Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Win
Mullen-James a Pat Jones Cofnodion: Y Cynghorwyr Win Mullen-James a Pat Jones |
|
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac
14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047857 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047857. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 047857 ynglŷn
â difrifoldeb y digwyddiad a’i ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: [Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o fewn trefn y
rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd] Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 047857 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
honiad
o ymosodiad wedi cael ei wneud yn erbyn Gyrrwr Rhif 047857 ar 11 Awst 2014, yr
ymchwiliwyd iddo gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (mae crynodeb o’r
ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi
i’r adroddiad); (iii)
y
Pwyllgor Trwyddedu ar 3 Rhagfyr 2014 wedi gohirio ystyried addasrwydd y Gyrrwr,
wrth aros am ganlyniad achos troseddol yn yr achos hwn (manylion a oedd wedi’u
hatodi fel adroddiad atodol), a (iv)
bod y
Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei
drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod yng nghwmni ei gynrychiolydd cyfreithiol a'i gyflogwr.
Yn dilyn cyflwyniadau, cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod wedi cael yr adroddiad a
gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y Swyddog
Gorfodi Trwyddedu'r (HB) adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos.
Dangoswyd recordiad TCC o'r digwyddiad a oedd yn destun yr adroddiad i'r
Pwyllgor Trwyddedu, ac fe gafodd ei ailchwarae nifer o weithiau trwy gydol y
gwrandawiad ar gais yr aelodau. Cyflwynodd cynrychiolydd
cyfreithiol y Gyrrwr nifer o eirdaon ysgrifenedig yn cadarnhau cymeriad da ei
chleient, a dywedodd ei fod wedi bod yn gweithio fel gyrrwr tacsi heb
ddigwyddiadau blaenorol. Esboniodd yr amgylchiadau ynghylch ple ei chleient
yn Llys yr Ynadon, a'i barodrwydd i dderbyn ei ran yn y digwyddiad a chymryd
cyfrifoldeb am ei weithredoedd. Mewn camau lliniaru
pellach, fe fanylodd ar fersiwn ei chleient o’r digwyddiadau yn arwain at y
digwyddiad, ac yn ystod y digwyddiad a oedd ar y TCC, ynghyd â'i edifeirwch
gwirioneddol. Wrth ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, tynnodd
sylw at nifer o anghysondebau yn natganiadau’r tystion a roddwyd, gan ddadlau
yn erbyn hygrededd y tystion hynny na ellid dibynnu arnynt.
O ganlyniad, roedd hi'n dadlau, o ystyried amgylchiadau'r achos, bod ymateb
ei chleient yn ddealladwy, er bod hynny’n groes i’w gymeriad yn llwyr, a’i fod
yn berson addas a phriodol i ddal trwydded tacsi. Holodd Aelodau
gwestiynau i'r Gyrrwr ynghylch ei fersiwn ef o ddigwyddiadau, gan gynnwys ei
farn am y digwyddiad a chanlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn.
Fe wnaeth y Gyrrwr gydnabod bod ei ymddygiad wedi bod yn annerbyniol, gan
fynegi ei ofid dwfn am y digwyddiad ac ymddiheurodd yn llaes.
Roedd gan y Gyrrwr gefnogaeth lawn ei gyflogwr a siaradodd ar ei ran ac
ymatebodd i gwestiynau ynghylch ei gyflogaeth, a chadarnhau ei fod yn weithiwr
gwerthfawr. Cyfeiriodd hefyd at ei rwystredigaeth ynghylch
elfennau o fasnach tacsis y Rhyl yn gyffredinol, sy’n peri tensiwn ac i yrwyr
trwyddedig anghytuno â’i gilydd. Gwnaeth y cynrychiolydd cyfreithiol ddatganiad terfynol yn crynhoi ei chyflwyniadau
cynharach a oedd yn tystio i gymeriad da ei chleient, gan dynnu sylw at y
sefyllfa eithafol a wynebodd, a’i ofid diffuant a’i barodrwydd i gymryd
cyfrifoldeb am ei weithredoedd. Fe apeliodd i’r pwyllgor
i beidio â thynnu ei drwydded oddi arno, gan ddadlau nad oedd unrhyw sail
gyfreithiol i atal neu ddirymu yn yr achos hwn. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 047857
ynglŷn â difrifoldeb y digwyddiad a’i ymddygiad yn y dyfodol. Dyma oedd y rhesymau am
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Yn ystod trafodaethau, ystyriodd yr aelodau ddifrifoldeb y digwyddiad ac er bod pryderon difrifol dros ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047689 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047689. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 047689 yn cael ei rybuddio ynghylch difrifoldeb y digwyddiad ac y caiff rhybudd ysgrifenedig terfynol ei gyhoeddi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag – (i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 047689 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat; (ii)
honiad
o ymosodiad wedi cael ei wneud yn erbyn Gyrrwr Rhif 047689 ar 11 Awst 2014, yr
ymchwiliwyd iddo gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (roedd crynodeb o’r
ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi
i’r adroddiad); (iii)
y
Pwyllgor Trwyddedu ar 3 Rhagfyr 2014 wedi gohirio ystyried addasrwydd y Gyrrwr,
wrth aros am ganlyniad achos troseddol yn yr achos hwn (manylion a oedd wedi’u
hatodi fel adroddiad atodol), a (iv)
gofynnwyd
i’r Gyrrwr fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac
ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny. Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau, cadarnhaodd ei fod wedi cael
yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r (HB) adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos.
Dangoswyd recordiad TCC o'r digwyddiad a oedd yn destun yr adroddiad i'r
Pwyllgor Trwyddedu, ac fe gafodd ei ailchwarae nifer o weithiau trwy gydol y
gwrandawiad ar gais yr aelodau. Fel cam lliniaru,
cyflwynodd y Gyrrwr ddatganiad ysgrifenedig gan ei Gyfreithwyr a oedd yn
cynnwys cyfeiriad at ganlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn ac
amgylchiadau'r drosedd. O ystyried y manylion hynny, ynghyd â'r amser ers
y digwyddiad pan oedd y gyrrwr wedi parhau i yrru tacsis, byddai dirymu
trwydded y Gyrrwr yn anghyfiawn yn yr achos hwn. Hefyd, eglurodd
y Gyrrwr ei fersiwn ef o'r digwyddiadau yn arwain at y digwyddiad ac fe
siaradodd am y recordiad TCC gyda’r aelodau, gan wadu'r honiad o ymosod a
phwysleisio ei fod yn ddieuog o unrhyw drosedd. Holodd yr Aelodau’r
Gyrrwr ynghylch y dystiolaeth a gyflwynwyd a’i ymddygiad cyn, yn ystod ac ar ôl
y digwyddiad. Ymatebodd y Gyrrwr i gwestiynau'r aelodau a
gwadodd yr honiad o ymosod ond mynegodd ofid dros wrthdaro â’r ymosodwr ac
ymhelaethodd ymhellach ar ei fwriadau a’r gweithredoedd yn ystod y digwyddiad.
Wrth fynegi ei edifeirwch, fe wnaeth y Gyrrwr gydnabod sut y byddai'r
digwyddiad yn cael ei ystyried gan y cyhoedd ac fe dderbyniodd hefyd y dylai
wedi delio â’r sefyllfa'n wahanol. Cyfeiriodd at ei awydd i
barhau â'i broffesiwn fel gyrrwr tacsi a rhoddodd sicrwydd pendant ynghylch ei
ymddygiad yn y dyfodol. Yn ei ddatganiad
terfynol, dywedodd y Gyrrwr ei fod yn mwynhau ei swydd ac yn dda yn ei swydd,
ac apeliodd i'r pwyllgor i beidio â dirymu ei drwydded. Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a - PENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 047689 yn cael ei
rybuddio ynghylch difrifoldeb y digwyddiad ac y caiff rhybudd ysgrifenedig
terfynol ei gyhoeddi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. [Roedd y Cynghorydd Stuart Davies am i nodyn
gael ei wneud iddo bleidleisio yn erbyn y penderfyniad uchod.] Dyma oedd y rhesymau am
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu – Rhoddodd Aelodau ystyriaeth ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a datganiadau'r Gyrrwr i gefnogi ei achos, a’i atebion i’r cwestiynau. Ystyriwyd bod y Gyrrwr wedi achosi’r digwyddiad ac roedd aelodau yn feirniadol iawn o'i ymddygiad a oedd wedi dwyn anfri ar y Cyngor. Codwyd pryderon hefyd fod y Gyrrwr wedi cael ei ddwyn gerbron y pwyllgor yn flaenorol, yn ymwneud â materion ymddygiad. Wrth asesu addasrwydd y Gyrrwr fel gyrrwr trwyddedig, ystyriodd yr aelodau bod elfennau o'r recordiad TCC yn amhendant, ond roedd y Gyrrwr wedi cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y digwyddiadau. Cydnabuwyd hefyd ei fod wedi parhau i yrru ers hynny heb ddigwyddiad ac wedi mynegi edifeirwch am ei weithredoedd. ... view the full Cofnodion text for item 5. |