Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Gohiriwyd y cyfarfod nes 9.50am oherwydd amhariad teithio a achoswyd gan y dŵr wyneb a’r problemau llifogydd yn yr ardal a effeithiodd ar bresenoldeb.    Newidiwyd trefn eitemau’r agenda er mwyn sicrhau bod y Cyfreithiwr yn bresennol ar gyfer yr eitemau busnes hynny yr oedd ar y Pwyllgor angen Cynghorwr Cyfreithiol (eitemau 8-10 ar y cofnodion).

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Cofnodion:

Ceisiwyd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2019/20. Cynigiodd y Cynghorydd Tony Thomas y dylid penodi’r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw Williams.  Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.  Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill ac o'i roi i'r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Brian Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. 

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau gan y Cadeirydd ar gyfer Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2019/20. Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Alan James yn Is-Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.  Cynigiodd y Cynghorydd Richard Mainon y dylid penodi’r Cynghorydd Brian Jones yn Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Tony Thomas.  Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill ac o'i roi i'r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cynghorydd Brian Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. 

 

 

4.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 367 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2019 (copi ynghlwm).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2019.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2019 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

7.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 181 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn atodiad i’r adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) ar Raglen Gwaith y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2019/20.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn atodiad i’r adroddiad.

 

 

8.

DIWEDDARIAD AR Y DATGANIAD POLISI YNGHYLCH ADDASRWYDD YMGEISWYR A THRWYDDEDAU YN Y MASNACHAU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 194 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi yn amgaeedig) yn cyflwyno Datganiad Drafft y Polisi sy’n ymwneud ag addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedai yn y masnachau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat i’w cymeradwyo o 1 Gorffennaf 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

(a)       Mabwysiadu’r Datganiad Polisi ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau ym musnesau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat (sydd ynghlwm wrth Atodiad A), i’w weithredu ar 1 Gorffennaf 2019;

 

(b)       Awdurdodi swyddogion i wneud y newidiadau a nodir yn 4.8 uchod, fel bod y Datganiad Polisi ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau ym Musnesau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat yn gyson â’r ddogfen ganllawiau genedlaethol; a

 

(c)        Os derbynnir unrhyw gwyn neu ymholiad gan ddalwyr trwydded ynglŷn â'r Datganiad Polisi, bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi, wedi ymgynghori â’r Cadeirydd, i ymateb gan gadarnhau na fydd y mater yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trwyddedu oherwydd bod y cyfle i ymateb i’r ddogfen bolisi wedi dod i ben.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Datganiad Drafft y Polisi sy’n ymwneud ag addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded yn y masnachau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat i’w cymeradwyo o 1 Gorffennaf 2019.

 

Ar 5 Rhagfyr 2018, penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu fabwysiadu canllawiau’r Sefydliad Trwyddedu a rhoi cyfarwyddyd i’r Swyddogion ddrafftio polisi a oedd yn bodloni’r gofynion yn y ddogfen dan sylw.  Ers hynny mae llawer o waith wedi cael ei wneud i ymgysylltu â deiliaid trwydded a chodi ymwybyddiaeth o'r Canllawiau, a oedd yn cynnwys newyddlen i holl aelodau’r fasnach drwyddedig, ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a nifer o gymorthfeydd trwyddedu drwy’r sir.  Y bwriad oedd cymhwyso’r polisi i’r holl ddeiliaid trwydded newydd o 1 Gorffennaf 2019, a dim ond os bydd euogfarnau ychwanegol yn cael eu cronni y byddai'r deiliaid trwydded presennol yn cael eu hadolygu.  O ystyried bod y Cyngor yn mabwysiadu polisi cenedlaethol, nodwyd y gellid gwneud newidiadau yn genedlaethol a gofynnwyd i'r aelodau ystyried a ddylid awdurdodi swyddogion i fabwysiadu mân newidiadau heb adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.  Lle gwnaed newidiadau sylweddol, argymhellwyd bod swyddogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau yn y cyfarfod nesaf sydd ar gael.

 

Yn ystod y drafodaeth, roedd yr aelodau'n siomedig iawn i nodi mai dim ond tri deiliad trwydded oedd wedi mynd i’r cymorthfeydd trwyddedu, yn enwedig o gofio'r ymdrechion sylweddol a wnaed gan swyddogion i ymgysylltu â'r fasnach.  Yn ogystal â'r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol, cadarnhaodd swyddogion fod newyddlen wedi'i anfon at bob deiliad trwydded yn y sir.  Cyfeiriwyd at waith caled y swyddogion a'r aelodau wrth adolygu a mabwysiadu polisïau'n barhaus er mwyn codi safonau ac effeithio ar welliannau o fewn y fasnach drwyddedig. Y Datganiad Polisi oedd y ddogfen ddiweddaraf o fewn y broses honno o welliant parhaus.  Heb ystyried y diffyg ymateb gan y fasnach er gwaethaf yr ymdrechion gorau i'w cynnwys yn y broses, derbyniwyd bod pob deiliad trwydded wedi cael digon o gyfle i ymateb ac felly cytunodd yr aelodau i fabwysiadu'r polisi ac awdurdodi swyddogion i fabwysiadu unrhyw newidiadau dilynol a wnaed yn genedlaethol.  Fodd bynnag, cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James, os derbynnir unrhyw gwyn neu ymholiad yn y dyfodol gan ddeiliaid trwydded ynglŷn â'r ddogfen, fod swyddogion yn cael eu hawdurdodi, wedi ymgynghori â’r Cadeirydd, i ymateb gan gadarnhau na fydd y mater yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor oherwydd bod y cyfle i ymateb i’r Datganiad Polisi wedi dod i ben.  O'i roi i’r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)      Mabwysiadu’r Datganiad Polisi ar addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau ym musnesau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat (sydd ynghlwm wrth Atodiad A), i’w weithredu ar 1 Gorffennaf 2019;

 

 (b)      Awdurdodi swyddogion i wneud y newidiadau a nodir yn 4.8 uchod, fel bod y Datganiad Polisi ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Deiliaid Trwyddedau ym Musnesau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat yn gyson â’r ddogfen ganllawiau genedlaethol; a

 

 (c)       Os derbynnir unrhyw gwyn neu ymholiad gan ddalwyr trwydded ynglŷn â'r Datganiad Polisi, bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi, wedi ymgynghori â’r Cadeirydd, i ymateb gan gadarnhau na fydd y mater yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Trwyddedu oherwydd bod y cyfle i ymateb i’r ddogfen bolisi wedi dod i ben.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

9.

CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am Drwydded Cerbydau Hurio Preifat. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar yr amodau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) ar –

 

(i)            gais yn cael ei dderbyn am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          swyddogion nad oeddent wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu yn cydymffurfio â pholisi'r Cyngor o ran y terfyn oedran pum mlynedd ar gyfer cerbydau a drwyddedwyd o dan gais newydd;

 

(iii)         amodau ychwanegol yn gymwys i drwyddedu mathau o gerbydau arbenigol fel yr un a gyflwynir yn yr achos hwn, ynghyd â ffotograffau o'r cerbyd dan sylw’r cais, a

 

(iv)         gwahoddwyd yr ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r cais ac ateb cwestiynau’r aelodau.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Crynhodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad ac eglurodd fod yr Ymgeisydd wedi cyflwyno'r cerbyd fel cerbyd wrth gefn ar gyfer trwyddedu yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor, ond ar ôl meddwl roedd wedi symud ymlaen gyda'r cerbyd gwreiddiol fel y manylwyd ar ei ffurflen gais, a ganiatawyd wedi hynny.  Fodd bynnag, nid oedd yr Ymgeisydd erioed wedi defnyddio'r cerbyd trwyddedig ac yn hytrach byddai'n well ganddo drwyddedu'r cerbyd wrth gefn.  Mae polisi'r Cyngor yn nodi na ddylai cerbydau sy'n destun cais newydd fod yn hŷn na phump oed ac roedd y cerbyd a gyflwynwyd i’w drwyddedu yn un ar ddeg oed.  O ganlyniad, gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais yr Ymgeisydd i wyro oddi wrth polisi'r Cyngor a chaniatáu'r cais.

 

Cyflwynodd yr Ymgeisydd ei achos gan ddweud ei fod yn weithredwr cerbydau arbenigol cyfrifol, hirsefydlog ond ei fod wedi mynd yn groes i'r fanyleb newydd o ran oedran cerbyd.  Cyfeiriodd at ei gyflwyniad gerbron y Pwyllgor Trwyddedu diwethaf pan gafodd drwydded cerbyd, yn groes i'r terfyn oedran pump oed, ar sail y math o gerbyd, sef cerbyd moethus arbenigol a ddefnyddir ar gyfer achlysuron a digwyddiadau penodol a drefnir ymlaen llaw.  Ers prynu'r cerbyd hwnnw, roedd wedi caffael model newydd, gwell - a dyna pam y gwnaeth gais dilynol i'r Pwyllgor Trwyddedu.  Wrth ymhelaethu ar rinweddau'r cerbyd arfaethedig ar gyfer trwyddedu, rhoddodd dystiolaeth o amserlenni cynnal a chadw a gwasanaeth ynghyd â sicrwydd ynghylch safonau cerbydau uchel.  Mewn ymateb i gwestiynau, ymhelaethodd ymhellach ar natur a gweithrediad ei fusnes.  Nododd yr Ymgeisydd nad oedd ganddo unrhyw beth pellach i'w ychwanegu o ran datganiad terfynol.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn amodol ar yr amodau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dyma resymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu -

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais a'r achos a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd yn ofalus ac wedi nodi natur a math y busnes a weithredir, a'i fod yn weithredwr ag iddo enw da am wasanaethau arbenigol o'r fath.  Ar y sail honno ac ar ôl ystyried yn benodol y math o gerbyd y bwriedir ei drwyddedu, cytunodd yr aelodau y gwnaed achos i wyro oddi wrth eu polisi terfyn oedran yn yr achos hwn a chaniatáu'r cais fel ag yr oedd, yn amodol ar yr amodau ychwanegol sy'n berthnasol i'r math o gerbyd arbenigol.

 

Roedd penderfyniadau a rhesymau’r Pwyllgor felly wedi eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

 

10.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 533519

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 533519.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif  533519 am drwydded gyrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) -

 

(i)            cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

533519 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          yr Ymgeisydd wedi methu â datgelu tri euogfarn droseddol a rhybudd gan yr heddlu yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd rhwng 1977 - 2000 a ddatgelwyd yn dilyn gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd;

 

(iii)         dogfennaeth berthnasol yn ymwneud â'r achos, gan gynnwys cyfweliad ffurfiol yr Ymgeisydd ac esboniad o'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r euogfarnau a'r rhesymeg dros beidio â datgelu wedi eu hatodi i'r adroddiad, ac

 

(iv)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol gyda pherthynas a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Crynhodd y Swyddog Gorfodi (HB) yr adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Rhoddodd yr Ymgeisydd rywfaint o gyd-destun i'r euogfarnau hanesyddol a'i amgylchiadau personol yn ystod y cyfnod hwnnw, ac eglurodd hefyd sut mae ei fywyd wedi newid ers hynny gyda'r bwriad o ddangos ei fod yn unigolyn cyfrifol a dibynadwy ac yn berson addas a phriodol i feddu ar drwydded.  Darparwyd geirda gan gyflogwr presennol yr Ymgeisydd yn tystio i'w gymeriad da, ei gysylltiadau cwsmeriaid rhagorol a'i agwedd bositif, ac roedd perthynas gydag o a siaradodd ar ei ran hefyd.  Ymatebodd hefyd i gwestiynau a godwyd gan aelodau gyda’r nod o ganfod ei addasrwydd i feddu ar drwydded.  Mewn perthynas â'i fethiant i ddatgelu euogfarnau, eglurodd yr Ymgeisydd na fu unrhyw fwriad i dwyllo o ystyried ei fod wedi darparu'r holl fanylion angenrheidiol i alluogi gwiriad yr heddlu, ond roedd wedi meddwl mai ymwneud yn benodol â dedfrydau carchar ydoedd a bod ei euogfarnau wedi hen dreulio.

 

Oedwyd y cyfarfod er mwyn ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD cymeradwyo cais Ymgeisydd Rhif  533519 am drwydded gyrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.

 

Dyma resymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu -

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried y cais a’r achos a wnaed gan yr Ymgeisydd i ganiatáu trwydded yn ofalus.  Nododd y Pwyllgor fod yr euogfarnau wedi cael eu gosod gryn amser yn ôl a bod yr Ymgeisydd wedi cael digwyddiadau newid bywyd sylweddol ers hynny. Roedden nhw’n fodlon bod y perygl o aildroseddu yn isel.  Canfu'r Pwyllgor fod yr Ymgeisydd yn ddilys yn ei gyflwyniadau ac yn onest wrth ymateb i gwestiynau, a derbyniwyd ei esboniad o ran y diffyg datgelu gan gredu nad oedd ganddo nod bwriadol i dwyllo.  Ystyriwyd bod yr Ymgeisydd wedi dangos, trwy ei gyflwyniadau, cyfeirnod cymeriad a chefnogaeth deuluol, ei fod yn gyfrifol, yn ddibynadwy ac o gymeriad da ac felly'n berson addas a phriodol i feddu ar drwydded.  Fodd bynnag, pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd datgelu'n llawn ac yn gywir yn y dyfodol wrth yr Ymgeisydd.

 

Roedd penderfyniadau a rhesymau’r Pwyllgor felly wedi eu cyfleu i’r Ymgeisydd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.00 a.m.