Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

HYSBYSIAD

Cytunodd y Cadeirydd i amrywio trefn y rhaglen er mwyn i unigolion gael rhoi sylw i eitemau penodol.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Joan Butterfield, Bill Cowie, Richard Davies, Hugh Irving, Win Mullen-James a Pete Prendergast

 

 

Cofnodion:

Cynghorwyr Joan Butterfield, Bill Cowie, Richard Davies, Hugh Irving, Win Mullen-James a Pete Prendergast

 

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Barry Mellor ddiddordeb personol sy’n rhagfarnu yn eitem 11 ar yr Agenda - Adolygu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.

 

 

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Barry Mellor ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn Eitem 11 ar y Rhaglen - Adolygu Trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat oherwydd ei fod yn adnabod y gyrrwr dan sylw yn yr adolygiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 132 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2015 (copi’n amgaeedig).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2015 fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2015.

 

PENDERFYNWYD bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2015 yn cael eu derbyn a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, tra bod yr eitemau canlynol yn cael eu trafod oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y diffinnir hi ym Mharagraff 14 Rhan 4, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

5.

GOLLYNGIAD O’R GOFYNIAD I ARDDANGOS PLATIAU TRWYDDED CERBYDAU HURIO PREIFAT

I ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn gofyn am benderfyniad yr aelodau ynghylch cais am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos platiau trwydded ar gerbyd hurio preifat.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos plât trwydded cerbyd hurio preifat a sticeri drws yn amodol ar yr amodau fel y'u nodwyd yn Atodiad C i’r adroddiad.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) ynghylch –

 

(i)            cais ar gyfer gollyngiad o’r gofyniad i arddangos platiau trwydded car Gerbyd Hurio Preifat;

 

(ii)          pwerau’r Cyngor i ganiatáu gollyngiad i berchenogion rhag arddangos plât  trwydded gan ystyried natur weithredol y gwaith ynghyd ag ansawdd y cerbyd dan sylw a lle byddai’r cerbyd yn cael ei weithredu;

 

(iii)         bod yr ymgeisydd wedi rhoi ei fanylion llawn am y cerbyd a natur y busnes (Atodiad B);

 

(iv)         ffactorau penderfynu eraill y mae angen eu hystyried ynghyd â pholisi drafft y Cyngor wrth ystyried ceisiadau o’r fath (Atodiad A) ac amodau a awgrymwyd i’w hystyried (Atodiad C) pe bai aelodau o blaid caniatáu’r cais am ollyngiad.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a’r cais.

 

Ymhelaethodd yr Ymgeisydd ar waith a natur ei fusnes a’r rhesymau y tu ôl i’w gais am ollyngiad er mwyn diwallu anghenion ei gleientiaid a’i alluogi i gystadlu â busnesau sy’n cystadlu am yr un gwaith ag ef. Darparodd ddau ddatganiad ysgrifenedig gan gleientiaid presennol i gefnogi ei fusnes a darpariaeth arbennig ar gyfer cerbydau heb blatiau ond wedi eu trwyddedu.. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau dadleuodd yr Ymgeisydd mai ef oedd yn y sefyllfa orau i ddewis cerbyd i ddiwallu anghenion a disgwyliadau ei gleientiaid a’i fod yn darparu gwasanaeth teithio penodol proffesiynol. Cadarnhaodd swyddogion pe bai aelodau o blaid caniatáu’r cais y byddai’r telerau a’r amodau perthnasol yn weithredol yn uno â cherbydau hurio preifat eraill a oedd wedi eu trwyddedu yn amodol ar ofyniad i arddangos plât trwydded a sticeri drws. Cadarnhawyd hefyd mai polisi presennol y Cyngor oedd trwyddedu cerbydau hyd at bump oed oni bai bod y cerbyd mewn cyflwr eithriadol, er bod y polisi hwnnw’n cael ei adolygu ar hyn o bryd.

 

Neilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am ollyngiad o’r gofyniad i arddangos plât a sticeri drws cerbyd hurio preifat ar sail yr amodau yn Atodiad C.

 

Dyma’r rhesymau a roddwyd am benderfyniad gan y Pwyllgor Trwyddedu -

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a chais yr Ymgeisydd, bu peth trafodaeth ynghylch a oedd manyleb y cerbyd yn bodloni gofynion eithrio o ran ansawdd moethus ac roedd barn gymysg am hynny. Roedd aelodau’n fodlon fod natur y gwaith yn bodloni’r meini prawf ar gyfer eithrio yn yr achos hwn ac yn gyffredinol cytunwyd bod ansawdd y cerbyd hefyd yn bodloni’r meini prawf o ran manyleb gan ystyried anghenion cleientiaid yr Ymgeisydd a’r gwasanaeth pwrpasol a ddarparwyd. O ganlyniad cytunwyd i ganiatáu’r cais. Roedd yr amodau wedi eu gosod er mwyn helpu i reoleiddio a gorfodi.

 

Wrth fynd heibio, cyfeiriwyd at y polisi drafft ar gyfer delio â cheisiadau i eithrio rhag arddangos platiau trwydded cerbydau hurio a sticeri drws. Nodwyd y byddai’r polisi’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn i’w gymeradwyo ac awgrymwyd defnyddio mwy o hyblygrwydd o ran manyleb y cerbyd gan ystyried anghenion rhai cleientiaid o safbwynt disgresiwn a bod yn anhysbys.

 

Felly cyflwynwyd penderfyniad a rhesymau’r pwyllgor i’r Ymgeisydd.

 

 

6.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1123/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1123/TXJDR.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif  15/1123 / TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) ynglŷn ag –

 

(i)           addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/1123/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ar ôl cael 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd trwyddedig am brawf mewn cyflwr anniogel a pheryglus;

 

(ii)          roedd manylion am y diffygion a nodwyd ar ôl i’r cerbyd gael ei gyflwyno am brawf Cydymffurfio/MOT wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â datganiadau tyst a’r dogfennau cysylltiedig, a

 

(iii)         roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded ac ateb cwestiynau’r aelodau wedi hynny.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth yr adroddiad a manylodd ynghylch ffeithiau’r achos. Mewn achosion lle mae 20 neu fwy o bwyntiau cosb gan yrrwr mewn cyfnod o 24 mis, yr arfer yw cyfeirio’r mater i’r pwyllgor ei adolygu.

 

Cyflwynodd y Gyrrwr ymateb ysgrifenedig i gefnogi ei achos gan ddweud ei fod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddiogelwch teithwyr ac na fyddai’n cludo teithwyr mewn cerbyd os gwyddai ei fod mewn cyflwr peryglus. Roedd y cerbyd wedi bod yn cael ei drwsio yn syth cyn ei gyflwyno ar gyfer MOT/Cydymffurfio a bu anghytuno ynglŷn â rhai o’r pethau a oedd wedi methu’r prawf. Cyn belled ag y gwyddai’r Gyrrwr roedd y cerbyd wedi bod mewn cyflwr da ar wahân i un broblem gyda’r brêcs. Roedd wedi bod yn yrrwr tacsis am gryn amser heb gŵyn flaenorol yn ei erbyn.

 

Manteisiodd yr Aelodau ar y cyfle i holi’r Gyrrwr am amgylchiadau’r achos yn cynnwys cyflwr cyffredinol y cerbyd a’r drefn gynnal a arweiniodd at dynnu sylw at y ffaith bod y cerbyd mewn cyflwr peryglus ac yntau’n gyrru’r cerbyd gan wybod hynny. Mewn ymateb i gwestiynau  ailadroddodd y Gyrrwr ei fod wedi mynd â’r cerbyd i’w drwsio wythnos cyn yr archwiliad a bod gwaith wedi ei wneud arno gan gofio cyflwr y cerbyd. Roedd llwch y tu mewn a thu allan i’r cerbyd ar ôl y gwaith trwsio ac roedd wedi ceisio ei lanhau yn yr amser cyfyngedig a oedd ar gael. Roedd wedi gyrru’n syth o’r garej i’r orsaf brawf pan sylwodd fod problem gyda’r brêcs ond ni allai ddwyn i gof eu bod wedi dweud wrtho ar yr adeg y methodd y prawf nad oedd y cerbyd yn ddiogel i’w yrru. Roedd wedi gyrru’r cerbyd o’r orsaf brawf gyda’r bwriad o’i drwsio. Sicrhaodd y Gyrrwr y pwyllgor ei fod yn archwilio ‘r cerbyd bob dydd a’i fod yn cael ei wasanaethu bob tri mis.

 

Wrth wneud datganiad terfynol dywedodd y Gyrrwr ei fod yn ystyried ei hun yn yrrwr da a’i fod yn fodlon derbyn awgrymiadau gan y pwyllgor ynglŷn â threfn gynnal a chadw’r cerbyd yn y dyfodol yn sgil y methiannau presennol.

 

Neilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos -

 

PENDERFYNWYD atal y drwydded yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat a roddwyd i Yrrwr Rhif. 15/1123/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd yn syth.

 

Dyma resymau a roddwyd am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Yn ystod trafodaethau rhoddodd aelodau ystyriaeth ofalus i’r dystiolaeth a gyflwynwyd a chais y Gyrrwr i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded. Nid oedd y pwyllgor yn ystyried bod adroddiad y Gyrrwr o’r digwyddiadau’n gredadwy oherwydd byddai wedi gwybod bod y cerbyd mewn cyflwr budr iawn, yn ogystal â’r llwch ar ôl y gwaith trwsio, gan fod rhai i’w gweld yn amlwg ac roedd nifer o arwyddion eraill nad oedd yn cael ei gynnal yn briodol. Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, cyflwynodd y Gyrrwr ei gerbyd i gael ei archwilio  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0427/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0427/TXJDR.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd y dylid galw cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trwyddedu cyn gynted ag y bo'n ymarferol er mwyn ystyried adolygiad y drwydded.

 

 

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Barry Mellor ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn adnabod y gyrrwr dan sylw ac felly ni allai gymryd rhan yn y drafodaeth yn yr achos hwn. O ganlyniad nid oedd cworwm ac nid oedd y pwyllgor yn gallu bwrw ymlaen i wrando ar yr achos.

 

Cytunwyd i gynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trwyddedu cyn gynted ag yr oedd yn ymarferol gwneud hynny i ystyried adolygu’r drwydded.

 

 

SESIWN AGORED

Ar ôl cwblhau’r busnes uchod dychwelodd y cyfarfod i sesiwn agored.

 

 

8.

POLISI GWERTHWYR METEL SGRAP ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 49 KB

I ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 - Datganiad o Bolisi Trwyddedu, i'w ystyried a'i gymeradwyo ar gyfer ymgynghori.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

 (a)      cymeradwyo – Datganiad Polisi Trwyddedu – Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 fel y manylwyd yn Atodiad A yr adroddiad;

 

 (b)      cymeradwyo cyfnod addas o ymgynghori i'r rhai sydd wedi’u trwyddedu gan Sir Ddinbych o dan gylch gwaith y Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithasu Diwydiant, a

 

 (c)       i awdurdodi swyddogion i ystyried unrhyw ymatebion perthnasol a dderbyniwyd o ganlyniad i'r ymgynghoriad, a lle y bo'n berthnasol bod y polisi, yn cael ei ddiwygio cyn ei gyflwyno i'r Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 - Datganiad o Bolisi Trwyddedu i’w ystyried a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghori.

 

Roedd y Cyngor wedi cymeradwyo’r broses gais yn flaenorol gan ddirprwyo pŵer a ffioedd ar gyfer trwyddedau angenrheidiol o dan y Ddeddf Delwyr Metel Sgrap. Hysbyswyd Aelodau ynghyd dull ar y cyd gydag awdurdodau eraill Cymru i baratoi polisi drafft a oedd yn ceisio helpu swyddogion gyda’r drefn orfodaeth a sicrhau cysondeb wrth ddelio gyda cheisiadau. Byddai’r polisi hefyd yn ganllaw i ymgeiswyr newydd, deiliaid trwydded presennol a’r cyhoedd ynglŷn â’r ffordd y byddai’r Ddeddf yn cael ei gweinyddu a’i gorfodi. Yn sgil ymgynghori â phartïon perthnasol byddai adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ei fabwysiadu (nid i Gyngor Llawn fel y cyfeirid ato yn yr adroddiad). Cadarnhaodd Swyddogion y byddai angen trwydded hefyd ar fasnachwyr teithiol.

 

PENDERFYNWYD 

 

(a)       cymeradwyo Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 – Datganiad o Bolisi Trwyddedu fel y manylir yn Atodiad A;

 

(b)       bod cynnal cyfnod ymgynghori addas i’r rhai sydd wedi eu trwyddedu gan Sir Ddinbych o dan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap yn 2013, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithasau Diwydiant yn cael ei gymeradwyo, ac

 

(c)        awdurdodi swyddogion bod unrhyw ymatebion perthnasol a dderbynnir o ganlyniad i’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried ac os yw’n berthnasol bod y polisi’n cael ei ddiwygio’n unol â hynny cyn ei gyflwyno i’r Cabinet.

 

 

9.

YSTYRIED HYFFORDDIANT I YRWYR TRWYDDEDIG pdf eicon PDF 54 KB

I ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) ynghylch cyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trwyddedig.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

 (a)      bod swyddogion yn cael eu cyfarwyddo i gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelu gorfodol ar gyfer pob gyrrwr a gweithredwyr cerbydau hacni trwyddedig a hurio preifat Sir Ddinbych yn ystod 2016, ac

 

 (b)      bod swyddogion yn cael cyfarwyddyd i baratoi cynnig ar gyfer hyfforddiant ffurfiol ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trwyddedig.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn argymell hyfforddiant mandadol ar ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar gyfer gyrwyr trwyddedig yn dilyn nifer o faterion diogelu diweddar o broffil uchel o gwmpas y sir, yn arbennig mewn perthynas â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant a chysylltiadau â cherbydau trwyddedi awdurdod lleol.

 

Cyfeiriwyd yn benodol at ganfyddiadau ymchwiliad yr Athro Alexis Jay i gamfanteisio ar blant yn Rotherham rhwng 1997 a 2013 a oedd yn tynnu sylw at rôl amlwg gyrwyr tacsi a oedd â chysylltiad uniongyrchol â phlant a oedd yn cael eu cam-drin. Roedd cynllun hyfforddi ar gyfer gyrwyr trwyddedig yng Nghonwy wedi ei gyflwyno ym Medi 2015 ac roedd partneriaid diogelwch cymunedol hefyd yn annog y dull hwn yn Sir Ddinbych.

 

Croesawodd aelodau’r bwriad i gyflwyno cynllun hyfforddi mandadol i helpu i ganfod materion cam-fanteisio a diogelwch a gofynnwyd am ymestyn yr hyfforddiant hefyd i weithredwyr hurio preifat. Nodwyd fod rhai gyrwyr a drwyddedid gan awdurdodau eraill hefyd yn gweithredu yn Sir Ddinbych ond nad oedd gan y Cyngor unrhyw gyfrifoldeb am ddarparu hyfforddiant iddynt. Fodd bynnag, cydnabuwyd y gallai’r Cyngor arfer peth rheolaeth wrth ddyfarnu contractau ysgolion i weithredwyr y tu allan i’r sir. Cytunodd swyddogion i gysylltu â chydweithwyr cludiant ysgolion er mwyn gwneud hyfforddiant diogelwch i yrwyr trwyddedig sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych yn amod mandadol o fewn contractau ysgolion yn y dyfodol. Wrth ystyried y fformat hyfforddi dywedodd swyddogion y byddai pecyn hyfforddiant wedi ei deilwra ar gyfer Sir Ddinbych yn cael ei ddefnyddio a byddai’n cynnwys nifer o ddigwyddiadau drwy’r sir. Roedd aelodau hefyd yn awyddus i ddatblygu hyfforddiant ffurfiol, fel BTEC neu gymhwyster cyfatebol i yrwyr trwyddedig.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       bod swyddogion yn cael eu cyfarwyddo i gyflwyno hyfforddiant mandadol ar ymwybyddiaeth diogelwch i holl yrwyr cerbydau hacni trwyddedig yn Sir Ddinbych a gyrwyr a gweithredwyr hurio preifat yn ystod 2016, a

 

(b)       bod swyddogion yn cael eu cyfarwyddo i baratoi cais ar gyfer hyfforddiant ffurfiol i yrwyr a gweithredwyr trwyddedig.

 

 

10.

ADOLYGIAD O BOLISI A GWEITHDREFN PWYNTIAU COSB CYFREDOL pdf eicon PDF 49 KB

I ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig), yn cyflwyno Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig i’w cymeradwyo.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

 (a)      cymeradwyo'r Polisi Pwyntiau Cosb a’r Weithdrefn ddiwygiedig fel y manylir arnynt yn Atodiad A i gymryd lle'r Cynllun Pwyntiau Cosb presennol, a

 

 (b)      bod y cynllun yn cael ei weithredu ar unwaith.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) a oedd yn cyflwyno Polisi a Gweithdrefn Pwyntiau Cosb Diwygiedig i’w cymeradwyo yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol.

 

Roedd y ddogfen yn manylu ynghylch y modd yr oedd y Cyngor yn delio â mân achosion o dorri amodau  trwyddedau tacsis ac roedd yn cynnwys nifer o newidiadau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu ym Medi 2015. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori ac ni wnaed unrhyw newid pellach i’r cynllun.

 

Ymatebodd swyddogion i gwestiynau ynglŷn â gorfodi’r polisi a chadarnhawyd bod gan y Cyngor ar hyn o bryd ddau Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu. Mynegodd y Cynghorydd Stuart Davies bryderon ynglŷn â hurio traws ffiniol ond cadarnhaodd swyddogion fod yr arfer yn gyfreithlon. Dylai unrhyw bryderon ynglŷn â thrwyddedu’r cerbydau hynny gael sylw gan yr awdurdod trwyddedu perthnasol. Nodwyd hefyd fod nifer y pwyntiau cosb am ysmygu mewn cerbyd trwyddedig wedi codi i 10 pwynt ac os cafwyd rhywun yn euog byddai hysbysiad cosb sefydlog yn cael ei gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD 

 

(a)       cymeradwyo’r Polisi a’r Weithdrefn Pwyntiau Cosb diwygiedig fel y manylir yn Atodiad A yn lle’r Cynllun Pwyntiau Cosb 2014 presennol

 

(b)       bod y cynllun yn cael ei weithredu’n syth.

 

 

11.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU pdf eicon PDF 70 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w chymeradwyo.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) ar flaenraglen waith y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016. Yr unig newid ers y cyfarfod diwethaf oedd adolygu’r Polisi Sefydliadau Rhyw, roedd yr eitem hon wedi llithro ac wedi newid o Fawrth i Ragfyr 2016.

 

PENDERFYNWYD bod rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu’n cael ei chymeradwyo.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m.