Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthin

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Stuart Davies a Hugh Irving

 

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Stuart Davies a Hugh Irving

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Huw Williams – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Barry Mellor – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif  6

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

4.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 509302

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 509302.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif 509302 gan gyflwyno rhybudd ffurfiol mewn perthynas â’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif

(ii)        509302 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn croniad o 9 pwynt cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA rhwng Rhagfyr 2015 ac Awst 2016 yn ymwneud â dau achos o fethu cydymffurfio gyda signal golau traffig ac 1 achos o oryrru;

(iii)      swyddogion heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu adnewyddu cais y gyrrwr o ystyried yr euogfarnau a moduro a ddatgelwyd;

 

(iv)      polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a

 

(v)       roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod wedi derbyn adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Rhoddodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (IM) grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd y Gyrrwr amgylchiadau pob un o’r troseddau moduro.  Wrth liniaru am y methiant i gydymffurfio gyda signal golau traffig cyfeiriodd at ddylanwadau allanol a diffyg posib gyda’r signal golau traffig.  O safbwynt y drosedd goryrru roedd wedi gwneud camgymeriad ynglŷn â’r terfyn cyflymder.  Rhoddodd y Gyrrwr sicrhad ynglŷn â’i allu gyrru gan ddweud ei fod wedi bod â thrwydded yrru lân am wyth mlynedd cyn y digwyddiadau hynny.  Wrth ateb i gwestiynau ymhelaethodd ymhellach ar bob digwyddiad a chadarnhaodd nad oedd wedi bod yn cario teithwyr oedd yn talu yn ystod yr adegau pan ddigwyddodd y troseddau.

 

Wrth wneud datganiad terfynol rhoddodd y Gyrrwr sicrwydd o safbwynt ei ymddygiad yn y dyfodol gan gynghori y gallai ddarparu geirdaon cwsmeriaid ynglŷn â hynny.

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  509302 gan gyflwyno rhybudd ffurfiol mewn perthynas â’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd Aelodau ffeithiau’r achos a’r ple lliniaru a gyflwynwyd gan y Gyrrwr yn ofalus.  Roedd y pwyllgor o’r farn fod y Gyrrwr yn agored ac yn onest yn ei atebion ac yn credu ei farn am y digwyddiadau, ac yn credu eu bod yn dderbyniol, gyda chyfres o ddigwyddiadau anffodus yn arwain at gronni pwyntiau cosb.  Roedd Aelodau’n hyderus hefyd, o wrando ar sicrwydd y Gyrrwr o safbwynt ei ymddygiad yn y dyfodol, ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded.  Oherwydd y pwyntiau a gronnwyd roedd y pwyllgor yn credu y byddai rhybudd o safbwynt ymddygiad yn y dyfodol yn addas yn yr achos hwn.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

 

5.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 509827

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 509827.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  509827 ond bod y drwydded yn cael ei gwahardd am fis.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif

(ii)        509827 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn croniad o 12 pwynt cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA rhwng Gorffennaf 2013 hyd at Ebrill 2016 yn ymwneud â defnyddio cerbyd heb ei yswirio (6 pwynt) a 2 achos o oryrru (cyfanswm o 6 pwynt);

(iii)      swyddogion heb fod mewn sefyllfa i adnewyddu cais y gyrrwr oherwydd yr euogfarnau moduro a ddatgelwyd yn dilyn gwiriad arferol ar ei drwydded yrru DVLA oedd hefyd wedi datgelu cyflwr na ddatganwyd gan y Gyrrwr ar ei gais adnewyddu oedd yn ymwneud  â defnyddio cerbyd heb ei yswirio.

 

(iv)      polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a

 

(v)       roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod wedi derbyn adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Rhoddodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (IM) grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r achos.

 

Wrth gyflwyno ei achos eglurodd y Gyrrwr fod ganddo chwe phwynt cosb yn parhau ar ei drwydded am ddwy drosedd o oryrru.  Roedd y chwe phwynt cosb a roddwyd ar ei drwydded fis Gorffennaf 2013 am yrru cerbyd heb ei drwyddedu bellach wedi eu disbyddu.  Ymddangosodd y Gyrrwr o flaen y pwyllgor wrth wneud ei gais cyntaf i egluro'r amgylchiadau ynglŷn â'r gollfarn wedi'i disbyddu honno a dyfarnwyd ei drwydded iddo.  Roedd wedi bod o dan y camddealltwriaeth y byddai’r manylion hynny yn cael eu cadw ar ffeil ac er iddo sôn am y drosedd o yrru cerbyd heb ei drwyddedu wrth gyflwyno ei gais adnewyddu nid oedd wedi datgan hynny ar ei ffurflen adnewyddu.  Eglurodd y Gyrrwr hefyd yr amgylchiadau ynghylch y troseddau goryrru a chadarnhaodd ei fod yn cario teithiwr oedd yn talu ar adeg yr ail drosedd goryrru.  Yn olaf cyflwynodd y Gyrrwr ddogfen yswiriant yn cadarnhau ei 7 blynedd o fonws am beidio hawlio.  Yn ei ddatganiad terfynol dywedodd y Gyrrwr ei fod o gymeriad da, yn yrrwr diogel a chyfrifol ac yn ŵr teulu oedd yn gweithio’n galed.

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried y cais.

 

Roedd Aelodau am gael eglurder pellach ynglŷn â'r broses am geisiadau i adnewyddu gan ei fod yn berthnasol i'r achos hwn a chadarnhawyd er bod y Gyrrwr wedi datgan y gollfarn oedd bellach wedi'i disbyddu wrth wneud cais yn y lle cyntaf (a ddaethpwyd gerbron y pwyllgor) roedd wedi methu datgan y gollfarn honno ar ei ffurflen adnewyddu lle nodir yn glir fod yn rhaid i ymgeiswyr ddatgan collfarnau moduro am y 5 mlynedd diwethaf.  O dan y weithdrefn cronni ystyriwyd fod yr euogfarn wedi’i disbyddu ar ôl 3 blynedd, fodd bynnag roedd yn parhau ar ei drwydded yrru DVLA am gyfanswm o 4 blynedd.

 

Yn ystod trafodaethau roedd barn gymysg ynglŷn â’r gosb fwyaf addas yn yr achos hwn a chafodd atal dros dro a rhybudd ffurfiol eu hawgrymu gan aelodau.  O'i roi i’r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  509302 ond bod y drwydded yn cael ei hatal am fis.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd Aelodau ffeithiau’r achos a’r eglurhad a roddwyd gan y Gyrrwr yn ei ble lliniaru yn ofalus.  Mynegodd y pwyllgor bryderon difrifol fod y Gyrrwr wedi derbyn dau euogfarn goryrru yn ogystal â'r drosedd traffig sylweddol o fewn cyfnod o dair blynedd a’i fod wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0269/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Mellor gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn adnabod dau o'r tystion yn yr achos hwn a gadawodd y cyfarfod pan fu’r pwyllgor yn ystyried yr eitem hon]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif

(ii)        15/0269/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat wedi cwyn am gythraul gyrru;

(iii)      manylion ac amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd wedi’u rhoi ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig ac roedd dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad;

 

(iv)      roedd y Gyrrwr wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu o’r blaen ar 10 Mehefin 2015, a chanlyniad yr achos hwnnw, a

 

(v)       bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded, ac i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i Gynrychiolydd Cyfreithiol, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Amlinellodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r achos fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Cynghorodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol nad oedd y Gyrrwr am ddadlau yn erbyn y mwyafrif o’r honiadau yn natganiadau’r tystion ac roedd wedi derbyn ei ymddygiad yn ystod y cyfweliad.  Rhoddodd fanylion am yr amgylchiadau’n arwain at y digwyddiad oedd yn ymwneud â symudiad tancer ar gyffordd.  Yn dilyn y symudiad roedd y Gyrrwr wedi gollwng ei deithwyr ac wedi mynd yn ôl i weld gyrrwr y tancer er mwyn trafod ei ffordd o yrru.  Fodd bynnag gwrthododd gyrrwr y tancer â siarad ag ef a cherddodd i ffwrdd ac ar y pryd hynny rhegodd arno.  Nid oedd bwriad dadlau ond roedd y ffordd roedd gyrrwr y tancer wedi ymateb wedi achosi iddo golli ei dymer.  Cyfaddefodd y Gyrrwr ei fod wedi ymddwyn yn annerbyniol ac roedd wedi cynnig ysgwyd llaw dair gwaith.  Roedd yn cydnabod yn llwyr fod ei ymddygiad yn annerbyniol ac roedd yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa ac roedd yn edifar.  Tra bo’r Gyrrwr wedi bod o flaen y pwyllgor ym mis Mehefin 2015 roedd natur yr achos hwnnw wedi bod yn wahanol ac fe gyfaddefodd y Gyrrwr ei euogrwydd ar yr achos hwnnw.  Darparwyd esiamplau o gymeriad da'r Gyrrwr a chynghorwyd aelodau ei fod wedi dal trwydded y tu allan i’r ardal ac roedd â record hollol lân.  Rhoddwyd manylion amgylchiadau personol y Gyrrwr a allai fod wedi effeithio ei ymateb i ryw raddau a dywedwyd y byddai colli ei drwydded yn golygu caledi ariannol. 

 

Cymerodd Aelodau’r cyfle i gwestiynau’r Gyrrwr ar ddatganiad ei gyfweliad a’i fersiwn o’r digwyddiad a holwyd iddo beth oedd wedi bwriadu ei ennill o'i weithredoedd.  Cynghorodd y Gyrrwr nad oedd wedi paratoi ar gyfer y cyfweliad gan nad oedd wedi cael gwybod beth oedd natur y gwyn ond o dan bwysau fe wnaeth gadarnhau fod ganddo syniad.  Ymhelaethodd ar y digwyddiad o’i bersbectif ef gan ddweud ei fod yn teimlo ei fod wedi ei fwlio gan yrrwr y tancer a'i fod am ei holi am ei ddull o yrru ond roedd wedi ei bryfocio a chollodd ei dymer a chyfaddefodd wrth edrych yn ôl na fyddai’n cymryd y camau hynny eto.  Dadleuodd ei fod wedi ei hel o’r eiddo a’i fod wedi ceisio ymddiheuro ar y pryd.  Fel gyrrwr trwyddedig roedd yn gweld digwyddiadau traffig niferus yn aml heb ddial a dywedodd fod yr achos hwn yn enghraifft brin na fyddai’n cael ei ailadrodd yn y dyfodol.

 

Yn ei ddatganiad terfynol ailadroddodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol nad oedd yn fwriad gan y Gyrrwr achosi dadl pan aeth yn ôl  ...  view the full Cofnodion text for item 6.