Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorydd Rhys Thomas Cofnodion: Cynghorydd Rhys Thomas |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Hugh Irving fel
Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. Cofnodion: Ceisiwyd enwebiadau i benodi Cadeirydd y Pwyllgor
Trwyddedu ar gyfer 2017/18. Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones y dylid penodi’r
Cynghorydd Hugh Irving yn Gadeirydd, ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arwel
Roberts. Cynigiodd y Cynghorydd Joan
Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Alan James yn Gadeirydd ac eiliwyd
hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor.
O'i roi i’r bleidlais - PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Hugh Irving fel
Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid
penodi'r Cynghorydd Alan James fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y
flwyddyn nesaf. Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau gan y Cadeirydd
ar gyfer Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2017/8. Cynigiodd y
Cynghorydd Joan Butterfield y dylid penodi’r Cynghorydd Alan James yn
Is-Gadeirydd ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Barry Mellor. Gan nad oedd unrhyw enwebiadau eraill ac o'i roi i'r bleidlais - PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Alan James fel
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu am y flwyddyn nesaf. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorwyr Joan Butterfield, Alan James, Brian Jones, Barry Mellor a Tony
Thomas fuddiant personol yn Eitem 12 ar y Rhaglen – Cais am Adnewyddu Trwydded
i Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Joan Butterfield, Alan
James, Brian Jones, Barry Mellor a Tony Thomas fuddiant personol yn Eitem 12 ar
y Rhaglen – Cais am Adnewyddu Trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat, oherwydd roeddent yn adnabod yr Ymgeisydd. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw fater brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn - (a) cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a
gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2017 (copi wedi’i amgáu), a (b) chofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a
gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2017 (copi wedi’i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2017 a 5 Ebrill
2017 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2017, a’r Pwyllgor
Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2017. PENDERFYNWYD derbyn
a chadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2017 a 5 Ebrill
2017 fel cofnod cywir. Ar y pwynt hwn, cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen i ddarparu ar gyfer
unigolion a oedd yn bresennol ar gyfer eitemau penodol. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau canlynol, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn
debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4
Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 517116 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif 517116. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
gwrthod y cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat gan ymgeisydd rhif 517116. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais
a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 517116 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat; (ii)
swyddogion
heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r collfarnau a
ddatguddiwyd yn dilyn datgeliad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS),
yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd ym 1998 o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988,
a oedd heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd, a’r croniad o 14 pwynt cosb ar ei
Drwydded Gyrru DVLA a oedd yn ymwneud â throseddau traffig a gyflawnwyd rhwng
2014 a 2015, gydag un ohonynt heb eu datgelu gan yr Ymgeisydd; (iii)
dogfennaeth
berthnasol yn ymwneud â’r achos, yn cynnwys manylion cyfweliad ffurfiol yr
Ymgeisydd yn amgaeedig gyda’r adroddiad; (iv)
polisi'r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd
euogfarnau, ac (v)
estyn
gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod wedi cael yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodi Traffig (TB) yr achos. Rhoddodd
yr Ymgeisydd rhywfaint o wybodaeth gefndir am ei amgylchiadau personol a hanes
cyflogaeth, a’i uchelgais i fod yn yrrwr tacsi.
Esboniodd
ei amgylchiadau o amgylch y broses ymgeisio, yn cynnwys trafodaethau gyda staff
trwyddedu am ei droseddau, a rhoddodd ei resymau dros hepgor manylion penodol
troseddau ar y ffurflen gais, ac amseriad cyflwyno ei gais yn seiliedig ar eu
cyngor nhw. Cyfeiriwyd hefyd at y cyfweliad ar dâp ac ymhelaethodd ar
y cyngor a roddwyd ar y staff trwyddedu, a galwodd ar dyst a oedd yn bresennol
i roi sylwadau ar ei ddatganiad. Rhoddodd y tyst eirda i’r
Ymgeisydd hefyd. Yn olaf, fe sicrhaodd yr Ymgeisydd ei
fod yn addas i ddal trwydded, a ddangoswyd yn ei swydd flaenorol a chyfredol
rhan-amser, a rhoddodd esboniad o’i droseddau a’i amgylchiadau ar yr adeg
honno. Yn
ystod y cwestiynu, adroddodd yr Ymgeisydd ar yr ymchwil roedd wedi’i wneud o
ran perthnasoldeb ei euogfarnau a’i gred, ar wahân i’r 3 phwynt cosb, bod y
pwyntiau cosb a oedd yn weddill, fel y dywedwyd yn yr adroddiad, wedi darfod. Fodd bynnag, fe addefodd ei fod wedi dibynnu'n ormodol o
bosibl ar y cyngor a roddwyd gan y staff trwyddedu yn ystod y broses ymgeisio. Cadarnhaodd
Swyddogion nifer o faterion ac ymatebwyd i gwestiynau fel a ganlyn - ·
rhoddwyd gwybodaeth am bwyntiau cosb ar wefan y DVLA – roedd pwyntiau’n
aros ar y drwydded am 3 blynedd, ac yn cael eu cadw ar gofnod am 4 blynedd yn y
mwyafrif o achosion. Roedd y
pwyntiau a gronnwyd gan yr Ymgeisydd yn berthnasol yn y broses ymgeisio ac yn
aros ar gofnod tan y dyddiadau a nodwyd ym mharagraff 4.9 o'r adroddiad ·
roedd y cais wedi'i
wneud a'i dderbyn 31 Mawrth ac roedd y dystysgrif DBS wedi'i chyflwyno ym Mai
2016 ·
roedd polisi euogfarnau’r Cyngor yn manylu y gall gyrrwr gael ei gyfeirio
at y Pwyllgor Trwyddedu lle ceir mwy na dwy fân drosedd traffig ·
roedd pob pecyn cais yn cynnwys arweiniad i ymgeiswyr a pholisi
euogfarnau’r Cyngor, ac yn nodi’n glir sut y byddai euogfarnau’n cael eu
trin. Nid oedd amodau trwyddedu cerbydau
hacni/hurio preifat (llyfr glas) wedi’i gyhoeddi ar yr adeg honno ac yn ymwneud
ag amodau yn dilyn rhoi trwydded. Wrth wneud ei ddatganiad terfynol, ailadroddodd yr Ymgeisydd ei fod wedi trafod ei gais gyda staff trwyddedu ac wedi datgelu ei euogfarnau, ac wedi ceisio cyngor ar hynny, cyn cwblhau'r ffurflen gais a oedd wedi'i chyflwyno'n unol â'r cyngor hwnnw. Sicrhaodd aelodau ei fod yn addas i ddal trwydded ac nad ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADNEWYDDU CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF YMGEISYDD 518819 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu), yn gofyn i aelodau benderfynu ar adnewyddu cais gan Ymgeisydd Rhif 518819. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 518819 yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn
cael ei roi ynghylch ei euogfarnau moduro a’i ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: [Datganodd y Cynghorwyr Joan Butterfield, Alan
James, Brian Jones, Barry Mellor a Tony Thomas gysylltiad personol, ac fe
adawsant y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – chais i adnewyddu a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 518819 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat; (ii)
swyddogion heb fod mewn sefyllfa i roi’r cais adnewyddu yn dilyn croniad o
9 pwynt cosb ar Drwydded Gyrru DVLA yr Ymgeisydd ar gyfer troseddau traffig
rhwng y cyfnod Chwefror 2014 a Mai 2018, a oedd wedi'u cadarnhau yn dilyn
gwiriad fel mater o drefn, fel rhan o’r cais adnewyddu; (iii)
polisi'r
Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, ac (iv)
estyn gwahoddiad i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais i
adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny. Roedd yr Ymgeisydd
yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i Gynrychiolydd Cyfreithiol, a
chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu’r (NJ) adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos. Esboniodd yr
Ymgeisydd yr amgylchiadau o amgylch y tair trosedd traffig, yn enwedig o ran y
drosedd ddiwethaf, a’r mesur lliniaru a dderbyniwyd gan yr Ynadon ac wedi’i
adlewyrchu yng ngostyngiad y pwyntiau cosb a roddwyd. Ychwanegodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol y byddai’r
mân droseddau goryrru’n dod i ben yn 2018 ac amlygwyd y dull dim goddefgarwch
gan Heddlu Gogledd Cymru’n hynny o beth. Ailadroddodd hefyd y mesur lliniaru a
gyflwynwyd o ran y drosedd ddiwethaf pan fu teithiwr yn sâl. Wrth gau, dywedodd y Cynrychiolydd
Cyfreithiol y byddai cael gwared ar y drwydded yn arwain at anawsterau ariannol
i’r Ymgeisydd, a rhoddodd wybod mai ychydig o yrwyr hwyr nos oedd yno, ac roedd
yr Ymgeisydd yn helpu i fodloni’r galw hwnnw. Ymatebodd yr
Ymgeisydd i gwestiynau aelodau ynglŷn â’r troseddau a chadarnhaodd ei fod
yn gweithio’n annibynnol. Sefydlwyd
hefyd, er y newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth ynglŷn â’r troseddau
goryrru, roedd y dull dim goddefgarwch wedi’i weithredu am beth amser cyn
hynny. Wrth wneud ei
ddatganiad terfynol, rhoddodd Cynrychiolydd Cyfreithiol yr Ymgeisydd wybod nad
oedd yn ceisio trechu’r broses ddyledus, ac wedi egluro’r amgylchiadau o ran y
troseddau traffig yn glir. Os byddai
aelodau’n penderfynu cael gwared ar y drwydded, byddai hefyd yn cael gwared ar
fywoliaeth yr Ymgeisydd ac yn achosi anawsterau ariannol. Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried y cais a - PENDERFYNWYD bod y cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 518819 yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn
cael ei roi ynghylch ei euogfarnau moduro a’i ymddygiad yn y dyfodol. Dyma oedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Prif ystyriaeth y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd ac nid oedd dweud y byddai cael gwared ar y drwydded yn achosi straen ariannol, ac yn rhoi pwysau ar y rhai hynny sydd eisiau tacsis yn y nos yn ystyriaethau perthnasol, a chawsant eu diystyru. Roedd Aelodau wedi ystyried ffeithiau’r achos yn ofalus, a’r mesur lliniaru a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd o ran yr euogfarnau moduro. Mynegwyd pryder o ran cronni 9 pwynt cosb, a fyddai fel arfer yn golygu gwrthod y cais. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y mesur lliniaru ac o ystyried bod yr euogfarnau’n cael eu dosbarthu fel mân droseddau traffig, a gan dderbyn bod yr euogfarn olaf wedi digwydd o dan amgylchiadau anodd, cytunwyd peidio â gwrthod y cais i adnewyddu’r tro hwn. Yn hytrach, rhoddwyd ystyriaeth i wahardd y drwydded am gyfnod penodol neu roi rhybudd ffurfiol. Ar y cyfan, penderfynwyd rhoi rhybudd llym ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
GOLLYNGIAD O’R GOFYNIAD I ARDDANGOS PLATIAU TRWYDDED CERBYDAU HURIO PREIFAT (1) I ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu), yn gofyn am benderfyniad yr aelodau ynghylch cais am ollyngiad o’r
gofyniad i arddangos platiau trwydded ar ddau gerbyd hurio preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
cymeradwyo’r cais am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos platiau trwydded
a sticeri drws cerbydau hurio preifat ar gyfer y ddau gerbyd fel y manylir yn
yr adroddiad, yn ddarostyngedig i'r amodau (tynnu amod 9) fel y manylir yn
Atodiad C yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos platiau trwydded ar ddau Gerbyd
Hurio Preifat; (ii)
y polisi drafft ynglŷn â cheisiadau i gael eithriad i arddangos
platiau hurio preifat a sticeri drws (Atodiad A i'r adroddiad); (iii)
pwerau’r Cyngor i roi gollyngiad perchennog rhag arddangos plât trwyddedu,
gan ystyried natur weithredol y gwaith ynghyd ag ansawdd y cerbyd dan sylw, a
lle byddai’r cerbyd yn cael ei weithredu; (iv)
yr ymgeisydd wedi rhoi manylion llawn y ddau gerbyd sy’n destun y cais a
natur y busnes (Atodiad B i’r adroddiad), a (v)
ffactorau penderfynu eraill sydd angen eu hystyried ac amodau a awgrymwyd
(Atodiad C i’r adroddiad), pe bai aelodau o blaid roi’r cais am ollyngiad. Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad. Tynnodd sylw’r aelodau at yr amodau awgrymedig (Atodiad C
i’r adroddiad) a rhoddodd wybod y dylid cael gwared ar amod 9. Ymhelaethodd yr Ymgeisydd ar weithrediad a natur ei
fusnes, a oedd yn cynnal gwaith corfforaethol yn bennaf. Eglurwyd y rheswm dros ei gais am ollyngiad, er mwyn
uwchraddio’r cerbydau oherwydd llwyddiant ac ehangiad ei fusnes. Roedd ceisiadau blaenorol wedi’u rhoi gan y pwyllgor ac
wedi cynnwys cefnogaeth gan gwmnïau a oedd yn gleientiaid. Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried y cais a - PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am ollyngiad o’r gofyniad i
arddangos platiau trwydded a sticeri drws cerbydau hurio preifat ar gyfer y
ddau gerbyd fel y manylir yn yr adroddiad, yn ddarostyngedig i'r amodau (tynnu
amod 9) fel y manylir yn Atodiad C yr adroddiad. Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
Trwyddedu – Ar ôl ystyried yr adroddiad a chyflwyniad yr Ymgeisydd,
roedd aelodau’n fodlon bod natur ac ansawdd y cerbydau dan sylw’n bodloni’r
meini prawf i eithrio yn yr achos hwn. Roedd yr amodau wedi’u gorfodi
er mwyn helpu rheoleiddio a gorfodi. Roedd yr aelodau’n falch i
weld llwyddiant y busnes a bod cerbydau'n cael eu huwchraddio. Cafodd
penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd. |
|
GOLLYNGIAD O’R GOFYNIAD I ARDDANGOS PLATIAU TRWYDDED CERBYDAU HURIO PREIFAT (2) I ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n
amgaeedig) yn gofyn am benderfyniad yr aelodau ynghylch cais am ollyngiad o’r
gofyniad i arddangos platiau trwydded ar gerbyd hurio preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cafodd yr eitem
hon ei thynnu o’r rhaglen. Cofnodion: Rhoddodd y pwyllgor wybodaeth bod y cais hwn wedi’i
dynnu’n ôl erbyn hyn. Ar y pwynt hwn
(11.15 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau'r
busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
ADOLYGU – DEDDF GAMBLO 2005 DATGANIAD O EGWYDDORION I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno Datganiad o Egwyddorion drafft y Cyngor (Deddf Gamblo 2005), i'w
ystyried a'i gymeradwyo ar gyfer ymgynghori. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad o Egwyddorion drafft y Cyngor
(Deddf Gamblo 2005) sydd wedi’i atodi i’r adroddiad ar gyfer ymgynghori
statudol. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn cyflwyno drafft y Cyngor o’i
Ddatganiad o Egwyddorion (Deddf Gamblo 2005), i’w ystyried a’i gymeradwyo ar
gyfer ymgynghoriad ffurfiol. Atgoffwyd yr aelodau o’r gofyniad statudol i
adolygu’r Datganiad o Egwyddorion bob tair blynedd. Roedd y ddogfen ddrafft wedi’i datblygu
gan y chwe awdurdod trwyddedu yng Ngogledd Cymru i sicrhau cysondeb mewn
materion yn ymwneud â materion a swyddogaethau Gamblo, ac roedd ystyriaeth
ddyledus wedi'i rhoi o amcanion trwyddedu Deddf Gamblo 2005 a ‘Chanllaw Awdurdodau
Trwyddedu' y Comisiwn Gamblo, fel rhan o’r adolygiad hwnnw. Roedd manylion y broses ymgynghori hefyd
wedi’u rhoi, a oedd yn cynnwys awdurdodau cyfrifol a deiliaid trwydded
presennol. Cadarnhaodd Aelodau eu bod yn hapus i gymeradwyo’r drafft ar gyfer
ymgynghoriad ffurfiol ac felly - PENDERFYNWYD cymeradwyo Datganiad o Egwyddorion drafft y Cyngor
(Deddf Gamblo 2005) sydd wedi’i atodi i’r adroddiad ar gyfer ymgynghori
statudol. |
|
ADOLYGU’R POLISI SEFYDLIADAU RHYW I ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu), yn
diweddaru aelodau ar adolygu'r Polisi Sefydliadau Rhyw. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi’r
adroddiad a bod y terfynau amser ynddo ynglŷn â chreu Polisi Sefydliad
Rhyw drafft diwygiedig yn cael eu cymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn diweddaru aelodau ar adolygiad o’r Polisi
Sefydliadau Rhyw. Ym Mawrth 2015, roedd y Pwyllgor Trwyddedu wedi
penderfynu y dylid cymryd camau i fabwysiadu darpariaethau Adran 27 y Ddeddf
Plismona a Throsedd 2009 er mwyn rheoleiddio clybiau glinddawnsio fel
lleoliadau adloniant rhyw, o dan Atodlen 3 Deddf Llywodraeth Leol
(Darpariaethau Amrywiol) 1982, ac i ddiwygio’r Polisi Sefydliadau Rhyw cyfredol
yn hynny o beth a sicrhau ei fod yn addas at y diben. Er nad oes safleoedd o'r math hwn yn Sir
Ddinbych ar hyn o bryd, byddai mabwysiadu’r pwerau hyn yn gweithredu fel mesur
ataliol rhag unrhyw safleoedd o’r fath yn y dyfodol.
Oherwydd yr angen i flaenoriaethau fformwleiddiad a diwygiad y polisïau,
ystyriodd swyddogion y byddent mewn sefyllfa i gyflwyno polisi diwygiedig
drafft i aelodau yn 2018. Yn y cyfamser, byddai unrhyw geisiadau ar gyfer
lleoliadau adloniant rhyw yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu o dan
weithdrefnau presennol. Adroddodd y Cynghorydd Joan Butterfield bod y sefydliad
rhyw a oedd wedi arfer ei leoli ar Water Street, y Rhyl, wedi’i ail-leoli y tu
allan i’r sir, ond roedd wedi gweithredu’n ddisylw heb unrhyw broblemau ac heb
beri tramgwydd. PENDERFYNWYD nodi’r
adroddiad a bod y terfynau amser ynddo ynglŷn â chreu Polisi Sefydliadau
Rhyw drafft diwygiedig yn cael eu cymeradwyo. |
|
ADOLYGU'R POLISI MASNACHU AR Y STRYD Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu), yn
diweddaru aelodau o'r cynnydd mewn perthynas ag adolygiad o bolisi presennol
masnachu ar y stryd yn Sir Ddinbych. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi’r
adroddiad ac awdurdodi swyddogion i barhau i weithio ar y Polisi Masnachu ar y
Stryd drafft, gyda fersiwn derfynol yn cael ei chyflwyno i gyfarfod nesaf y
pwyllgor i'w hystyried. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol), yn diweddaru aelodau ar y cynnydd â'r bwriad o adolygu'r Polisi
Masnachu ar y Stryd cyfredol yn Sir Ddinbych. Yn 2015, awdurdodwyd swyddogion gan y Pwyllgor Trwyddedu i adolygu'r polisi
masnachu ar y stryd presennol er mwyn mynd i'r afael ag anawsterau gyda'r
gyfundrefn ac awgrymu gwelliannau i reoleiddio a chefnogi masnachu ar strydoedd
y sir yn well. Ystyriwyd polisi drafft
gan y Pwyllgor Trwyddedu yn Rhagfyr 2016, a chytunwyd y byddai ymgynghoriad
cychwynnol yn cael ei wneud gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned, ynghyd ag
adrannau cyngor mewnol, yn enwedig o ran system arfaethedig y caniatâd bloc
dros dro a digwyddiadau arbennig a amlinellir yn y polisi drafft, cyn
ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y sylwadau
a ddaeth i law o ganlyniad i’r ymgynghoriad cychwynnol wedi’u cynnwys yn y
drafft diweddaraf, a oedd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus tan 30 Mehefin 2017.
Awgrymwyd y byddai drafft terfynol, yn ymgorffori ymatebion o ganlyniad i'r
ymgynghoriad cyhoeddus, yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor. Tynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield sylw at bwysigrwydd polisi addas at y
diben, yn enwedig ar gyfer trefi mwy, ac roedd yn falch y byddai’r polisi’n
cael ei gyflwyno’n ôl i’r pwyllgor er mwyn ei gadarnhau. Er nad oedd yn cofio’r polisi drafft yn cael
ei gyflwyno gerbron Cyngor Tref y Rhyl, byddai’n adolygu eu hymateb ac yn
ailedrych ar y polisi drafft mewn ymateb i’r ymgynghoriad. Roedd y Cynghorydd Butterfield yn arbennig o
awyddus i adolygu’r system arfaethedig o ganiatâd bloc dros dro ar gyfer
masnachu ar y stryd, ac awgrymodd y dylid cynhyrchu map yn hynny o beth er mwyn
eglurder. Fe wnaeth y Rheolwr Busnes
Gwarchod y Cyhoedd annog ymgysylltiadau â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned, a
chroesawodd y cyfle i drafod y mater ymhellach.
Nid oedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn cofio’r polisi drafft yn cael ei
gyflwyno gerbron Cyngor Tref y Rhuddlan, ond dywedodd y byddai’n gwneud
ymholiadau. Mewn ymateb i bryderon a
godwyd gan y Cynghorydd Roberts o ran cost cau’r ffyrdd ar gyfer digwyddiadau cymunedol,
sefydlwyd nad oedd yn fater i’w ystyried o dan y polisi masnachu ar y stryd,
ond gallai fod yn fater i archwilio ei ystyried. Cytunodd y
Cynghorydd Roberts i gyflwyno ffurflen cynnig gan aelodau i'r Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio’n uniongyrchol yn hynny o beth.
Teimlai’r Cynghorydd Huw Williams y byddai'n werth ymgynghori â’r
Grwpiau Ardal Aelodau hefyd ar y polisi masnachu ar y stryd drafft. Rhoddodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd
wybod y byddai polisi terfynol yn cael ei ddrafftio’n dilyn y cyfnod
ymgynghori, a chytunodd i ymgysylltu â’r Grwpiau Ardal Aelodau cyn cyflwyno’r
fersiwn terfynol i’r pwyllgor. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad ac awdurdodi swyddogion i barhau i
weithio ar y Polisi Masnachu ar y Stryd drafft, gyda fersiwn terfynol yn cael
ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y pwyllgor i'w hystyried. |
|
RHAGLEN GWAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU Ystyried adroddiad
gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno
rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y
manylir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ynghyd â diwygiadau arfaethedig fel y
manylir ym mharagraff 3.4 yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â rhaglen waith arfaethedig
y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016. Tynnwyd sylw’r Aelodau at baragraff 3.4 o’r adroddiad,
ynglŷn â pholisi euogfarnau cenedlaethol yn cael ei ddatblygu ar gyfer
awdurdodau lleol, gan y Sefydliad Trwyddedu a'r Gymdeithas Llywodraeth
Leol. O ganlyniad, awgrymodd swyddogion
y dylid gohirio unrhyw waith pellach ar adolygu’r polisi cyfredol hyd nes y
bydd y polisi cenedlaethol wedi’i gwblhau.
Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd swyddogion - ·
tua dwy flynedd yn
ôl oedd cyfarfod diwethaf Fforwm Tacsis Sir Ddinbych, ac nid oedd cynlluniau
cyfredol i’w ailgychwyn, o ystyried nad oedd yn cynrychioli Sir Ddinbych yn ei
chyfanrwydd, ond wedi canolbwyntio'n bennaf ar fasnach yn y Rhyl a Phrestatyn ·
ni fu cynnydd mewn prisiau tacsis ers 2008/09 gan nad oedd y fasnach dacsis
wedi cefnogi’r cynnydd yn gyffredinol; fodd bynnag, roedd yn debygol y byddai
cais gan y fasnach ar y gweill, a fyddai’n arwain at adroddiad i’r pwyllgor, a
fyddai’n cael ei gynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Nodwyd bod y prisiau tacsis yn dangos yr
uchafsymiau sy'n daladwy, ac y gallai cwmnïau tacsis godi llai pe dymunent
wneud hynny. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylir
yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ynghyd â diwygiadau arfaethedig fel y manylir ym
mharagraff 3.4 yr adroddiad. Daeth y
cyfarfod i ben am 12.05pm. |