Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Meirick Davies.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Meirick Davies.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn eitem 11 ar y rhaglen gan ei fod wedi cael trafodion busnes yn y gorffennol gyda’r Ymgeisydd.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn eitem 11 ar y rhaglen gan ei fod wedi cael trafodion busnes yn y gorffennol gyda’r ymgeisydd.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 170 KB

Derbyn -

 

(a)  cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016 (copi ynghlwm),

 

(b)  cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2016 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016 a 20 Rhagfyr  2016 fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016 a’r Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2016.

 

Teimlodd y Cynghorydd Bill Cowie y byddai’n fuddiol i’r aelodau gael eu hysbysu am unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad y pwyllgor gyda’r deilliant a chytunodd y swyddogion i adrodd yn ôl ar hynny.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016 a 20 Rhagfyr  2016 fel cofnod cywir.

 

Ar y pwynt hwn, cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen i ddarparu ar gyfer unigolion a oedd yn bresennol ar gyfer eitemau penodol.

 

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

5.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 510104

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 510104.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwrthod cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  510104.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif 510104 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn croniad o chwe phwynt cosb ar ei drwydded yrru DVLA am ddefnyddio cerbyd modur heb ei yswirio yn erbyn risg trydydd person yn Hydref 2015 a ddatgelwyd yn dilyn archwiliad arferol fel rhan o'i gais adnewyddu;

(ii)       Gyrrwr wedi methu datgelu euogfarn moduro adeg yr euogfarn neu fel rhan o’i gais adnewyddu fel sy’n ofynnol gan amodau trwyddedu;

 

(iii)      polisi’r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, ac

 

(iv)      roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod wedi derbyn adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi’r adroddiad (LJ) gan fanylu ar ffeithiau'r achos.

 

Eglurodd y Gyrrwr ei fod wirioneddol yn credu bod ei gerbyd wedi’i yswirio a bod ei gwmni yswiriant wedi cyfaddef gwall clercyddol pan gafodd ei holi mewn perthynas â’r yswiriant.     Rhoddodd sicrwydd na fu unrhyw ymdrech fwriadol i dwyllo ar ei ran ef.    Ymatebodd y Gyrrwr i gwestiynau’r aelodau ac ymhelaethodd ar yr amgylchiadau oedd yn ymwneud â’r drosedd a’i gamau a derbyniodd y gallai fod wedi darparu tystiolaeth i gefnogi ei ochr ef.    O ran diffyg datguddio'r euogfarn cyfeiriodd y Gyrrwr at ei amgylchiadau personol ar y pryd gan ddweud bod yr euogfarn wirioneddol wedi mynd o'i feddwl ac nad oedd yn gyrru tacsis yn llawn amser.    Yn ei ddatganiad terfynol ailadroddodd y Gyrrwr ei fod wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol trwy beidio â datgelu'r euogfarn. 

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  510104.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd Aelodau ffeithiau’r achos a’r ple lliniaru a gyflwynwyd gan y gyrrwr a’i ymateb i gwestiynau yn ofalus.  Roedd y pwyllgor wedi darganfod anghysondeb rhwng yr hyn a ddywedwyd gan y Gyrrwr yn y cyfarfod a'i ddatganiad tyst nad oedd yn adlewyrchu'n dda ar ei hygrededd ac nad oedd wedi darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei ochr ef.    O ran ei ddiffyg datguddio, roedd y ffurflen gais adnewyddu yn gofyn yn glir am fanylion unrhyw euogfarnau moduro.    O ganlyniad, roedd y pwyllgor yn credu bod y Gyrrwr yn fwriadol wedi methu datgelu’r euogfarn er mwyn sicrhau y byddai ei drwydded yn cael ei hadnewyddu a'i fod yn gwybod ei fod wedi gwneud datganiad ffug.  Ystyriaeth bwysicaf y pwyllgor oedd gwarchod y cyhoedd.  O ystyried diystyrwch amlwg y Gyrrwr o’r rheolau a’i ymgais fwriadol i dwyllo nid oedd y pwyllgor yn ei ystyried yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded a phenderfynwyd gwrthod y cais adnewyddu.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr a chafodd wybod am ei hawl i apelio.

 

 

6.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 16/0944/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 16/0944/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 16/0944/TXJDR ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif 16/0944/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn euogfarn llys am fod ag arf bygythiol yn ei feddiant;

(ii)       crynodeb o ffeithiau wedi eu darparu ynghyd â datganiadau tyst cysylltiol a dogfennau perthnasol eraill gan gynnwys geirdaon;

 

(iii)      polisi’r Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, ac

 

(iv)      roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Amlinellodd y Swyddog Gorfodi’r achos (TB) fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Gyrrwr sicrwydd am ei gymeriad da a phroffesiynol (geirdaon wedi eu darparu o fewn y dogfennau).  Eglurodd yr amgylchiadau o amgylch yr euogfarn a chyflwynodd lythyr gan ei Gyfreithwyr yn cadarnhau ei fod wedi'i gyhuddo ar sail ei fod wedi dod o hyd i'r arf yn ei gerbyd ac roedd yn euog oherwydd nad oedd wedi ei gyflwyno i'r heddlu mor gyflym ag y dylai fod wedi gwneud.     Derbyniodd y Gyrrwr y dylai fod wedi delio â’r mater yn wahanol ac yn unol â’r gweithdrefnau ond dywedodd ei fod wedi anghofio ei fod yn dal yn y cerbyd.     Eglurodd y Gyrrwr faterion penodol oedd yn codi yn ei ddatganiad tyst mewn ymateb i gwestiynau aelodau a hefyd ymhelaethodd ymhellach ar yr amgylchiadau oedd wedi arwain at yr euogfarn, y rhesymau am ei gamau a’i blediad llys.     Roedd yn gwadu'n llwyr ei fod wedi cael yr arf a'i gario yn y cerbyd at ddiben penodol a dywedodd ei fod wedi cydweithredu'n llawn gyda'r Heddlu a'r Adran Drwyddedu. 

 

Yn ei ddatganiad terfynol rhoddodd y Gyrrwr sicrwydd ei fod yn yrrwr proffesiynol nad oedd yn peri unrhyw berygl i’r cyhoedd a rhoddodd sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.  Amlygodd yr effaith andwyol ar ei fywyd personol yn ystod y deuddeg mis diwethaf ac roedd yn gobeithio rhoi'r mater y tu ôl iddo a symud ymlaen. 

 

Ar y pwynt hwn, gohiriodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 16/0944/TXJDR ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth ofalus i’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn, ynghyd â'r esboniad a roddwyd gan y Gyrrwr a’i ymateb i gwestiynau.  Roedd y pwyllgor yn credu bod y Gyrrwr wedi ateb cwestiynau yn onest a hyd eithaf ei allu ac yn gyffredinol yn derbyn ei ochr ef.    Derbyniodd y Gyrrwr y dylai fod wedi delio â’r sefyllfa yn unol â’r gweithdrefnau.    Roedd yr Aelodau hefyd yn nodi bod y digwyddiad wedi digwydd bron ddeuddeg mis yn ôl ac nad oedd unrhyw faterion cyn nac ers hynny ac roeddent yn hyderus o ddarllen y geirdaon a ddarparwyd yn tystio proffesiynoldeb a chymeriad da'r Gyrrwr.    O ganlyniad, nid oedd yr Aelodau’n meddwl bod y Gyrrwr yn peri unrhyw berygl i’r cyhoedd a chafwyd ei fod yn addas a phriodol i ddal trwydded.  Fodd bynnag, o ystyried difrifoldeb y drosedd, roedd yr Aelodau’n ystyried a fyddai gwaharddiad dros dro neu rybudd ffurfiol yn briodol.  Ar ôl cynnal pleidlais, cytunwyd i roi rhybudd ffurfiol i’r Gyrrwr ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

 

7.

CAIS AM GANIATÂD MASNACHU AR Y STRYD – YMGEISYDD RHIF 1

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am fasnachu ar y stryd gan Ymgeisydd Rhif 1.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      Caniatáu’r cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd ar gyfer tir preifat, wedi’i leoli o flaen yr Eglwys, Stryd Sussex,Y Rhyl, fel y manylwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad, yn benodol paragraffau 4.3 a 7.3;

 

 (b)      I swyddogion awdurdodedig gynnal arolygiad ar ddiwrnod cyntaf masnachu er mwyn sicrhau y cydymffurfiwyd â'r amodau a osodwyd, a

 

 (c)       Gofyn i’r Ymgeisydd ddarparu mwy o fanylion ar yr ardaloedd masnachu arfaethedig ar y Stryd Fawr, Stryd y Farchnad, Sgwâr Neuadd y Dref a Stryd Sussex fel y cyfeiriwyd atynt yn ei gais i gynnwys safleoedd penodol i’w hystyried ymhellach gan y pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)        chais a dderbyniwyd am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd gan Ymgeisydd Rhif 1;

 

(ii)       yr ymgeisydd yn bwriadu gweithredu fan symudol gyda threlar yn gwerthu cynnyrch cig a chaws mewn nifer o ardaloedd penodol o fewn y Rhyl;

 

(iii)      manylu canlyniadau ymgynghoriad ar y cais gydag amrywiol bartneriaid a sectorau, mewnol ac allanol;

 

(iv)      cyfeiriwyd at bwerau’r Cyngor wrth wneud penderfyniad ar y caniatâd a materion polisi eraill o ran masnachu ar y stryd yng nghyd-destun y Polisi Masnachu ar y Stryd newydd yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd; a 

 

(v)       gofyn i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac ardaloedd masnachu arfaethedig yn y Rhyl a nodwyd gan yr Ymgeisydd a oedd yn cynnwys tir preifat wedi’i leoli o flaen yr Eglwys, Stryd Sussex, y Rhyl (caniatâd ysgrifenedig wedi’i baratoi yn y cyfarfod); Stryd Fawr (rhan); Stryd y Farchnad (rhan); Sgwâr Neuadd y Dref a Stryd Sussex (rhan).  Dywedwyd wrth yr Aelodau na dderbyniwyd unrhyw sylwadau pellach mewn ymateb i’r ymgynghoriad ond tynnwyd sylw at yr ymateb gan yr Adran Briffyrdd fel y manylwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â rheoli traffig. 

 

Roedd yr Ymgeisydd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn dogfennaeth y pwyllgor.  Amlygodd yr Ymgeisydd ei brofiad masnachu blaenorol yn yr ardal gan ddweud bod yna alw am ei gynnyrch, yn arbennig o ystyried nad oedd yna siop cigydd ac roedd yn credu y byddai’r busnes yn denu mwy i’r ardal.

 

Er nad oedd yna wrthwynebiad i’r cais mewn egwyddor, amlygodd yr aelodau bwysigrwydd diogelu yn erbyn unrhyw effaith niweidiol ar siopau a busnesau lleol sydd eisoes yn bod yn yr ardal a sicrhau amodau priodol os rhoddir caniatâd, yn arbennig o ran niwsans sŵn.    Wrth ystyried yr ardaloedd masnachu arfaethedig, teimlodd yr aelodau bod y rhan fwyaf yn rhy amwys ac angen bod yn fwy penodol ac roedd yna amheuon arbennig o ran rhoi caniatâd i Sgwâr Neuadd y Dref oherwydd cynlluniau’r Cyngor i adleoli Ystafelloedd Cofrestrydd a Phriodasau yno.    Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau gan yr aelodau, rhoddodd yr Ymgeisydd sicrwydd y gellir delio gyda lefelau sŵn gyda generaduron lefel isel neu fodd arall a hefyd ymhelaethodd ar weithredu ei fusnes a’r effaith gadarnhaol o ran denu cwsmeriaid i’r ardal. 

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      Caniatáu’r cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd ar gyfer tir preifat, wedi’i leoli o flaen yr Eglwys, Stryd Sussex,Y Rhyl, fel y manylwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad, yn benodol paragraffau 4.3 a 7.3;

 

 (b)      I swyddogion awdurdodedig gynnal archwiliad ar ddiwrnod cyntaf masnachu er mwyn sicrhau y cydymffurfiwyd â'r amodau a osodwyd, a

 

 (c)       Gofyn i’r Ymgeisydd ddarparu mwy o fanylion ar yr ardaloedd masnachu arfaethedig ar y Stryd Fawr, Stryd y Farchnad, Sgwâr Neuadd y Dref a Stryd Sussex fel y cyfeiriwyd atynt yn ei gais i gynnwys safleoedd penodol i’w hystyried ymhellach gan y pwyllgor.

 

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Wrth ystyried teilyngdod y cais roedd yr aelodau’n nodi nad oedd yna siop cigydd yn yr ardal a galw am y cynnyrch heb ei ddiwallu a hefyd nodwyd na fyddai’r Ymgeisydd mewn cystadleuaeth uniongyrchol gyda masnachwyr eraill a gallai gynyddu’r nifer o ymwelwyr yn yr ardal.    O ystyried yr effaith gadarnhaol posibl ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CAIS AM GANIATÂD MASNACHU AR Y STRYD – YMGEISYDD RHIF 2

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am fasnachu ar y stryd gan Ymgeisydd Rhif 2.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      Yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn benodol paragraffau 4.3 a 7.3, bod y cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd yn cael ei ganiatáu fel a ganlyn -

 

Ardal Fasnachu

Tu allan i 10 a 11 Stryd y Farchnad, Y Rhyl

Dyddiau/ Amseroedd Masnachu

Dydd Llun, Mercher a Sadwrn

08.00 y bore tan 16.00 y prynhawn

 

 (b)      Bod swyddogion awdurdodedig yn cynnal arolygiad ar ddiwrnod cyntaf masnachu er mwyn sicrhau y cydymffurfiwyd â'r amodau a osodwyd.

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod wedi cael trafodion busnes yn y gorffennol gyda’r Ymgeisydd a gadawodd y cyfarfod tra’r oedd y cais yn cael ei ystyried].

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)        chais a dderbyniwyd am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd gan Ymgeisydd Rhif 2;

 

(ii)       yr ymgeisydd yn bwriadu gwerthu cynnyrch cig ar drelar pwrpasol yn Stryd y Farchnad, y Rhyl;

 

(iii)      manylu canlyniadau ymgynghoriad ar y cais gydag amrywiol bartneriaid a sectorau, mewnol ac allanol;

 

(iv)      cyfeiriwyd at bwerau’r Cyngor wrth wneud penderfyniad ar y caniatâd a materion polisi eraill o ran masnachu ar y stryd yng nghyd-destun y Polisi Masnachu ar y Stryd newydd yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd; a 

 

(v)       gofyn i’r Ymgeisydd ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (JT) grynodeb o’r adroddiad ac eglurwyd bod yr ardal masnachu arfaethedig y tu allan i 10 ac 11 Stryd y Farchnad, y Rhyl ac nid fel y manylwyd o fewn yr adroddiad.    Mewn ymateb i'r ymgynghoriad, roedd Cyngor Tref y Rhyl wedi cadarnhau nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r cais. 

 

Cyfeiriodd yr Ymgeisydd at ei brofiad yn y busnes a’r rheswm dros ei gais i fasnachu yn y Rhyl a’r ardal arbennig a nodwyd.    Dywedodd na fyddai mewn cystadleuaeth uniongyrchol gyda mannau manwerthu lleol a gallai ddarparu cynnyrch o ansawdd i siopwyr lleol a hefyd rhoddodd sicrwydd y defnyddir generaduron tawel.    Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd yr ymgeisydd nad oedd wedi nodi amseroedd penodol na dyddiau o’r wythnos penodol gan y byddai’n fodlon cydymffurfio ag amseroedd a dyddiau a ystyriwyd yn briodol gan y pwyllgor ac nad oedd ganddo unrhyw ddewis penodol.    Dywedodd yr Ymgeisydd ei fod yn gwerthu cynnyrch lleol ac eglurodd swyddogion na fyddai wedi’i gyfyngu drwy werthu cig o ffynonellau penodol. 

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried y cais.

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      Yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn benodol paragraffau 4.3 a 7.3, bod y cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd yn cael ei ganiatáu fel a ganlyn -

 

Ardal Fasnachu

Tu allan i 10 a 11 Stryd y Farchnad, Y Rhyl

Dyddiau/ Amseroedd Masnachu

Dydd Llun, Mercher a Sadwrn

08.00 y bore tan 16.00 y prynhawn

 

 (b)      bod swyddogion awdurdodedig yn cynnal arolygiad ar ddiwrnod cyntaf masnachu er mwyn sicrhau y cydymffurfiwyd â'r amodau a osodwyd.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr Aelodau yn meddwl cyn belled â bod yna amodau priodol i gynorthwyo rheoleiddio, byddai rhoi caniatâd i’r cais yn fuddiol i’r defnyddiwr a gallai hefyd helpu i ddenu cwsmeriaid i’r ardal ac felly o fudd i fusnesau lleol eraill.    Roedd lleoliad y safle arfaethedig fel y nodwyd hefyd yn cael ei ystyried yn briodol gan ei fod wedi ei leoli oddi wrth y caffis awyr agored ar y stryd ac roedd masnachu tebyg wedi llwyddo ar y safle yn y gorffennol.      Yn absenoldeb dymuniad ar gyfer masnachu/oriau ar ddyddiau'r wythnos gan yr Ymgeisydd, cytunodd yr Aelodau ar ddydd Llun a dydd Mercher fel dyddiau masnachu ac oriau masnachu rhwng 8.00am a 4.00pm yn briodol.    Gall yr Ymgeisydd ymgeisio i amrywio’r dyddiau/oriau masnachu hynny ar unrhyw adeg. 

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Ymgeisydd.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau'r busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

 

9.

HYFFORDDIANT YMWYBYDDIAETH CAMFANTEISIO’N RHYWIOL AR BLANT pdf eicon PDF 118 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) ynghylch hyfforddiant ymwybyddiaeth camfanteisio’n rhywiol ar blant, gan gynnwys presenoldeb/diffyg presenoldeb gyrwyr a chynigion ar gyfer y dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      Cynnal Pwyllgor Trwyddedu Arbennig i wrando ar sylwadau oddi wrth y gyrwyr presennol hynny nad oedd wedi mynychu’r hyfforddiant;

 

 (b)      Mewn perthynas â gyrwyr a oedd newydd gael trwydded nad oedd eto wedi cael cyfle i fynychu hyfforddiant ymwybyddiaeth, rhoi cyfarwyddyd i swyddogion drefnu digwyddiad hyfforddiant ymwybyddiaeth pellach (efallai y gellir darparu hwn yn fewnol) a

 

 (c)       Mewn perthynas ag ymgeiswyr newydd, rhoi cyfarwyddyd i swyddogion weithredu asesiad math “prawf gwybodaeth” ar ôl rhoi’r nodyn cyfarwyddyd i ymgeiswyr/gyrwyr newydd y gellir ei gynnwys yn y Prawf Gwybodaeth cyn cael trwydded

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â rhoi diweddariad i’r Aelodau ar bresenoldeb gyrwyr mewn digwyddiadau hyfforddiant Ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a gofynnodd am arweiniad ar gamau ar gyfer diffyg presenoldeb yn ogystal â sylwadau ar gynigion y dyfodol ar gyfer hyfforddiant tebyg i ymgeiswyr gyrru newydd. 

 

Yn dilyn nifer o faterion diogelu proffil uchel o amgylch y wlad, roedd y Pwyllgor Trwyddedu wedi penderfynu gwneud hyfforddiant Ymwybyddiaeth Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn orfodol ar gyfer holl yrwyr trwyddedig.  Roedd rhaglen aml-asiantaeth o ddigwyddiadau Ymwybyddiaeth wedi eu cyflwyno yn yr haf 2016 gan arwain at gyfanswm o 17 sesiwn dros 5 dyddiad gwahanol ar draws y sir, yn bennaf yn y Rhyl ond hefyd yn Rhuthun a Dinbych.    Cynhaliwyd digwyddiad terfynol yn Ionawr 2017 i unrhyw yrwyr nad oedd wedi mynychu.  Roedd cyfanswm o 340 o yrwyr wedi mynychu’r digwyddiadau ac roedd adborth wedi bod yn gadarnhaol.    Fodd bynnag, roedd yna 11 o yrwyr yn weddill nad oedd wedi derbyn yr hyfforddiant am amrywiol resymau fel y manylwyd o fewn yr adroddiad ac ar hyn o bryd nid oedd yna broses y cytunwyd arni i amlygu Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant i yrwyr trwyddedig newydd.    Darparwyd nifer o opsiynau i'r Aelodau ystyried y ffordd orau i symud ymlaen i sicrhau bod yr holl yrwyr yn diwallu’r gofynion hyfforddiant gorfodol. 

 

Roedd yr Aelodau’n falch o nodi bod 97% o yrwyr trwyddedig Sir Ddinbych wedi mynychu’r hyfforddiant gorfodol a weithredwyd fel gweithred gadarnhaol i helpu i godi ymwybyddiaeth am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, yn arbennig o ystyried y cysylltiadau â cherbydau trwyddedig a nodwyd yn ystod Ymchwiliad Rotherham.  Fodd bynnag, roedd yn siomedig nodi nad oedd nifer o yrwyr wedi mynychu unrhyw un o'r digwyddiadau hyfforddiant niferus, yn arbennig o ystyried bod swyddogion wedi ceisio cysylltu â'r gyrwyr hynny trwy lythyr, dros y ffôn ac yn bersonol.    Roedd yr Aelodau hefyd yn awyddus bod trefniadau priodol ar gyfer y gyrwyr trwyddedig newydd hynny ac ymgeiswyr y dyfodol.    Trafododd y pwyllgor y gwahanol opsiynau i sicrhau cydymffurfiaeth â’r hyfforddiant mandadol fel y manylwyd o fewn yr adroddiad.    O ran gyrwyr presennol dywedwyd wrth yr aelodau os oeddent o blaid diddymu trwyddedau ar sail diffyg presenoldeb byddai’n briodol i’r gyrwyr hynny gael eu dwyn gerbron y pwyllgor a rhoi cyfle iddynt egluro eu rhesymau dros ddiffyg presenoldeb.    Awgrymodd y Cynghorydd Joan Butterfield y gallai’r canllawiau a gynhyrchwyd gan swyddogion i godi ymwybyddiaeth am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant gael eu rhannu gydag ysgolion oherwydd y cysylltiadau gyda chludiant ysgol.  

 

Roedd yna farn gymysg o ran y dull gorau i sicrhau cydymffurfiaeth ac yn dilyn pleidlais -

 

PENDERFYNWYD –

 

 (a)      Cynnal Pwyllgor Trwyddedu Arbennig i wrando ar sylwadau gan y gyrwyr presennol hynny nad oedd wedi mynychu’r hyfforddiant;

 

 (b)      Mewn perthynas â gyrwyr a oedd newydd gael trwydded nad oedd eto wedi cael cyfle i fynychu hyfforddiant ymwybyddiaeth, rhoi cyfarwyddyd i swyddogion drefnu digwyddiad hyfforddiant ymwybyddiaeth pellach (efallai y gellir darparu hwn yn fewnol) ac

 

 (c)       mewn cysylltiad ag ymgeiswyr newydd bod swyddogion yn cael eu cyfarwyddo i weithredu asesiad “prawf gwybodaeth” ar ôl darparu’r canllaw i’r ymgeiswyr/gyrwyr newydd y gellir ei gynnwys yn y Prawf Gwybodaeth cyn trwydded.

 

 

10.

DATGANIAD POLISI TRWYDDEDU ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 87 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno drafft terfynol Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor i'w fabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD fod Datganiad y Polisi Trwyddedu yn cael ei fabwysiadu i’w weithredu o 1 Ebrill 2017.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno’r drafft terfynol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor i’w fabwysiadu.  Roedd yn ofyniad statudol i ymgynghori ac adolygu’r Polisi o leiaf bob 5 mlynedd. 

 

Cynghorwyd yr Aelodau yn dilyn adolygiad o’r Polisi mai mân newidiadau a gynigiwyd, er enghraifft cyfeirio at ddeddfwriaeth newydd ac roedd y Polisi wedi ei fformatio yn unol ag awdurdodau trwyddedu eraill ar draws y rhanbarth er cysondeb.  Hefyd cyfeiriwyd at y broses ymgynghori a’r canlyniadau.

 

PENDERFYNWYD fod Datganiad y Polisi Trwyddedu yn cael ei fabwysiadu i’w weithredu o 1 Ebrill 2017.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL 2017 Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 69 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd yn yr atodiad i’r adroddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2017.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y manylwyd yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

Cyn terfynu’r cyfarfod diolchwyd i’r aelodau hynny nad oedd yn sefyll ar gyfer ail-etholiad am eu hymdrechion ar y Pwyllgor Trwyddedu.    Hefyd diolchwyd yn arbennig i Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu. 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.00pm.