Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Peter Scott a Rhys Thomas.

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Peter Scott a Rhys Thomas

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Hugh Irving – Cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Barry Mellor – Cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 6 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Hugh Irving – Cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Barry Mellor – Cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 6 ar y Rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 481 KB

Derbyn -

 

(a)  cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 (copi wedi’i amgáu).

 

(b)  cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2017 (copi wedi’i amgáu).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 ac 18 Hydref 2017 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 a’r Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 18 Medi 2017.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 ac 18 Hydref 2017 fel cofnod cywir.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

5.

ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 523920

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif  523920.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  523920 , gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Hugh Irving (Cadeirydd) gysylltiad personol sy'n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd, a gadawodd y cyfarfod tra bo’r eitem yn cael ei thrafod.  Cymerodd y Cynghorydd Alan James (Is-Gadeirydd) y Gadair ar gyfer yr eitem hon.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            chais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

 523920 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

(ii)          swyddogion heb fod mewn sefyllfa i roi’r cais adnewyddu yn dilyn croniad o 9 pwynt cosb ar Drwydded Gyrru DVLA yr Ymgeisydd ar gyfer troseddau goryrru rhwng y cyfnod Tachwedd 2015 i Tachwedd 2016, a oedd wedi'u cadarnhau yn dilyn gwiriad fel mater o drefn, fel rhan o’r cais adnewyddu;

 

(iii)         Roedd yr Ymgeisydd wedi cyflwyno mesurau lliniaru yn ystod cyfweliad ynghylch y troseddau traffig ynghyd â sicrwydd ynghylch ei ymddygiad wrth yrru;

 

(iv)         polisi y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r

 

(v)          estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd, yng nghwmni ei gyflogwr, ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth (TB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd yr Ymgeisydd bod y tair trosedd goryrru wedi digwydd ar adegau anodd iawn yn ei fywyd personol, sydd bellach wedi eu datrys.  Derbyniodd nad oedd unrhyw esgus dros oryrru ac ymddiheurodd yn daer ynghylch hynny.  Siaradodd ei gyflogwr hefyd o blaid yr Ymgeisydd gan ddweud ei fod yn yrrwr hirdymor gyda dim hanes o ddamweiniau ac nad oedd y troseddau goryrru yn nodweddiadol o’i gymeriad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, ymhelaethodd yr Ymgeisydd ar yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r troseddau goryrru a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei gymhwysedd gyrru a'i ymddygiad pe bai sefyllfa debyg yn digwydd yn y dyfodol.  Fe sefydlwyd nad oedd wedi cael cynnig nac wedi ymgymryd â chwrs ymwybyddiaeth cyflymder cyn neu ar ôl cronni'r pwyntiau cosb.  O ran ei ffitrwydd i yrru, cafwyd tystysgrif feddygol.  Er bod yr Ymgeisydd wedi datgelu'r drosedd goryrru ddiweddaraf i'w gyflogwr, nododd yr Aelodau, nad oedd yr un o’r ddau wedi hysbysu'r awdurdod trwyddedu o'r euogfarn, er mai cyfrifoldeb yr Ymgeisydd oedd gwneud hynny o fewn saith niwrnod yn unol ag amodau trwyddedu.  Yn ei ddatganiad terfynol, ailadroddodd yr Ymgeisydd ei fod yn edifar am y troseddau goryrru.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais -

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  523920 , gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr aelodau wedi ystyried yn ofalus amgylchiadau'r troseddau goryrru a'r camau lliniaru a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd ynghyd â'i sicrwydd ynghylch ymddygiad yn y dyfodol a geirda ei gyflogwr.  Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw droseddau moduro pellach wedi'u cyflawni yn ystod y deuddeng mis diwethaf.  Canfu'r pwyllgor fod yr Ymgeisydd werth ei halen ac yn edifar am ei weithredoedd, ac ar ôl ystyried ei gymeriad da hir-sefydlog a chefnogaeth ei gyflogwr, derbyniwyd ei sicrwydd o ran ymddygiad yn y dyfodol.  O ganlyniad, cafwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded a phenderfynwyd cymeradwyo’r cais adnewyddu.  Fodd bynnag, roedd casglu naw pwynt cosb am droseddau goryrru mewn cyfnod cymharol fyr yn bryder difrifol ac ystyriwyd atal y drwydded am gyfnod priodol.  Ar y cyfan, penderfynwyd rhoi rhybudd ffurfiol o ran ymddygiad yn y dyfodol yn yr achos hwn.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 516098

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif  516098.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod cais Ymgeisydd Rhif 516098 am drwydded gyrrwr cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd bod yr ymgeisydd yn hysbys iddo ac fe adawodd y cyfarfod tra bo’r cais yn cael ei ystyried.]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

 516098 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

(ii)          bod yr Ymgeisydd wedi'i drwyddedu gan yr awdurdod yn flaenorol ac wedi’i ddwyn gerbron y Pwyllgor Trwyddedu ar dri achlysur gwahanol ym mis Ionawr 2010, Mawrth 2011 a Mawrth 2016 gan arwain at rybuddion ffurfiol am y ddau achlysur cyntaf a dirymu ei drwydded ar yr achlysur olaf;

 

(iii)         polisi y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r

 

(iv)         estyn gwahoddiad i’r ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd undeb, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth (HB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos.

 

Rhoddodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd rywfaint o wybodaeth gefndirol yn ymwneud â hanes blaenorol yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig, gan dynnu sylw at y ffaith fod y cyngor wedi methu â darparu'r hyfforddiant ffurfiol priodol fel y cyfarwyddwyd gan y pwyllgor ym mis Mawrth 2011 a chyfeiriodd at effaith ac amgylchiadau dilynol yr achos yn 2016 a arweiniodd at ddirymu trwydded yr Ymgeisydd i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.  Roedd cwynion blaenorol wedi'u gwneud tra bod yr Ymgeisydd wedi bod yn ymgymryd â gwaith contract ysgol ond ni fu unrhyw broblem wrth gyflawni gwaith trwyddedu tacsi prif ffrwd cyffredinol.  O ganlyniad, dywedodd yr Ymgeisydd, pe bai yn cael trwydded, na fyddai'n ymgymryd â gwaith cludiant ysgol.  Darllenwyd geirda gan gyflogwr presennol yr Ymgeisydd yn y cyfarfod yn tynnu sylw at nifer o rinweddau da ac yn ei argymell ar gyfer cyflogaeth.

 

Cymerodd yr Aelodau’r cyfle i holi'r Ymgeisydd er mwyn canfod a oeddent yn ei ystyried yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Eglurodd yr Ymgeisydd, pe bai trwydded yn cael ei chaniatáu, ni fyddai'n ymgymryd â gwaith contractau ysgol ond byddai'n cludo plant o ran y gwaith arferol o yrru tacsi, e.e. codi o'r stryd / safle neu waith a archebwyd ymlaen llaw.  Roedd ganddo wyrion ac wyresau ei hun, felly roedd yn ymwybodol o'u hymddygiad, a dywedodd y byddai'n iawn cyn belled bod oedolyn yng nghwmni’r plant ac yn eu cadw dan reolaeth a sicrhau nad oeddent yn ymyrryd â'i yrru.  Cydnabu y gallai wynebu ymddygiad heriol gan bobl ifanc yn hwyr yn y nos a dywedodd y byddai'n gallu ymdopi gan ei fod wedi cludo plant o'r blaen heb unrhyw broblemau.  O safbwynt hyfforddiant, cadarnhaodd yr Ymgeisydd nad oedd wedi derbyn hyfforddiant ar gludo plant ag anghenion arbennig ond roedd wedi derbyn yr hyfforddiant gorfodol ym maes ymwybyddiaeth Cam-drin Plant yn Rhywiol a gyflwynwyd yn ddiweddar fel rhan o broses ymgeisio'r Cyngor.

 

Yn ystod holi pellach o’r Ymgeisydd a'r swyddogion, fe sefydlwyd -

 

·         roedd y pwyllgor ym mis Mawrth 2011 wedi rhoi amod a oedd yn gofyn i'r Ymgeisydd ymgymryd â hyfforddiant ffurfiol priodol mewn perthynas â chludo plant ag anghenion arbennig o fewn 28 diwrnod.

·           Fodd bynnag, nid oedd wedi'i egluro pwy oedd yn gyfrifol am ddarparu'r hyfforddiant hwnnw ac er bod rhywfaint o hyfforddiant gyrwyr wedi'i drefnu gan yr Adran Cludiant Ysgol, nid oedd wedi ymwneud yn benodol â chario plant ag anghenion arbennig.  • Dadleuodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd fod y cyfrifoldeb ar y cyngor i hwyluso'r ddarpariaeth hyfforddiant honno.  Er bod  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 517116

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif  517116.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan ymgeisydd rhif 517116, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            ail-ystyried cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

 517116 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn apêl yn erbyn gwrthod y cais gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Mehefin 2017;

(ii)          collfarnau a ddatgelwyd yn dilyn datgeliad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd ym 1988 o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, a oedd heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd, a’r croniad o 14 pwynt cosb ar ei Drwydded Gyrru DVLA a oedd yn ymwneud a throseddau traffig a gyflawnwyd rhwng 2014 a 2015, gydag un ohonynt heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd;

 

(iii)         dogfennaeth berthnasol yn ymwneud â’r achos, yn cynnwys manylion cyfweliad ffurfiol yr Ymgeisydd yn amgaeedig gyda’r adroddiad;

 

(iv)         polisi'r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r

 

(v)          estyn gwahoddiad i’r ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd undeb, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth (TB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos.

 

Tynnodd cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymgeisydd sylw at yr anawsterau pan ddefnyddiwyd gwahanol reolau gan wahanol sefydliadau a arweiniodd at gamddealltwriaeth o ran datgelu euogfarnau perthnasol fel rhan o'r broses ymgeisio yn yr achos hwn.  Ni fu unrhyw ymgais gan yr Ymgeisydd i dwyllo neu guddio unrhyw wybodaeth a ddaeth i’r amlwg trwy gyflwyno gwiriad DBS a gwiriad arferol hysbys o drwydded yrru DVLA yr Ymgeisydd.  Cyfeiriwyd at amseriad yr euogfarnau moduro a gafodd yr Ymgeisydd a'r euogfarnau a oedd wedi 'pasio' a oedd yn parhau ar gofnod am ddeuddeng mis pellach ac na chafwyd euogfarnau am droseddau moduro ers dros ddwy flynedd.  Cyflwynwyd bod yr Ymgeisydd wedi derbyn ei gamgymeriad ac roedd o gymeriad da ac yn meddu ar y rhinweddau angenrheidiol i fod yn yrrwr trwyddedig cyfrifol a dibynadwy.

 

Hysbyswyd yr Aelodau am ddau fater i'w hystyried yn yr achos hwn, (1) peidio â datgelu euogfarnau perthnasol, a (2) y pwyntiau cosb a oedd yn parhau'n ddilys o ran y cais.  Atebodd yr Ymgeisydd ei fod wedi cael gwybod na fyddai'r euogfarnau wedi 'pasio' yn ei atal rhag cael trwydded ac roedd yn derbyn bod tri phwynt cosb yn parhau'n ddilys ar ei drwydded a'u bod wedi cael eu datgelu.  Cadarnhaodd hefyd ei fod wedi cael cynnig cyflogaeth pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu.

 

Yn ei ddatganiad terfynol, ailadroddodd cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymgeisydd fod camgymeriad gwirioneddol wedi'i wneud ynghylch y diffyg datgelu, a bod yr Ymgeisydd wedi ymddiheuro am hyn a gofynnodd i'r aelodau edrych yn ffafriol ar y cais.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD caniatáu cais Ymgeisydd Rhif  517116 am drwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ar ôl ystyried yr esboniad gan yr Ymgeisydd mewn perthynas â'r troseddau a pheidio â datgelu troseddau perthnasol, derbyniodd yr Aelodau ei fod wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol yn yr achlysur hwn ac ni fu unrhyw fwriad i dwyllo.  Nodwyd bod y troseddau moduro wedi digwydd beth amser yn ôl ac roedd gan yr Ymgeisydd gyfnod yn rhydd o euogfarnau ers dros ddwy flynedd.  Er bod rhai pwyntiau dilys ar Drwydded DVLA yr Ymgeisydd, nid oedd y pwyllgor yn eu hystyried mor ddifrifol fel ei fod yn anaddas i weithredu fel gyrrwr trwyddedig.  O ganlyniad, cafwyd bod yr  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD DR186

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif  523920.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Yrrwr rhif DR186, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol –

 

(i)            chais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif

 DR186 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat;

(ii)          roedd gwiriad arferol ar Drwydded Yrru DVLA yr Ymgeisydd wedi cadarnhau'r croniad o ddeuddeg pwynt cosb am droseddau goryrru yn ystod y cyfnod rhwng Medi 2013 a Rhagfyr 2016;

 

(iii)         dogfennaeth berthnasol yn ymwneud â’r achos, yn cynnwys manylion cyfweliad ffurfiol yr Ymgeisydd ynghyd â geirdaon am ei gymeriad yn amgaeedig gyda’r adroddiad;

 

(iv)         roedd yr Ymgeisydd wedi apelio i'r Llys Ynadon yn erbyn y swyddogion yn gwrthod y cais o dan benderfyniad dirprwyedig, gan arwain at gytundeb i gyflwyno'r cais adnewyddu i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w benderfynu;

 

(v)          polisi'r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r

 

(vi)         estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd undeb, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos.

 

Dywedodd cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymgeisydd nad oedd yr Ymgeisydd yn falch o'i gofnod gyrru a chronni naw pwynt cosb (gyda’r euogfarnau hynaf wedi eu tynnu oddi ar y cofnod ers hynny) a manylodd ar yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r troseddau goryrru a gyflawnwyd mewn ardaloedd anghyfarwydd yn ei gerbyd preifat ac nid wrth weithio fel gyrrwr trwyddedig.  Cyfeiriodd at feysydd o fewn polisi erlyniad y cyngor gan ddadlau nad oedd yr Ymgeisydd yn anonest ac nad oedd yn fygythiad i'r cyhoedd na diogelwch y cyhoedd, a thynnodd sylw at y geirdaon rhagorol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a ddarparwyd yn wirfoddol gan drawstoriad o'r gymuned yn tystio i'w gymeriad da.  O ran sancsiynau rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod yr Ymgeisydd wedi cael ei atal am bron i ddau fis ac nad oedd wedi gallu gweithio yn ystod yr amser hwnnw a oedd wedi achosi caledi ariannol gyda rhagolygon cyflogaeth isel ar gyfer y dyfodol.  Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei alluoedd gyrru.  Cadarnhaodd nad oedd wedi cael cynnig cwrs ymwybyddiaeth cyflymder.

 

Wrth wneud datganiad terfynol, cafodd yr Ymgeisydd ei ddisgrifio gan ei gynrychiolydd cyfreithiol fel unigolyn ymroddedig a gyrrwr cymwys a oedd wedi mynegi edifeirwch gwirioneddol ac wedi cadw cofnod gyrru glân dros y deuddeng mis diwethaf.  Dywedodd fod y geirdaon o ran ei gymeriad yn rhoi sicrwydd pellach ynghylch ei gymeriad yn dangos ei fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.

 

Gadawodd y Cynghorydd Tony Thomas y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gohiriwyd y pwyllgor i ystyried y cais a -

 

PHENDERFYNWYD caniatáu’r cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  DR186, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad yn ofalus a'r cyflwyniadau a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd i gefnogi ei gais.  Canfu'r pwyllgor fod yr Ymgeisydd yn ddilys yn ei anerchiad a’i ymateb i gwestiynau a hefyd dangoswyd trwy eirdaon ei fod yn unigolyn dibynadwy a pharchus.  O ganlyniad, cafwyd bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ynglŷn â throseddau cyflymder yr Ymgeisydd a chytunwyd i roi rhybudd ffurfiol ynghylch ymddygiad yr Ymgeisydd yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad y Pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r Ymgeisydd.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau'r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

9.

DIWYGIADAU ARFAETHEDIG I FANYLION PRESENNOL CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 188 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) yn manylu ar ddiwygiadau arfaethedig i fanylion presennol cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD fod y diwygiadau i fanylebau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo ar unwaith.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar y newidiadau arfaethedig i'r manylebau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat presennol i’r aelodau ei ystyried.

 

Roedd y polisi trwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ynghyd â manylebau ac amodau cerbydau, wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Rhagfyr 2016 yn dilyn ymgynghoriad helaeth a daeth i rym ar 1 Gorffennaf 2017. Roedd y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2017 wedi penderfynu gwyro o'r fanyleb polisi o ran gofynion lleiafswm gofod coesau a gofynnodd i'r swyddogion adolygu'r polisi manyleb cyfredol, yn benodol y fanyleb seddi cerbydau, ac adrodd yn ôl cyn gynted ag y bo'n ymarferol.  Roedd manylion y diwygiadau arfaethedig wedi'u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad.

 

Nododd yr aelodau, heblaw am y diwygiadau at ddibenion eglurhad, fod y mwyafrif o'r diwygiadau arfaethedig yn dileu'r manylebau cerbyd mwy cyfyngol o blaid cerbydau’n "cael eu cymeradwyo yn ôl math" gan eu bod eisoes wedi'u hystyried yn addas i'r diben i gario nifer y teithwyr fel y manylwyd arnynt ar y dogfennau cofrestru cerbydau.  O'i roi i’r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD fod y diwygiadau i fanylebau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo ar unwaith.

 

 

10.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I FFIOEDD A THALIADAU TRWYDDEDU TACSIS pdf eicon PDF 192 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) yn manylu ar newidiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau trwyddedu cerbydau hacni a cherbyd hurio preifat.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD yn dilyn ystyriaeth o’r sylwadau a dderbyniwyd, bod aelodau -

 

 (a)      yn cymeradwyo’r ffioedd a’r taliadau a fanylir arnynt yn Atodiad A yr adroddiad, ac

 

 (b)      awdurdodi swyddogion roi’r ffioedd a’r taliadau ar waith fel y cymeradwywyd, i ddod i rym o 1 Ebrill 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i'r aelodau ystyried ffioedd a thaliadau cerbydau hacni / hurio preifat yn sgil yr ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad.

 

Cymeradwywyd y ffioedd a'r taliadau trwyddedu arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Medi 2017. Derbyniwyd un ymateb i'r ymgynghoriad fel y nodwyd yn yr adroddiad ynghyd â sylwadau'r swyddogion mewn ymateb iddo.  O ganlyniad, gofynnwyd i'r aelodau ystyried a ddylid addasu'r ffioedd a'r taliadau arfaethedig ai peidio yn unol â'r sylwadau a wnaed.

 

Yn ystod y ddadl, eglurwyd nad oedd y cyngor yn ymgymryd â, nac yn codi am, galibro mesuryddion tacsi, a wnaed gan gwmnïau preifat. 

 

PENDERFYNWYD yn dilyn ystyriaeth o’r sylwadau a dderbyniwyd, bod aelodau -

 

 (a)      yn cymeradwyo’r ffioedd a’r taliadau a fanylir arnynt yn Atodiad A yr adroddiad, ac

 

 (b)      awdurdodi swyddogion roi’r ffioedd a’r taliadau ar waith fel y cymeradwywyd, i ddod i rym o 1 Ebrill 2018.

 

 

11.

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD A THALIADAU CERBYDAU HACNI pdf eicon PDF 399 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu ffioedd presennol cerbydau hacni (tacsis).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod aelodau yn -

 

 (a)      cymeradwyo newid i’r tabl taliadau presennol fel a ganlyn:

 

·         Cyflwyno dewis 2 o’r costau fesul milltir.

·         Cyflwyno newidiadau fesul cam mewn lluosrif o £0.10 fesul 1/20fed y filltir yn unig. 

·         Cynyddu’r tâl baeddu i £100.

·         Cynyddu’r amser aros ar gyfer Tariff 1 i £0.30 y funud.

·         Cadw amser aros ar gyfer Tariff 2 yn £0.40 y funud.

·         Cynnwys Sul y Pasg yn Nhariff 2.

·         Cynnwys cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio yn yr eithriadau i’r tâl bagiau

·         Cadw’r tâl ychwanegol o £0.20 fesul eitem o fagiau y tu allan i’r adran teithiwr (ac eithrio siopa).

·         Cyflwyno tâl ychwanegol o £0.20 i bob anifail anwes, ac eithrio cŵn tywys.

 

(b)       Awdurdodi swyddogion i baratoi adroddiad ar gyfer Penderfyniad Dirprwyol Aelod Arweiniol i fabwysiadu’r newidiadau yn is-baragraff a) uchod;

 

(c)        Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r newidiadau mewn papur newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, byddant yn dod i rym ar 1 Chwefror 2018,

 

(d)       Lle derbynnir unrhyw wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau hynny yn eu cyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad) dim hwyrach nag 1 Ebrill 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i'r aelodau adolygu’r ffioedd a thaliadau cyfredol ar  gyfer cerbydau hacni (tacsis).

 

Yn dilyn cais gan gynrychiolydd gyrwyr trwyddedig i adolygu’r ffioedd tariff presennol, roedd swyddogion wedi ymgynghori gyda phob gyrrwr i ganfod ffi tariff priodol yn seiliedig ar bump opsiwn.    Roedd manylion yr ymatebion a dderbyniwyd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â sefyllfa'r awdurdod o fewn y "tabl cynghrair" o brisiau tacsis yn seiliedig ar bob opsiwn.  Cyfeiriwyd at y broses benderfynu a oedd yn destun hysbysiad cyhoeddus pellach a phenderfyniad dirprwyedig yr Aelod Arweiniol cyn ei weithredu.  Cynigiwyd bod unrhyw sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus yn cael eu cyfeirio'n ôl i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w hystyried ymhellach fel rhan o'r broses honno.

 

Trafododd yr Aelodau'r broses o wneud penderfyniadau gyda swyddogion, yn enwedig o gofio bod yr Aelod Cabinet Arweiniol perthnasol hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Trwyddedu, a chytunodd y swyddogion i ofyn am eglurhad pellach yn hynny o beth.  Cadarnhaodd swyddogion hefyd fod y tariffau mesurydd tacsi yn ymwneud â'r uchafswm ffioedd a thaliadau a osodwyd a gallai gweithredwyr godi swm is.  Nododd yr Aelodau bod nifer fawr o yrwyr trwyddedig wedi gofyn am gynnydd mewn ffioedd a thaliadau.

 

PENDERFYNWYD bod aelodau yn -

 

 (a)      cymeradwyo newid i’r tabl taliadau presennol fel a ganlyn:

 

·         Cyflwyno dewis 2 o’r costau fesul milltir.

·         Cyflwyno newidiadau fesul cam mewn lluosrif o £0.10 fesul 1/20fed y filltir yn unig. 

·         Cynyddu’r tâl baeddu i £100.

·         Cynyddu’r amser aros ar gyfer Tariff 1 i £0.30 y funud.

·         Cadw amser aros ar gyfer Tariff 2 yn £0.40 y funud.

·         Cynnwys Sul y Pasg yn Nhariff 2.

·         Cynnwys cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio yn yr eithriadau i’r tâl bagiau

·         Cadw’r tâl ychwanegol o £0.20 fesul eitem o fagiau y tu allan i’r adran teithiwr (ac eithrio siopa).

·         Cyflwyno tâl ychwanegol o £0.20 i bob anifail anwes, ac eithrio cŵn tywys.

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i baratoi adroddiad ar gyfer Penderfyniad Dirprwyol Aelod Arweiniol i fabwysiadu’r newidiadau yn is-baragraff (a) uchod;

 

 (c)       awdurdodi swyddogion i gyhoeddi’r newidiadau mewn papur newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, byddant yn dod i rym ar 1 Chwefror 2018, a

 

 (d)      lle derbynnir unrhyw wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau hynny yn eu cyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad) dim hwyrach nag 1 Ebrill 2018. 

 

Ymatalodd y Cynghorydd Brian Jones rhag pleidleisio ar y mater hwn.

 

 

12.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 104 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd yn yr Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen waith arfaethedig y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2018.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd yn yr Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.50 p.m.