Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr
Peter Scott a Rhys Thomas. Cofnodion: Y Cynghorwyr Peter Scott a Rhys Thomas |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Y Cynghorydd Hugh Irving – Cysylltiad Personol
sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Barry Mellor – Cysylltiad Personol
sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 6 ar y Rhaglen Cofnodion: Y Cynghorydd Hugh Irving – Cysylltiad Personol
sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Barry Mellor – Cysylltiad Personol
sy’n Rhagfarnu – Eitem rhif 6 ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 481 KB Derbyn - (a) cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 (copi wedi’i amgáu). (b) cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a
gynhaliwyd ar 18 Hydref 2017 (copi wedi’i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 ac 18 Hydref
2017 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 a’r Pwyllgor
Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 18 Medi 2017. PENDERFYNWYD derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Medi 2017 ac 18 Hydref
2017 fel cofnod cywir. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol
o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A
y Ddeddf. |
|
ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 523920 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif 523920. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 523920 , gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi
ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Hugh Irving (Cadeirydd)
gysylltiad personol sy'n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn adnabod
yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd, a gadawodd y cyfarfod tra bo’r eitem yn cael ei
thrafod. Cymerodd y Cynghorydd Alan
James (Is-Gadeirydd) y Gadair ar gyfer yr eitem hon.] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
canlynol – (i)
chais
i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 523920 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat; (ii)
swyddogion
heb fod mewn sefyllfa i roi’r cais adnewyddu yn dilyn croniad o 9 pwynt cosb ar
Drwydded Gyrru DVLA yr Ymgeisydd ar gyfer troseddau goryrru rhwng y cyfnod
Tachwedd 2015 i Tachwedd 2016, a oedd wedi'u cadarnhau yn dilyn gwiriad fel
mater o drefn, fel rhan o’r cais adnewyddu; (iii)
Roedd
yr Ymgeisydd wedi cyflwyno mesurau lliniaru yn ystod cyfweliad ynghylch y
troseddau traffig ynghyd â sicrwydd ynghylch ei ymddygiad wrth yrru; (iv)
polisi
y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r (v)
estyn
gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i
ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd yr
Ymgeisydd, yng nghwmni ei gyflogwr, ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Gorfodaeth (TB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos. Eglurodd yr
Ymgeisydd bod y tair trosedd goryrru wedi digwydd ar adegau anodd iawn yn ei
fywyd personol, sydd bellach wedi eu datrys.
Derbyniodd nad oedd unrhyw esgus dros oryrru ac ymddiheurodd yn daer
ynghylch hynny. Siaradodd ei gyflogwr hefyd o blaid yr Ymgeisydd gan ddweud ei fod yn yrrwr
hirdymor gyda dim hanes o ddamweiniau ac nad oedd y troseddau goryrru yn
nodweddiadol o’i gymeriad. Mewn ymateb i
gwestiynau'r aelodau, ymhelaethodd yr Ymgeisydd ar yr amgylchiadau sy'n ymwneud
â'r troseddau goryrru a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei gymhwysedd gyrru a'i
ymddygiad pe bai sefyllfa debyg yn digwydd yn y dyfodol. Fe sefydlwyd nad oedd wedi cael
cynnig nac wedi ymgymryd â chwrs ymwybyddiaeth cyflymder cyn neu ar ôl cronni'r
pwyntiau cosb. O ran ei ffitrwydd i yrru, cafwyd tystysgrif feddygol. Er bod yr Ymgeisydd wedi
datgelu'r drosedd goryrru ddiweddaraf i'w gyflogwr, nododd yr Aelodau, nad oedd
yr un o’r ddau wedi hysbysu'r awdurdod trwyddedu o'r euogfarn, er mai
cyfrifoldeb yr Ymgeisydd oedd gwneud hynny o fewn saith niwrnod yn unol ag amodau
trwyddedu. Yn ei ddatganiad terfynol, ailadroddodd yr Ymgeisydd
ei fod yn edifar am y troseddau goryrru. Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried y cais - PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 523920 , gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi
ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Dyma oedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Roedd yr aelodau wedi ystyried yn ofalus amgylchiadau'r troseddau goryrru a'r camau lliniaru a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd ynghyd â'i sicrwydd ynghylch ymddygiad yn y dyfodol a geirda ei gyflogwr. Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw droseddau moduro pellach wedi'u cyflawni yn ystod y deuddeng mis diwethaf. Canfu'r pwyllgor fod yr Ymgeisydd werth ei halen ac yn edifar am ei weithredoedd, ac ar ôl ystyried ei gymeriad da hir-sefydlog a chefnogaeth ei gyflogwr, derbyniwyd ei sicrwydd o ran ymddygiad yn y dyfodol. O ganlyniad, cafwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded a phenderfynwyd cymeradwyo’r cais adnewyddu. Fodd bynnag, roedd casglu naw pwynt cosb am droseddau goryrru mewn cyfnod cymharol fyr yn bryder difrifol ac ystyriwyd atal y drwydded am gyfnod priodol. Ar y cyfan, penderfynwyd rhoi rhybudd ffurfiol o ran ymddygiad yn y dyfodol yn yr achos hwn. ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 516098
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm)
yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 516098. Penderfyniad: PENDERFYNWYD gwrthod cais Ymgeisydd Rhif 516098 am drwydded
gyrrwr cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Barry
Mellor gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd bod yr ymgeisydd
yn hysbys iddo ac fe adawodd y cyfarfod tra bo’r cais yn cael ei ystyried.] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
canlynol – (i)
cais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 516098 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat; (ii)
bod yr Ymgeisydd wedi'i drwyddedu gan yr awdurdod yn flaenorol ac wedi’i
ddwyn gerbron y Pwyllgor Trwyddedu ar dri achlysur gwahanol ym mis Ionawr 2010,
Mawrth 2011 a Mawrth 2016 gan arwain at rybuddion ffurfiol am y ddau achlysur
cyntaf a dirymu ei drwydded ar yr achlysur olaf; (iii)
polisi
y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a’r (iv)
estyn
gwahoddiad i’r ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau. Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i
gynrychiolydd undeb, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodaeth (HB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos. Rhoddodd cynrychiolydd
yr Ymgeisydd rywfaint o wybodaeth gefndirol yn ymwneud â hanes blaenorol yr
Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig, gan dynnu sylw at y ffaith fod y cyngor wedi
methu â darparu'r hyfforddiant ffurfiol priodol fel y cyfarwyddwyd gan y
pwyllgor ym mis Mawrth 2011 a chyfeiriodd at effaith ac amgylchiadau dilynol yr
achos yn 2016 a arweiniodd at ddirymu trwydded yr Ymgeisydd i yrru cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat. Roedd cwynion blaenorol wedi'u gwneud tra bod yr
Ymgeisydd wedi bod yn ymgymryd â gwaith contract ysgol ond ni fu unrhyw broblem
wrth gyflawni gwaith trwyddedu tacsi prif ffrwd cyffredinol. O ganlyniad,
dywedodd yr Ymgeisydd, pe bai yn cael trwydded, na fyddai'n ymgymryd â gwaith
cludiant ysgol. Darllenwyd geirda gan gyflogwr presennol yr Ymgeisydd
yn y cyfarfod yn tynnu sylw at nifer o rinweddau da ac yn ei argymell ar gyfer
cyflogaeth. Cymerodd
yr Aelodau’r cyfle i holi'r Ymgeisydd er mwyn canfod a oeddent yn ei ystyried
yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.
Eglurodd yr Ymgeisydd, pe bai
trwydded yn cael ei chaniatáu, ni fyddai'n ymgymryd â gwaith contractau ysgol
ond byddai'n cludo plant o ran y gwaith arferol o yrru tacsi, e.e. codi o'r
stryd / safle neu waith a archebwyd ymlaen llaw.
Roedd ganddo wyrion ac wyresau ei
hun, felly roedd yn ymwybodol o'u hymddygiad, a dywedodd y byddai'n iawn cyn
belled bod oedolyn yng nghwmni’r plant ac yn eu cadw dan reolaeth a sicrhau nad
oeddent yn ymyrryd â'i yrru. Cydnabu y gallai wynebu ymddygiad heriol gan bobl
ifanc yn hwyr yn y nos a dywedodd y byddai'n gallu ymdopi gan ei fod wedi cludo
plant o'r blaen heb unrhyw broblemau. O safbwynt hyfforddiant, cadarnhaodd yr Ymgeisydd nad
oedd wedi derbyn hyfforddiant ar gludo plant ag anghenion arbennig ond roedd
wedi derbyn yr hyfforddiant gorfodol ym maes ymwybyddiaeth Cam-drin Plant yn
Rhywiol a gyflwynwyd yn ddiweddar fel rhan o broses ymgeisio'r Cyngor. Yn ystod holi pellach o’r Ymgeisydd a'r
swyddogion, fe sefydlwyd - ·
roedd y pwyllgor
ym mis Mawrth 2011 wedi rhoi amod a oedd yn gofyn i'r Ymgeisydd ymgymryd â
hyfforddiant ffurfiol priodol mewn perthynas â chludo plant ag anghenion
arbennig o fewn 28 diwrnod. · Fodd bynnag, nid oedd wedi'i egluro pwy oedd yn gyfrifol am ddarparu'r hyfforddiant hwnnw ac er bod rhywfaint o hyfforddiant gyrwyr wedi'i drefnu gan yr Adran Cludiant Ysgol, nid oedd wedi ymwneud yn benodol â chario plant ag anghenion arbennig. • Dadleuodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd fod y cyfrifoldeb ar y cyngor i hwyluso'r ddarpariaeth hyfforddiant honno. Er bod ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 517116
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 517116. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am drwydded i yrru cerbyd hacni
a cherbyd hurio preifat gan ymgeisydd rhif 517116, gyda rhybudd ffurfiol yn
cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r canlynol – (i)
ail-ystyried
cais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 517116 am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat yn dilyn apêl yn erbyn gwrthod y cais gan y Pwyllgor
Trwyddedu ym mis Mehefin 2017; (ii)
collfarnau
a ddatgelwyd yn dilyn datgeliad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS),
yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd ym 1988 o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988,
a oedd heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd, a’r croniad o 14 pwynt cosb ar ei
Drwydded Gyrru DVLA a oedd yn ymwneud a throseddau traffig a gyflawnwyd rhwng
2014 a 2015, gydag un ohonynt heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd; (iii)
dogfennaeth
berthnasol yn ymwneud â’r achos, yn cynnwys manylion cyfweliad ffurfiol yr
Ymgeisydd yn amgaeedig gyda’r adroddiad; (iv)
polisi'r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau, a’r (v)
estyn
gwahoddiad i’r ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau. Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i
gynrychiolydd undeb, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodaeth (TB) yr adroddiad gan fanylu ar y ffeithiau'r achos. Tynnodd
cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymgeisydd sylw at yr anawsterau pan ddefnyddiwyd
gwahanol reolau gan wahanol sefydliadau a arweiniodd at gamddealltwriaeth o ran
datgelu euogfarnau perthnasol fel rhan o'r broses ymgeisio yn yr achos hwn. Ni fu unrhyw
ymgais gan yr Ymgeisydd i dwyllo neu guddio unrhyw wybodaeth a ddaeth i’r amlwg
trwy gyflwyno gwiriad DBS a gwiriad arferol hysbys o drwydded yrru DVLA yr
Ymgeisydd. Cyfeiriwyd at
amseriad yr euogfarnau moduro a gafodd yr Ymgeisydd a'r euogfarnau a oedd wedi
'pasio' a oedd yn parhau ar gofnod am ddeuddeng mis pellach ac na chafwyd
euogfarnau am droseddau moduro ers dros ddwy flynedd.
Cyflwynwyd bod yr Ymgeisydd wedi
derbyn ei gamgymeriad ac roedd o gymeriad da ac yn meddu ar y rhinweddau
angenrheidiol i fod yn yrrwr trwyddedig cyfrifol a dibynadwy. Hysbyswyd yr
Aelodau am ddau fater i'w hystyried yn yr achos hwn, (1) peidio â datgelu
euogfarnau perthnasol, a (2) y pwyntiau cosb a oedd yn parhau'n ddilys o ran y
cais. Atebodd yr
Ymgeisydd ei fod wedi cael gwybod na fyddai'r euogfarnau wedi 'pasio' yn ei
atal rhag cael trwydded ac roedd yn derbyn bod tri phwynt cosb yn parhau'n
ddilys ar ei drwydded a'u bod wedi cael eu datgelu.
Cadarnhaodd hefyd ei fod wedi
cael cynnig cyflogaeth pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu. Yn ei ddatganiad
terfynol, ailadroddodd cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymgeisydd fod camgymeriad
gwirioneddol wedi'i wneud ynghylch y diffyg datgelu, a bod yr Ymgeisydd wedi
ymddiheuro am hyn a gofynnodd i'r aelodau edrych yn ffafriol ar y cais. Gohiriwyd
y pwyllgor i ystyried y cais a - PHENDERFYNWYD caniatáu cais Ymgeisydd Rhif 517116 am drwydded yrru cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat,
gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu – Ar ôl ystyried yr esboniad gan yr Ymgeisydd mewn perthynas â'r troseddau a pheidio â datgelu troseddau perthnasol, derbyniodd yr Aelodau ei fod wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol yn yr achlysur hwn ac ni fu unrhyw fwriad i dwyllo. Nodwyd bod y troseddau moduro wedi digwydd beth amser yn ôl ac roedd gan yr Ymgeisydd gyfnod yn rhydd o euogfarnau ers dros ddwy flynedd. Er bod rhai pwyntiau dilys ar Drwydded DVLA yr Ymgeisydd, nid oedd y pwyllgor yn eu hystyried mor ddifrifol fel ei fod yn anaddas i weithredu fel gyrrwr trwyddedig. O ganlyniad, cafwyd bod yr ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD DR186
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif 523920. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbyd hurio preifat gan Yrrwr rhif DR186, gyda rhybudd ffurfiol yn
cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â’r
canlynol – (i)
chais
i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif DR186 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat; (ii)
roedd gwiriad arferol ar Drwydded Yrru DVLA yr Ymgeisydd wedi cadarnhau'r
croniad o ddeuddeg pwynt cosb am droseddau goryrru yn ystod y cyfnod rhwng Medi
2013 a Rhagfyr 2016; (iii)
dogfennaeth
berthnasol yn ymwneud â’r achos, yn cynnwys manylion cyfweliad ffurfiol yr
Ymgeisydd ynghyd â geirdaon am ei gymeriad yn amgaeedig gyda’r adroddiad; (iv)
roedd yr Ymgeisydd wedi apelio i'r Llys Ynadon yn erbyn y swyddogion yn
gwrthod y cais o dan benderfyniad dirprwyedig, gan arwain at gytundeb i gyflwyno'r
cais adnewyddu i'r Pwyllgor Trwyddedu i'w benderfynu; (v)
polisi'r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau, a’r (vi)
estyn
gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i adnewyddu ac i
ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny. Roedd yr Ymgeisydd
yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd undeb, a chadarnhaodd ei
fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad a ffeithiau'r achos. Dywedodd cynrychiolydd cyfreithiol
yr Ymgeisydd nad oedd yr Ymgeisydd yn falch o'i gofnod gyrru a chronni naw
pwynt cosb (gyda’r euogfarnau hynaf wedi eu tynnu oddi ar y cofnod ers hynny) a
manylodd ar yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r troseddau goryrru a
gyflawnwyd mewn ardaloedd anghyfarwydd yn ei gerbyd preifat ac nid wrth weithio
fel gyrrwr trwyddedig. Cyfeiriodd at feysydd o fewn polisi erlyniad y cyngor
gan ddadlau nad oedd yr Ymgeisydd yn anonest ac nad oedd yn fygythiad i'r
cyhoedd na diogelwch y cyhoedd, a thynnodd sylw at y geirdaon rhagorol (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) a ddarparwyd yn wirfoddol gan drawstoriad o'r
gymuned yn tystio i'w gymeriad da. O ran sancsiynau rhoddwyd gwybod
i'r aelodau fod yr Ymgeisydd wedi cael ei atal am bron i ddau fis ac nad oedd
wedi gallu gweithio yn ystod yr amser hwnnw a oedd wedi achosi caledi ariannol
gyda rhagolygon cyflogaeth isel ar gyfer y dyfodol. Ymatebodd yr Ymgeisydd i
gwestiynau a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei alluoedd gyrru. Cadarnhaodd nad oedd wedi cael
cynnig cwrs ymwybyddiaeth cyflymder. Wrth wneud
datganiad terfynol, cafodd yr Ymgeisydd ei ddisgrifio gan ei gynrychiolydd
cyfreithiol fel unigolyn ymroddedig a gyrrwr cymwys a oedd wedi mynegi
edifeirwch gwirioneddol ac wedi cadw cofnod gyrru glân dros y deuddeng mis diwethaf. Dywedodd fod y geirdaon o ran ei
gymeriad yn rhoi sicrwydd pellach ynghylch ei gymeriad yn dangos ei fod yn
berson addas a phriodol i ddal trwydded. Gadawodd y
Cynghorydd Tony Thomas y cyfarfod ar y pwynt hwn. Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried y cais a - PHENDERFYNWYD caniatáu’r cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd
hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif DR186, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch
ei ymddygiad yn y dyfodol. Dyma oedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad yn ofalus a'r
cyflwyniadau a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd i gefnogi ei gais. Canfu'r pwyllgor fod yr Ymgeisydd yn ddilys yn ei
anerchiad a’i ymateb i gwestiynau a hefyd dangoswyd trwy eirdaon ei fod yn
unigolyn dibynadwy a pharchus. O
ganlyniad, cafwyd bod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon
ynglŷn â throseddau cyflymder yr Ymgeisydd a chytunwyd i roi rhybudd
ffurfiol ynghylch ymddygiad yr Ymgeisydd yn y dyfodol. Cafodd penderfyniad y
Pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu i'r Ymgeisydd. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau'r
busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
DIWYGIADAU ARFAETHEDIG I FANYLION PRESENNOL CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 188 KB Ystyried adroddiad
gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) yn manylu ar
ddiwygiadau arfaethedig i fanylion presennol cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD fod y diwygiadau i fanylebau cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad yn cael eu
cymeradwyo ar unwaith. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar y
newidiadau arfaethedig i'r manylebau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat
presennol i’r aelodau ei ystyried. Roedd y
polisi trwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ynghyd â manylebau
ac amodau cerbydau, wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis
Rhagfyr 2016 yn dilyn ymgynghoriad helaeth a daeth i rym ar 1 Gorffennaf 2017.
Roedd y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2017 wedi penderfynu
gwyro o'r fanyleb polisi o ran gofynion lleiafswm gofod coesau a gofynnodd i'r
swyddogion adolygu'r polisi manyleb cyfredol, yn benodol y fanyleb seddi
cerbydau, ac adrodd yn ôl cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Roedd manylion y diwygiadau
arfaethedig wedi'u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad. Nododd yr
aelodau, heblaw am y diwygiadau at ddibenion eglurhad, fod y mwyafrif o'r
diwygiadau arfaethedig yn dileu'r manylebau cerbyd mwy cyfyngol o blaid
cerbydau’n "cael eu cymeradwyo yn ôl math" gan eu bod eisoes wedi'u
hystyried yn addas i'r diben i gario nifer y teithwyr fel y manylwyd arnynt ar
y dogfennau cofrestru cerbydau. O'i roi i’r
bleidlais - PENDERFYNWYD fod y diwygiadau i fanylebau cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad yn cael eu
cymeradwyo ar unwaith. |
|
NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I FFIOEDD A THALIADAU TRWYDDEDU TACSIS PDF 192 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) yn
manylu ar newidiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau trwyddedu cerbydau hacni
a cherbyd hurio preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD yn dilyn
ystyriaeth o’r sylwadau a dderbyniwyd, bod aelodau - (a) yn cymeradwyo’r
ffioedd a’r taliadau a fanylir arnynt yn Atodiad A yr adroddiad, ac (b) awdurdodi
swyddogion roi’r ffioedd a’r taliadau ar waith fel y cymeradwywyd, i ddod i rym
o 1 Ebrill 2018. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Busnes
Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i'r aelodau
ystyried ffioedd a thaliadau cerbydau hacni / hurio preifat yn sgil yr
ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad. Cymeradwywyd y ffioedd a'r
taliadau trwyddedu arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Pwyllgor
Trwyddedu ym mis Medi 2017. Derbyniwyd un ymateb i'r ymgynghoriad fel y nodwyd
yn yr adroddiad ynghyd â sylwadau'r swyddogion mewn ymateb iddo. O ganlyniad, gofynnwyd i'r
aelodau ystyried a ddylid addasu'r ffioedd a'r taliadau arfaethedig ai peidio
yn unol â'r sylwadau a wnaed. Yn ystod y ddadl, eglurwyd nad
oedd y cyngor yn ymgymryd â, nac yn codi am, galibro mesuryddion tacsi, a wnaed
gan gwmnïau preifat. PENDERFYNWYD yn dilyn
ystyriaeth o’r sylwadau a dderbyniwyd, bod aelodau - (a) yn cymeradwyo’r
ffioedd a’r taliadau a fanylir arnynt yn Atodiad A yr adroddiad, ac (b) awdurdodi
swyddogion roi’r ffioedd a’r taliadau ar waith fel y cymeradwywyd, i ddod i rym
o 1 Ebrill 2018. |
|
NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I DABL FFIOEDD A THALIADAU CERBYDAU HACNI PDF 399 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
gofyn i aelodau adolygu ffioedd presennol cerbydau hacni (tacsis). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod aelodau yn - (a) cymeradwyo newid
i’r tabl taliadau presennol fel a ganlyn: ·
Cyflwyno dewis 2 o’r costau
fesul milltir. ·
Cyflwyno newidiadau fesul cam
mewn lluosrif o £0.10 fesul 1/20fed y filltir yn unig. ·
Cynyddu’r tâl baeddu i £100. ·
Cynyddu’r amser aros ar gyfer
Tariff 1 i £0.30 y funud. ·
Cadw amser aros ar gyfer
Tariff 2 yn £0.40 y funud. ·
Cynnwys Sul y Pasg yn Nhariff
2. ·
Cynnwys cadeiriau olwyn a
chadeiriau gwthio yn yr eithriadau i’r tâl bagiau ·
Cadw’r tâl ychwanegol o £0.20
fesul eitem o fagiau y tu allan i’r adran teithiwr (ac eithrio siopa). ·
Cyflwyno tâl ychwanegol o
£0.20 i bob anifail anwes, ac eithrio cŵn tywys. (b) Awdurdodi
swyddogion i baratoi adroddiad ar gyfer Penderfyniad Dirprwyol Aelod Arweiniol
i fabwysiadu’r newidiadau yn is-baragraff a) uchod; (c) Awdurdodi swyddogion i
gyhoeddi’r newidiadau mewn papur newydd lleol ar gyfer yr ymgynghoriad
angenrheidiol ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, byddant yn dod i rym ar
1 Chwefror 2018, (d) Lle derbynnir unrhyw
wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau hynny
yn eu cyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad) dim
hwyrach nag 1 Ebrill 2018. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) yn gofyn i'r aelodau adolygu’r ffioedd a thaliadau cyfredol ar gyfer cerbydau hacni (tacsis). Yn dilyn cais gan gynrychiolydd gyrwyr trwyddedig i adolygu’r ffioedd
tariff presennol, roedd swyddogion wedi ymgynghori gyda phob gyrrwr i ganfod
ffi tariff priodol yn seiliedig ar bump opsiwn. Roedd
manylion yr ymatebion a dderbyniwyd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â
sefyllfa'r awdurdod o fewn y "tabl cynghrair" o brisiau tacsis yn
seiliedig ar bob opsiwn. Cyfeiriwyd at
y broses benderfynu a oedd yn destun hysbysiad cyhoeddus pellach a
phenderfyniad dirprwyedig yr Aelod Arweiniol cyn ei weithredu. Cynigiwyd bod unrhyw sylwadau a dderbyniwyd mewn
ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus yn cael eu cyfeirio'n ôl i'r Pwyllgor Trwyddedu
i'w hystyried ymhellach fel rhan o'r broses honno. Trafododd yr
Aelodau'r broses o wneud penderfyniadau gyda swyddogion, yn enwedig o gofio bod
yr Aelod Cabinet Arweiniol perthnasol hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Trwyddedu, a
chytunodd y swyddogion i ofyn am eglurhad pellach yn hynny o beth. Cadarnhaodd swyddogion hefyd fod y tariffau mesurydd
tacsi yn ymwneud â'r uchafswm ffioedd a thaliadau a osodwyd a gallai
gweithredwyr godi swm is. Nododd yr
Aelodau bod nifer fawr o yrwyr trwyddedig wedi gofyn am gynnydd mewn ffioedd a
thaliadau. PENDERFYNWYD bod aelodau yn - (a) cymeradwyo newid
i’r tabl taliadau presennol fel a ganlyn: ·
Cyflwyno dewis 2 o’r costau
fesul milltir. ·
Cyflwyno newidiadau fesul cam
mewn lluosrif o £0.10 fesul 1/20fed y filltir yn unig. ·
Cynyddu’r tâl baeddu i £100. ·
Cynyddu’r amser aros ar gyfer
Tariff 1 i £0.30 y funud. ·
Cadw amser aros ar gyfer
Tariff 2 yn £0.40 y funud. ·
Cynnwys Sul y Pasg yn Nhariff
2. ·
Cynnwys cadeiriau olwyn a chadeiriau
gwthio yn yr eithriadau i’r tâl bagiau ·
Cadw’r tâl ychwanegol o £0.20
fesul eitem o fagiau y tu allan i’r adran teithiwr (ac eithrio siopa). ·
Cyflwyno tâl ychwanegol o
£0.20 i bob anifail anwes, ac eithrio cŵn tywys. (b) awdurdodi
swyddogion i baratoi adroddiad ar gyfer Penderfyniad Dirprwyol Aelod Arweiniol
i fabwysiadu’r newidiadau yn is-baragraff (a) uchod; (c) awdurdodi
swyddogion i gyhoeddi’r newidiadau mewn papur newydd lleol ar gyfer yr
ymgynghoriad angenrheidiol ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, byddant yn
dod i rym ar 1 Chwefror 2018, a (d) lle derbynnir
unrhyw wrthwynebiadau, gofyn i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried y gwrthwynebiadau
hynny yn eu cyfarfod nesaf gyda’r bwriad o weithredu (gyda neu heb addasiad)
dim hwyrach nag 1 Ebrill 2018. Ymatalodd y Cynghorydd Brian
Jones rhag pleidleisio ar y mater hwn. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 104 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd
yn yr Atodiad 1 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen waith arfaethedig
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2018. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd
yn yr Atodiad 1 yr adroddiad. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.50 p.m. |