Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Y Rhyl

Cyswllt: Committee Administrator (KEJ) 

Eitemau
Rhif Eitem

MATER RHAGARWEINIOL – ADOLYGIADAU TRWYDDED (EITEMAU RHAGLEN 8 A 9)

Cyn cychwyn y cyfarfod, mynegodd rhai aelodau amheuon bod dau adolygiad trwydded wedi’u cyflwyno i wneud penderfyniad arnynt, er gwaethaf yr achosion troseddol arfaethedig, a allai olygu eu bod yn cael eu dwyn ​​yn ôl gerbron y pwyllgor a/neu brofi’n niweidiol mewn sefyllfa apêl. Dywedodd y Pen Gyfreithiwr bod canlyniad y prawf yn amherthnasol i raddau helaeth o gofio nad oedd y pwyllgor â’r gwaith o ystyried euogrwydd gyrwyr neu fel arall, ond a ydynt yn cael eu hystyried yn addas a phriodol i ddal trwydded ar sail yr honiadau a godwyd a'r wybodaeth a roddwyd iddynt. Ar gyfer y pwyllgor, roedd gwahanol ystyriaethau ac elfennau gwahanol iawn o’r gyfraith. Roedd yn fodlon bod gan y pwyllgor ddigon o wybodaeth i benderfynu ar yr adolygiadau trwydded. O ran y mater yn cael ei ddwyn yn ôl i'r pwyllgor, byddai natur unrhyw gollfarn yn yr achos hwn yn arwain at swyddogion yn penderfynu ar y mater dan awdurdod dirprwyedig. Roedd gan yr aelodau farn gymysg ynghylch a ddylai'r mater symud ymlaen at wrandawiad ar hyn o bryd, ac yn dilyn trafodaeth, cytunodd y pwyllgor i ohirio ystyried y ddau adolygiad trwydded wrth aros am ganlyniad yr achos troseddol. Cytunwyd hefyd bod cyfarfod arbennig o'r pwyllgor yn cael ei gynnull cyn gynted â phosibl wedi hynny i benderfynu ar addasrwydd y deiliaid trwydded.

 

Mynegwyd penderfyniad y pwyllgor ar wahân i’r gyrwyr trwyddedig dan sylw.  Nododd y Cadeirydd ddadleuon yn erbyn yr oedi a gyflwynwyd gan gynrychiolydd cyfreithiol Gyrrwr rhif 047857, ond gwrthododd ei chais i symud ymlaen gydag adolygiad cyn i ganlyniad y prawf fod yn hysbys.  Nodwyd hefyd bod cais i ohirio yn yr achos hwn wedi’i wneud gan gynrychiolydd cyfreithiol Gyrrwr Rhif 047689.

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU

Penderfyniad:

Y Cynghorwyr Joan Butterfield, Richard Davies, Stuart Davies, Hugh Irving, Pat Jones a Barry Mellor

 

Cofnodion:

Cynghorwyr Joan Butterfield, Richard Davies, Stuart Davies, Hugh Irving, Pat Jones a Barry Mellor

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 143 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Medi 2014 (copi wedi’i amgáu).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2014 fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Medi 2014.

 

Cywirdeb – Rhoddodd y Cynghorydd Peter Owen wybod nad oedd ei ymddiheuriadau am absenoldeb wedi’u cofnodi yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2014 fel cofnod cywir.

 

 

5.

AMODAU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT – NEWIDIADAU ARFAETHEDIG SY’N YMWNEUD Â THIPIO SEDDAU pdf eicon PDF 81 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn manylu ar gynigion i ddiwygio amodau sy'n ymwneud â thipio seddau mewn cerbydau trwyddedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod -

 

(a)       cynigion i ddiddymu amod 2. 1 (h) a gynhwysir yn yr Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat sy'n ymwneud â thipio seddau yn cael eu cefnogi a bod ymgynghori ffurfiol yn cychwyn â'r holl ddeiliaid trwyddedau wedi hynny, a

 

(b)       bod adolygiad o'r fanyleb cerbydau hacni sy’n ymwneud â dileu'r amod yn ymwneud â thipio seddau yn cael ei gynnal a bod canfyddiadau yn cael eu hadrodd yn ôl i gyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol i'w hystyried.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) adroddiad gan  Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi manylion am gynigion i ddiwygio amodau yn ymwneud â thipio seddau mewn cerbydau trwyddedig.

 

Esboniodd y Swyddogion y rhesymeg y tu ôl i’r cynnig i gael gwared ar amod 2.1(h) yn ymwneud â thipio  seddi mewn cerbydau hurio preifat, er mwyn caniatáu pobl i fynd i mewn ac allan o’r cerbyd yn dilyn y canllaw Adran Drafnidiaeth diweddaraf (yn amgaeedig i’r adroddiad hwn), a phryderon a godwyd gan weithredwyr.  Yn sgil effaith fflyd cerbydau hacni a manylebau cerbydau gwahanol, argymhellwyd y dylid adolygu manyleb cerbydau hacni, a bod y canfyddiadau’n cael eu hadrodd yn ôl mewn cyfarfod yn y dyfodol er ystyriaeth aelodau.

 

Ystyriodd yr Aelodau ganllaw yr Adran Drafnidiaeth, ac fe wnaethant hefyd nodi bod yr holl geisiadau cerbydau hurio preifat blaenorol a gyflwynwyd i’r pwyllgor oherwydd nad oeddent yn bodloni amod 2.1(h), wedi’u cymeradwyo.  O ran amserlen ar gyfer yr adolygiad o fanyldeb cerbydau hacni arfaethedig, dywedodd swyddogion am eu bwriad i ddechrau’r broses ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor cyn gynted â phosibl. 

 

PENDERFYNWYD bod -

 

 (a)      cynigion i gael gwared ar amod 2.1(h) a gynhwysir yn Amodau Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat yn ymwneud â thipio seddi’n cael eu cefnogi, a bod ymgynghoriad ffurfiol yn dechrau gyda phob deiliad trwydded wedi hynny, a

 

 (b)      bod adolygiad o fanyleb cerbyd hacni yn ymwneud â chael gwared ar yr amod yn ymwneud â thipio seddi’n cael ei gynna,l a bod y canfyddiadau’n cael eu hadrodd yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol o'r pwyllgor er ystyriaeth.

 

 

6.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR TRWYDDEDU 2014/15 pdf eicon PDF 50 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn cyflwyno rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi a bod y newidiadau arfaethedig i'r rhaglen waith fel y nodir o fewn paragraff 3.4 yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) yn manylu ar fân newidiadau i raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Trwyddedu ers ei chymeradwyo ym Mawrth 2014.

 

Rhoddodd y Swyddogion wybod am y gwaith a wnaed yn dilyn archwiliad mewnol o weithdrefnau trwyddedu tacsis er mwyn gwella gwiriadau cefndir ar gyfer trwyddedu tacsis, ynghyd â deddfwriaeth newydd yn gofyn am adolygiad o'r Polisi Sefydliad Rhyw.  Nododd yr Aelodau effaith y gofynion hynny ar y rhaglen gwaith ac awgrymasant newidiadau i'r rhaglen gwaith o ganlyniad.  Felly -

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi, a bod y newidiadau arfaethedig i'r rhaglen gwaith fel y manylir ym mharagraff 3.4 o'r adroddiad, yn cael eu cymeradwyo.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

7.

CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - YMGEISYDD RHIF 14/0985/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif  14/0985/TXJDR.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  14/0985/TXJDR yn cael ei roi gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 14/0985/TXJDR am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          nid yw swyddogion wedi bod mewn sefyllfa i ganiatáu'r cais oherwydd croniad yr Ymgeisydd o 10 pwynt cosb dilys ar y Drwydded Gyrwyr DVLA hon;

 

(iii)         crynodeb o'r ardystiadau moduro, ynghyd â manylion am hanes blaenorol yr Ymgeisydd fel gyrrwr trwyddedig;

 

(iv)         polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd collfarnau, a

 

(v)           gofynnwyd i’r Ymgeisydd fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei gais ac ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog Trwyddedu (NJ) grynodeb o'r adroddiad a dywedodd nad oedd yr Ymgeisydd yn bresennol, ond gweithiodd yn rheolaidd i ffwrdd oddi cartref, a allai egluro ei absenoldeb.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD bod y cais am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat gan ymgeisydd rhif  14/0985 / TXJDR yn cael ei ganiatáu, gyda rhybudd ffurfiol yn cael ei roi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Nododd y pwyllgor fath a natur y collfarnau moduro a gronnwyd gan yr Ymgeisydd, ynghyd â'i hanes blaenorol, ac ar y sail honno ystyrir iddo fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.  Fodd bynnag, yn wyneb nifer y pwyntiau cosb a gronnwyd, ystyriwyd ei fod hefyd yn briodol bod rhybudd ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

8.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047689

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047689.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod yr adolygiad o drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat a roddwyd i Yrrwr Rhif 047689 yn cael ei ohirio nes ceir canlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn.

 

Cofnodion:

Gwnaethpwyd cais ysgrifenedig i ohirio ar ran Gyrrwr Rhif 047689. Er gwaethaf y cais hwnnw, ystyriwyd bod y mater yn mater rhagarweiniol yn union cyn y cyfarfod, ac roedd Gyrrwr Rhif 047689 wedi cael gwybod am y canlyniad.  O ganlyniad, dyma a wnaeth yr aelodau -

 

PENDERFYNU oedi ynghylch adolygu trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif  047689, tra arhosir am ganlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn.

 

 

9.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047857

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047857.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod yr adolygiad o drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat a roddwyd i Yrrwr Rhif 047857 yn cael ei ohirio nes ceir canlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn.

 

Cofnodion:

Roedd y pwyllgor wedi ystyried a ddylid bwrw ymlaen ai peidio â'r adolygiad trwydded fel mater rhagarweiniol yn union cyn y cyfarfod.  Roedd y penderfyniad i ohirio'r mater wedi cael ei gyfleu i Yrrwr Rhif 047857 a'i gynrychiolydd cyfreithiol, a oedd wedi dadlau o blaid clywed yr adolygiad.  Roedd y cais i fynd ymlaen â'r gwrandawiad adolygu ar y cyfnod hwn wedi’i wrthod.  O ganlyniad, fe wnaeth yr aelodau -

 

PENDERFYNU oedi ynghylch adolygu trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif  047857, tra arhosir am ganlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn.

 

 

10.

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 048126

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi wedi’i amgáu) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 048126.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PHENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 048126 ar sail diogelwch y cyhoedd yn syth.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 048126 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          roedd cwyn wedi cael ei gwneud yn erbyn Gyrrwr Rhif 048126 ar 23 Medi 2014, yr ymchwiliwyd iddi gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (mae crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi i’r adroddiad);

 

(iii)         bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol (TWE) yr adroddiad a chadarnhaodd nad oedd yr Ymgeisydd yn bresennol, er iddo gael ei wahodd i fod yn bresennol.  Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i holi cwestiynau gyda'r swyddogion ynghylch ffeithiau'r achos, a gofynnwyd am eglurhad ar nifer o faterion.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD diddymu Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif  048126 ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith.

 

Dyma oedd y rhesymau ynghylch penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Fe wnaeth y pwyllgor ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn ofalus, gan gynnwys natur y gŵyn a'r defnydd o'r cerbyd hacni.  Canfu yr Aelodau bod y Gyrrwr wedi ymddwyn yn amhriodol ac wedi torri ei safle o ymddiriedaeth fel gyrrwr tacsi, ac felly ystyriwyd nad oedd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Yn ogystal, ystyriodd y pwyllgor fod ei weithredoedd wedi dod ag anfri ar y Cyngor.  Yn sgil natur a difrifoldeb y digwyddiad, ni allai’r aelodau fod yn sicr parthed diogelwch y cyhoedd, a phenderfynodd y pwyllgor ddiddymu’r drwydded ar sail diogelwch y cyhoedd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.35 a.m.