Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O SYLW Cytunodd y
Cadeirydd i amrywio trefn y rhaglen i ddarparu ar gyfer unigolion sy'n bresennol
ar gyfer eitemau penodol. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Joan
Butterfield a Stuart Davies Cofnodion: Y Cynghorwyr Joan
Butterfield a Stuart Davies |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD PDF 88 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 160 KB Derbyn cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 23 Medi 2015 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2015
fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu
a gynhaliwyd ar 23 Medi 2015. PENDERFYNWYD
y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2015
fel cofnod cywir. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn
debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4
Atodlen 12A o’r Ddeddf. |
|
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 15/1074/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais gan Ymgeisydd Rhif
15/1074/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 15/1074/TXJDR
yn cael ei roi. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â – (i)
chais
a ddaeth i law gan Ymgeisydd Rhif 15/1074/TXJDR am drwydded i yrru cerbyd hacni
a cherbydau hurio preifat; (ii)
swyddogion
heb fod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais yng ngoleuni'r collfarnau a
ddatguddiwyd yn dilyn datgeliad manwl i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS),
yn ymwneud â throseddau a gyflawnwyd rhwng 1998 a 2014 nad oedd wedi cael eu
datgelu gan yr Ymgeisydd; (iii)
manylion
a gafwyd o ganlyniad i archwiliad arferol o drwydded DVLA yr Ymgeisydd a oedd
wedi eu datgelu gan yr Ymgeisydd; (iv)
polisi
presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, ac (v)
estyn
gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais ac i ateb
cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd
ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r
(JT) adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos. Esboniodd yr Ymgeisydd
amgylchiadau'r troseddau cynharach a gyflawnwyd yn ei ieuenctid, a chyfeiriodd
at ei newid mewn cymeriad a chyfrifoldebau rhianta cyfredol.
Eglurodd hefyd yr amgylchiadau ynglŷn â'i rybudd diweddar gan yr
heddlu a’i gyswllt â’i alwedigaeth bresennol. Cyflwynodd yr
Ymgeisydd gwahanol fathau o ddogfennau i gefnogi ei gais, gan gynnwys llythyr
gan Heddlu Gogledd Cymru yr oedd wedi’i gynhyrchu i ddangos cymeriad da.
Wrth ymateb i gwestiynau, dywedodd yr Ymgeisydd, am fod y troseddau wedi’u
cyflawni mor bell yn ôl, nid oedd yn credu eu bod angen eu datgelu.
Cadarnhaodd y swyddogion bod 'gyrrwr tacsi' yn broffesiwn wedi'i eithrio o
dan y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac felly roedd yn ofynnol i ymgeiswyr
ddatgelu collfarnau sydd wedi darfod. Wrth wneud ei ddatganiad
terfynol, mynegodd yr Ymgeisydd edifeirwch dros ei orffennol a rhoddodd
sicrwydd ynghylch ei ymddygiad yn y presennol a'r dyfodol. Ymddeolodd y pwyllgor i
ystyried y cais, ond cafodd ei ohirio hyd nes cafwyd cadarnhad o'r llythyr a
gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd gan Heddlu Gogledd Cymru. Wedi
ailddechrau'r trafodion, rhoddwyd gwybod i’r pwyllgor bod y llythyr yn ddilys a
- PHENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 15/1074/TXJDR
yn cael ei roi. Roedd y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Roedd yr Aelodau'n
fodlon ar yr esboniad a roddwyd gan yr Ymgeisydd ynghylch ei gollfarnau
blaenorol ac wedi ystyried y wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd, yn dangos ei
fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1142/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1142/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 15/1142/TXJDR
yn cael ei roi, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y
dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 15/1142/TXJDR i ddal trwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn croniad o 9 pwynt cosb ar ei
Drwydded Yrru DVLA o fewn cyfnod pedwar mis am oryrru; (ii)
y
Gyrrwr wedi datgelu 6 o'r pwyntiau cosb wrth adnewyddu ei drwydded ond wedi
methu â datgelu'r gollfarn mwyaf diweddar am oryrru, ac (iii)
estyn
gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’i drwydded ac
i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny. Cadarnhaodd y Gyrrwr ei
fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu’r (JT) adroddiad gan fanylu ar ffeithiau'r achos. Cyflwynodd y Gyrrwr ei
achos ac eglurodd amgylchiadau pob un o'r tair trosedd am oryrru a’i
amgylchiadau personol a threfniadau byw yn ystod y cyfnod hwnnw.
YYn ei ddatganiad lliniarol, dywedodd fod ei
sbidomedr wedi bod yn ddiffygiol ac wedi hynny cafodd un newydd, a thra byddai
wedi dadlau yn erbyn un o'r troseddau goryrru, roedd yn rhy hwyr i apelio erbyn
hynny. Wrth ymateb i gwestiynau ynghylch ei fersiwn ef
o'r digwyddiadau, ymhelaethodd ynghylch amgylchiadau pob trosedd yn cadarnhau
nad oedd yn cludo teithwyr a oedd yn talu ar y pryd; nid oedd wedi cael cynnig
cwrs goryrru yn lle pwyntiau cosb, ac nid oedd wedi cael cyfle i ddatgelu'r
gollfarn mwyaf diweddar am oryrru oherwydd amgylchiadau personol.
O ran ei sbidomedr, cyfaddefodd y Gyrrwr nad oedd wedi meddwl darparu
tystiolaeth o'r diffyg gerbron y pwyllgor. Wrth wneud
datganiad terfynol, cyfeiriodd y Gyrrwr at ei awydd i barhau i yrru cerbydau
trwyddedig. Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD bod y cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni
a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif 15/1142/TXJDR
yn cael ei roi, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ynghylch ei ymddygiad yn y
dyfodol. Roedd y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Rhoddodd yr Aelodau
ystyriaeth ofalus i’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn, ynghyd â'r
esboniad a roddwyd gan y Gyrrwr yn ei ddatganiad lliniarol.
Roedd safbwyntiau cymysg ynglŷn â hygrededd fersiwn y Gyrrwr o
ddigwyddiadau, ond ar y cyfan derbyniwyd nad oedd unrhyw deithwyr a oedd yn
talu yn cael eu cludo ar adeg y troseddau, ac y gallai'r sbidomedr fod yn
ddiffygiol. O ganlyniad, ystyriodd yr aelodau’r Gyrrwr i fod
yn berson addas a phriodol i ddal trwydded, a theimlasant y byddai rhybudd
difrifol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol yn ddigonol yn yr achos hwn. Cafodd penderfyniad y
pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr. Ar y pwynt hwn (10.40
am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0833/TXJDR Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0833/TXJDR. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/0833/TXJDR
ynglŷn â’i ymddygiad i’r dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 15/0833/TXJDR i ddal trwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan
gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd heb drwydded; (ii)
manylion
ac amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd wedi’u rhoi (roedd crynodeb o
ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth ynghlwm wrth yr
adroddiad), ac (iii)
estyn
gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’i drwydded ac
i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd a chadarnhaodd ei fod wedi
derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd yr
Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol (TWE) yr adroddiad gan fanylu ar
ffeithiau'r achos. Mewn achosion pan fo 20 neu fwy o bwyntiau
cosb wedi eu cronni mewn cyfnod o 24 mis
caiff y mater ei gyfeirio at y Pwyllgor i’w adolygu. Esboniodd cynrychiolydd y Gyrrwr ei bod yn arfer anfon nodyn atgoffa i
adnewyddu at ddeiliaid trwyddedau, nad oedd wedi digwydd yn yr achos hwn.
Roedd methu adnewyddu yn esgeulustod gwirioneddol ar ran y gyrrwr, yr
ymddiheurodd amdano, ac ers hynny roedd wedi cymryd camau i sicrhau na fyddai’r
mater yn cael ei ailadrodd drwy fuddsoddi mewn trefnwr i’w osod ar y wal i
weithredu fel cymorth cof. Bu'r Aelodau'n holi'r
Gyrrwr ar amgylchiadau'r achos a rhoddwyd sicrwydd bod y cerbyd yn cael ei gadw
mewn cyflwr perffaith a’i fod yn cael archwiliadau rheolaidd, ond roedd dyddiad
dod i ben y drwydded wedi’i esgeuluso. Roedd llythyr gan gwmni
yswiriant y gyrrwr (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) yn rhoi gwybod na fu toriad
yn yr yswiriant, a phe bai hawliad wedi codi yn ystod y cyfnod dod i ben, byddai
wedi cael ei drin yn ôl ei deilyngdod. O ran y nodiadau atgoffa
i adnewyddu, cadarnhaodd y swyddogion ei fod yn arferol anfon nodiadau atgoffa
ond oherwydd y system â llaw a ddefnyddiwyd ar y pryd, nid oedd modd cadarnhau
a anfonwyd nodyn atgoffa yn yr achos hwn, neu i ble y byddai wedi cael ei
anfon. Wrth wneud datganiad
terfynol, ailadroddodd cynrychiolydd y Gyrrwr bod y methiant i adnewyddu'r
drwydded wedi bod yn esgeulustod gwirioneddol ac roedd dull bellach ar waith i
sicrhau na fyddai'n digwydd eto. Cyfeiriodd at ymddygiad
blaenorol da’r Gyrrwr a'r buddsoddiad a roddodd yn y cerbyd, a’r gwaith cynnal
a chadw parhaus arno. Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/0833/TXJDR
ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol. Roedd y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn - Ystyriodd yr Aelodau'r adroddiad a’r achos a gyflwynwyd gan y Gyrrwr a'i ymateb i gwestiynau. Roedd yn amhosibl penderfynu a oedd y gyrrwr wedi cael y nodyn atgoffa i adnewyddu oherwydd y broses a oedd ar waith ar y pryd, a’i fod wedi newid cyfeiriad. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y Gyrrwr oedd sicrhau bod ganddo drwydded ddilys ar waith bob amser. Derbyniodd y pwyllgor nad oedd unrhyw ymgais bwriadol i dwyllo a nodwyd y camau a gymerwyd gan y Gyrrwr i liniaru unrhyw ddiffyg yn y dyfodol. O ganlyniad, ystyriodd yr aelodau’r Gyrrwr i fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded, a theimlasant y byddai rhybudd llym yn addas yn yr achos hwn. Ymhellach at hynny, atgoffwyd y Gyrrwr i wneud gwiriadau dyddiol ar ei gerbyd, a fyddai'n cynnwys gwirio dyddiad dod i ben plât ei drwydded. Byddai unrhyw ymddangosiad pellach gerbron y pwyllgor yn cael ei ystyried yn fater difrifol ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
SESIWN AGORED Ar ôl cwblhau'r
busnes uchod, ailddechreuodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
POLISI ARFAETHEDIG CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
ceisio cymeradwyaeth y Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat ar gyfer ymgynghoriad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a)
cymeradwyo’r
Polisi Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat fel y manylir yn Atodiad 1 yr
adroddiad ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, ac (b)
yn dilyn
ymgynghoriad, adroddiad yn ôl ar y drafft terfynol o’r Polisi Cerbyd Hacni a
Cherbyd Hurio Preifat ynghyd ag unrhyw sylwadau perthnasol a dderbyniwyd i gael
eu cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor i'w gymeradwyo'n ffurfiol. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan
Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn
ceisio cymeradwyaeth y Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Adroddodd y Swyddogion ar y broses adolygu a oedd
yn cynnwys dwy sesiwn weithdy gyda'r fasnach tacsis, aelodau etholedig a’r
Gwasanaethau Fflyd, gan ddilyn gyda chyflwyniad yn y Pwyllgor Trwyddedu
diwethaf gan y Gwasanaethau Fflyd. Roedd y broses adolygu wedi arwain at y polisi drafft a oedd yn nodi'r
polisïau, manyleb cerbydau, amodau a gweithdrefnau roedd y Cyngor yn dymuno eu
cymhwyso wrth ymarfer ei swyddogaeth trwyddedu cerbydau. Tynnwyd sylw'r Aelodau at y prif
newidiadau a oedd wedi'u hamlygu mewn atodiad ar wahân er mwyn eglurder. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, byddai
unrhyw sylwadau perthnasol yn cael eu dwyn yn ôl gerbron y pwyllgor. PENDERFYNWYD - (a) cymeradwyo’r Polisi Arfaethedig Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat
fel y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, ac (b) yn dilyn ymgynghoriad, adroddiad yn ôl ar y drafft terfynol o’r Polisi
Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat ynghyd ag unrhyw sylwadau perthnasol,
i gael eu cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor i'w cymeradwyo'n ffurfiol. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU PDF 72 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn
cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Penderfyniad: PENDERFYNWYD cymeradwyo
rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â rhaglen gwaith i’r dyfodol y
Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2016. Byddai adroddiad yn ôl yn dilyn ymgynghori ar y Polisi
Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat drafft, fel y cytunwyd arno’n
gynharach yn y rhaglen, yn cael ei gynnwys yn y rhaglen waith ar gyfer mis
Mehefin. PENDERFYNWYD cymeradwyo
rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu. Daeth y cyfarfod i ben am 11.40am. |