Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd
Barry Mellor Cofnodion: Y Cynghorydd Barry Mellor |
|
Members to declare any personal or prejudicial interests in any business identified to be considered at this meeting. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw
gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiadau eu datgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 341 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2017 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2017 fel cofnod
cywir. Cofnodion: {0><}87{>Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Trwyddedu a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2017. <0} {0><}100{>PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir. <0} |
|
CYFLWYNO RHESTR O GERBYDAU HYGYRCH I GADEIRIAU OLWYN DYNODEDIG PDF 207 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) ynglŷn â
newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a gofyn am gymeradwyaeth i
gyflwyno a chynnal rhestr o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod aelodau yn - (a) cymeradwyo
cyflwyno rhestr gyhoeddedig o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn; (b) dirprwyo gosod y
dyddiad gweithredu i’r Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd mewn ymgynghoriad
gyda’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, a (c) cyfarwyddo
swyddogion i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu yn ystod 2018 gyda gwybodaeth
ar y rhestr a baratowyd. Cofnodion: {0><}75{>Cyflwynodd y Rheolwr Busnes
Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â
newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a gofyn am gymeradwyaeth i
gyflwyno a chynnal rhestr o gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn.<0} {0><}75{>Roedd Deddf Cydraddoldeb 2010 yn caniatáu i awdurdodau
lleol gadw rhestr o gerbydau trwyddedig fel cerbyd hacni neu gerbyd hurio preifat
sy’n bodloni gofynion cerbyd hygyrch i gadeiriau olwyn, a phan mae rhestr yn
bodoli, mae'r ddeddfwriaeth yn gosod rhwymedigaethau pellach ar yrwyr a/neu
berchnogion y cerbydau hynny, gan greu troseddau am doramoadau a gwahaniaethu
yn erbyn defnyddwyr cadeiriau olwyn.<0} {0><}0{>Roedd manylion y dyletswyddau i’w rhoi
ar yrwyr cerbydau dynodedig o dan y Ddeddf wedi cael eu darparu yn yr adroddiad
ynghyd â manylion eithriadau ac amserlen amcanol ar gyfer cyhoeddi’r rhestr. <0} {0><}0{>Roedd canllawiau statudol
ffurfiol oddi wrth yr Adran Drafnidiaeth wedi cael eu cyhoeddi (ynghlwm fel
atodiad i’r adroddiad) yn gofyn i awdurdodau lleol gyflwyno’r rhannau
perthnasol o’r Ddeddf Cydraddoldeb er mwyn darparu gwarchodaeth ar gyfer
defnyddwyr cadeiriau olwyn.<0} {0><}0{> Ystyriodd yr Aelodau gynnwys yr adroddiad, cyngor o
Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chanllaw'r Adran Drafnidiaeth a chroesawyd y
darpariaethau newydd er mwyn gwarchod hawliau defnyddwyr cadeiriau olwyn yn
well a chreu gwelliannau a rhagofalon yn erbyn gwahaniaethu wrth ddefnyddio
cerbydau trwyddedig.<0} {0><}0{>Nodwyd bod cwynion blaenorol
wedi cael eu dwyn gerbron y pwyllgor mewn perthynas â gwasanaethau a ddarparwyd
gan gerbydau trwyddedig sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn a fyddai’n cael eu trin
o dan y darpariaethau newydd gyda chosbau’n cael eu rhoi am fynd yn groes i’r
cyfrifoldebau a roddwyd ar yrwyr a pherchnogion mewn perthynas â hynny.<0} PENDERFYNWYD
bod
yr Aelodau yn – (a) cymeradwyo cyflwyno rhestr gyhoeddedig o
gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn; (b) dirprwyo gosod y dyddiad gweithredu i’r
Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd mewn ymgynghoriad gyda’r Rheolwr Gwarchod y
Cyhoedd a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, a (c) cyfarwyddo swyddogion i adrodd yn ôl i’r
Pwyllgor Trwyddedu yn ystod 2018 gyda gwybodaeth ar y rhestr a baratowyd. |
|
DIWYGIADAU ARFAETHEDIG I FANYLION CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PRESENNOL PDF 265 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
manylu newidiadau arfaethedig i fanylebau cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat presennol. Penderfyniad: PENDERFYNWYD fod y diwygiadau i fanylebau cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat fel y nodir ym mharagraffau 4.7 a 4.9 yr adroddiad yn
cael eu cymeradwyo ar unwaith. Cofnodion: {0><}0{>Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar y diwygiadau arfaethedig
i’r manylebau cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat presennol er mwyn i’r
aelodau eu hystyried.<0} {0><}0{>Ers gweithredu polisi cerbydau hacni a
hurio preifat newydd ym mis Gorffennaf 2017, amlygodd adborth o’r diwydiant
trwyddedu yr angen am fwy o fanylder mewn perthynas â manylebau cerbydau o ran
drysau ac roedd yr adran sy’n ymwneud â hygyrchedd cadeiriau olwyn yn cael ei
ystyried yn rhy gyfyngol ac efallai y gallai fod â chanlyniadau anfwriadol ar y
diwydiant tacsis.<0} {0><}0{>O ganlyniad, roedd swyddogion wedi
cynnig gwelliant i’r paragraffau perthnasol yn y manylebau cerbydau (fel y
manylwyd yn yr adroddiad) a fyddai’n adlewyrchu’n well ofynion yr awdurdod ar
gyfer cerbydau trwyddedig mewn perthynas â drysau ac yn caniatáu gwell
hyblygrwydd o ran argaeledd mynediad i gadeiriau olwyn er budd y diwydiant
trwyddedig a’r cyhoedd sy’n teithio. <0} {0><}0{>Ystyriodd yr aelodau’r diwygiadau
arfaethedig a gofynnwyd am sicrwydd na fyddai’r newidiadau arfaethedig yn
gadael yr awdurdod yn agored i'w herio ymhellach.<0} {0><}0{>Eglurodd y swyddogion bod y
diwygiadau’n darparu mwy o eglurder; yn cynyddu’r ystod a’r nifer o gerbydau
sy’n addas ar gyfer dibenion trwyddedu, ac yn darparu gwell hyblygrwydd o ran y
cyfarpar sydd ar gael ar gyfer hwyluso mynediad i gadeiriau olwyn.<0} {0><}0{>O ganlyniad, roedd y
swyddogion yn fodlon gyda’r addasiadau arfaethedig a -<0} PHENDERFYNWYD bod y diwygiadau i’r
manylebau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat fel y manylwyd ym
mharagraffau 4.7 a 4.9 yr adroddiad, fel yr ailadroddwyd isod, yn cael eu
cymeradwyo ar unwaith – ·
Adrannau 3.11.1 & 6.5.1 – ““Bydd gan
salwnau, ystadau neu dacsis wedi’u haddasu’n arbennig fod â drysau’n agor ar y
pedwar ochr, sy’n gallu cael eu hagor o’r tu mewn a’r tu allan. Bydd gan fysiau mini, faniau a cherbydau
cludo criw gael tri drws o leiaf, nad ydynt yn cynnwys unrhyw ddrysau cefn na thinbren.” ·
Adrannau 3.14.1 & 6.8.1 – ““Bydd
ramp neu rampiau neu offer codi priodol ar gael bob amser i lwytho cadair olwyn a’r teithiwr
i’w defnyddio trwy ddrws cefn yr ochr agosaf.” |
|
DEDDF GAMBLO 2005 – ADOLYGU DATGANIAD O EGWYDDORION PDF 207 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n
cyflwyno drafft terfynol Datganiad Egwyddorion y Cyngor ar gyfer y Ddeddf
Gamblo 2005 i’w mabwysiadu a’i gweithredu o 1 Ebrill 2018. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Datganiad
Egwyddorion fel y cyflwynir a’i atodi fel atodiad i’r adroddiad gael ei
fabwysiadu a’i weithredu o 1 Ebrill 2018. Cofnodion: {0><}74{>Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
(a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno drafft terfynol Datganiad Egwyddorion
y Cyngor ar gyfer y Ddeddf Gamblo 2005 i’w mabwysiadu a’i gweithredu o 1 Ebrill
2018.<0} {0><}0{>Roedd gofyniad statudol i adolygu'r Datganiad Egwyddorion bob tair blynedd
ac roedd y ddogfen ddrafft wedi cael ei datblygu gan y chwe awdurdod trwyddedu
yng Ngogledd Cymru er mwyn sicrhau cysondeb mewn materion yn ymwneud â
swyddogaethau a phroblemau gamblo.<0} {0><}0{>Roedd y ddogfen ddrafft wedi cael ei
chymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Pwyllgor Trwyddedu ym mis
Medi 2017 ac nid oedd unrhyw sylwadau wedi dod i law.<0} {0><}0{>Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau’r
aelodau ynghylch gweinyddiaeth a gorfodaeth o ran gweithgareddau gamblo ac eglurwyd
rôl yr awdurdod trwyddedu a’r Comisiwn Gambo i’r perwyl hwnnw.<0} {0><}0{>Nid oedd unrhyw feysydd penodol o bryder o
ran rheoleiddio gamblo yn y sir ac ar y cyfan cymerwyd camau mewn ymateb i
dderbyn cudd-wybodaeth heb ddim trefn archwilio safonol ar gyfer gweithgareddau
gamblo, ac roedd gweithredwyr ar y cyfan yn cydymffurfio â gofynion
deddfwriaethol.<0} {0><}0{>Mewn ymateb i gwestiynau pellach, cadarnhaodd y swyddogion hefyd y gofynion
trwyddedu o ran peiriannau gemau gyda gwobrau mawr a loterïau a rafflau
cymdeithasu bach.<0} {0><}0{>Nodwyd nad oedd casino yn y sir a bod y
cyngor wedi penderfynu yn y gorffennol i beidio â chaniatáu ceisiadau am
gasinos.<0} {0><}0{>Nododd yr aelodau na chafwyd unrhyw
sylwadau yn dilyn y broses ymgynghori ac nad oedd cynnwys y ddogfen ddrafft
wedi newid.<0} {0><}100{>O ganlyniad -<0} {0><}100{>PENDERFYNWYD bod y Datganiad Egwyddorion fel y cyflwynwyd a’i atodwyd i’r adroddiad gael
ei fabwysiadu a’i weithredu o 1 Ebrill 2018.<0} |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn rhoi
diweddariad i’r aelodau ar gynnydd adolygu polisïau sy’n gysylltiedig â Pholisi
Euogfarn Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat a Gweithredwyr Hurio Preifat. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod aelodau yn - (a) cydnabod cynnwys
yr adroddiad, a (b) cyfarwyddo
swyddogion i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ar waith y gweithgor
cenedlaethol a Llywodraeth Cymru wrth i gynnydd pellach gael ei wneud i
ganiatáu i aelodau ystyried perthnasedd i bolisïau trwyddedu tacsis y cyngor. Cofnodion: {0><}77{>Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi
diweddariad i’r aelodau ar gynnydd adolygu polisïau sy’n gysylltiedig â Pholisi
Euogfarnau Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat a Gweithredwyr Hurio Preifat. <0} {0><}0{>Cafodd yr aelodau eu hatgoffa am y gwaith
a wnaed gan gweithgor cenedlaethol i ddatblygu model cenedlaethol ar addasrwydd
ymgeiswyr a thrwyddedai mewn perthynas â thrwyddedu cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat a fu’n destun ymgynghoriad cenedlaethol yn ddiweddar a ddaeth i
ben ar 10 Mawrth 2018. Y disgwyl oedd y byddai'r drafft yn cael ei ddatblygu
ymhellach a'i ryddhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.<0} {0><}0{>Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru wedi
cwblhau ymgynghoriad ar drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru
yn ddiweddar a byddai gwaith pellach yn dilyn o’r broses honno.<0} {0><}0{>Byddai’r ddwy ffrwd waith yn cael effaith ar y broses
drwyddedu yn genedlaethol ac yn lleol a chyfeiriwyd am ymgysylltiad y cyngor yn
y broses honno.<0} Cytunodd y Pwyllgor y
byddai’n well ymgysylltu yn yr ymgynghoriadau gyda’r bwriad o ddatblygu modelau
cenedlaethol cyn ystyried y perthnasedd i bolisi trwyddedu tacsis y Cyngor.
Fodd bynnag, gofynnwyd cwestiynau ynghylch y potensial ar gyfer canlyniadau
cyferbyniol o’r ddwy ffrwd waith o gofio fod un yn cael ei gwneud gan
Lywodraeth y DU a’r llall gan Lywodraeth Cymru. Er bod potensial ar gyfer
gwahaniaethau cyffredinol rhwng y ddwy weinyddiaeth, rhoddodd y swyddogion
sicrwydd bod y ffrydiau gwaith yn yr achos penodol hwn yn canolbwyntio ar
wahanol rannau o’r ddeddfwriaeth drwyddedu, gyda’r gweithgor cenedlaethol yn
canolbwyntio ar bolisi euogfarnau cyffredinol a Llywodraeth Cymru yn
canolbwyntio ar y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru. Amlygodd y Cadeirydd yr
angen am gronfa ddata dirymiadau cenedlaethol i atal gyrwyr rhag cael trwydded
yn rhywle arall os oeddent wedi cael eu gwahardd neu eu gwrthod mewn ardal
benodol. Soniodd y swyddogion am drefniadau anffurfiol gydag awdurdodau cyfagos
i rannu gwybodaeth mewn perthynas â hynny, ond cadarnhaodd fod gwaith ar y
gweill i gyflwyno cofrestr genedlaethol o drwyddedau sydd wedi eu gwrthod neu
ddirymu, y gallai awdurdodau lleol ei defnyddio fel rhan o’r broses ymgeisio
wrth asesu addasrwydd gyrwyr. Roedd yr aelodau’n falch o nodi byddai cronfa
ddata dirymiadau cenedlaethol yn cael ei chyflwyno yn fuan, a gofynnwyd am gael
gwybod y diweddaraf o ran cynnydd. PENDERFYNWYD bod yr aelodau yn
– (a) cydnabod cynnwys yr adroddiad, a (b) cyfarwyddo swyddogion i adrodd yn ôl i’r
Pwyllgor Trwyddedu ar waith y gweithgor
cenedlaethol a Llywodraeth Cymru wrth i gynnydd pellach gael ei wneud i
ganiatáu i aelodau ystyried perthnasedd i bolisïau trwyddedu tacsis y cyngor. |
|
ADOLYGU’R POLISI MASNACHU AR Y STRYD PDF 187 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
hysbysu aelodau o'r cynnydd mewn perthynas ag adolygiad o bolisi presennol
masnachu ar y stryd yn Sir Ddinbych. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod Aelodau’n rhoi awdurdod i swyddogion barhau i
weithio gyda grwpiau ac unigolion perthnasol a chyflwyno polisi drafft ar gyfer
cyflwyniad mewn Pwyllgor Trwyddedu yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn hysbysu’r aelodau ar gynnydd
adolygiad o’r polisi masnachu ar y stryd cyfredol yn Sir Ddinbych. Yn 2015, rhoddodd y Pwyllgor
Trwyddedu awdurdod i swyddogion adolygu'r gyfundrefn masnachu ar y stryd
bresennol er mwyn mynd i'r afael ag anawsterau gyda'r rheoliadau presennol ac
awgrymu gwelliannau i reoleiddio a chefnogi masnachu ar
strydoedd y Sir yn well. Cafodd polisi
drafft ei ystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu yn Rhagfyr 2016, yn dilyn hynny
cynhaliwyd ymgynghoriad cychwynnol gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned ynghyd
ag adrannau mewnol y Cyngor. Cafodd sylwadau o’r ymgynghoriad cychwynnol eu
cynnwys mewn Polisi Masnachu ar y Stryd drafft a gyflwynwyd ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau o ganlyniad I’r ymarfer
ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw. Fodd bynnag, roedd adborth oddi wrth unigolion a
thimau o fewn y cyngor wedi codi materion pellach I’w hystyried ac ym mis Medi
2017 gofynnodd y Pwyllgor Trwyddedu am gynnal trafodaethau pellach gyda
masnachwyr "sefydlog", masnachwyr ar y stryd, cymunedau a thimau'r
Cyngor ehangach cyn cytuno ar bolisi terfynol I’w ystyried. Roedd gwaith yn
mynd rhagddo ar hyn o bryd i lunio strategaeth gychwynnol gan ddefnyddio
holiaduron wyneb yn wyneb a chyfryngau cymdeithasol, ynghyd â gwefan y Cyngor i
gysylltu a gwahodd adborth gan aelodau allweddol o’r gymuned er mwyn gallu
paratoi polisi sydd wedi bod yn destun proses ymgysylltu ac ymgynghori trylwyr.
Nododd yr Aelodau’r cynnydd
gydag adolygu’r Polisi Masnachu ar y Stryd a’r ymdrechion a wnaed i ymgysylltu
ag unigolion a grwpiau penodol a allai gael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y
polisi. Amlygwyd y pwysigrwydd o ddatblygu polisi cadarn, addas i’r diben ar
gyfer trefi a chymunedau yn y sir, ac ar gyfer tryloywder. Cytunodd y
swyddogion adrodd yn ôl ar y rhestr o ymgynghoreion a’u cyfraniadau o ran ffurfio’r
ddogfen bolisi derfynol i’r aelodau ei hystyried. PENDERFYNWYD bod Aelodau’n rhoi awdurdod i swyddogion
barhau i weithio gyda grwpiau ac unigolion perthnasol a chyflwyno polisi drafft
ar gyfer cyflwyniad mewn Pwyllgor Trwyddedu yn y dyfodol. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2018 PDF 182 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd
yn yr Atodiad 1 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2018. Codwyd y
materion canlynol – ·
Roedd y Cadeirydd a’r
Cynghorydd Tony Thomas (Aelod Arweiniol dros Drwyddedu) wedi bod yng nghwmni’r
Swyddogion Trwyddedu a Heddlu Gogledd Cymru ar ymgyrch reoleiddio ar y cyd yng
ngogledd y sir, a oedd wedi cynnwys ymweliadau â nifer o eiddo trwyddedig yn
oriau mân y bore. Bu’r ymgyrch yn un gwerth ei gwneud gyda pherthynas dda rhwng
y trwyddedigion a’r swyddogion a chymorth a chydweithrediad ymysg pawb.
Mynegwyd peth pryder ynghylch tystiolaeth o ddefnyddio cyffuriau mewn eiddo
trwyddedig ac o fewn y gymuned ehangach, a soniodd y swyddogion am y mesurau
sy’n cael eu cymryd trwy ymagweddau amlasiantaeth i fynd i’r afael â’r mater
hwnnw. Cyfeiriwyd at gylch gorchwyl y Pwyllgor Trwyddedu I’r perwyl hwn a’u
cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Drwyddedu. Er mai mater i’r heddlu yn bennaf oedd
cyffuriau, gofynnodd yr aelodau am gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau yr oedd
swyddogion yn dod yn ymwybodol ohonynt wrth fynd i’r afael â’r mater hwnnw. ·
Roedd y Cadeirydd a’r
Cynghorydd Alan James (is-gadeirydd) wedi cyfarfod gyda swyddogion i ymgymryd
â’r adolygiad o’r ffurflenni cais, fel y gofynnodd y pwyllgor, ac roedd y
cyfeiriad at ddatgelu euogfarnau bellach wedi cael ei wneud yn fwy eglur ar
gyfer ymgeiswyr - byddai’r ffurflenni newydd yn cael eu cyflwyno maes o law ·
Cyfeiriwyd at y
sesiwn hyfforddiant hanner diwrnod ar drwyddedu tacsis a drefnwyd ar gyfer 9.00
a.m. ar 19 Ebrill 2018 yn Neuadd y Sir, Rhuthun, ac anogwyd yr aelodau i
hysbysu’r swyddogion os oedd ganddynt unrhyw anghenion hyfforddiant ychwanegol
penodol. Roedd yr
Aelodau yn fodlon gyda chynnwys y rhaglen waith ac felly – PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd
yn yr Atodiad 1 yr adroddiad. Daeth y
cyfarfod i ben am 10.30 a.m. |