Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Dywedodd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf Alison Lessels, Cynghorwr Cyfreithiol y Pwyllgor Trwyddedu, a mynegodd werthfawrogiad y Pwyllgor o’i chyngor gwerthfawr a’i gwasanaeth yn ystod ei chyfnod gyda'r Cyngor a dymuno'n dda iddi ar gyfer y dyfodol.

 

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Merfyn Parry a Rhys Thomas.

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Merfyn Parry a Rhys Thomas.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 365 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019 (copi ynghlwm).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I FFIOEDD A THALIADAU TRWYDDEDU TACSI pdf eicon PDF 198 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth aelodau i’r ffioedd a thaliadau arfaethedig sy’n ymwneud â’r drefn trwyddedu tacsis.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai aelodau’n -

 

 (a)      cymeradwyo’r ffioedd a’r taliadau a fanylir arnynt yn Atodiad A yr adroddiad;

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r newidiadau i’r ffioedd Trwyddedu Tacsi mewn papur newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol, ac os na dderbynir unrhyw wrthwynebiad, byddant yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2020.

 

 (c)       lle derbynnir unrhyw wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau hynny yn eu cyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad) dim hwyrach nag 1 Ebrill 2020.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod Y Cyhoedd adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn ceisio cymeradwyaeth yr aelodau o’r ffioedd a’r taliadau arfaethedig yn ymwneud â’r drefn trwyddedu tacsi.

 

Gallai’r Cyngor godi tâl am drwyddedau mewn perthynas â thrwyddedau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat i dalu costau‘n ymwneud â gweinyddu, archwilio, rheoli a goruchwylio.  Nid oedd modd cynnwys costau gorfodi ac nid oedd modd gwneud elw.  O ganlyniad, dyfeisiwyd methodoleg ffioedd a thaliadau i alluogi adolygiad manwl o ffioedd a thaliadau yn unol â’r broses drwyddedu berthnasol.  Byddai unrhyw newid i’r ffioedd a’r taliadau yn destun hysbysiad cyhoeddus a byddai unrhyw wrthwynebiad yn cael ei gyflwyno ger bron y pwyllgor.  Os na fyddai unrhyw wrthwynebiad, byddai’r ffioedd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020. Nodwyd mai’r tro diwethaf y cynyddwyd y ffioedd a’r taliadau oedd ym mis Ebrill 2018 er fod ffioedd cerbydau wedi aros yr un peth am 11 o flynyddoedd.

 

Wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau, eglurwyd bod y swyddogion yn cynnal adolygiad blynyddol o ffioedd a thaliadau ac, er eglurder, roedd y tabl o ffioedd arfaethedig yn cynnwys ffioedd o fewn y drefn drwyddedu yr oedd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn gyfrifol amdanynt a’r ffioedd yr oedd angen cymeradwyaeth yr aelodau.  Roedd y Pennaeth Gwasanaeth wedi cadarnhau ei fod yn cefnogi’r ffioedd a’r taliadau fel y cynigiwyd.  Wrth nodi gostyngiad o ran rhai o’r ffioedd, dywedodd y swyddogion eu bod wedi llwyddo i wneud arbedion ariannol drwy arbedion o fewn y broses.

 

PENDERFYNWYD y byddai aelodau’n -

 

 (a)      cymeradwyo’r ffioedd a’r taliadau a fanylir arnynt yn Atodiad A yr adroddiad;

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r newidiadau i’r ffioedd Trwyddedu Tacsi mewn papur newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol, ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020, a 

 

 (c)       lle derbynnir unrhyw wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau hynny yn ei gyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad) dim hwyrach nag 1 Ebrill 2020.

 

 

6.

ADOLYGU’R BROSES GORSAFOEDD PROFI CYMERADWY PRESENNOL pdf eicon PDF 205 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn ceisio adolygiad yr aelodau o’r broses bresennol i enwebu gorsafoedd profi cymeradwy i gynnal profion cydymffurfio ar gerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn y sir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD i edrych ar broses profi mewnol fel dewis a ffafrir ond yn amodol ar adolygiad ac ymgynghoriad pellach gyda'r holl bartïon perthnasol.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ( a gylchredwyd ymlaen llaw) yn ceisio adolygiad yr aelodau o’r broses bresennol i enwebu gorsafoedd profi cymeradwy i gynnal profion cydymffurfio ar gerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn y sir.

 

Roedd gan Sir Ddinbych 8 gorsaf brofi wedi’u henwebu ar draws y Sir, 5 yn y Gogledd (yn cynnwys Canolfan Rheoli Fflyd y Sir ym Modelwyddan) a 3 yn y De, yr oedd y Gwasanaeth Fflyd yn eu cymeradwyo bob blwyddyn.  Esboniodd y Swyddogion y rhesymeg y tu ôl i’r adolygiad o ystyried y pryderon y gallai’r amrywiad o ran cost y ffioedd a godir gan garejys unigol am brofion cydymffurfio a phrisiau cystadleuol fod yn gysylltiedig â lleihad yn ansawdd y prawf, ynghyd â phryderon nad oedd y broses gymeradwy ar gyfer gorsafoedd profi trwyddedig yn cael ei dilyn yn llawn gan arwain at anghyfartaledd o ran safon y profion a oedd yn cael eu cynnal.  Roedd pryder hefyd ynghylch nifer ac amlder y profion a oedd yn cael eu cynnal gan rai garejys a oedd yn arwain at ddiffyg cysondeb ar draws y broses profi gyfredol.  O ganlyniad roedd swyddogion wedi ystyried nifer o ddewisiadau i fynd i’r afael â’r materion hynny ac roedd manteision ac anfanteision pob un wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Roedd y dewisiadau canlynol wedi’u cyflwyno i’w hadolygu -

 

·         dim newid i'r gorsafoedd profi awdurdodedig cyfredol

·         gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan garejys MOT ar gyfer Cytundeb Lefel Gwasanaeth penodol

·         lleihau’r nifer o orsafoedd profi awdurdodedig yn y sir

·         symud i brofi cydymffurfiaeth yn fewnol

 

O ran yr arfer o fewn awdurdodau cyffiniol, dywedodd y swyddogion fod dau awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru yn cynnal profion mewnol yn unig, yn ogystal ag 11 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.  Bu i’r swyddogion argymell cynnal profion mewnol fel y dewis a ffefrir yn amodol ar adolygiad ac ymgynghoriad.    Os nad oedd yr aelodau yn cefnogi profi mewnol, argymhellwyd cynnal adolygiad o’r broses bresennol.

 

Ystyriodd yr aelodau rinweddau’r dewisiadau a gyflwynwyd gyda’r bwriad o ddarparu gwell cysondeb a sicrhau gwelliant pellach o ran ansawdd y profion a safonau cerbydau.  Mynegwyd pryder hefyd bod y drefn bresennol yn caniatáu i gwmni tacsi a oedd yn berchen ar orsaf brofi enwebedig ymgymryd â phrofion ar eu cerbydau eu hunain ac fe ystyriwyd hyn achos o wrthdaro buddiannau.  Byddai’r dewis o brofion mewnol yn mynd i’r afael â’r mater hwn ac yn sicrhau profion annibynnol a chyson o safon benodol.

 

Codwyd cwestiynau ynglŷn â’r broses bresennol ynghyd ag ymarferoldeb dull mewnol a phroblemau o ran capasiti.  Mewn ymateb, darparodd y Rheolwr Perfformiad Fflyd rhywfaint o wybodaeth gefndir i’r sefyllfa bresennol, gan ddweud bod Sir Ddinbych wedi mabwysiadu'r broses ar gyfer enwebu gorsafoedd profi hen awdurdodau yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996. O ystyried yr angen i wella safonau a chysondeb ac mai’r ystyriaeth bwysicaf oedd diogelwch y cyhoedd, ystyriwyd mai dull mewnol oedd y dewis gorau.  Roedd capasiti o fewn y Gwasanaethau Fflyd i ymgymryd â phrofion awdurdodedig yr holl gerbydau trwyddedig o fewn y sir yn y Ganolfan Rheoli Fflyd ym Modelwyddan a oedd ar hyn o bryd yn cynnal oddeutu 30- 40% o'r holl brofion cydymffurfio gydag oddeutu 80% o'r holl gerbydau trwyddedig wedi’u lleoli yng ngogledd y sir.  Roedd y Ganolfan Rheoli Fflyd yn gweithredu system trefnu apwyntiadau a oedd ar agor tan 9.00 p.m.  Ni fyddai unrhyw fudd ariannol i’r Gwasanaethau Fflyd o ganlyniad i symud i brofion mewnol, o ystyried bod y prawf cydymffurfio yn cymryd peth amser ac nad oedd yn cael ei ystyried yn broffidiol.  Holodd y Cynghorydd Joan Butterfield  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADOLYGIAD O BOLISI A GWEITHDREFN PWYNTIAU COSB pdf eicon PDF 194 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm), yn ceisio cefnogaeth aelodau i wneud i ffwrdd â’r broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai aelodau’n -

 

 (a)      cefnogi cael gwared â’r broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb ac

 

 (b)      Y byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mawrth 2021 drwy eu Hadroddiad Blynyddol, i drafod ffurf gymharol yr effeithiolrwydd rhwng y ddwy system.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod Y Cyhoedd adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) a oedd yn ceisio cefnogaeth aelodau i gael gwared ar y broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb.

 

Cymeradwywyd y broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Medi 2014 (diwygiwyd y broses ymhellach yn 2015 a 2016) a manylwyd sut yr oedd y Cyngor yn ymdrin â rhai achosion o dorri amodau neu ddeddfwriaeth mewn perthynas â thrwyddedu tacsis drwy ddyrannu gwerth pwyntiau ar gyfer achosion o dorri amodau.  Bu i gasgliad o 20 pwynt mewn dwy flynedd arwain at uwchgyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu gyda chosb unigol o 20 pwynt yn arwain at gamau pellach i’w pennu gan Bennaeth y Gwasanaeth mewn ymgynghoriad â Chadeirydd neu Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.  Roedd y cynllun yn caniatáu proses apêl 10 diwrnod waeth beth oedd y lefel o bwyntiau neu ddigwyddiadau.  Roedd y Pwyllgor Trwyddedu hefyd wedi rhoi pwerau dirprwyedig i swyddogion er mwyn iddynt allu dirymu neu atal (dros dro) trwyddedau gweithredwr, cerbydau a gyrwyr mewn rhai amgylchiadau.

 

Esboniodd y swyddogion fod y broses wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol i’r graddau ag oedi camau gweithredu priodol, gan gynnwys atal dros dro/ dirymu, gan nad oedd yr amserlen ar gyfer apelio a rhoi pwyntiau yn caniatáu disgresiwn neu wyriad yn hawdd lle gallai amgylchiadau ei ganiatáu.  Darparwyd enghreifftiau o fân achosion ac achosion perthnasol i ddangos yr amgylchiadau hynny a achoswyd oedi diangen oherwydd y lefel o fiwrocratiaeth o fewn y broses nad oedd ychwaith yn caniatáu ar gyfer disgresiwn swyddogion proffesiynol yn yr amgylchiadau hynny, yn enwedig gyda thoriadau cyson o’r un drosedd neu lle bo’r uchafswm o 20 o bwyntiau wedi’i gyrraedd.

 

Er bod cefnogaeth gyffredinol gan yr aelodau i leihau biwrocratiaeth a symleiddio’r broses i’w gwneud yn fwy effeithiol, roedd rhai amheuon o ran y broses apelio a rôl ostyngol y Pwyllgor Trwyddedu yn hynny o beth.  Fodd bynnag, cydnabuwyd bod cyflwyno materion penodol yn uniongyrchol ger bron y Pwyllgor Trwyddedu yn achosi oedi di-angen mewn rhai achosion ac y byddai cael gwared ar y broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb ac yn hytrach dibynnu swyddogion hyfforddedig proffesiynol yn gwneud y broses yn unol ag arferion gwasanaethau rheoleiddio eraill o fewn yr awdurdod a byddai'n caniatáu camau gweithredu amserol.  Nododd yr aelodau hefyd nad oedd nifer sylweddol o ddigwyddiadau wedi’u nodi ar gyfer pwyntiau a bod cronfeydd data yn caniatáu ar gyfer cofnodi rhybuddion a chyngor i’w defnyddio wrth ystyried camau gweithredu priodol lle bo’r angen.

 

O ganlyniad, cytunodd yr aelodau i gefnogi cael gwared â’r broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb ond gofynnwyd bod adroddiad yn cael ei lunio yn y dyfodol ar effaith hynny a'r effeithiolrwydd cymharol rhwng y ddwy system.

 

PENDERFYNWYD y byddai aelodau’n -

 

 (a)      cefnogi cael gwared â’r broses Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb ac

 

 (b)      y byddai swyddogion yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mawrth 2021 drwy eu Hadroddiad Blynyddol, i drafod ffurf gymharol yr effeithiolrwydd rhwng y ddwy system.

 

 

8.

POLISI ARFAETHEDIG CASGLIADAU DRWS I DDRWS pdf eicon PDF 265 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws Arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol cyn ei gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      y byddai’r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gefnogi a bod swyddogion yn cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda chyrff elusennol sydd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis diwethaf, ac

 

 (b)      yn dilyn ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau a chymeradwyaeth i’r Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi newydd, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws o 1 Ebrill 2020 ymlaen.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno’r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol cyn ei gymeradwyo.

 

Esboniodd y Swyddogion nad oedd gan y Cyngor bolisi clir a manwl i ystyried ceisiadau ar gyfer casgliadau drws i ddrws a cheisiwyd cymeradwyaeth o’r polisi drafft i sicrhau bod yr holl bartïon yn ymwybodol o’r gofynion a’r broses a fyddai’n sicrhau bod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau cyson a thryloyw.  Darparwyd rhywfaint o wybodaeth gefndir o ran y gofynion deddfwriaethol a'r broses sydd rhaid ei dilyn a nodwyd, er bod trwyddedau yn cael eu cyflwyno gan y Cyngor ar y cyfan, roedd Gorchmynion ‘Eithriad Cenedlaethol’ ar gael i elusennau a oedd yn dymuno cynnal nifer uchel o gasgliadau cydamserol ar draws y wlad a oedd yn cael eu cyflwyno gan yr Ysgrifennydd Gwladol.  Yr arfer bresennol oedd rhoi trwyddedau i sefydliadau heb Orchmynion Eithriad y Swyddfa Gartref cyn belled â nad oedd casgliadau o’r fath yn gorgyffwrdd â chasgliadau eraill a bod cymdeithasau yn cael eu cyfyngu i un casgliad o fewn 12 mis.  Nod y dull hwn osgoi gorlenwi’r ardal â chasglwyr o elusennau gwahanol.

 

O ystyried y byddai’r polisi arfaethedig yn cynnwys pob agwedd o’r broses a gofynion ac nid oedd newid sylweddol i’r arfer bresennol, argymhellodd y swyddogion bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda sefydliadau elusennol a oedd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis diwethaf yn unig, a bod unrhyw wrthwynebiad yn cael ei gyflwyno ger bron y pwyllgor.  Os na fyddai unrhyw wrthwynebiad yn dod i law, bydda’r polisi yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020. Wrth ymateb i gwestiynau, bu i'r swyddogion -

 

·         ddweud bod Gorchmynion Eithriad y Swyddfa Gartref  yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU i sefydliadau elusennol yng Nghymru a Lloegr.

·         esbonio’r amgylchiadau lle byddai’n rhaid cael trwydded wrth gasglu at ddiben elusennol drwy ymweliadau o ddrws i ddrws.

·         cadarnhau y byddai trwyddedau’n cael eu caniatáu gan y Cyngor mewn achosion lle nad oedd y Swyddfa Gartref wedi cyflwyno Tystysgrif Eithrio ac yr oedd y cyrff elusennol yn cwrdd â'r darpariaethau deddfwriaethol a gofynion dogfen bolisi’r Cyngor – nid oedd ffi yn cael ei chodi am drwyddedau Casgliadau Drws i Ddrws a oedd yn cael eu cyflwyno gan y Cyngor.

·         esbonio nad oedd y gofynion deddfwriaethol wedi newid ac nad oedd newid arfaethedig i arfer bresennol y Cyngor, ac

·         os oedd yr aelodau o blaid cefnogi’r polisi, byddai’r swyddogion polisi yn cynghori’r Pwyllgor Trwyddedu pe na bai unrhyw wrthwynebiad mewn ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol ar y ddogfen a fyddai wedyn yn dod i rym ym mis Ebrill 2020.

 

-Ar ôl ystyriaeth briodol -

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      y byddai’r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gefnogi a bod swyddogion yn cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda chyrff elusennol sydd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis diwethaf, ac

 

 (b)      yn dilyn ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau a chymeradwyaeth i’r Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi newydd, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Casgliadau Drws i Ddrws o 1 Ebrill 2020 ymlaen.

 

 

9.

POLISI CASGLIADAU STRYD ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 266 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno’r Polisi Casgliadau Stryd Arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol cyn ei gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      y byddai’r Polisi Casgliadau Stryd arfaethedig (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gefnogi a bod swyddogion yn cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda chyrff elusennol sydd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis diwethaf, ac

 

 (b)      yn dilyn ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau a chymeradwyaeth i’r Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi newydd, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Casgliadau Stryd o 1 Ebrill 2020 ymlaen.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno’r Polisi Casgliadau Stryd arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol cyn ei gymeradwyo.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd gan y Cyngor bolisi clir a manwl i ystyried ceisiadau ar gyfer casgliadau stryd a cheisiwyd cymeradwyaeth o’r polisi drafft i sicrhau bod yr holl bartïon yn ymwybodol o’r gofynion a’r broses a fyddai’n sicrhau bod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau cyson a thryloyw.  Roedd gan y Cyngor rym i drwyddedu casgliadau a wnaed ar unrhyw stryd neu mewn unrhyw fan cyhoeddus at ddibenion elusennol neu arall ac roedd y Cyngor hefyd wedi llunio Rheoliadau i reoli casgliadau stryd yn y sir.  Yr arfer bresennol oedd caniatáu un casgliad stryd yr wythnos mewn perthynas â phob tref / cymuned a gallai cymdeithasau ond cynnal un casgliad ym mhob tref / cymuned o fewn cyfnod o ddeuddeg mis.  Nod y dull hwn osgoi gorlenwi’r ardal â chasglwyr o elusennau gwahanol.

 

O ystyried y byddai’r polisi arfaethedig yn cynnwys pob agwedd o’r broses a gofynion ac nid oedd newid sylweddol i’r arfer bresennol, argymhellodd y swyddogion bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda sefydliadau elusennol a oedd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis diwethaf yn unig,  a bod unrhyw wrthwynebiad yn cael ei gyflwyno ger bron y pwyllgor.  Os na fyddai unrhyw wrthwynebiad, byddai’r polisi yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurwyd bod cyntedd archfarchnad y tu mewn i’r adeilad yn cael ei ystyried o dan reolaeth y siop ac felly ni fyddai’n rhaid cael trwydded, fodd bynnag, pe bai casgliad yn cael eu gynnal y tu allan i’r siop, megis yn y maes parcio, byddai’n rhaid cael trwydded gan fod gan y cyhoedd fynediad rydd i’r ardal honno.  Os na fyddai unrhyw wrthwynebiad yn dod i law mewn ymateb i’r ymgynghori ffurfiol, byddai swyddogion yn cynghori’r Pwyllgor Trwyddedu yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      y byddai’r Polisi Casgliadau Stryd arfaethedig (Atodiad A yr adroddiad) yn cael ei gefnogi a bod swyddogion yn cymeradwyo cychwyn ymgynghoriad ffurfiol gyda chyrff elusennol sydd wedi gwneud cais ac wedi casglu o fewn y sir yn y 12 mis diwethaf, ac

 

 (b)      yn dilyn ymgynghoriad, bod y swyddogion yn adrodd unrhyw wrthwynebiadau a chymeradwyaeth i’r Pwyllgor Trwyddedu o’r polisi newydd, neu os nad oed unrhyw ymatebion yn dod i law, i gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi Casgliadau Stryd o 1 Ebrill 2020 ymlaen.

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 182 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn atodiad i’r adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Eglurodd y Swyddog Trwyddedu bod eitemau wedi cael eu hail-drefnu wedi i gyfarfod mis Medi gael ei ganslo ac roedd swyddogion yn gweithio i gynhyrchu rhaglen gwaith i'r dyfodol 12 mis i’w chyflwyno yn y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol arfaethedig fel ag y mae yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.30 a.m.