Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Cynghorwyr Joan
Butterfield, Hugh Irving a Merfyn Parry Cofnodion: Y Cynghorwyr Joan Butterfield, Hugh Irving a Merfyn Parry |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016
fel cofnod cywir, a (b) bod swyddogion yn ymchwilio i'r prosesau archebu a ddefnyddir gan
wasanaethau tacsi hygyrch i gadeiriau olwyn yn yr ardal ac a oedd cynlluniau
wrth gefn priodol ar waith i ddarparu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016. Materion yn codi - Tudalen 9, Eitem 3 Materion Brys: Tacsis hygyrch i
gadeiriau olwyn – Diweddarodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu’r aelodau
ar y mater a godwyd yn y cyfarfod diwethaf, ynghylch argaeledd tacsis sy’n
hygyrch i gadeiriau olwyn, sy'n gweithredu yn ardal y Rhyl. Ers cael gwared
ar y cyfyngiad ar nifer y trwyddedau tacsis, bu cynnydd yn nifer y cerbydau
sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn a’r galw amdanynt. Er mai ychydig o alw heb ei ddiwallu oedd yna
am gerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn yn gyffredinol, roedd argaeledd yn
gyfyngedig ar yr adegau roedd y cerbydau hynny’n cael eu defnyddio i wneud
contractau cludiant ysgol. Yn dilyn ymchwiliad i'r achos y cyfeiriwyd ato
yn y cyfarfod diwethaf, eglurwyd nad oedd y gweithredwr wedi gwrthod yr archeb,
ond wedi methu â darparu cerbyd hygyrch i gadair olwyn pan ofynnwyd amdano am
ei fod eisoes yn cael ei ddefnyddio, a bod y cwsmer wedi cael cynnig archeb yn
nes ymlaen. Roedd swyddogion wedi rhoi manylion i'r
unigolyn dan sylw ynghylch darparwyr gwasanaeth eraill a fyddai ar gael yn fwy
rhwydd, ar wefan y Cyngor. Cafwyd peth
trafodaeth ynghylch a oedd cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn digonol yn
weithredol, ac a fyddai unrhyw rinwedd mewn rheoleiddio’r niferoedd hynny er
mwyn sicrhau bod cyfran fwy o gerbydau trwyddedig yn darparu’r gwasanaeth
hwnnw. Fodd bynnag, derbyniwyd y byddai'n anodd mesur
a oedd unrhyw alw heb ei ddiwallu yn yr ardal, yn enwedig o ystyried mai dim
ond un gŵyn oedd wedi dod i law yn y cyswllt hwnnw, ac ni allai cerbydau
hygyrch i gadeiriau olwyn gael eu cyfyngu i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn
unig. O ganlyniad, cytunwyd bod swyddogion yn
ymchwilio i'r prosesau archebu a ddefnyddir gan wasanaethau tacsis sy’n hygyrch
i gadeiriau olwyn, ac a oedd cynlluniau wrth gefn priodol ar waith i ddarparu
ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. PENDERFYNWYD - (a) y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi 2016
fel cofnod cywir, a (b) bod swyddogion yn ymchwilio i'r prosesau archebu a ddefnyddir gan
wasanaethau tacsi hygyrch i gadeiriau olwyn yn yr ardal ac a oedd cynlluniau
wrth gefn priodol ar waith i ddarparu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED AR GYFER CERBYD HURIO PREIFAT Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais ar gyfer Trwydded Cerbyd
Hurio Preifat. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais ar gyfer Trwydded Cerbyd Hurio Preifat yn
cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2 yr
adroddiad. Cofnodion: [Dygwyd yr eitem
hon yn ei blaen o fewn trefn y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais a ddaeth i law am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat; (ii)
nid oedd swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r
cais, gan nad oedd y cerbyd a gyflwynwyd ar gyfer trwyddedu’n cydymffurfio â'r
fanyleb, fel y manylir yn Amodau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat y
Cyngor, o ystyried bod y cerbyd â gyriant llaw chwith a bod polisi’r Cyngor yn
datgan bod yn rhad i bob cerbyd fod yn yriant llaw dde oni bai ei fod wedi’i
eithrio’n benodol gan y Cyngor; (iii)
estyn gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi
ei gais ac i gyflwyno’r cerbyd i'r aelodau ei archwilio. Roedd yr Ymgeisydd wedi
methu dod i'r cyfarfod ond roedd wedi penodi cynrychiolydd a gadarnhaodd ei fod
wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu’r (NJ) adroddiad a gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried a fyddai'n
briodol gwyro oddi wrth bolisi'r Cyngor ynglŷn â manylebau cerbydau, er
mwyn caniatáu'r cais fel y gwnaed cais amdano.
Os oedd aelodau yn dymuno gwyro oddi wrth bolisi, roedd amodau
ychwanegol wedi’u cymeradwyo yn y polisi presennol i gynorthwyo gyda
rheoleiddio a gorfodi, a oedd yn amgaeedig fel atodiad i'r adroddiad. Cyflwynodd
cynrychiolydd yr Ymgeisydd lythyr gan yr Ymgeisydd a dogfennau perthnasol i
gefnogi'r cais (a gylchredwyd yn y cyfarfod).
Darparwyd manylion busnes hurio preifat yr Ymgeisydd a’r rhesymeg y tu
ôl i'r cais er mwyn uwchraddio'r cerbyd trwyddedig presennol, a oedd wedi cael
yr holl gymeradwyaethau ac awdurdodiadau angenrheidiol i sicrhau diogelwch y
cyhoedd. Eglurwyd y byddai'r cerbyd
newydd yn union yr un fath â’r cerbyd presennol, sydd hefyd yn yriant llaw
chwith. Eglurodd y Swyddog Trwyddedu na
allai'r swyddogion ganiatáu'r cais oherwydd ei fod yn gwyro oddi wrth y polisi
presennol, ond ceisiwyd cymeradwyaeth i roi pwerau dirprwyedig i swyddogion ar
gyfer ymdrin â cheisiadau o'r fath yn y dyfodol, fel rhan o adolygiad polisi
trwyddedu cerbydau hurio preifat. Er mai
oedran presennol polisi oedd 5 mlynedd i gerbyd newydd ymiuno â’r fflyd, roedd
y cerbyd mewn cyflwr eithriadol yn yr achos hwn. Roedd y cyfeiriad yn y polisi presennol at
gerbydau gyriant llaw dde yn hanesyddol ac roedd y sail ar gyfer y dyfarniad
hwnnw’n aneglur. Wrth wneud
datganiad terfynol, ailadroddodd cynrychiolydd yr Ymgeisydd fod y cerbyd mewn
cyflwr perffaith ac wedi pasio’r holl brofion diogelwch angenrheidiol ac yn
darparu cerbyd newydd, sydd union yr un peth â’r cerbyd presennol ar y fflyd. Yn y fan hon, cafodd y
pwyllgor egwyl i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD bod y cais ar gyfer Trwydded Cerbyd Hurio Preifat yn
cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr amodau ychwanegol a nodwyd yn Atodiad 2 yr
adroddiad. Dyma oedd y rhesymau
dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Roedd yr Aelodau o’r
farn bod y cerbyd mewn cyflwr eithriadol ac yn briodol ar gyfer trwyddedu, gan
ei fod yn union yr un math â’r cerbyd presennol, ac wedi pasio’r holl brofion
cydymffurfiaeth angenrheidiol. Cafodd
amodau ychwanegol eu gosod er mwyn cynorthwyo wrth reoleiddio a gorfodi math y
cerbyd. Cafodd penderfyniad y
pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i gynrychiolydd yr Ymgeisydd. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau'r
busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
POLISI ARFAETHEDIG CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn cyflwyno'r
Polisi arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat, manyleb ac amodau
ar gyfer mabwysiadu sy’n weithredol o 1 Ebrill 2017. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
Trwyddedu yn - (a) mabwysiadu Polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat, y Manyleb ac
Amodau yn Atodiad 1 i’r adroddiad, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2017. (b) awdurdodi’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gan ymgynghori â
Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu i wneud mân ddiwygiadau gweinyddol i’r polisi
lle bo angen, yn dilyn adolygiad bob tair blynedd neu’n gynt os yn briodol. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn
ceisio cymeradwyaeth y Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat, manylebau ac amodau i’w mabwysiadu, gan fod yn weithredol o 1 Ebrill
2017. Yn dilyn adolygiad ac ymgynghoriad cychwynnol ar y
polisi arfaethedig, roedd aelodau wedi cymeradwyo ail ymgynghoriad ar bolisi diwygiedig
i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed i'r drafft cyntaf, ac i roi ystyriaeth i
unrhyw sylwadau pellach yn y fersiwn terfynol. Wrth gyflwyno'r fersiwn terfynol, roedd swyddogion
wedi diwygio'r polisi i adlewyrchu'r ymatebion i'r ymgynghoriad fel y bo'n
briodol, a hefyd wedi ymgorffori rhai meysydd ychwanegol a oedd wedi ymddangos
mewn polisïau eraill, am eglurder a hwylustod. Roedd Is-ddeddfau Enghreifftiol
yr Adran Drafnidiaeth a gymeradwywyd yn flaenorol gan aelodau yn aros am
gadarnhad gan yr Ysgrifennydd Gwladol, cyn eu gweithredu’n derfynol, a byddai'n
eistedd ochr yn ochr â'r Polisi Hurio Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Trafododd y pwyllgor y polisi drafft terfynol gyda
swyddogion a eglurodd fod - ·
oedran
hynaf y cerbydau wedi bod yn destun llawer o drafod yn y gorffennol ac roedd y
drafft terfynol yn dod â cherbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn unol â'r
cerbydau o dan gais newydd, yn uchafswm o 5 mlwydd oed, a cheisiadau adnewyddu
wedi’u caniatáu ar gyfer cerbydau hyd at 12 oed, lle mae’n rhaid i’r cerbyd
gael ei ddisodli gydag un nad ydyw’n fwy na 5 oed ·
o ran
gweithrediad y terfyn oedran newydd, byddai bob cerbyd presennol â hawliau taid
am 5 mlynedd a fyddai'n berthnasol i gerbydau a oedd â thrwydded barhaus –
byddai cerbydau nad ydynt yn cael eu hadnewyddu cyn dyddiad dod i ben y
drwydded bresennol yn colli’r hawliau hynny ac yn cael ei drin fel cerbyd
newydd ·
roedd
y gyfundrefn brofi ar gyfer cerbydau trwyddedig yn cynnwys dau brawf
cydymffurfiad y flwyddyn - er cysondeb, rhaid i gerbydau newydd i’r fflyd gael
prawf cychwynnol gan Wasanaethau Fflyd y Cyngor ac o leiaf un o'r profion
cydymffurfio fesul blwyddyn gan y Gwasanaethau Fflyd, pan fydd y cerbyd yn
cyrraedd 5 mlwydd oed. Teimlai'r Aelodau fod y newidiadau yn creu
cysondeb ar draws cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, a byddai'n arwain
at safonau cerbydau gwell wrth roi digon o amser i'r cerbydau hŷn gael eu
disodli a’u huwchraddio hefyd. Nodwyd hefyd y bu cefnogaeth gyffredinol i gyflwyno terfyn oedran ar gyfer
cerbydau gan y fasnach yn ystod y broses ymgynghori. Er budd yr aelodau newydd, eglurwyd bod y
polisi drafft cychwynnol wedi tynnu sylw at y newidiadau arfaethedig i'r polisi
presennol. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor
Trwyddedu yn - (a) mabwysiadu Polisi Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat, y Fanyleb ac
Amodau yn Atodiad 1 i’r adroddiad, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2017, ac (b) awdurdodi Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, gan ymgynghori â Chadeirydd
y Pwyllgor Trwyddedu, i wneud mân ddiwygiadau gweinyddol i’r polisi lle bo
angen, yn dilyn adolygiad bob tair blynedd neu’n gynt os yn briodol. |
|
DIWEDDARIAD AR Y WEITHDREFN PWYNTIAU COSB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu), yn
darparu diweddariad blynyddol ar y Weithdrefn Pwyntiau Cosb ddiwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y wybodaeth a ddarperir ar y dadansoddiad o'r pwyntiau a gyhoeddwyd fel y
manylwyd yn yr adroddiad yn cael ei chydnabod. Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Busnes a Gwarchod y Cyhoedd
(IM) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol), yn rhoi diweddariad blynyddol ar y Weithdrefn Pwyntiau Cosb ar
gyfer y cyfnod 1 Hydref 2015 hyd at 30 Medi 2016, yn ôl cais blaenorol y
pwyllgor. Roedd dadansoddiad o'r pwyntiau a ddyfarnwyd yn ystod y cyfnod wedi eu
hatodi i'r adroddiad. Roedd y Weithdrefn Pwyntiau Cosb yn manylu ar sut
yr ymdriniodd y Cyngor â mân achosion o dorri amodau mewn perthynas â
thrwyddedu tacsis, ac wedi cael cymeradwyaeth y pwyllgor ym mis Medi 2014 ac
wedi’i ddiweddaru ymhellach ym Mawrth 2016. Mae cyhoeddi pwyntiau wedi bod yn
weithgar ers mis Ionawr 2015 ac roedd y driniaeth yn ddarostyngedig i adolygiad
bob tair blynedd. Tynnwyd sylw’r Aelodau at y pwyntiau canlynol o
ddiddordeb - ·
pwyntiau
wedi'u dyfarnu i 15 o yrwyr a oedd yn cyfateb i 3% o yrwyr trwyddedig ·
nid
oedd un gyrrwr wedi bod yn rhan o sawl digwyddiad ac wedi eu dyfarnu â
phwyntiau o ganlyniad i hynny ·
dyfarnwyd
yr uchafswm o bwyntiau mewn digwyddiad unigol i 4 gyrrwr ·
roedd
rhai gyrwyr wedi ymddangos o flaen y Pwyllgor Trwyddedu ·
3
digwyddiad yn cynnwys cyflwyno cerbyd am brawf mewn cyflwr anniogel - roedd hyn
wedi cynyddu o ddau ddigwyddiad y llynedd ·
diffyg
hysbysu am gollfarnau wedi treblu yn ogystal â cherbydau sy’n fudr tu mewn ·
digwyddiadau
yn ymwneud â namau ar deiars wedi gostwng o 80% ac ysmygu mewn cerbydau wedi
haneru o flwyddyn diwethaf Nodwyd y tueddiadau mewn meysydd penodol o’r
cynllun a chytunodd y pwyllgor gydag awgrym y Swyddogion y dylid parhau â
negeseuon cynghorol drwy’r Newyddlenni ac erthyglau yn y wasg, ynghyd â
gwiriadau cydymffurfio min ffordd rheolaidd i ostwng diffyg cydymffurfio. Roedd cefnogaeth gyffredinol i'r cynllun
gan aelodau a theimlai'r Cadeirydd ei bod yn werth chweil ac yn arf defnyddiol
wrth nodi meysydd o bryder a dylanwadu ar ymddygiad cadarnhaol. Atebodd y swyddogion gwestiynau ac
ymhelaethwyd ar arolygiadau a gynhaliwyd gan swyddogion gorfodi a
gweithrediadau ar y cyd gyda'r Heddlu a'r Gwasanaethau Fflyd. O ran ymddygiad teithwyr, cynghorwyd
aelodau mai cyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau bod teithwyr yn ymddwyn mewn modd
rhesymol. PENDERFYNWYD bod
y wybodaeth a ddarperir ar y dadansoddiad o'r pwyntiau a gyhoeddwyd fel y
manylwyd yn yr adroddiad yn cael ei chydnabod. |
|
ADOLYGU'R POLISI MASNACHU AR Y STRYD Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
diweddaru aelodau o'r cynnydd mewn perthynas ag adolygiad o bolisi presennol
masnachu ar y stryd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
yr adroddiad yn cael ei dderbyn a'i nodi a bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi
i barhau â'r gwaith ar y Polisi Masnachu ar y Stryd drafft drwy weithio gyda
Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned ac adrannau perthnasol o fewn y Cyngor i
sefydlu eu barn cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ehangach. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan
y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn
diweddaru aelodau ar gynnydd adolygu’r polisi masnachu ar y stryd cyfredol, a
chyflwyno’r drafft diweddaraf er ystyriaeth aelodau. Roedd Aelodau wedi ystyried y polisi drafft
cychwynnol yn y cyfarfod diwethaf fel rhan o'r broses adolygu ac wedi cytuno i
gynnwys system caniatâd "bloc dros dro" neu ganiatâd "digwyddiad
arbennig" i'w defnyddio mewn digwyddiadau cymunedol, a thynnwyd sylw at yr
angen i adolygu rhinweddau'r system gyfredol o strydoedd gwaharddedig a’r
strydoedd â chaniatâd. Fel rhan o'r broses adolygu, roedd swyddogion yn bwriadu ymgynghori
ymhellach gydag adrannau perthnasol eraill y Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned,
ac adrannau perthnasol eraill o’r Cyngor ar y materion hynny, cyn cwblhau
polisi drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd swyddogion hefyd yn bwriadu adolygu
graddfa’r ffioedd presennol ar gyfer masnachu ar y stryd, a fyddai'n cynnwys
lle i hepgor ffioedd ar gyfer digwyddiadau cymunedol bach neu achosion
elusennol fel y bo'n briodol. Nododd yr Aelodau'r newidiadau i'r drafft ers ei
ystyried yn y cyfarfod diwethaf a chroesawyd cynigion i ymgynghori â Chynghorau
Tref, Dinas a Chymuned, fel rhan o adolygiad a datblygiad y polisi. Mewn ymateb i gwestiynau, fe wnaeth
aelodau - ·
ymhelaethu
ar y system bresennol o strydoedd gwaharddedig a’r rhai â chaniatâd, a fyddai'n
destun adolygiad, gan gymryd i ystyriaeth y gwahanol ardaloedd o fewn y sir, er
mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd yn y cynllun ·
eglurwyd,
er bod yna ganllawiau a rheoliadau sy'n llywodraethu masnachu ar y stryd, y
bwriad oedd datblygu polisi symlach newydd a oedd yn hawdd i'w ddarllen, gyda
phroses ymgeisio symlach, gan gynnwys caniatâd blynyddol, a oedd yn gefnogol i
ddigwyddiadau cymunedol ac elusennol hefyd ·
amlygwyd
bod nifer o faterion wedi cael eu codi ar gyfer ymgynghori pellach, gan gynnwys
amod i wahardd masnach o fewn 100 metr i derfyn unrhyw ysgol / coleg rhwng
oriau penodol, heb wahoddiad ffurfiol gan y sefydliad ·
cynghorwyd
nad oedd yn fwriad y polisi i gwmpasu marchnadoedd rheoledig, a oedd yn destun
proses ar wahân, er gellid ystyried marchnadoedd arbenigol untro sy’n cael eu
dosbarthu fel digwyddiadau arbennig o dan y polisi masnachu ar y stryd newydd. PENDERFYNWYD bod
yr adroddiad yn cael ei dderbyn a'i nodi a bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi
i barhau â'r gwaith ar y Polisi Masnachu ar y Stryd drafft drwy weithio gyda
Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned ac adrannau perthnasol o fewn y Cyngor i
sefydlu eu barn, cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ehangach. |
|
ADOLYGU'R POLISI SEFYDLIAD RHYW Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) am
gynigion i lunio Polisi Sefydliad Rhyw drafft diwygiedig. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
yr adroddiad yn cael ei dderbyn a’i nodi a bod y terfynau amser ynddo ynglŷn
â chreu Polisi Sefydliad Rhyw drafft diwygiedig yn cael eu cymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan
y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol),
ynghylch cynigion i lunio Polisi Sefydliad Rhyw diwygiedig drafft. Roedd y Pwyllgor Trwyddedu ar 4 Mawrth 2015 wedi
cytuno y dylid cymryd camau i fabwysiadu darpariaethau Adran 27 o Ddeddf
Plismona a Throsedd 2009 (a roddodd y pŵer i awdurdodau lleol reoleiddio
clybiau dawnsio glin fel sefydliadau rhyw) ac adolygu a diwygio Polisi
Sefydliad Rhyw presennol y Cyngor fel y bo'n briodol. Er nad oes safleoedd o'r math hwn
yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd, byddai mabwysiadu’r pwerau hyn yn gweithredu fel
mesur ataliol rhag unrhyw safleoedd o’r fath yn y dyfodol. O ystyried y llwythi gwaith cyfredol, ystyriodd
swyddogion y byddent mewn sefyllfa i
gyflwyno polisi drafft i aelodau yn 2017/18 ac yn y cyfamser, byddai swyddogion
yn parhau i gyfeirio unrhyw gais yn y dyfodol at y pwyllgor o dan weithdrefnau
presennol. PENDERFYNWYD bod
yr adroddiad yn cael ei dderbyn a’i nodi a bod y terfynau amser ynddo
ynglŷn â chreu Polisi Sefydliad Rhyw drafft diwygiedig yn cael eu
cymeradwyo. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2017 Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno
rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:- (a) y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y
manylwyd yn yr atodiad i’r adroddiad, a (b) bod
swyddogion yn cael eu hawdurdodi i gyflwyno rhaglen gwaith i'r dyfodol ar
dreigl 12 mis i'w diweddaru ar gyfer pob cyfarfod Pwyllgor. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2017. Roedd Swyddogion yn cynnig cyflwyno rhaglen waith wedi’i
diweddaru i bob cyfarfod pwyllgor, a chynnal rhaglen dreigl deuddeg mis, a
fyddai'n galluogi swyddogion i ymateb i bwysau sy'n dod i'r amlwg neu
newidiadau arfaethedig wrth iddynt godi, heb yr angen i wneud newidiadau
sylweddol i'r rhaglen. PENDERFYNWYD - (a) y dylid cymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu fel y
manylwyd yn yr atodiad i’r adroddiad, a (b) bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i gyflwyno rhaglen gwaith i'r dyfodol
ar dreigl 12 mis i'w diweddaru ar gyfer pob cyfarfod Pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am
10.45 a.m. |