal gan rai garejys a oedd yn arwain
at ddiffyg cysondeb ar draws y broses profi gyfredol. O ganlyniad roedd swyddogion wedi ystyried
nifer o ddewisiadau i fynd i’r afael â’r materion hynny ac roedd manteision ac
anfanteision pob un wedi’u nodi yn yr adroddiad. Roedd y dewisiadau canlynol wedi’u cyflwyno i’w hadolygu
- ·
dim newid i'r gorsafoedd profi awdurdodedig cyfredol ·
gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan garejys MOT ar gyfer Cytundeb Lefel
Gwasanaeth penodol ·
lleihau’r nifer o orsafoedd profi awdurdodedig yn y sir ·
symud i brofi cydymffurfiaeth yn fewnol O ran yr arfer o fewn awdurdodau cyffiniol, dywedodd y
swyddogion fod dau awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru yn cynnal profion
mewnol yn unig, yn ogystal ag 11 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Bu i’r swyddogion argymell
cynnal profion mewnol fel y dewis a ffefrir yn amodol ar adolygiad ac
ymgynghoriad. Os nad oedd yr aelodau yn cefnogi
profi mewnol, argymhellwyd cynnal adolygiad o’r broses bresennol. Ystyriodd yr aelodau rinweddau’r dewisiadau a gyflwynwyd
gyda’r bwriad o ddarparu gwell cysondeb a sicrhau gwelliant pellach o ran
ansawdd y profion a safonau cerbydau. Mynegwyd pryder hefyd bod y drefn bresennol yn caniatáu i
gwmni tacsi a oedd yn berchen ar orsaf brofi enwebedig ymgymryd â phrofion ar eu cerbydau eu
hunain ac fe ystyriwyd hyn achos o wrthdaro buddiannau. Byddai’r dewis o brofion
mewnol yn mynd i’r afael â’r mater hwn ac yn sicrhau profion annibynnol a chyson o
safon benodol. Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r broses bresennol ynghyd ag ymarferoldeb dull mewnol a phroblemau o ran capasiti. Mewn ymateb, darparodd y Rheolwr Perfformiad Fflyd rhywfaint o wybodaeth gefndir i’r sefyllfa bresennol, gan ddweud bod Sir Ddinbych wedi mabwysiadu'r broses ar gyfer enwebu gorsafoedd profi hen awdurdodau yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996. O ystyried yr angen i wella safonau a chysondeb ac mai’r ystyriaeth bwysicaf oedd diogelwch y cyhoedd, ystyriwyd mai dull mewnol oedd y dewis gorau. Roedd capasiti o fewn y Gwasanaethau Fflyd i ymgymryd â phrofion awdurdodedig yr holl gerbydau trwyddedig o fewn y sir yn y Ganolfan Rheoli Fflyd ym Modelwyddan a oedd ar hyn o bryd yn cynnal oddeutu 30- 40% o'r holl brofion cydymffurfio gydag oddeutu 80% o'r holl gerbydau trwyddedig wedi’u lleoli yng ngogledd y sir. Roedd y Ganolfan Rheoli Fflyd yn gweithredu system trefnu apwyntiadau a oedd ar agor tan 9.00 p.m. Ni fyddai unrhyw fudd ariannol i’r Gwasanaethau Fflyd o ganlyniad i symud i brofion mewnol, o ystyried bod y prawf cydymffurfio yn cymryd peth amser ac nad oedd yn cael ei ystyried yn broffidiol. Holodd y Cynghorydd Joan Butterfield ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGIAD O BOLISI A GWEITHDREFN PWYNTIAU COSB PDF 194 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm), yn
ceisio cefnogaeth aelodau i wneud i ffwrdd â’r broses Polisi a Gweithdrefn
Pwyntiau Cosb. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y byddai
aelodau’n - (a) cefnogi cael
gwared â’r broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb ac (b) Y byddai
swyddogion yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mawrth 2021 drwy eu
Hadroddiad Blynyddol, i drafod ffurf gymharol yr effeithiolrwydd rhwng y ddwy
system. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod Y Cyhoedd adroddiad
(a gylchredwyd ymlaen llaw) a oedd yn ceisio cefnogaeth aelodau i gael gwared
ar y broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb. Cymeradwywyd y broses Polisi a
Gweithdrefn Pwyntiau Cosb gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Medi 2014 (diwygiwyd
y broses ymhellach yn 2015 a 2016) a manylwyd sut yr oedd y Cyngor yn ymdrin â
rhai achosion o dorri amodau neu ddeddfwriaeth mewn perthynas â thrwyddedu
tacsis drwy ddyrannu gwerth pwyntiau ar gyfer achosion o dorri amodau. Bu i gasgliad o 20 pwynt mewn dwy flynedd
arwain at uwchgyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu gyda chosb unigol o 20 pwynt yn
arwain at gamau pellach i’w pennu gan Bennaeth y Gwasanaeth mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd neu Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.
Roedd y cynllun yn caniatáu proses apêl 10 diwrnod waeth beth oedd y
lefel o bwyntiau neu ddigwyddiadau.
Roedd y Pwyllgor Trwyddedu hefyd wedi rhoi pwerau dirprwyedig i
swyddogion er mwyn iddynt allu dirymu neu atal (dros dro) trwyddedau
gweithredwr, cerbydau a gyrwyr mewn rhai amgylchiadau. Esboniodd y swyddogion fod y broses wedi arwain at
ganlyniadau anfwriadol i’r graddau ag oedi camau gweithredu priodol, gan
gynnwys atal dros dro/ dirymu, gan nad oedd yr amserlen ar gyfer apelio a rhoi
pwyntiau yn caniatáu disgresiwn neu wyriad yn hawdd lle gallai amgylchiadau ei
ganiatáu. Darparwyd enghreifftiau o fân achosion ac achosion
perthnasol i ddangos yr amgylchiadau hynny a achoswyd oedi diangen oherwydd y
lefel o fiwrocratiaeth o fewn y broses nad oedd ychwaith yn caniatáu ar gyfer
disgresiwn swyddogion proffesiynol yn yr amgylchiadau hynny, yn enwedig gyda
thoriadau cyson o’r un drosedd neu lle bo’r uchafswm o 20 o bwyntiau wedi’i
gyrraedd. Er bod cefnogaeth gyffredinol gan yr aelodau i leihau
biwrocratiaeth a symleiddio’r broses i’w gwneud yn fwy effeithiol, roedd rhai
amheuon o ran y broses apelio a rôl ostyngol y Pwyllgor Trwyddedu yn hynny o
beth. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod
cyflwyno materion penodol yn uniongyrchol ger bron y Pwyllgor Trwyddedu yn
achosi oedi di-angen mewn rhai achosion ac y byddai cael gwared ar y broses
Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb ac yn hytrach dibynnu swyddogion
hyfforddedig proffesiynol yn gwneud y broses yn unol ag arferion gwasanaethau
rheoleiddio eraill o fewn yr awdurdod a byddai'n caniatáu camau gweithredu
amserol. Nododd yr aelodau hefyd nad
oedd nifer sylweddol o ddigwyddiadau wedi’u nodi ar gyfer pwyntiau a bod
cronfeydd data yn caniatáu ar gyfer cofnodi rhybuddion a chyngor i’w defnyddio
wrth ystyried camau gweithredu priodol lle bo’r angen. O ganlyniad, cytunodd yr aelodau i gefnogi cael gwared
â’r broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb ond gofynnwyd bod adroddiad yn
cael ei lunio yn y dyfodol ar effaith hynny a'r effeithiolrwydd cymharol rhwng
y ddwy system. PENDERFYNWYD y byddai
aelodau’n - (a)
cefnogi cael
gwared â’r broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb ac (b) y byddai
swyddogion yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mawrth 2021 drwy eu
Hadroddiad Blynyddol, i drafod ffurf gymharol yr effeithiolrwydd rhwng y ddwy
system. |
|
POLISI ARFAETHEDIG CASGLIADAU DRWS I DDRWS PDF 265 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno’r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws Arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad
ffurfiol cyn ei gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) y byddai’r
Polisi Casgliadau Drws i Ddrws (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gefnogi a
bod swyddogion yn cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda chyrff
elusennol sydd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis
diwethaf, ac (b) yn dilyn
ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau a chymeradwyaeth
i’r Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi newydd, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn
dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws o 1 Ebrill
2020 ymlaen. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a gylchredwyd
ymlaen llaw) yn cyflwyno’r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws arfaethedig ar gyfer
ymgynghoriad ffurfiol cyn ei gymeradwyo. Esboniodd y Swyddogion nad oedd gan y Cyngor bolisi clir
a manwl i ystyried ceisiadau ar gyfer casgliadau drws i ddrws a cheisiwyd
cymeradwyaeth o’r polisi drafft i sicrhau bod yr holl bartïon yn ymwybodol o’r
gofynion a’r broses a fyddai’n sicrhau bod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau
cyson a thryloyw. Darparwyd rhywfaint o wybodaeth gefndir o ran y gofynion
deddfwriaethol a'r broses sydd rhaid ei dilyn a nodwyd, er bod trwyddedau yn
cael eu cyflwyno gan y Cyngor ar y cyfan, roedd Gorchmynion ‘Eithriad
Cenedlaethol’ ar gael i elusennau a oedd yn dymuno cynnal nifer uchel o
gasgliadau cydamserol ar draws y wlad a oedd yn cael eu cyflwyno gan yr
Ysgrifennydd Gwladol. Yr arfer bresennol
oedd rhoi trwyddedau i sefydliadau heb Orchmynion Eithriad y Swyddfa Gartref
cyn belled â nad oedd casgliadau o’r fath yn gorgyffwrdd â chasgliadau eraill a
bod cymdeithasau yn cael eu cyfyngu i un casgliad o fewn 12 mis. Nod y dull hwn osgoi gorlenwi’r ardal â
chasglwyr o elusennau gwahanol. O ystyried y byddai’r polisi arfaethedig yn cynnwys pob
agwedd o’r broses a gofynion ac nid oedd newid sylweddol i’r arfer bresennol,
argymhellodd y swyddogion bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda
sefydliadau elusennol a oedd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y
12 mis diwethaf yn unig, a bod unrhyw wrthwynebiad yn cael ei gyflwyno ger bron
y pwyllgor. Os na fyddai unrhyw
wrthwynebiad yn dod i law, bydda’r polisi yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020. Wrth
ymateb i gwestiynau, bu i'r swyddogion - ·
ddweud bod Gorchmynion Eithriad y Swyddfa Gartref yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU i
sefydliadau elusennol yng Nghymru a Lloegr. ·
esbonio’r amgylchiadau lle byddai’n rhaid cael trwydded wrth gasglu at
ddiben elusennol drwy ymweliadau o ddrws i ddrws. ·
cadarnhau y byddai trwyddedau’n cael eu caniatáu gan y Cyngor mewn achosion
lle nad oedd y Swyddfa Gartref wedi cyflwyno Tystysgrif Eithrio ac yr oedd y
cyrff elusennol yn cwrdd â'r darpariaethau deddfwriaethol a gofynion dogfen
bolisi’r Cyngor – nid oedd ffi yn cael ei chodi am drwyddedau Casgliadau Drws i
Ddrws a oedd yn cael eu cyflwyno gan y Cyngor. ·
esbonio nad oedd y gofynion deddfwriaethol wedi newid ac nad oedd newid
arfaethedig i arfer bresennol y Cyngor, ac ·
os oedd yr aelodau o blaid cefnogi’r polisi, byddai’r swyddogion polisi yn
cynghori’r Pwyllgor Trwyddedu pe na bai unrhyw wrthwynebiad mewn ymateb i’r
ymgynghoriad ffurfiol ar y ddogfen a fyddai wedyn yn dod i rym ym mis Ebrill
2020. -Ar ôl ystyriaeth briodol - PENDERFYNWYD – (a)
y byddai’r
Polisi Casgliadau Drws i Ddrws (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gefnogi a
bod swyddogion yn cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda chyrff
elusennol sydd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis
diwethaf, ac (b) yn dilyn
ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau a chymeradwyaeth
i’r Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi newydd, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn
dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws o 1 Ebrill
2020 ymlaen. |
|
POLISI CASGLIADAU STRYD ARFAETHEDIG PDF 266 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno’r Polisi Casgliadau Stryd Arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol
cyn ei gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD – (a) y byddai’r
Polisi Casgliadau Stryd arfaethedig (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gefnogi
a bod swyddogion yn cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda chyrff
elusennol sydd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis
diwethaf, ac (b) yn dilyn
ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau a chymeradwyaeth
i’r Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi newydd, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn
dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Casgliadau Stryd o 1 Ebrill 2020
ymlaen. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a gylchredwyd
ymlaen llaw) yn cyflwyno’r Polisi Casgliadau Stryd arfaethedig ar gyfer
ymgynghoriad ffurfiol cyn ei gymeradwyo. Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd gan y Cyngor bolisi
clir a manwl i ystyried ceisiadau ar gyfer casgliadau stryd a cheisiwyd
cymeradwyaeth o’r polisi drafft i sicrhau bod yr holl bartïon yn ymwybodol o’r
gofynion a’r broses a fyddai’n sicrhau bod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau
cyson a thryloyw. Roedd gan y Cyngor rym
i drwyddedu casgliadau a wnaed ar unrhyw stryd neu mewn unrhyw fan cyhoeddus at
ddibenion elusennol neu arall ac roedd y Cyngor hefyd wedi llunio Rheoliadau i
reoli casgliadau stryd yn y sir. Yr
arfer bresennol oedd caniatáu un casgliad stryd yr wythnos mewn perthynas â phob tref / cymuned a gallai
cymdeithasau ond cynnal un casgliad ym mhob tref / cymuned o fewn cyfnod o ddeuddeg
mis. Nod y dull hwn osgoi gorlenwi’r
ardal â chasglwyr o elusennau gwahanol. O ystyried y byddai’r polisi arfaethedig yn cynnwys pob
agwedd o’r broses a gofynion ac nid oedd newid sylweddol i’r arfer bresennol,
argymhellodd y swyddogion bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda
sefydliadau elusennol a oedd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y
12 mis diwethaf yn unig, a bod unrhyw
wrthwynebiad yn cael ei gyflwyno ger bron y pwyllgor. Os na fyddai unrhyw wrthwynebiad, byddai’r
polisi yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd,
eglurwyd bod cyntedd archfarchnad y tu mewn i’r adeilad yn cael ei ystyried o
dan reolaeth y siop ac felly ni fyddai’n rhaid cael trwydded, fodd bynnag, pe
bai casgliad yn cael eu gynnal y tu allan i’r siop, megis yn y maes parcio,
byddai’n rhaid cael trwydded gan fod gan y cyhoedd fynediad rydd i’r ardal
honno. Os na fyddai unrhyw wrthwynebiad
yn dod i law mewn ymateb i’r ymgynghori ffurfiol, byddai swyddogion yn
cynghori’r Pwyllgor Trwyddedu yn unol â hynny. PENDERFYNWYD – (a)
y byddai’r
Polisi Casgliadau Stryd arfaethedig (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gefnogi
a bod swyddogion yn cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda chyrff
elusennol sydd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis
diwethaf, ac (b) yn dilyn
ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau a chymeradwyaeth
i’r Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi newydd, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn
dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Casgliadau Stryd o 1 Ebrill 2020
ymlaen. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 182 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn
atodiad i’r adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor
Trwyddedu. Eglurodd y Swyddog Trwyddedu bod eitemau wedi cael eu
hail-drefnu wedi i gyfarfod mis Medi gael ei ganslo ac roedd swyddogion yn
gweithio i gynhyrchu rhaglen gwaith i'r dyfodol 12 mis i’w chyflwyno yn y
cyfarfod nesaf ym mis Mawrth. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol arfaethedig
fel ag y mae yn yr atodiad i’r adroddiad. Daeth y cyfarfod
i ben am 10.30 a.m. |