Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)  E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorydd Stuart Davies.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Stuart Davies.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

MATERION BRYS: TACSIS SY’N HYGYRCH I GADEIRIAU OLWYN-

 

PENDERFYNWYD bod y swyddogion yn archwilio a oedd tacsis sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn sy’n gweithredu yn yr ardal yn darparu gwasanaeth tacsi priodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ac adrodd yn ôl i’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Cofnodion:

Penderfynodd y Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen rhoi sylw brys iddo:-

 

TACSIS YN HYGYRCH I GADEIRIAU OLWYN

 

Tynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield sylw at achos diweddar lle’r oedd nifer o dacsis hygyrch i gadeiriau olwyn yn gweithredu yn ardal y Rhyl, wedi gwrthod derbyn archeb i gludo defnyddiwr mewn cadair olwyn.  Cyfeiriodd at drwyddedau cerbydau hacni ychwanegol a gyhoeddwyd yn benodol ar gyfer cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn er mwyn darparu’r gwasanaeth hwnnw, a mynegodd bryderon difrifol bod tacsis sy’n hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn gwrthod ei roi.  Roedd y swyddogion yn ymwybodol bod nifer o dacsis wedi cael eu hysbysebu fel cludwyr cadeiriau olwyn arbenigol a chytunwyd i edrych i mewn i'r mater ymhellach.

 

PENDERFYNWYD bod swyddogion yn ymchwilio a yw tacsis sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn sy’n gweithredu yn yr ardal yn darparu gwasanaeth tacsi addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac adrodd yn ôl i'r aelodau ar hynny.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 180 KB

Derbyn -

 

(a)  cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2016 (copi wedi’i amgáu), a

 

(b)  chofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 (copi wedi’i amgáu).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2016 a 23 Mehefin 2016 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2016 a’r Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2016 a 23 Mehefin 2016 fel cofnod cywir.

 

 

5.

ADOLYGU'R POLISI MASNACHU AR Y STRYD pdf eicon PDF 107 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn hysbysu aelodau o'r cynnydd mewn perthynas ag adolygiad o bolisi presennol masnachu ar y stryd yn Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Trwyddedu yn-

 

 (a)      Awdurdodi swyddogion i barhau i weithio ar ddrafft Polisi Masnachu ar y Stryd, gan ystyried unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol sydd i ddod a allai effeithio ar reoleiddio masnachu ar y stryd fel y’u drafftiwyd gan Lywodraeth y DU, ac

 

 (b)      awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar bolisi drafft a gan gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law, llunio drafft terfynol i'r Aelodau ei ystyried yn eu cyfarfod ym mis Mawrth 2017.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn hysbysu aelodau o gynnydd o ran yr adolygiad o'r polisi masnachu ar y stryd cyfredol yn Sir Ddinbych.

 

Rhoddodd Swyddogion rywfaint o gefndir i weithrediad cyfredol y gyfundrefn masnachu ar y stryd a oedd yn cael ei hadolygu, er mwyn mynd i'r afael ag anawsterau yn y system a rheoleiddio a chefnogi masnachu ar y stryd yn well yn y sir.  Roedd y diffiniad o fasnachu ar y stryd wedi cael ei nodi yn yr adroddiad ynghyd ag eithriadau cyfreithiol ar gyfer mathau penodol o fasnachu, a'r rhai a reoleiddir gan ddulliau neu awdurdodau eraill.  Gofynnwyd am farn yr Aelodau ar ddrafft cychwynnol (yn amgaeedig gyda’r adroddiad) ac roedd swyddogion yn bwriadu parhau i weithio ar y drafft, gan ystyried unrhyw ofynion deddfwriaethol newydd, cyn cynhyrchu strategaeth ddrafft derfynol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ac ystyriaeth wedi hynny gan y pwyllgor.

 

Roedd trafodaeth ar y materion polisi yn cynnwys y canlynol -

 

·         cafodd y cynnig i gyflwyno system o "ganiatâd bloc dros dro" fel y manylir ym mharagraff 4.3.3 o'r adroddiad ei gefnogi'n llawn gan y Cynghorydd Barry Mellor, er mwyn ei gwneud yn haws i drefnwyr digwyddiadau cymunedol ac annog presenoldeb

·         cyfeiriwyd at y strydoedd gwaharddedig ar gyfer dibenion masnachu ar y stryd yn y Rhyl a Phrestatyn, a chadarnhaodd swyddogion y byddai rhan o'r adolygiad yn cynnwys p'un a fyddai unrhyw newid i'r system gyfredol o strydoedd â chaniatâd a rhai gwaharddedig yn briodol, gan gymryd i ystyriaeth y gwahanol ardaloedd o fewn y sir er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd o fewn y cynllun

·         nodwyd bod y Cynghorydd Bill Cowie wedi ei enwebu fel cyswllt y pwyllgor ar ddatblygiad y polisi drafft a chadarnhaodd swyddogion y byddent yn croesawu ei gyfraniad wrth ddatblygu'r drafft terfynol ymhellach - canmolodd y Cynghorydd Cowie y gwaith hyd yma ar y drafft cychwynnol ac fe gefnogodd waith parhaus y swyddogion ar yr adolygiad fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Holodd yr Aelodau a oedd rheoleiddio gweithgareddau penodol sy'n peri pryder yn rhan o gylch gwaith masnachu ar y stryd ai peidio, gan gynnwys trwyddedau parcio a roddwyd i gontractwyr sy'n gweithio o fewn canol trefi (a oedd wedi achosi rhywfaint o anghytuno yng Nghanol Tref y Rhyl) a masnachwyr twyllodrus a oedd yn gweithredu o gerbydau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.  Dywedodd y swyddogion bod y ddau fater yn disgyn y tu allan i'r gyfundrefn masnachu ar y stryd.  Roedd trwyddedau parcio yn cael eu hawdurdodi gan Adain Gwaith Stryd Priffyrdd a gofynnodd y Cadeirydd i'r aelodau drafod unrhyw bryderon yn hynny o beth yn uniongyrchol gyda'r Pennaeth Priffyrdd.  O ran masnachwyr twyllodrus, dylai aelodau gyfeirio eu pryderon at yr Adain Safonau Masnach ar gyfer ymchwiliad.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Trwyddedu yn -

 

(a)       awdurdodi'r swyddogion i barhau â'r gwaith ar y Polisi Masnachu ar y Stryd drafft, gan ystyried unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol sydd ar ddod a allai effeithio ar reoleiddio masnachu ar y stryd fel y'i drafftiwyd gan Lywodraeth y DU, ac

 

(b)       awdurdodi swyddogion i ymgynghori ar bolisi drafft, a chymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a ddaw i law, a llunio drafft terfynol i aelodau ei ystyried yn eu cyfarfod ym mis Mawrth 2017.

 

 

6.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 35 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

7.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1594/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nad oedd yr honiadau a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR wedi’u profi ac na ddylid gweithredu o gwbl.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd trwyddedig i’w brofi mewn cyflwr anniogel a pheryglus;

 

(ii)       bod manylion ynghylch y diffygion a nodwyd yn dilyn cyflwyno’r cerbyd ar gyfer Prawf Cydymffurfio/MOT Mai 2016 a chyhoeddi 20 pwynt cosb wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth;

 

(iii)      y Gyrrwr wedi apelio’r penderfyniad i ddyfarnu'r 20 pwynt cosb ar y sail, ei fod wedi cyflwyno’r cerbyd ar gyfer y prawf o flaen llaw mewn garej wahanol, a bod y gwaith trwsio angenrheidiol wedi cael ei wneud yn unol â methiant y prawf a hysbysiadau cynghori (nid oedd y ddwy eitem a nodwyd fel 'peryglus' yn y prawf dilynol ym Mai wedi cael eu nodi yn ystod y prawf cyntaf) – y Gyrrwr wedi methu â darparu tystiolaeth ddogfennol o'i hawliadau ac ar ôl ymchwiliadau, fe wrthododd y swyddogion yr apêl, a

 

(iv)      bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi adolygiad o’i drwydded, er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei chais a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a threfnau’r pwyllgor.

 

Amlinellodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r achos fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Derbyniodd y Gyrrwr y ffeithiau fel y nodwyd yn yr adroddiad, ar wahân i'r methiant i gredu ei fod wedi cyflwyno’r cerbyd i'r Orsaf Brofi ymlaen llaw.  Dadleuodd ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau addasrwydd y cerbyd ac fe fanylodd ar y digwyddiadau a arweiniodd at Fethu’r Prawf Cydymffurfio/MOT a oedd yn cynnwys (1) adnewyddu'r cerbyd mewn siop rhannau ceir; (2) cyflwyno’r cerbyd mewn Gorsaf Brofi lle cafodd cyn-archwiliad ei wneud a nododd bump o ddiffygion; (3) cyflwyno'r cerbyd i garej wahanol a drwsiodd y diffygion a nodwyd, a (4) cyflwyniad terfynol o’r cerbyd ar gyfer Prawf Cydymffurfio/MOT angenrheidiol a arweiniodd at fethu’r prawf.  Darparodd y Gyrrwr dystiolaeth o daliadau a wnaed i bob un o'r tair garej ar wahân a nodwyd yn ei gyflwyniad, er nad oedd tystiolaeth o'r gwaith a wnaed a’r diffygion a nodwyd wedi cael eu rhoi.  Rhoddwyd tystiolaeth ddogfennol ar ffurf datganiad tyst yn cadarnhau casglu’r cerbyd o'r Orsaf Brofi a’i gyflwyno i garej ar wahân ar gyfer gwaith trwsio.  Yn olaf, cyflwynwyd llythyr gan Frocer Yswiriant y Gyrrwr i gefnogi ei achos.  Wrth gloi ei gyflwyniad, dywedodd y Gyrrwr ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth ac wedi ymddiried mewn gweithwyr proffesiynol tair garej ar wahân a oedd wedi methu adnabod y diffygion fel y rhestrir ar yr hysbysiad methiant.  Rhoddodd sicrwydd bod camau wedi’u cymryd ar unwaith i drwsio’r diffygion unwaith y cawsant eu nodi ac nad oedd y cerbyd wedi bod yn berygl i'r cyhoedd, gan nad oedd wedi bod yn gwasanaethu yn ystod y cyfnod yn arwain at fethu’r prawf.  Yn olaf, fe roddodd y Gyrrwr rhywfaint o wybodaeth gyffredinol am reoli ei fusnes a chynnal a chadw ei gerbydau trwyddedig heb ddigwyddiad blaenorol.

 

Cymerodd yr Aelodau’r cyfle i godi cwestiynau gyda'r Gyrrwr er mwyn egluro trefn y digwyddiadau ymhellach a'r camau yr oedd wedi’u cymryd mewn ymateb i amgylchiadau penodol i sicrhau bod y cerbyd mewn cyflwr diogel ac addas i'r ffordd fawr, ynghyd â chwestiynau ynghylch rheolaeth gyffredinol ei fusnes a threfn cynnal a chadw cerbydau.  Ymatebodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 7.