Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cynghorwyr Stuart Davies a Barry Mellor Cofnodion: Y Cynghorwyr Stuart Davies a Barry
Mellor |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad ei ddatgan. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 509601 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 509601. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD dirymu trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat Gyrrwr Rhif 509601. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif 509601 i ddal
trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat ar ôl methu mynychu’r hyfforddiant
Ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a oedd yn orfodol, a gyflwynwyd
gan y Cyngor yn 2016; (ii)
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Mawrth
2017 a benderfynodd cynnull cyfarfod arbennig i glywed sylwadau gan yrwyr
presennol nad oedd wedi mynychu’r hyfforddiant; (iii)
manylion y cyfleoedd a roddwyd i Yrrwr Rhif 509601 i fynd i’r
hyfforddiant perthnasol (gyda manylion yr ohebiaeth yn amgaeedig fel atodiadau
i’r adroddiad) a (iv)
bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y
cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded, ac i ateb cwestiynau’r aelodau
ynglŷn â hynny. Cafodd yr Aelodau wybod
nad oedd y Gyrrwr yn bresennol ac ni chyfathrebwyd y rhesymau dros ei
absenoldeb. O ganlyniad, cytunodd yr
aelodau i fwrw ymlaen â’r adolygiad yn absenoldeb y Gyrrwr. Cyflwynodd Rheolwr Busnes a
Gwarchod y Cyhoedd (IM) yr adroddiad a’r cyfleoedd a roddwyd i’r Gyrrwr gymryd
rhan mewn hyfforddiant gorfodol camfanteisio’n rhywiol ar blant. Nodwyd bod y Gyrrwr wedi cael lle i fynd i’r
hyfforddiant 25 Ionawr 2017 ond nad oedd wedi ymddangos, ac roedd hefyd wedi
methu mynd i’r sesiwn hyfforddi ddiweddaraf 29 Mawrth 2017. Mewn ymateb i
gwestiynau, dywedodd y Rheolwr Busnes a Gwarchod y Cyhoedd mai ef oedd yr unig
Yrrwr presennol gyda thrwydded nad oedd wedi mynd ar yr hyfforddiant
perthnasol, gyda'r gyrwyr blaenorol eraill a oedd heb wneud, naill ai wedi mynd
ar yr hyfforddiant wedi hynny, neu wedi ildio eu trwyddedau. Rhoddwyd sicrwydd bod pob ymdrech wedi’i
wneud i gysylltu â’r Gyrrwr ynghylch yr hyfforddiant gorfodol, a’r adolygiad
trwydded dilynol. Yn y fan hon, cafodd y
pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD dirymu trwydded gyrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat Gyrrwr Rhif 509601. Dyma oedd y rhesymau
dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Ystyriodd yr Aelodau bod
y Gyrrwr wedi cael digon o gyfle i fynd i’r hyfforddiant gorfodol, ond wedi
methu mynychu neu gysylltu â’r awdurdod ynghylch pam nad oedd yn bresennol, neu
i roi esboniad fel mesur lliniaru. Roedd
Aelodau’n ystyried bod y Gyrrwr wedi diystyru gofyniad pwysig o'r drwydded yn
llwyr, drwy fethu â mynd ar yr hyfforddiant gorfodol Camfanteisio'n Rhywiol ar
Blant dro ar ôl tro, ac o gofio mai prif ystyriaeth y pwyllgor oedd diogelu'r
cyhoedd, nid oedd yr aelodau'n credu bod y Gyrrwr yn berson priodol ac addas i
gael trwydded. Felly penderfynwyd dirymu
trwydded gyrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat y gyrrwr. Nodwyd y byddai’r Gyrrwr
yn cael gwybod am y penderfyniad a’r rhesymau dros hwnnw yn ysgrifenedig, a
byddai’n cael gwybod am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys yr
Ynadon o fewn 21 diwrnod. Daeth y cyfarfod i ben am
9.45am. |