Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator (KEJ)
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT O WYBODAETH Holodd y Cynghorydd Bill Cowie y rhesymeg y tu ôl i Eitem 12 ar y Rhaglen
- Caniatâd Cais Masnachu ar y Stryd yn cael ei hystyried fel eitem gyfrinachol
o dan Ran 2 o'r rhaglen. Fe wnaeth y
swyddogion adrodd ynghylch y broses ymgynghori eilaidd a gynhaliwyd gan yr
Aelod Lleol ac eglurasant nad oedd yr ymatebwyr hynny i'r ymgynghoriad wedi
rhoi caniatâd i'w sylwadau gael eu rhannu’n gyhoeddus. O ganlyniad rhaid i'r wybodaeth honno aros yn
gyfrinachol. |
|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Y Cynghorwyr Pat
Jones a Win Mullen-James. Cofnodion: Y Cynghorwyr Pat
Jones ac Win Mullen-James |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 150 KB Derbyn - (a)
cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2014 (copi wedi’i amgáu), (b)
cofnodion
y Pwyllgor Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2015 (copi wedi’i
amgáu). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2014 a 12
Ionawr 2015 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2014 a’r Pwyllgor
Trwyddedu Arbennig a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2015. Materion yn Codi - 12 Ionawr 2015 Yn ystod y
cyfarfod, cafodd datganiad ei gyflwyno gan berchennog tacsi ynghylch cyflwr y
diwydiant tacsis yn Sir Ddinbych.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd fod swyddogion yn edrych i mewn
i'r materion a godwyd gyda'r bwriad o adrodd yn ôl i'r pwyllgor ar hynny. PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2014 a 12
Ionawr 2015 fel cofnod cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno Cod Gwisg diwygiedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cerbydau Hurio
Preifat i'w ystyried a’i gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) yn amodol ar ddiwygiad i 4.2, ii) i ddarllen "ni chaniateir gwisgo
trowsus byr” bod y Cod Gwisg Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat
diwygiedig yn Atodiad B i'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo i ddisodli’r Cod
Gwisg presennol a geir yn amodau trwyddedu cerbydau hacni a hurio preifat y "Llyfr
Glas" ar hyn o bryd, a (b) gweithredu’r Cod Gwisg o 1 Mai 2015. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Cod Gwisg
diwygiedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat i
ymgynghori yn ei gylch a'i gymeradwyo. Roedd y Pwyllgor Trwyddedu ar 24 Medi 2014 wedi cymeradwyo'r Cod Gwisg
Gyrwyr ar gyfer ymgynghori yn ei gylch.
Roedd manylion yr ymarfer ymgynghori a sesiwn gweithdy gyda deiliaid
trwyddedau wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad ac roedd y canlyniadau’n
cynnwys - ·
un
ymateb ysgrifenedig yn croesawu'r Cod Gwisg a chynnig nifer o awgrymiadau
ychwanegol i'w hystyried, a ·
pwyntiau
a godwyd yn ystod y sesiwn gweithdy ynghyd â'r rhesymeg y tu ôl i unrhyw
newidiadau arfaethedig o ganlyniad i hynny. Croesawodd y pwyllgor gyflwyniad Cod Gwisg fel modd o wella safonau gwisg a
chreu argraff ffafriol ar ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd. Nododd yr Aelodau’r pwyntiau a godwyd yn
ystod y broses ymgynghori ynghylch safonau derbyniol o wisg, ac roedd peth
trafodaeth ynghylch pa mor briodol yw gyrwyr yn gwisgo trowsus byr. Roedd rhai aelodau’n teimlo bod trowsus byr
wedi’i deilwra i'r ben-glin ac is na hynny’n briodol, ac ni ddylid cymharu hwn
â gwisgoedd/codau gwisg sefydliadau llawer mwy/gwahanol, yn enwedig o gofio bod
llawer o yrwyr yn hunangyflogedig. Fodd bynnag, teimlai aelodau eraill
nad oedd gwisgo trowsus byr yn cyfleu’r ddelwedd broffesiynol o'r fasnach ac
amlygwyd yr anhawster o feirniadu’r gwahanol fathau o drowsusau byr a
wisgir. Mynegwyd rhai amheuon hefyd
ynglŷn â gorfodi'r Cod Gwisg cyffredinol a sicrhau cydraddoldeb wrth
ddelio ag achosion o dorri rheolau o dan y system pwyntiau cosb.
Derbyniwyd y byddai angen monitro gweithrediad y Cod Gwisg yn ofalus, a
rhoddodd swyddogion sicrwydd y byddai'r Cod Gwisg yn cael ei gyflwyno’n raddol
cyn cymryd camau gorfodi ffurfiol.
Byddai dull gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei gymryd
wrth roi pwyntiau cosb, a oedd hefyd yn cynnwys proses apelio. Trafodwyd rôl perchnogion tacsis wrth sicrhau
cydymffurfiaeth â’r Cod Gwisg ond cydnabuwyd bod y rhan fwyaf o yrwyr yn
hunangyflogedig a bod y cyfrifoldeb ar yrwyr unigol i sicrhau eu bod yn
cydymffurfio â gofynion. Ystyriodd yr Aelodau argymhellion yr adroddiad a chynigiodd y Cynghorydd
Hugh Irving newid i'r Cod Gwisg, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Stuart Davies,
gan wahardd trowsus byr. O'i roi i'r
bleidlais - PENDERFYNWYD:- (a) yn amodol ar ddiwygiad i
4.2, ii i ddarllen "ni chaniateir gwisgo trowsus byr ", dylid
cymeradwyo Cod Gwisg Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat wedi’i
ddiwygio fel y manylir yn Atodiad B i’r adroddiad, i ddisodli’r Cod Gwisg
presennol a geir ar hyn o bryd yn y “Llyfr Glas” ag amodau trwyddedu cerbydau
hacni a cherbydau hurio preifat, a (b) gweithredu’r Cod Gwisg o 1
Mai 2015. Pleidleisiodd y Cynghorwyr Joan Butterfield a Bill Cowie yn erbyn y
gwelliant yn (a) uchod. |
|
COD YMDDYGIAD DA ARFAETHEDIG AR GYFER GYRWYR CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT PDF 50 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn
cyflwyno Cod Ymddygiad Da arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a
Cherbydau Hurio Preifat i'w ystyried a’i gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod - (a) Cod Ymddygiad Da Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat, fel y manylwyd yn
Atodiad A i'r adroddiad, yn cael ei gymeradwyo yn weithredol o 1 Mai 2015", a (b) swyddogion i ofyn am gyngor cyfreithiol ar yr ochr gyfreithiol o osod
sancsiwn o fewn y Cod Ymddygiad Da ar gyfer achosion sy’n ymwneud â thrais gan
yrwyr tacsi tra ar ddyletswydd, ynghyd â sancsiynau sy’n ymwneud â
chamddefnyddio alcohol a chyffuriau, ac adrodd yn ôl i gyfarfod o'r pwyllgor yn
y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Cod Ymddygiad Da
arfaethedig ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat i'w
ymgynghori yn ei gylch a’i gymeradwyo. Roedd y Pwyllgor Trwyddedu ar 24 Medi 2014 wedi cymeradwyo ymgynghori
ynghylch y Cod Ymddygiad Da ar gyfer Gyrwyr.
Roedd manylion yr ymarfer ymgynghori a’r sesiwn gweithdy gyda deiliaid
trwyddedau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Ni chafwyd ymateb gan ddeiliaid trwydded mewn ymateb i'r ymgynghoriad,
ac roedd deiliaid trwydded yn y sesiwn gweithdy wedi cytuno nad oedd angen
diwygiadau. Nodwyd y byddid yn defnyddio system pwyntiau
cosb ar gyfer achosion o dorri'r cod. Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriwyd at ddigwyddiad diweddar
yn cynnwys dau yrrwr yn cwffio tra roeddent ar ddyletswydd. Yng ngoleuni'r digwyddiad hwn, teimlai'r
Cynghorydd Joan Butterfield y dylid cynnwys rhyw fath o sancsiwn yn y Cod
Ymddygiad Da ar gyfer achosion o'r fath.
Trafododd yr Aelodau a ellid cynnwys sancsiwn penodol yn y Cod gan gofio
amgylchiadau penodol achosion unigol, ac unrhyw sancsiwn wedi hynny y gellid eu
gweithredu o ganlyniad i achosion troseddol.
Nodwyd y byddai gosod ataliad yn gwahardd unrhyw gamau pellach rhag cael
eu cymryd yn nes ymlaen. Yn yr un modd,
gallai diddymu ar unwaith heb glywed amgylchiadau'r achos yn gyntaf fod yn
gostus i'r Cyngor. O ganlyniad, cytunwyd
bod y swyddogion yn gofyn am gyngor ynglŷn â chyfreithlondeb gosod
sancsiwn o fewn y Cod ar gyfer y diben hwn, ac adrodd yn ôl i gyfarfod o'r
pwyllgor yn y dyfodol. Tynnodd y
Cynghorydd Hugh Irving sylw'r aelodau at y nodyn terfynol ar ddiwedd y Cod yn
ymwneud â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau, a gofynnodd fod ystyriaeth hefyd
yn cael ei rhoi i osod sancsiwn penodol yn hyn o beth. Atgoffwyd yr aelodau bod y Cyngor wedi
mabwysiadu Polisi Euogfarn Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Cymru gyfan
yn ddiweddar; polisi cadarn a oedd yn cwmpasu troseddau diod a chyffuriau. Yn olaf, cyfeiriwyd at newidiadau diweddar
i'r gyfraith ynghylch gyrru ar gyffuriau, a rhoddwyd gwybod i aelodau y
byddai’r ddeddfwriaeth newydd hon yn cael ei gorfodi gan yr Heddlu. PENDERFYNWYD:- (a) bod Cod Ymddygiad Da ar
gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat, fel y manylwyd yn
Atodiad A i’r adroddiad, yn cael ei gymeradwyo, gan ddod i rym o 1 Mai 2015, a (b) bod swyddogion yn gofyn am
gyngor cyfreithiol ar gyfreithlondeb gosod sancsiwn o fewn y Cod Ymddygiad Da
ar gyfer achosion yn ymwneud â thrais gan yrwyr tacsi tra maent ar ddyletswydd,
ynghyd â sancsiynau yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau, ac adrodd
yn ôl i gyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol. |
|
Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) sy’n gofyn
i’r Aelodau gymeradwyo cael gwared ar amod 2.1(h) cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat sy’n ymwneud â gwyro seddi. Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylai amod 2.1(h) sydd wedi’i gynnwys yn yr amodau cerbydau hacni a hurio
preifat (“Llyfr Glas”) gael ei ddileu ar unwaith. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am gymeradwyaeth cael
gwared ar amod 2.1(h) cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat sy’n ymwneud â
gwyro seddi cerbydau hurio preifat. Roedd y Pwyllgor Trwyddedu
ar 3 Rhagfyr 2014 wedi cymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i
ddiddymu'r amod yn ymwneud â gwyro seddi mewn cerbydau hurio preifat yn dilyn y
cyfarwyddyd diweddaraf gan yr Adran Drafnidiaeth, a'r pryderon a godwyd gan weithredwyr.
Roedd dau ymateb i'r ymgynghoriad wedi dod i law o blaid cael gwared ar
yr amod. Cadarnhaodd y Swyddogion y byddai adolygiad o fanyleb cerbyd hacni yn
ymwneud â chael gwared ar yr amod yn cael ei gynnal a’i adrodd yn ôl i gyfarfod
yn y dyfodol o'r pwyllgor. PENDERFYNWYD cael
gwared ar amod 2.1 (h) sydd wedi’i gynnwys yn yr amodau cerbydau hacni a
cherbydau hurio preifat (“Y Llyfr Glas”) ar unwaith. |
|
ADOLYGU’R POLISI SEFYDLIAD RHYW PDF 133 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu)
ynglŷn â newidiadau i'r drefn awdurdodi trwyddedu safleoedd sy'n darparu
adloniant rhywiol. Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) gofyn i swyddogion lunio Polisi Sefydliad Rhyw diwygiedig drafft sy'n addas
at y diben, i'w gyflwyno iddynt mewn cyfarfod yn y dyfodol, cyn cynnal
ymgynghoriad cyhoeddus a (b) bod darpariaethau yn Adran 27 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 yn cael eu
mabwysiadu a’u hymgorffori o fewn y Polisi Sefydliad Rhyw diwygiedig drafft. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â newidiadau i'r
drefn awdurdodi trwyddedu adeiladau sy'n darparu adloniant rhywiol. Mabwysiadodd Panel Trwyddedu ar 19 Medi 2001 Atodlen 3 o Ddeddf Llywodraeth
Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 yn ffurfiol, a oedd yn gwneud darpariaeth ar
gyfer trwyddedu sefydliadau rhyw. Roedd
ceisiadau ar gyfer clybiau glin-ddawnsio wedi bod yn drwyddedadwy ers 2005 o
dan y Ddeddf Trwyddedu, ond roedd Adran 27 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 yn
ailddosbarthu clybiau glin-ddawnsio fel lleoliadau adloniant rhywiol a rhoddodd
y pŵer i awdurdodau lleol reoleiddio lleoliadau megis sefydliadau rhyw o
dan Atodlen 3 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982. Fodd
bynnag, nid oedd y pwerau hynny’n orfodol, a byddent ond yn berthnasol lle
maent wedi cael eu mabwysiadu’n benodol gan awdurdodau lleol. O ganlyniad gofynnwyd i'r aelodau ystyried a
ddylid mabwysiadu darpariaethau Adran 27 a fyddai'n golygu ymgynghoriad
cyhoeddus cyn eu gweithredu. Cytunodd y
pwyllgor y dylid cymryd camau gyda'r bwriad o fabwysiadu'r ddeddfwriaeth
angenrheidiol a diwygio'r Polisi Sefydliad Rhyw cyfredol yn hynny o beth. Cadarnhaodd y Swyddogion nad oedd y drefn trwyddedu sefydliadau rhyw yn
cynnwys trwyddedu Academïau Dawnsio Polyn. PENDERFYNWYD:- (a) gofyn i'r swyddogion lunio
Polisi Sefydliad Rhyw diwygiedig drafft sy'n addas i'r diben ar gyfer ei
gyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, a (b) mabwysiadu ac ymgorffori
darpariaethau adran 27 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009, yn y Polisi Sefydliad
Rhyw diwygiedig drafft. |
|
ADOLYGU'R POLISI MASNACHU AR Y STRYD PDF 278 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu)
sy’n argymell y dylid adolygu’r polisi masnachu ar y stryd. Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) rhoi
awdurdod i swyddogion ddrafftio Polisi
Masnachu ar y Stryd sy'n addas at y diben. (b) Y Cynghorydd Bill Cowie i gael ei enwebu i gysylltu â swyddogion tra mae'r
polisi drafft yn cael ei ddatblygu a rhoi awdurdod i swyddogion wneud unrhyw
ymgynghori angenrheidiol cyn cyflwyno Polisi Masnachu ar y Stryd arfaethedig i
Aelodau. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn argymell adolygiad o'r
Polisi Masnachu ar y Stryd presennol. Roedd gwybodaeth gefndir am y ddeddfwriaeth sy'n rheoli masnachu ar y stryd
yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys eithriadau cyfreithiol a mathau o fasnach a
reoleiddiwyd gan ddulliau / awdurdodau eraill.
Rhoddodd y swyddogion wybod am y rhesymeg y tu ôl i'r argymhelliad i
adolygu'r Polisi Masnachu ar y Stryd presennol er mwyn sicrhau ei fod yn addas
at y diben, gan gymryd i ystyriaeth anawsterau a gafwyd wrth weinyddu a
gorfodi'r polisi cyfredol ac unrhyw ofynion a chanllawiau deddfwriaethol
newydd. Trafododd yr Aelodau gamau rheoleiddio gweithgareddau penodol gyda
swyddogion, ac a oeddent yn cynnwys
masnachu ar y stryd neu angen mathau eraill o ganiatâd gan gynnwys
problemau sy'n gysylltiedig â masnachu cwrt blaen, gwerthu ceir a
hysbysebu. Cafodd ei sefydlu, o ran
masnachu cwrt blaen, y gellid cymryd camau o dan y Ddeddf Priffyrdd mewn
achosion o rwystr, ac roedd camau wedi’u cymryd gan yr awdurdod mewn perthynas
â gwerthu ceir. Gallai’r Adran Gynllunio
ddelio ag achosion o dorri rheoliadau hysbysebu. Gofynnodd y Cadeirydd i'r swyddogion ystyried
yr holl bwyntiau hynny wrth gynnal yr adolygiad, ynghyd â gwerthu nwyddau at
ddibenion elusennol. Gwirfoddolodd y
Cynghorydd Bill Cowie i fod yn gyswllt y pwyllgor ar ddatblygiad y polisi
drafft a chadarnhaodd y Pen Gyfreithiwr na fyddai cysylltiadau’n gwrthdaro pan
fydd y polisi drafft yn cael ei gyflwyno wedyn i'r pwyllgor. PENDERFYNWYD:- (a) awdurdodi Swyddogion i
ddrafftio Polisi Masnachu ar y Stryd sy'n addas at y diben, ac (b) enwebu'r Cynghorydd Bill
Cowie i gysylltu â swyddogion tra bod y polisi drafft yn cael ei ddatblygu ac
awdurdodi swyddogion i wneud unrhyw ymgynghori angenrheidiol cyn cyflwyno
aelodau gyda Pholisi Masnachu ar y Stryd arfaethedig. |
|
DEDDF GWERTHWYR METEL SGRAP 2013 - Y DIWEDDARAF AM Y POLISI ARFAETHEDIG PDF 48 KB Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu)
sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y cynnydd paratoi polisi
delwyr metel sgrap. Penderfyniad: PENDERFYNWYD y dylid
derbyn a nodi cynnwys yr adroddiadau. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi diweddariad i’r
aelodau ar baratoi Polisi Gwerthwyr Metel Sgrap. Roedd Aelodau wedi cytuno yn flaenorol i ystyried polisi Cymru Gyfan ar
gyfer gweithdrefn trwyddedu Gwerthwyr Metel Sgrap. Ar 21 Ionawr 2015, cytunodd y Panel Arbenigol
Trwyddedu (LEP) ar fersiwn derfynol o'r polisi i'w ddosbarthu i bob awdurdod
trwyddedu Cymru am sylwadau. Rhagwelwyd
y byddai'r polisi terfynol yn cael ei gyflwyno i'r LEP ar 22 Ebrill 2015 ac yn
dilyn hynny byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trwyddedu. Croesawodd y Cynghorydd Hugh Irving ddyfodiad y Ddeddf fel ffordd o ddelio
â gwerthwyr sgrap diegwyddor.
Cadarnhaodd y swyddogion y byddai'r polisi yn helpu i gryfhau prosesau
trwy ddarparu meincnod o ddisgwyliadau'r awdurdod trwyddedu a chynorthwyo
ymgeiswyr ac asiantaethau eraill i ddeall y gofynion statudol ac wrth gyflwyno
ceisiadau. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2015 PDF 41 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi
wedi’i amgáu) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo. Penderfyniad: PENDERFYNWYD - (a) yn amodol ar gynnwys rhai eitemau ychwanegol fel y cytunwyd yn y cyfarfod,
cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor Trwyddedu, ac (b) i sicrhau cydraddoldeb ar draws y sir, cyfarfodydd y Pwyllgor Trwyddedu i
gael eu cynnal yn Neuadd y Sir Rhuthun gydag o leiaf dau gyfarfod y flwyddyn yn
cael eu cynnal yng ngogledd y sir. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor
Trwyddedu. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd y byddai
swyddogion yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor ar weithredu’r cynllun pwyntiau cosb
fel rhan o'r broses fonitro. O ystyried
y problemau a brofwyd gan y nifer uchel o dacsis sy'n gweithredu yn y Rhyl, gofynnodd
y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid ystyried hefyd ail-reoleiddio a chyfyngu
ar nifer y tacsis yn yr ardal, a bod adolygiad o faint a lleoliad y safleoedd
tacsis yn cael ei gynnal. Trafododd yr aelodau hefyd eu lleoliad dewisol ar gyfer
cyfarfodydd yn y dyfodol, ac roedd barn gymysg ynghylch a ddylid cynnal pob
cyfarfod yn Rhuthun neu bob yn ail rhwng Rhuthun a'r Rhyl. Roedd y Cynghorydd Stuart Davies yn awyddus i
gynnal rhai cyfarfodydd yn Llangollen.
Yn dilyn trafodaeth fer ac o'i roi i bleidlais fe - BENDERFYNWYD:- (a) yn amodol ar yr
ychwanegiadau a grybwyllwyd uchod, cymeradwyo rhaglen waith y Pwyllgor
Trwyddedu, a (b) sicrhau cydraddoldeb ar
draws y sir, bod y Pwyllgor Trwyddedu’n cael ei gynnal yn Neuadd y Sir, Rhuthun
gydag o leiaf dau gyfarfod y flwyddyn yn cael eu cynnal yng ngogledd y sir. Ar y pwynt hwn (10.40 a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac
13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DARPARIAETHAU AMRYWIOL) 1982 - CAIS AM GANIATÂD I FASNACHU AR Y STRYD Ystyried
adroddiad cyfrinachol y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i
amgáu) yn gofyn i Aelodau benderfynu ar gais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y cais am Ganiatâd i Fasnachu ar y Stryd yn
cael ei wrthod. Cofnodion: (i)
chais
a ddaeth i law i benderfynu ynghylch Caniatâd Masnachu ar y Stryd; (ii)
yr
ymgeisydd yn bwriadu gweithredu trelar arlwyo symudol sy'n gwerthu bwyd cyflym
ym Mharc Busnes Llanelwy; (iii)
swyddogion
ddim mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais oherwydd sylwadau a ddaeth i law yn gwrthwynebu'r
cais; (iv)
cyfeiriwyd
at bwerau'r Cyngor wrth benderfynu ar y caniatâd a pholisi cyfredol o ran
masnachu ar y stryd, a (v)
gofynnwyd
i’r Ymgeisydd fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei gais ac ymateb i
gwestiynau aelodau ar hynny. Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) grynodeb o'r
adroddiad a dywedodd nad oedd yr Ymgeisydd yn bresennol. Gwrthwynebodd y Cynghorydd Alice Jones (Aelod
Lleol) y cais ac adroddodd ar yr ymgynghoriad yr oedd wedi’i wneud gyda
busnesau lleol yn yr ardal fasnachu arfaethedig, a thynnodd sylw'r aelodau at y
crynodeb o ymatebion a ddaeth i law (fel y nodwyd yn yr adroddiad). Tra bod rhywfaint o gefnogaeth i ganiatáu'r
cais gyda chefnogwyr o blaid mwy o ddewis a chystadleuaeth iach rhwng mannau
gwerthu bwyd, cafwyd nifer o wrthwynebiadau hefyd ar sail - ·
gorddarpariaeth o fannau gwerthu bwyd yn yr ardal ·
cystadleuaeth uniongyrchol ac effaith andwyol ar hyfywedd
busnesau arlwyo presennol ·
yr anawsterau wrth gysoni gwerthu bwyd cyflym gyda nodau
bwyta'n iach ·
pryderon y byddai'r trelar symudol arfaethedig yn denu
modurwyr o'r A55, gan achosi cynnydd mewn traffig a cherbydau nwyddau trwm i'r
parc busnes ·
problemau posibl wedi’u hachosi gan sbwriel, a ·
lleoli trelar symudol nad yw’n cyd-fynd â delwedd y parc
busnes. Ystyriodd y pwyllgor rinweddau'r cais ac roedd
rhywfaint o gefnogaeth i ganiatáu'r cais a gadael i rymoedd y farchnad
weithredu, gydag aelodau’n dadlau bod cystadleuaeth rhwng busnesau yn
iach. Teimlai'r aelodau hynny y gellid
delio ag unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â sbwriel trwy amodau trwydded, gan
ystyried y ddadl dros fodurwyr yn dargyfeirio o'r A55 yn ddadleuol. Teimlai aelodau eraill bod y
gwrthwynebiadau’n ddilys, gan ddadlau hefyd fod yna elfen o fasnachu annheg
gyda busnesau lleol â mwy o gostau cyffredinol. O'i roi i'r bleidlais - PENDERFYNWYD gwrthod y cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd. Daeth y cyfarfod i ben am 11.20 a.m.
|