Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
MATERION O HYSBYSIAD Y Cadeirydd - (i) cyflwynwyd a chroesawyd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (KB) i’r cyfarfod; (ii) adroddodd ar ymweliad rheoleiddio ar y cyd i safleoedd trwyddedig yn y Rhyl, Prestatyn a Gallt Melyd a gyflawnwyd gyda’r Cynghorydd Tony Thomas (Aelod Arweiniol dros Drwyddedu), Swyddogion Trwyddedu a Heddlu Gogledd Cymru gyda’r golwg o hyrwyddo amcanion trwyddedu a bu ymgysylltiad cadarnhaol rhwng yr holl bartïon. Un mater i’w nodi oedd y dystiolaeth o ddefnydd o gyffuriau mewn rhai safleoedd trwyddedig, a oedd yn cael ei ddatrys trwy ddull amlasiantaeth ac ymgysylltiad gyda deiliaid trwydded, a (iii) chadarnhaodd y bydd trefn y rhaglen yn amrywio er mwyn bodloni’r unigolion sy'n mynychu ar gyfer eitemau penodol. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorwyr Joan
Butterfield a Barry Mellor |
|
DATGAN CYSYLLTIADAU Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2018 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2018. PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2018 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR BOLISI EUOGFARNAU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn rhoi
diweddariad i’r aelodau ar yr adolygiad o Bolisi Euogfarnau Cerbydau Hacni a
Hurio Preifat a cheisio cymeradwyaeth i fabwysiadu dogfen ganllaw'r Sefydliad
Trwyddedu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar
adolygiad y Cyngor o Bolisi Collfarn Gyrwyr Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat a derbyn cymeradwyaeth i fabwysiadu dogfen ganllawiau Sefydliad
Trwyddedu (IOL) ar ddyfarnu addasrwydd ymgeiswyr a deiliaid trwydded ym
masnachau cerbyd Hacni a cherbydau hurio preifat (wedi’i atodi i’r adroddiad). Derbyniodd aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf ar Ganllawiau
IOL yn eu cyfarfod diwethaf a dim ond Sir Fôn oedd wedi mynegi diddordeb mewn
mabwysiadu’r ddogfen. Ers hynny,
cytunodd Panel Technegol Trwyddedu Cymru Gyfan mewn egwyddor, y dylai bob
awdurdod lleol edrych i fabwysiadu’r polisi collfarn IOL er mwyn sicrhau
cysondeb ar draws y rhanbarth a dynododd y mwyafrif o awdurdodau trwyddedu yng
Ngogledd Cymru y byddent yn edrych i fabwysiadu’r Canllawiau. Pe byddai’r aelodau’n penderfynu
mabwysiadu’r Canllawiau, cynigodd swyddogion strategaeth ymgysylltu i godi
ymwybyddiaeth a thrafod goblygiadau’r ddogfen ar ddeiliaid trwydded presennol. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, ymatebodd swyddogion i
gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn - ·
cafodd y Canllawiau eu datblygu gyda chyfraniadau gan Gymdeithas
Llywodraeth Leol, Cyfreithwyr Llywodraeth Leol a Chymdeithas Genedlaethol
Swyddogion Gorfodi Trwyddedu ac yn destun i ymgynghoriad cyhoeddus eang yn
cynnwys Cynghorwyr a Masnachwyr Cerbydau Hurio Preifat, academyddion, y
Gwasanaethau Prawf a’r Heddlu – roedd rhestr lawn o’r cyfranwyr wedi’i nodi o
fewn y ddogfen. ·
roedd yr IOL wedi cyflawni arolwg i fesur y sefyllfa bresennol o ran
mabwysiadu’r polisi yn genedlaethol a datgelodd y ffigyrau diweddaraf bod 99%
o’r 160 o ymatebwyr wedi cydnabod manteision polisi cenedlaethol safonedig;
roedd y mwyafrif o’r rhai a oedd yn edrych i adolygu eu polisi wedi dynodi y
byddent yn gwneud hynny gyda’r golwg o fabwysiadu Canllawiau IOL, a phan
adolygir eraill eu polisi byddent yn edrych i fabwysiadu Canllawiau IOL er mwyn
sicrhau unffurfiaeth. O ran Rhanbarth
Gogledd Cymru mynegodd holl awdurdodau lleol ddymuniad i fabwysiadu’r
Canllawiau ac eithrio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ddynododd na fyddent yn
mabwysiadu’r polisi ond yn rhoi sylw iddo. ·
nid oedd strategaeth ymgysylltu ar gyfer
deiliaid trwydded presennol wedi ei gwblhau eto ond byddai’n cynnwys sesiynau
ar draws y sir ar amseroedd amrywiol ac
yn debygol o gynnwys sesiynau ar sail un i un gydag unigolion a effeithir yn
uniongyrchol; byddai cysylltiad dechreuol yn cael ei wneud drwy'r newyddlen
flynyddol ar gyfer deiliaid trwydded. Cydnabu'r Pwyllgor Trwyddedu fanteision mabwysiadu’r
Canllawiau er mwyn darparu dull cyson o benderfynu addasrwydd ymgeiswyr a
deiliaid trwydded a darparu graddfa o unffurfedd ar draws y rhanbarth o ran
hynny. Nodwyd hefyd y byddai
mabwysiadu’r canllawiau yn darparu diogelwch ychwanegol ar gyfer awdurdodau
lleol mewn digwyddiad o apêl. O
ganlyniad - PENDERFYNWYD y byddai
aelodau’n - (a) Mabwysiadu
Canllawiau'r Sefydliad Trwyddedu wrth benderfynu addasrwydd ymgeiswyr a
deiliaid trwydded ym masnachau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat; (b) Cyfarwyddo
swyddogion i lunio polisi sy’n bodloni cynnwys dogfen ganllawiau Sefydliad
Trwyddedu ac adrodd yn ôl yn y cyfarfod ym Mehefin 2019 gyda golwg o'i
weithredu ar 1 Gorffennaf 2019, a (c) Bod swyddogion
yn cysylltu, drwy ohebiaeth a sesiynau ar draws y sir, gyda holl ddeiliaid
trwydded Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ar ddogfen ganllawiau’r
Sefydliad Trwyddedu. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD o dan Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Bydd y Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu gwahardd
o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol ar sail y bydd yn cynnwys datgelu
gwybodaeth wedi'i wahardd fel y diffinnir
ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am Drwydded Cerbydau Hurio
Preifat. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) - (i)
derbyniwyd cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat; (ii)
roedd y cerbyd wedi ei drwyddedu ar gyfer hurio preifat yn flaenorol ond ni
adnewyddwyd y drwydded cyn i’r drwydded bresennol ddod i ben ym mis Ebrill
2018, ac felly roedd angen delio â’r cais fel cais trwydded cerbyd newydd. (iii)
nid oedd y swyddogion mewn safle i gymeradwyo’r cais gan fod y cerbyd
wedi'i gofrestru yn 2007 ac felly nid oedd yn cydymffurfio â pholisi presennol
y Cyngor a oedd yn nodi na ddylai unrhyw gerbyd wedi ei drwyddedu o dan gais
newydd fod yn hŷn na 5 oed o ddyddiad ei gofrestru cyntaf, a (iv)
gwahoddwyd yr ymgeisydd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi ei chais ac ateb
cwestiynau’r aelodau. Roedd yr ymgeisydd
yn bresennol a chadarnhaodd ei bod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r
pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Gorfodi (HB) yr adroddiad a gofynnwyd i’r Pwyllgor Trwyddedu ystyried
os oedd yn briodol gwyro oddi wrth bolisi’r Cyngor o ran y gofyniad oedran ar
gyfer cerbydau newydd er mwyn cymeradwyo’r cais fel yr ymgeisiwyd amdano. Dywedodd yr
ymgeisydd bod y cerbyd mewn cyflwr taclus, yn fecanyddol ddiogel, ac yn addas
i'r diben fel y gwelwyd yn y lluniau a ddarparwyd. Ni chyflawnwyd unrhyw waith tacsi
cyffredinol, dim ond gwaith contract ysgol ac roedd y cerbyd wedi ei addasu ar
gyfer wyth person ac yn darparu gofod ychwanegol ar gyfer bagiau/offer y
disgyblion. Roedd profiad blaenorol wedi
dangos na fyddai cerbyd newydd mor gadarn ac ni fyddai’n gallu ymdopi â
gofynion ffyrdd gwledig ac amodau mewn lleoliadau gwledig anghysbell - pe
byddai rhaid prynu cerbyd newydd byddai goblygiadau cost a fyddai'n cael ei
ysgwyddo gan y Cyngor wrth roi contractau ar gyfer darpariaeth cludiant i'r
ysgol. Cyfeiriodd yr ymgeisydd hefyd at ei hamgylchiadau teuluol personol ac
eglurodd yr amgylchiadau a oedd wedi arwain at fethu ag adnewyddu’r drwydded
bresennol cyn iddo ddod i ben gan gofio bod plât trwyddedu’r cerbyd wedi ei
drosglwyddo ar gam cynharach. Mewn ymateb i
gwestiynau’r aelodau, cadarnhawyd bod seddi wedi cael eu tynnu o'r cerbyd yn
flaenorol gan adael digon o seddi ar gyfer wyth person. Roedd y cerbyd wedi cael tystysgrif
cymeradwyaeth ar gyfer addasu nifer y seddi yn flaenorol - fodd bynnag byddai
angen tystysgrif cymeradwyaeth newydd gan fod y cais yn cael ei drin fel cais
cerbyd newydd. Gan nad oedd unrhyw
gwestiynau pellach, gwahoddwyd yr ymgeisydd i wneud datganiad terfynol a
dywedodd nad oedd ganddi unrhyw beth i’w ychwanegu at ei chyflwyniad. Oedwyd y cyfarfod er
mwyn ystyried y cais a - PHENDERFYNWYD gwrthod y cais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat. Dyma resymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu - Ystyriodd yr aelodau’r cais a sylwadau’r ymgeisydd yn yr achos yn ofalus. Penderfynodd y Pwyllgor Trwyddedu wrthod y cais oherwydd bod y polisi’n nodi na ddylai cerbydau wedi’u trwyddedu o dan gais newydd fod yn hŷn na phump oed o ddyddiad ei gofrestru cyntaf. Gan fod y cerbyd mewn cyswllt â’r cais yn yr achos hwn yn un ar ddeg oed, nid oedd yn cydymffurfio â'r polisi. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried nad oedd yr ymgeisydd wedi cynnig rhesymau derbyniol a fyddai’n eu perswadio i wyro oddi wrth eu polisi yn yr achos hwn. Roedd y polisi presennol wedi bod mewn grym am ddwy flynedd a byddai’r Ymgeisydd wedi bod yn ymwybodol ohono. Er bod y Pwyllgor Trwyddedu yn cydymdeimlo â phroblemau a brofodd yr ymgeisydd yn ddiweddar, roedd y Pwyllgor yn ystyried y polisi yn un llym ac felly’n bolisi oedd rhaid glynu ato. Roedd ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
GOLLWNG Y GOFYN I ARDDANGOS PLATIAU TRWYDDED AR GERBYDAU HURIO PREIFAT Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i’r aelodau benderfynu ar gais i ollwng y gofyn i arddangos
plât drwydded ar gerbyd hurio preifat. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) - (i)
cais
ar gyfer gollwng y gofyniad i arddangos platiau hurio preifat ar gerbyd hurio
preifat; (ii)
polisi
drafft o ran ceisiadau ar gyfer derbyn eithriad o arddangos platiau hurio
preifat a sticeri drysau (Atodiad A yr adroddiad); (iii)
pwerau'r
Cyngor i gymeradwyo eithrio perchennog rhag arddangos y plât trwydded gan
ystyried natur y gwaith ynghyd â safon y cerbyd ynghlwm a lle fydd y cerbyd yn
cael ei weithredu; (iv)
darparodd
yr ymgeisydd fanylion llawn y cerbyd o ran y cais a natur y busnes (Atodiad B
yr adroddiad), a (v)
ffactorau
eraill sydd angen eu hystyried ac amodau a argymhellwyd (Atodiad C yr
adroddiad) os byddai'r aelodau o blaid cymeradwyo'r cais i eithrio. Hysbyswyd yr aelodau nad oedd yr
ymgeisydd yn bresennol i gyflwyno ei achos ac ni ddynododd os byddai’n mynychu
a’i beidio. Ystyriodd y Pwyllgor bod digon o wybodaeth wedi ei
ddarparu er mwyn iddynt benderfynu ar y cais i eithrio a chytunwyd mynd ymlaen
â’r achos yn absenoldeb yr Ymgeisydd. Crynhodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad i’r aelodau. Ystyriodd yr aelodau’r meini prawf ar gyfer gollwng y
gofyniad i arddangos platiau trwydded ynghyd â gweithrediad a natur busnes yr
Ymgeisydd. Nodwyd bod yr Ymgeisydd wedi bod o flaen y Pwyllgor
Trwyddedu yn flaenorol ac wedi derbyn eithriad ar gyfer cerbydau eraill y
busnes - roedd y cais presennol wedi cael ei wneud ar gyfer cerbyd newydd i
ddisodli un arall. Oedwyd y cyfarfod er
mwyn ystyried y cais a - PHENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais i ollwng y gofyniad i arddangos
platiau a sticeri drysau trwydded cerbyd hurio preifat ar gyfer y cerbyd a
nodir yn yr adroddiad yn destun yr amodau a fanylir yn Atodiad C yr adroddiad. Dyma resymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu - Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r cyflwyniad ysgrifenedig
gan yr Ymgeisydd, roedd yr aelodau’n fodlon bod natur y gwaith a safon y
cerbydau ynghlwm yn bodloni’r meini prawf ar gyfer eithriad yn yr achos hwn. Roedd yr amodau wedi eu gosod er mwyn cynorthwyo â
rheoliadau a gorfodi. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau’r
busnes uchod agorwyd y cyfarfod unwaith eto. |
|
DIWEDDARIAD AR BOLISI A GWEITHDREFN PWYNTIAU COSB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm), yn
cyflwyno diweddariad ar Bolisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y
Cyhoedd adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i
aelodau ar y Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb a oedd yn nodi sut oedd y
Cyngor yn delio â mân dor amodau o ran trwyddedu tacsi. Cymeradwywyd y Polisi a Gweithdrefn
Pwyntiau Cosb ym mis Medi 2014, a chafodd ei ddiwygio ymhellach ym mis Medi
2015 ac mae dosbarthu pwyntiau wedi bod yn gweithredu ers mis Ionawr 2015.
Roedd y ddogfen i gael ei adolygu o leiaf bob tair blynedd gyda'r adolygiad
diwethaf wedi'i gyflawni ym mis Medi 2015. Ar ôl adolygu’r ddogfen ystyriodd y
swyddogion ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben ac felly ni chynigwyd
unrhyw newidiadau i’r cynllun. Roedd y nifer o
ddigwyddiadau a’r mathau o dor amod lle ddosbarthwyd pwyntiau yn ystod 2017 a
2018 wedi eu nodi o fewn yr adroddiad hefyd. Trafododd yr aelodau fanteision y cynllun gyda’r Rheolwr
Gwarchod y Cyhoedd ac ystyriwyd bod y polisi yn ddefnyddiol a bod pwysoliad y
pwyntiau cosb ar gyfer tor amodau penodol yn gymesur. Roedd peth disgresiwn wrth orfodi’r polisi
mewn achosion penodol gyda chyfleoedd i dor amodau penodol gael eu cywiro os
oedd yn briodol o fewn amserlenni penodol.
Roedd y lleihad yn y nifer o ddigwyddiadau yn 2018 mae'n
debyg oherwydd cyfuniad o effaith gadarnhaol y polisi wrth fynd i'r afael â mân
dor amodau ac absenoldeb dros dro'r Swyddog Gorfodi llawn amser am ran o’r
cyfnod hwnnw. Cadarnhawyd hefyd bod y drosedd yn ymwneud â
‘pheidio â dilyn disgyblaeth safle tacsi’ wedi ei gyflwyno’n gyson ar draws y
sir, ond yn dibynnu’n bennaf ar adroddiadau/cwynion i ymchwilio. PENDERFYNWYD cydnabod y wybodaeth a ddarparwyd ar ddadansoddiad
dosbarthu pwyntiau fel y nodwyd o fewn yr adroddiad. |
|
DIWEDDARIAD AR GYFLWYNO RHESTR O GERBYDAU DYNODEDIG SY’N HYGYRCH I GADEIRIAU OLWYN To consider a report by the Head of Planning and Public
Protection (copy enclosed) informing members of progress on introducing a list
of wheelchair accessible vehicles. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y
Cyhoedd adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) yn hysbysu aelodau o gynnydd
cyflwyno rhestr gyhoeddedig o gerbydau â mynediad anabl fel y cymeradwywyd gan
y Pwyllgor Trwyddedu ym Mawrth 2018 yn dilyn newidiadau a gyflwynwyd gan y
Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Hysbyswyd yr aelodau bod - ·
24 o’r 352 o gerbydau trwyddedig wedi eu henwi fel rhai hygyrch i'r anabl ·
cynigwyd 31 Ionawr 2019 fel dyddiad i gyhoeddi'r rhestr ·
cyn gweithredu bydd holl berchnogion cerbydau hygyrch i’r anabl yn cael eu
hysbysu o’r rhestr a’r broses o eithriad rhag darparu cymorth symudedd ·
unwaith y bydd y rhestr yn weithredol bydd yn rhoi goblygiadau pellach ar
yrwyr a/neu berchnogion y cerbydau hynny, gan greu troseddau o dor amodau a
gwahaniaethu ·
ni fydd unrhyw gerbyd sydd ar y rhestr yn gorfod cario holl gadeiriau olwyn
ond rhaid gallu cario rhai, a ·
bydd y rhestr o gerbydau hygyrch i’r anabl ar gael i’r cyhoedd drwy wefan y
Cyngor. Roedd yr aelodau’n awyddus i fanylion cyswllt y
perchnogion sy’n gweithredu cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn fod ar gael
i’r rhai sydd angen y gwasanaeth.
Eglurodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd nad oedd gofynion ar gyfer
y rhestr yn cynnwys manylion cyswllt a byddai goblygiadau o dan Reoliadau
Diogelu Data Cyffredinol. Fodd bynnag,
fel rhan o’r broses o gyflwyno rhestr, gofynnir am ganiatâd gan berchnogion i
gynnwys eu manylion cyswllt a manylion y rhai sy'n darparu cerbydau sy'n
hygyrch i gadeiriau olwyn i gael eu dosbarthu fel y bo'n briodol i ysbytai,
meddygfeydd ac ati. Er bod 24 o gerbydau trwyddedig yn hygyrch i gadeiriau
olwyn, mae’r mwyafrif o'r cerbydau hynny yn gyfyngedig i oddeutu pum cwmni sy'n
gweithredu o fewn y sir. Trafododd
yr aelodau'r goblygiadau a osodir ar yrwyr gyda cherbyd sy’n hygyrch i
gadeiriau olwyn i ddarparu cymorth ychwanegol i deithwyr.
Nodwyd y byddai gyrwyr gyda chyflwr meddygol, anabledd
neu gyflwr corfforol a oedd yn ei gwneud hi’n amhosib neu’n anodd iddynt
gyflawni’r dyletswyddau hynny, yn gallu gwneud cais am eithriad ar y sail
honno, i'w benderfynu gan yr awdurdod trwyddedu. PENDERFYNWYD bod aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad a chytuno ar
y dyddiad gweithredu o 31 Ionawr 2019 ar gyfer cyhoeddi’r rhestr o gerbydau sy’n
hygyrch i gadeiriau olwyn. |
|
DEDDF GAMBLO 2005 – ADOLYGU DATGANIAD O EGWYDDORION Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n
cyflwyno Datganiad o Egwyddorion y Cyngor i’w ailfabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) yn cyflwyno Datganiad o Egwyddorion y Cyngor i’w ailfabwysiadu. Cafodd Datganiad o Egwyddorion y Cyngor
ei fabwysiadu a’i weithredu ar 1 Ebrill 2018 ac yn destun adolygiad bob tair
blynedd. Cafodd ei ddatblygu gan chwe awdurdod
trwyddedu yng Ngogledd Cymru er mwyn dod â chysondeb i faterion yn ymwneud â
Gamblo ac roedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Fodd bynnag roedd y Comisiwn Gamblo
wedi cyfarwyddo holl awdurdodau trwyddedu i adolygu a mabwysiadu eu Datganiad o
Egwyddorion i fod mewn grym o 31 Ionawr 2019. O ganlyniad, gofynnwyd i aelodau
ail-fabwysiadu’r polisi presennol yn unol â'r cyfarwyddyd gan y Comisiwn Gamblo
heb yr angen i ymgynghori ymhellach er mwyn cyd-daro â’u hamserlen ar gyfer
adolygu. PENDERFYNWYD bod Aelodau’n cytuno i fabwysiadu'r Datganiad o
Egwyddorion, fel y'i cyflwynir, gyda dyddiad gweithredu o 31 Ionawr 2019. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2019 Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (dosbarthwyd yn flaenorol) ar Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer 2019. Wrth ddrafftio’r rhaglen gwaith roedd y swyddogion wedi
ystyried y polisïau oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Trwyddedu a dyddiadau
adolygu’r polisïau hynny, ynghyd â newidiadau deddfwriaethol arfaethedig. Argymhelliad y swyddogion oedd cynnal rhaglen
gwaith i'r dyfodol ar dreigl deuddeg mis er mwyn ymateb i bwysau sy'n codi neu
newidiadau wrth iddynt godi heb yr angen i wneud newidiadau arwyddocaol i'r
rhaglen. Byddai’r rhaglen gwaith yn cael
ei gyflwyno ymhob cyfarfod i'w gadarnhau a gallai aelodau gyflwyno eitemau ar
gyfer eu hystyried i swyddogion drwy'r Pwyllgor Trwyddedu. PENDERFYNWYD y byddai
aelodau’n - (a) cymeradwyo’r
rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn atodiad i’r adroddiad, a (b) Awdurdodi
swyddogion i gyflwyno rhaglen gwaith i'r dyfodol ar dreigl deuddeg mis i’w
ddiwygio ymhob cyfarfod y pwyllgor. Daeth y
cyfarfod i ben am 10.55 a.m. |